Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 yn ei gwneud yn ofynnol bod pob fferm yng Nghymru yn diogelu dŵr rhag llygredd. Mae llygredd amaethyddol yn gallu niweidio iechyd y cyhoedd, yr amgylchedd, cymunedau lleol a’r diwydiant amaethyddol ei hun.

Mae’r rheoliadau’n diffinio deunyddiau ac yn nodi mesurau y mae’n rhaid eu dilyn os ydych yn bwriadu cynnal gweithgareddau amaethyddol penodol. 

Yn y gofynion hyn, mae dŵr wyneb yn cynnwys dyfroedd arfordirol, aberoedd, camlesi, llynnoedd, pyllau dŵr a chyrsiau dŵr fel afonydd, nentydd a ffosydd sydd â dŵr ynddynt sy’n llifo’n rhydd. Mae’n cynnwys hefyd ffosydd sy’n sych am gyfnod a ffosydd cudd

Dylech ddarllen y Daflen Ffeithiau hon ar y cyd â Rheoli rheoliadau llygredd amaethyddol: canllawiau.

Y gofynion sy’n effeithio ar yr holl dir

Storio silwair

  • gofalu bod eich systemau storio silwair wedi’u hadeiladu yn unol â’r safonau adeiladu perthnasol, a’ch bod yn cadw at y rheolau ar ble i osod storfeydd silwair ar gael (gweler y canllawiau)
  • archwilio eich storfeydd yn rheolaidd a’u trwsio pan fydd angen
  • hysbysu CNC 14 niwrnod cyn adeiladu claddfa silwair newydd neu ehangu claddfa yn sylweddol gweler Storfa silwair, slyri a thail da byw arall (ar Cyfoeth Naturiol Cymru)
  • hysbysu CNC o’r lleoliad lle bydd tas silwair mewn cae (a wneir ar dir agored yn hytrach na mewn claddfa) yn cael ei wneud o leiaf 14 diwrnod cyn i’r safle gael ei ddefnyddio am y tro cyntaf
  • cydymffurfio ag unrhyw hysbysiadau a gyflwynir gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) lle mae gofyn cael gwelliannau i osodiad neu safle silwair mewn cae 

Storio slyri

Mae angen sicrhau bod yr holl slyri (fel y’i diffinnir yn Rheoli rheoliadau llygredd amaethyddol: canllawiau) yn cael ei gasglu a’i storio mewn systemau sy’n bodloni gofynion adeiladu o ran capasiti, gwydnwch, a pharthau diogelwch. Am fanylion gweler Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021: canllawiau ar gyfer ffermwyr a thirfeddianwyr:

  • os ydych yn gwahanu’r slyri, diffinnir y ffracsiynau hylifol fel slyri a rhaid ei storio mewn system storio fel sy’n ofynnol gan Reoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol
  • bydd angen cynnal archwiliadau rheolaidd o osodiadau a’u cynnal a’u cadw a’u hatgyweirio’n amserol pan fydd angen
  • bydd angen hysbysu CNC 14 niwrnod cyn adeiladu storfa slyri newydd neu ymestyn storfa slyri bresennol yn sylweddol gweler Storfa silwair, slyri a thail da byw arall (ar Cyfoeth Naturiol Cymru)
  • bydd angen cydymffurfio ag unrhyw hysbysiad a gyflwynir gan Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n ei gwneud yn ofynnol i wella storfeydd slyri 

Storio tail organig ond nid slyri

  • cadwch at y rheolau ynghylch storio tail organig solid, gan gynnwys tail dofednod
  • cadwch at y gofynion o ran tomennydd ar gaeau ac am ba hyd

