Neidio i'r prif gynnwys

Mae’r drwydded hon, yn amodol ar gydymffurfiaeth â’r amodau a nodir isod, yn caniatáu symud carcasau dofednod neu adar caeth eraill i’w gwaredu yn uniongyrchol o safle mewn parth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth i safle arall o fewn neu y tu allan i barth yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban.

Dim ond symudiadau sydd fel arall yn cael eu gwahardd gan ddatganiad a gyhoeddwyd mewn ymateb i achosion o H5NX sy’n cael eu caniatáu o dan y drwydded hon, er enghraifft H5N1, H5N5. Nid yw’n caniatáu symudiadau sydd wedi’u gwahardd gan ddatganiad a gyhoeddwyd mewn ymateb i achosion o unrhyw straen arall o HPAI.

Mae’r drwydded hon yn ddilys o 09:50 ar 06/10/2026 hyd nes y caiff ei hatal neu ei dirymu’n ysgrifenedig ac mae’n dirymu a disodli’r drwydded EXD339(HPAI)(EW) a ddaeth i rym am 13:40 ar 03/10/ 2026. 

Cyhoeddwyd y drwydded hon gan Lywodraeth Cymru, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, a Llywodraeth yr Alban ac mae'n gymwys i Gymru, Lloegr a'r Alban.

Llofnod: ALBA BARRECHEGUREN GUTIERREZ, Arolygydd Milfeddygol

Dyddiad:    06/10/2026         Amser: 09:50

Penodwyd yr Arolygydd Milfeddygol gan Weinidogion Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion yr Alban.

Deddfwriaeth

Cyhoeddir y drwydded gyffredinol hon yn unol â’r canlynol:

  • paragraffau 14 ac 16 o Atodlen 4, a pharagraff 8A o Atodlen 5, i Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Lloegr) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd)
  • paragraffau 14 a 16 o Atodlen 4, a pharagraff 8A o Atodlen 5, i Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd)
  • erthygl 2(1) o Orchymyn Anifeiliaid (Darpariaethau Amrywiol) 1927.
  • paragraffau 15 ac 17 o Atodlen 4, a pharagraff 16 o Atodlen 5, i Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (yr Alban) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd)

Amodau’r drwydded

  1. Rhaid i'r symud fod yn uniongyrchol i'r safle gwaredu ar ôl casglu'r carcas terfynol. 
     
  2. Dim ond pan fo'r holl safleoedd wedi eu lleoli o fewn yr un Parth Diogelu (PZ) neu Barth Gwyliadwriaeth (SZ) y caniateir casglu carcasau lluosog. Ni chaniateir symud rhwng y parthau hyn (o SZ i PZ neu i'r gwrthwyneb) i gasglu carcasau
     
  3. Dim ond drwy’r modd o waredu a bennir ar gyfer deunydd Categori 1 neu ddeunydd Categori 2 gan Reoliad (CE) Rhif 1069/2009 (cyfraith a gymathwyd) y mae modd symud carcasau dofednod ac adar caeth i’w gwaredu. Rhaid i waredu carcasau ddigwydd trwy’r dull gwaredu a’r defnydd a ganiateir gan Reoliad (CE) Rhif 1069/2009 (cyfraith a gymathwyd) ar gyfer y categori perthnasol o ddeunydd. Nid yw’r rhanddirymiad yn Erthygl 18 o Reoliad (CE) Rhif 1069/2009 (cyfraith a gymathwyd) sy’n galluogi defnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid Categori 2 wrth fwydo unrhyw anifeiliaid yn berthnasol i’r carcasau hyn. 
     
  4. Yn union cyn symud neu waredu carcasau dofednod neu adar caeth eraill, rhaid i’r trwyddedai archwilio’r adar ar y safle i sicrhau nad ydynt yn dangos unrhyw arwyddion clinigol a allai fod yn gysylltiedig â ffliw adar (ar GOV.UK).
     
  5. Rhaid i’r trwyddedai hysbysu APHA o fewn 24 awr i’r archwiliad i gadarnhau bod yr archwiliad wedi’i gynnal ac nad oedd yr adar ar y safle yn dangos unrhyw arwyddion clinigol a allai fod yn gysylltiedig â ffliw adar. Rhaid i’r hysbysiad gynnwys enw a chyfeiriad y traddodwr, safle’r cyrchfan gwaredu a dyddiad a chanlyniad yr archwiliad. Gellir gwneud yr hysbysiad ar e-bost at Outbreak.Licensing@apha.gov.uk neu yn ysgrifenedig at: The Licensing Team, APHA, Level One, County Hall, Spetchley Road, Worcester, WR5 2NP. 
     
  6. Rhaid i'r trwyddedai sicrhau:
  • bod y cerbyd sy’n cludo’r carcasau dofednod neu adar caeth eraill yn un sy’n atal gollyngiadau ac wedi’i orchuddio. Rhaid hefyd fod pecyn gollyngiadau ar gael yn y cerbyd rhag ofn y bydd gollyngiad yn digwydd ar y ffordd. 
  • na ddylid mynd â’r cerbyd casglu y tu hwnt i ffin allanol y safle lle cesglir y carcasau (lle bo hynny’n bosibl) ac ni ddylai deithio dros unrhyw wyneb a allai fod wedi’i halogi â llaid, slyri, tail anifeiliaid, ysgarthion, plu, sarn, plisgyn wy neu ddeunydd tebyg arall a allai drosglwyddo clefyd. Dylai’r gwaith o drosglwyddo’r carcasau ddigwydd ar ffin allanol y safle. 
  • rhaid glanhau a diheintio olwynion a bwâu olwynion y cerbyd cyn gadael pob safle lle casglwyd carcas ohono. Rhaid i’r gwaith glanhau a diheintio ar ôl llwytho ddigwydd mewn man lle nad oes modd i’r cerbyd gael ei halogi y tu hwnt i’r fan honno gan laid, slyri, tail anifeiliaid, plu, sarn, plisgyn wy neu unrhyw ddeunydd tebyg.
  • rhaid glanhau a diheintio unrhyw offer ac unrhyw arwynebau a allai fod wedi'u halogi cyn gadael pob safle lle mae carcasau wedi'u casglu.
     
