Neidio i'r prif gynnwy

Data am hysbysiadau cosb benodedig, achosion llys, troseddau cyffuriau ac yfed a gyrru, a phrofion anadl ar gyfer 2021.

Cafodd pandemig y coronafeirws (COVID-19) effaith sylweddol ar draffig ffyrdd a chofnododd yr heddlu ddamweiniau ac anafusion ar y ffyrdd yng Nghymru yn 2020 a 2021 wrth i gyfyngiadau gael eu rhoi ar waith ynghylch sut, ble a pham y gallai unigolion deithio.  Yn gyffredinol, arweiniodd y cyfyngiadau at lai o draffig ar gyfer pob math o gerbydau modur sy'n debygol o fod wedi effeithio ar yr ystadegau a gyflwynir yn y datganiad hwn.

Hysbysiadau cosb benodedig

  • Yn 2021 dyfarnwyd cyfanswm o 74,400 o hysbysiadau cosb benodedig yng Nghymru, sy’n gynnydd o 17% o’i gymharu â 2020 ac yn debyg i’r nifer a ddyfarnwyd yn 2019.
  • Troseddau yn ymwneud â therfynau cyflymder oedd yn gyfrifol am 83% o’r hysbysiadau cosb benodedig a ddyfarnwyd yn 2021.
  • Ers 2012, mae nifer yr hysbysiadau cosb benodedig sydd wedi’u rhoi yng Nghymru wedi gostwng ar y cyfan o nifer uchel o 112,400.

Achosion llys

  • Erlynwyd 57,753 o droseddwyr moduro yng Nghymru yn 2021, sy’n gynnydd o 27% o’i gymharu â 2020 ac sy’n 2% yn uwch na’r nifer yn 2019.

Damweiniau’n gysylltiedig ag yfed a gyrru (data 2020)

  • Yn 2020 amcangyfrifwyd bod 8% o’r holl ddamweiniau a gafodd eu cofnodi a 9% o’r holl anafusion yng Nghymru yn cynnwys o leiaf un gyrrwr yr amharwyd arno gan alcohol.
  • Amcangyfrifwyd bod 14% o’r holl anafusion angheuol yn 2020 yn rhan o gwrthdrawiadau yn ymwneud i alcohol.
  • Cafwyd bod gan 18% o yrwyr cerbyd modur a laddwyd yng Nghymru lefel o alcohol yn eu gwaed dros y terfyn cyfreithiol.

Profion anadl sgrinio

  • Yn 2021, cynhaliwyd 18,462 o brofion anadl yng Nghymru, sy’n ostyngiad o 24,800 yn 2020. Yn 2021, roedd 2,900 o’r profion hyn (16%) naill ai’n bositif, neu wedi cael eu gwrthod, o'i gymharu â 3,600 (14%) yn 2020.
  • Yn 2021, cafodd 153 o yrwyr a oedd wedi cael damwain ganlyniad prawf anadl positif. Roedd hyn yn ostyngiad o 17 (13%) o’i gymharu â 2020.

Adroddiadau

Troseddau moduro, 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 751 KB

PDF
Saesneg yn unig
751 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

James Khonje

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.