Data am hysbysiadau cosb benodedig, achosion llys, troseddau cyffuriau ac yfed a gyrru, a phrofion anadl ar gyfer 2019.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Troseddau moduro
Gwybodaeth am y gyfres:
Hysbysiadau cosb benodedig
- Yn 2019 rhoddodd yr heddlu a wardeiniaid traffig yng Nghymru 74,400 o hysbysiadau cosb benodedig, ffigur tebyg i’r nifer yn y flwyddyn flaenorol. Roedd troseddau terfynau cyflymder yn cyfrif am 81% o’r hysbysiadau cosb benodedig yn 2019.
- Yn y blynyddoedd diwethaf mae hysbysiadau cosb benodedig wedi gostwng yn gyson o dros 112,000 yn 2012.
Achosion llys
- Erlynwyd 56,800 o droseddwyr moduro yng Nghymru yn 2019.
Damweiniau’n gysylltiedig ag yfed a gyrru (data 2018)
- Amcangyfrifir bod 5% o’r holl ddamweiniau wedi eu cofnodi yng Nghymru yn 2018 yn cynnwys o leiaf un gyrwyr yr amharwyd arno gan alcohol. Ar gyfer damweiniau lle cafodd rhywun ei ladd neu ei anafu’n ddifrifol roedd y ganran yn uwch, sef 7%.
- Cafwyd bod gan 10% o yrwyr cerbyd modur a laddwyd yng Nghymru lefel o alcohol yn eu gwaed dros y terfyn cyfreithiol. Mae’r ffigur hwn yn is na’r ganran ar gyfer Prydain Fawr (14%).
Profion anadl sgrinio
- Yn 2019, cynhaliwyd 32,500 o brofion anadl yng Nghymru. Roedd 4,600 o’r profion hyn yn bositif, neu wedi cael eu gwrthod (14%), cynnydd o ddau bwynt canran o’i gymharu â 2018.
- Yn 2019, cafodd 183 o yrwyr a oedd wedi cael damwain ganlyniad prawf anadl positif. Roedd hyn yn gynnydd o 39 (27%) o’i gymharu â 2018.
Adroddiadau

Troseddau moduro, 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 571 KB
PDF
Saesneg yn unig
571 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Gwefan StatsCymru
Gwefan GOV.UK
Gwefan GOV.UK
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.