Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad cwmpasu cyflym o’r dystiolaeth sy’n bodoli mewn perthynas â throchi hwyr a darpariaeth ieithyddol ddwys.

Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau adolygiad cwmpasu cyflym o dystiolaeth yn ymwneud â throchi hwyr, darpariaeth iaith ddwys a darpariaeth iaith ar gyfer disgyblion sydd wedi profi torriad neu fwlch yn eu profiad trochi.

Mae'r adolygiad yn darparu gwybodaeth am gyfanswm a nodweddion y dystiolaeth a ddarganfuwyd, a throsolwg o'r hyn y mae'r dystiolaeth honno'n ei ddweud wrthym.

Nod yr adolygiad oedd adnabod ymchwil sy'n trafod dulliau neu ymyriadau sy'n ymwneud â throchi hwyr a darpariaeth iaith ddwys, ac sy'n berthnasol i gyd-destun cyfredol yr iaith Gymraeg mewn addysg yng Nghymru. Mae'n tynnu ar dystiolaeth sy'n ymwneud â'r Gymraeg yng Nghymru, ac â chyd-destunau ac ieithoedd sy'n darparu pwyntiau cyfeirio ystyrlon ar gyfer y Gymraeg mewn addysg.

Mae'r adroddiad yn darparu synthesis o'r dystiolaeth ac yn trafod meysydd ac ystyriaethau i'w datblygu ymhellach.

Adroddiadau

Cyswllt

Catrin Redknap

Rhif ffôn: 0300 025 5720

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.