Gwasgaru tail organig

  • os ydych yn gwasgaru tail organig, rhaid i chi baratoi a diweddaru map risg o’r daliad y mae’n rhaid iddo fod ar gael yn ystod archwiliad neu ar gais. I weld beth sydd angen ei gynnwys a chanllawiau ar sut i’w baratoi, darllenwch Rheoli rheoliadau llygredd amaethyddol: canllawiau
  • dylech wasgaru gwrtaith organig a gwrtaith artiffisial mor fanwl gywir â phosib gan ystyried y llethr, gorchudd tir, pa mor agos y mae dŵr wyneb, y tywydd, math o bridd a phresenoldeb draeniau ac yn ôl y cynllun Nitrogen.
  • pan fyddwch yn gwasgaru tail organig ar bridd moel neu sofl, rhaid ei ymgorffori yn y pridd cyn gynted ag y medrwch, ac o fewn 24 awr gan fwyaf (bydd eithriadau – gweler canllawiau)
  • pan fyddwch yn gwasgaru slyri, defnyddiwch offer sy’n ei daflu’n isel i’r llawr (llai na 4 metr o’r llawr)
  • peidiwch â gwasgaru tail organig yn y ‘parth dim gwasgaru’
    • 50m o dwll turio, pistyll neu ffynnon
    • 10m o ddŵr wyneb (6m os ydych yn gwasgaru’n fanwl-gywir)

Cyfnodau gwaharddedig ar gyfer tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen 

  • cydymffurfio â therfynau ar ôl y cyfnod gwaharddedig ar gyfer gwasgaru tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd (gan gynnwys slyri a thail ieir)

Pridd tywodlyd neu fas

Glaswelltir

Mae'r cyfnod caeedig o 1 Medi i 31 Rhagfyr.

Tir âr

Mae'r cyfnod caeedig o 1 Awst i 31 Rhagfyr.

Pob pridd arall 

Glaswelltir

Mae'r cyfnod caeedig o 15 Hydref i 15 Ionawr.

Tir âr

Mae'r cyfnod caeedig o 1 Hydref i 31 Ionawr.

Gwasgaru gwrtaith artiffisial

  • peidiwch â gwasgaru gwrtaith nitrogen artiffisial o fewn dau fetr i ddŵr wyneb
  • cadwch at y cyfnod gwahardd gwrtaith nitrogen artiffisial (bydd eithriadau). Fe welwch ragor o wybodaeth am y cyfnodau gwahardd gwasgaru nitrogen artiffisial yn y canllawiau

Terfyn y daliad cyfan

  • ar y daliad cyfan, peidiwch â rhoi mwy na 170kg o Nitrogen (N) yr hectar o dail da byw, gan gynnwys tail yr anifeiliaid sydd ar y tir a thail da byw rydych yn ei wasgaru ar y tir gan gynnwys tail sy’n cael ei fewnforio
  • bydd hyn yn gymwys am bob cyfnod o 12 mis gan ddechrau ar 1 Ionawr

Terfynau nitrogen caeau a chnydau

  • peidio â gwasgaru mwy na 250kg/ha o nitrogen o dail organig o fewn unrhyw ddarn hectar o faint mewn cyfnod o 12 mis
  • wrth wasgaru nitrogen (organig ac artiffisial) ar gnwd penodol, peidiwch â gwasgaru mwy na’r terfyn nitrogen uchaf a ganiateir (gweler y canllaw ar gyfer terfynau cnydau penodol)

Cadw cofnodion

Cadwch at yr holl ofynion o ran cadw cofnodion. Bydd angen y cofnodion canlynol:

