Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am sut mae taliadau incwm sylfaenol yn cael eu trethu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cefndir a chyd-destun

Roedd y cynllun peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy'n Gadael Gofal yng Nghymru yn darparu £1,600 y mis i unigolion am hyd at 24 mis. Efallai y bydd rhai wedi derbyn llai o daliadau os daethpwyd â'u cysylltiad â'r cynllun i ben am gyfnod neu os gwnaethant adael y peilot yn gynnar. 

Incwm heb ei ennill yw taliadau incwm sylfaenol, sy'n ddarostyngedig i'r gyfradd sylfaenol o dreth. Y gyfradd sylfaenol o dreth drwy gydol y peilot oedd 20%. Mae Llywodraeth Cymru yn tynnu'r holl dreth sy'n ddyledus ar unwaith ac yn ei thalu'n uniongyrchol i CThEF. Mae hyn yn golygu bod y dreth sy'n ddyledus ar daliadau incwm sylfaenol yn cael ei thalu ymlaen llaw ar ran pawb sy'n eu cael.

Roedd unigolion y cynllun yn cael £1,280 y mis ar ôl treth. Gallent ddewis derbyn y swm hwn mewn 1 rhandaliad neu 2 randaliad y mis. Gellid tynnu taliadau rhent o'u hincwm sylfaenol hefyd gan eu talu'n uniongyrchol i landlordiaid. At ddibenion treth, roedd y taliadau rhent hyn yn dal i gael eu hystyried yn rhan o'r incwm a geid gan yr unigolyn. 

Yr uchafswm incwm sylfaenol y gallai unigolyn ei gael mewn blwyddyn ariannol oedd £19,200 (gros), a oedd yn ddarostyngedig i ddidyniad treth o £3,840 a delid gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r lwfans di-dreth personol safonol yn cyfeirio at faint o incwm y gall unigolyn ei ennill cyn cael ei drethu. Drwy gydol y rhaglen beilot, y lwfans di-dreth oedd £12,570. Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, efallai y byddai rhai yn gymwys i gael ad-daliad treth. Byddai hyn yn dibynnu ar gyfanswm eu hincwm trethadwy am y flwyddyn. Mae cyfanswm yr incwm yn cynnwys y taliadau incwm sylfaenol a ffynonellau incwm eraill fel enillion o gyflogaeth.

Proses hawlio ad-daliad treth

Mae'r broses R40 yn caniatáu i unigolion ddatgan incwm a didyniadau treth blwyddyn ariannol er mwyn adennill rhywfaint o'r dreth a ddidynnwyd, neu'r cyfan. Mae gwefan CThEF yn darparu canllawiau ac adnodd ar-lein at y diben hwn

Rhaid gwneud cais R40 newydd ar gyfer pob blwyddyn ariannol. Ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol, byddai Llywodraeth Cymru yn anfon llythyr datganiad ariannol at unigolion. Roedd y llythyr yn nodi manylion yr incwm gros a gafwyd a'r dreth a ddidynnwyd o'r taliadau incwm sylfaenol. 

Gall y rhai sydd angen copi o'u llythyr datganiad ariannol e-bostio  PeilotISCymru@llyw.cymru i ofyn amdano.  Rhaid i'r e-bost:

  • gadarnhau eu henw a'u dyddiad geni
  • cadarnhau pa flwyddyn/flynyddoedd ariannol y maent yn gofyn am ddatganiad ariannol ar ei gyfer/eu cyfer
  • cadarnhau eu cyfeiriad post os ydynt yn dymuno iddo gael ei bostio, neu fel arall gadarnhau eu bod yn hapus i dderbyn y llythyr fel atodiad drwy e-bost

Mae gan unigolion hyd at 4 blynedd ar ôl diwedd blwyddyn ariannol i gyflwyno ceisiadau R40 ar gyfer y flwyddyn ariannol benodol honno. 

Caiff ceisiadau R40 eu prosesu gan CThEF; nid yw Llywodraeth Cymru yn prosesu unrhyw geisiadau. Ni ddylid postio ffurflenni at Lywodraeth Cymru, felly. Dim ond CThEF all ateb cwestiynau am geisiadau R40 a gyflwynwyd.

Mae CThEF yn rhoi ad-daliadau treth ar ffurf sieciau a anfonir i'r cyfeiriad a ddarperir ar y ffurflen R40. Rhaid i unigolion allu derbyn y siec yn y cyfeiriad hwnnw a bod â chyfrif banc gweithredol yn y DU i'w adneuo.

Ad-daliadau treth a Chredyd Cynhwysol

Mae ad-daliadau treth yn cael eu trin fel incwm at ddibenion budd-daliadau. Felly, rhaid i'r rhai sy'n cael incwm sylfaenol ac sy'n cael Credyd Cynhwysol roi gwybod i Adran Gwaith a Phensiynau y DU am unrhyw ad-daliadau treth a gânt.