Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Amcan y gofynion hyn yw sicrhau bod cynnyrch amddiffyn planhigion (plaladdwyr) yn cael eu defnyddio’n gywir a gofalu, o’u defnyddio,  nad ydyn nhw’n peryglu pobl, bywyd gwyllt na’r amgylchedd. Rhaid i bawb sy’n eu defnyddio ar eu tir gadw at y gofynion hyn.

Diffiniad

Mae plaladdwyr, neu ‘cynhyrchion amddiffyn planhigion’ fel y’u gelwir hefyd, yn cael eu defnyddio i reoli plâu, chwyn a chlefydau. Mae enghreifftiau’n cynnwys pryfladdwyr, ffwngladdwyr, chwynladdwyr, gwenwyn lladd malwod a rheolwyr tyfiant planhigion.

Mae ffurfiau amrywiol ohonynt yn bod e.e. gronynnau solet, powdr neu hylif ac maent wedi’u gwneud ag un neu fwy o sylweddau actif wedi’u cymysgu â deunyddiau eraill.

Prif ofynion

  • rhaid bod gan y Cynhyrchion Amddiffyn Planhigion gymeradwyaeth ddilys a rhaid i’r defnyddiwr fod wedi cael hyfforddiant a meddu ar dystysgrif benodol.
  • rhaid bodloni’r amodau a’r rheolau ar label y cynnyrch, y gymeradwyaeth, y drwydded neu’r estyniad ar gyfer ei ddefnyddio
  • dilynwch yr arferion gorau wrth amddiffyn planhigion gan gynnwys Cod Ymarfer ar gyfer defnyddio Cynnyrch Amddiffyn Planhigion (fel y’i diwygiwyd)
  • cadwch gofnod pan fyddwch yn defnyddio Cynhyrchion Amddiffyn Planhigion. Mae hyn yn ofyn hefyd o dan SMR4. Dylai gynnwys manylion:
    • pryd – dyddiad ac amser trin
    • ble – lleoliad a maint y darn tir sy’n cael ei drin
    • pa gnwd sy’n cael ei drin
    • pam – rheswm dros drin
    • pa gynnyrch a ddefnyddiwyd – gan gynnwys rhif MAPP neu MAFF
    • faint sydd wedi’i ddefnyddio
    • y tywydd adeg rhoi’r driniaeth
    • unrhyw wybodaeth berthnasol

Gwiriadau maes

  • i ofalu bod y Cynhyrchion Amddiffyn Planhigion yn cael eu defnyddio at eu pwrpas ac yn unol â’r label
  • enghreifftiau o’r hyn y mae’r gofynion neu’r amodau yn ymwneud â nhw:
    • bod y cynnyrch cywir wedi’i ddefnyddio ar y cnydau priodol ac o dan yr amgylchiadau cywir
    • nad yw mwy na’r dôs mwyaf a ganiateir wedi’i roi
    • nad yw’r plaladdwr wedi’i roi yn amlach na’r hyn a ganiateir
    • bod y cynnyrch wedi’i roi ar yr adeg cywir
    • bod dillad amddiffyn wedi’u defnyddio
    • bod y cnwd wedi’i gadw o’r gadwyn fwyd am y cyfnod gofynnol
    • bod y plaladdwr wedi’i storio’n ddiogel (allan o afael plant, yn y cynhwysydd gwreiddiol ac wedi’i ddiogelu rhag rhew a rhag niweidio’r amgylchedd ac ati)
    • bod y cynnyrch yn cael ei daflu’n ddiogel (rinsio’r cynhwysydd deirgwaith; ychwanegu golchion at y chwistrellydd wrth ei lenwi ac ati

Arfer da

Yn ogystal â’r gofynion uchod sy’n ymwneud â Thrawsgydymffurfio, er mwyn cadw at y gyfraith, rhaid ateb y gofynion canlynol:

  • os yw’ch gwaith yn ymwneud â Chynnyrch Amddiffyn Planhigion, rhaid ichi gydymffurfio â Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Cynnyrch Amddiffyn Planhigion) 2020. Bydd hyn yn cynnwys cofrestru gydag awdurdod cymwys. Bydd Defra’n casglu’r wybodaeth ar ran Llywodraethau Cymru a’r Alban. Gallwch gofrestru yma: Professional plant protection products (PPPs): register as a user (ar gov.uk)
  • bydd yn rhaid i unrhyw un sy’n gwasgaru Cynnyrch Amddiffyn Planhigion proffesiynol gwblhau hyfforddiant a meddu ar dystysgrif benodol. Mae hyn yn cynnwys contractwyr rydych yn eu cyflogi i weithio ar eich fferm
  • mae’n rhaid profi offer gwasgaru Cynnyrch Amddiffyn Planhigion, fel chwistrellwyr bŵm a ‘weed wipers’, o dan y Cynllun Cenedlaethol Profi Chwistrellwyr (NSTS) cyn eu bod yn 5 oed. Ar ôl 5 mlynedd, dylid cynnal profion yn rheolaidd, naill ai bob 3 neu 6 blynedd, yn dibynnu ar y math o offer. Rhaid gwirio sachau cefn, chwistrellwyr llaw ac offer cerdded gyda llai na 3 olwyn yn rheolaidd hefyd. Cofiwch gadw cofnodion cyfredol o arolygiadau, gwiriadau ac atgyweiriadau.
  • dylech chwistrellu ond pan mae’r tywydd yn addas i leihau’r perygl o’r sgeintiad yn drifftio. Mae’r gyfraith yn pennu bod rhaid cadw at yr ardal darged wrth chwistrellu plaladdwyr

Gwybodaeth pellach