  • ar gyfer pob daliad: cyn 30 Ebrill bob blwyddyn, manylion y nifer a’r math o anifeiliaid ar y daliad o’r flwyddyn galendr flaenorol a nifer y diwrnodau a dreuliwyd ar y daliad – i ddangos cydymffurfiaeth â’r terfyn Nitrogen 170kg/ha
  • ar gyfer daliadau sydd â systemau storio slyri: cyfrifiadau i ddangos bod digon o le i storio’r slyri sy’n bodloni gofynion adeiladu a chapasiti a bod yr holl slyri a gynhyrchir gan anifeiliaid a gedwir mewn adeilad neu ar lawr caled yn bodloni’r cyfnod storio a gofynion eraill
  • ar gyfer daliadau sydd â moch, dofednod neu anifeiliaid eraill dan do heb unrhyw system slyri: cyfrifiadau i ddangos bod digon o le i storio sy’n bodloni gofynion Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol ar gyfer yr holl wrtaith a gynhyrchir
  • ar gyfer daliadau sy’n gwasgaru gwrtaith nitrogen: copïau o gynlluniau rheoli nitrogen a chofnod o’r gwasgariadau. Ar gyfer daliadau sy’n prynu ac yn gwerthu tail neu slyri da byw – cofnod o’r cyfan sy’n dod i’r daliad neu’n gadael y daliad gan gynnwys dyddiadau, math o dail, faint o nitrogen sydd ynddo ac i ble mae’n cael ei anfon
  • os ydych yn gwasgaru tail organig, Map Risg (gweler ‘Gwasgaru Tail Organig’ uchod)

Ystyriwch bob ffynhonnell nitrogen – y cyflenwad yn y pridd, yr holl dail organig a gwrtaith artiffisial - wrth lunio’ch cynllun nitrogen ac wrth gyfrif faint o nitrogen sydd ei angen ar eich cnwd. I gael manylion yr holl gofnodion sydd angen eu cadw, gan gynnwys eithriadau, darllenwch Rheoli rheoliadau llygredd amaethyddol: canllawiau

Rhaid cadw pob cofnod am o leiaf pum mlynedd a rhaid eu dangos yn ystod archwiliad neu pan wneir cais i’w gweld.

Gwiriadau maes ar yr holl dir

  • safonau adeiladu, capasiti, gwydnwch, gwaith cynnal a chadw a pharthau diogelwch ar gyfer gwneud a storio silwair mewn clampiau, byrnau neu domennydd ar gae
  • safonau adeiladu, capasiti, gwydnwch, gwaith cynnal a chadw a pharthau diogelwch ar gyfer system storio slyri
  • hysbysu CNC o fwriad i adeiladu neu ailadeiladu storfa slyri neu silwair
  • cydymffurfio ag unrhyw hysbysiadau a gyflwynir gan CNC
  • asesu capasiti storio slyri a thail ar gyfer y cyfnod storio i gydymffurfio â chyfnod/chyfnodau gwaharddedig a gofynion rheoleiddio eraill
  • asesu trefn archwilio reolaidd (y cynllun archwilio a’i gofnodion, fel sy’n briodol ar gyfer y storfa a’i rhannau) a chwilio am rwd, difrod a gollyngiadau
  • gofalu bod tail organig (heblaw am slyri) yn cael ei storio’n gywir gan gynnwys mewn tomennydd dros dro ar gaeau
  • gofalu bod tail organig a gwrtaith artiffisial wedi’u gwasgaru yn unol â’r rheoliadau

Arfer da

  • sicrhau eich bod wedi darllen y canllawiau i gyd i’ch helpu i gydymffurfio â’r holl ofynion
  • darllenwch y canllawiau sy’n rhoi templed i’ch helpu i gwblhau’r cynllun, cofnodion a’r cyfrifiadau angenrheidiol
  • gweler yr Archwiliadau cynlluniau fferm: canllaw i ffermwyr am ragor o fanylion ar y gwiriadau ffisegol a’r gwiriadau cofnodion yn ystod archwiliad.
  • os mai contractwyr sy’n gwasgaru’r tail organig ar eich rhan, rhowch gopi o’r map risgiau iddyn nhw
  • dadansoddwch eich pridd a’ch tail yn rheolaidd a defnyddiwch y canlyniadau i ddylanwadu ar eich cynlluniau gwrteithio. Cynhwyswch ffosffad yn ogystal â nitrogen

Gwybodaeth pellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

  • Llinell Gymorth Rheoliadau Llygredd Amaethyddol (ADAS) 01974 847000
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Cyswllt Ffermio

neu gweler Sylfaen Reoleiddio’r SFS: cysylltiadau defnyddiol (2026).