  1. Ar ôl dadlwytho ar y safle gwaredu, rhaid i'r trwyddedai sicrhau'r canlynol: 
  • rhaid glanhau a diheintio’r rhannau o’r cerbyd ac unrhyw offer a ddefnyddiwyd i gludo unrhyw beth a allai fod wedi’i halogi gan laid, slyri, tail anifeiliaid, ysgarthion, plu neu unrhyw ddeunydd tebyg arall, a hynny ar y safle. 
  • rhaid glanhau a diheintio olwynion a bwâu olwynion ar ôl dadlwytho a chyn gadael safle’r cyrchfan. 
  1. Rhaid i’r trwyddedai sicrhau bod unrhyw berson/personau sy’n ymwneud â’r gwaith symud hwn yn gwneud y canlynol: 
  • peidio â mynd i mewn i unrhyw safle dofednod neu adar caeth, neu adael unrhyw safle o’r fath, os yw/ydynt yn gwisgo dillad neu esgidiau sy’n amlwg wedi’u baeddu gan laid, ysgarthion dofednod neu adar, neu unrhyw ddeunydd tebyg
  • yn glanhau ac yn diheintio ei esgidiau/eu hesgidiau cyn mynd i mewn neu adael unrhyw safle neu fan lle’r oedd dofednod neu adar caeth yn bresennol 
  • yn tynnu unrhyw ddillad tafladwy cyn gadael safle dofednod neu adar caeth a pheidio â’u hailddefnyddio ar safle arall 
  • yn sicrhau bod dillad nad ydynt yn dafladwy yn lân ac yn rhydd o unrhyw halogiad gweladwy cyn gadael safle dofednod neu adar caeth
  • yn cymryd pob rhagofal rhesymol arall i osgoi trosglwyddo llaid, slyri, tail anifeiliaid, ysgarthion, plu neu unrhyw ddeunydd tebyg arall rhwng safleoedd dofednod ac adar caeth. 
  1. Rhaid glanhau a diheintio unrhyw ardaloedd o'r safle y symudwyd y carcasau ohono gan ddefnyddio diheintyddion a gymeradwywyd gan y llywodraeth ac yn unol ag Erthygl 66 o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 (fel y'i diwygiwyd) yng Nghymru, Erthygl 66 o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Lloegr) (Rhif 2) 2006 (fel y'i diwygiwyd) yn Lloegr, neu Erthygl 65 o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (yr Alban) 2006 (fel y'i diwygiwyd) yn yr Alban.
     
  2. Rhaid i unigolyn sy’n symud unrhyw beth o dan awdurdod trwydded a roddwyd o dan y Gorchymyn sicrhau bod ganddo nodyn cludo. Rhaid i’r nodyn cludo gynnwys: 
  • faint o garcasau dofednod neu adar eraill sy’n cael eu symud 
  • dyddiad y symudiad 
  • enw’r traddodwr
  • cyfeiriad y safle y symudwyd y carcasau ohono
  • rhif cofrestru’r cerbyd casglu 
  • enw’r traddodai
  • cyfeiriad y safle gwaredu
  1. Rhaid i ddeiliad y safle gwreiddiol gadw cofnod o symudiadau, gan gynnwys rhif cofrestru unrhyw gerbyd a ddefnyddir, cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol ar ôl y symudiad, a dylid cadw’r cofnod am o leiaf chwe wythnos ar ôl dyddiad cwblhau’r symudiad, yn unol â gofyniad Erthygl 74 o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd) yng Nghymru, neu Erthygl 74 o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Lloegr) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd) yn Lloegr neu Erthygl 73 o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (yr Alban) 2006 (fel y'i diwygiwyd) yn yr Alban. 

Nodiadau esboniadol

  1. Y "Gorchymyn": Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 (fel y'i diwygiwyd) yng Nghymru, Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Lloegr) (Rhif 2) 2006 (fel y'i diwygiwyd) yn Lloegr, neu Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (yr Alban) 2006 (fel y'i diwygiwyd) yn yr Alban.
     
  2. Rhaid i berson sy’n symud carcasau dofednod neu adar caeth eraill o dan awdurdod y drwydded a roddwyd o dan Orchymyn roi ei enw a’i gyfeiriad, ddangos y nodyn cludo a chaniatáu i rywun wneud copi llawn neu gopi o ran o’r nodyn cludo, os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd neu un o swyddogion eraill Gweinidogion Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol neu Weinidogion yr Alban.
     
  3. Os nad yw’r drwydded hon yn berthnasol i’r gweithgaredd rydych yn dymuno ymgymryd ag ef, neu os na allwch gydymffurfio ag unrhyw un o’r telerau ac amodau sy’n berthnasol i ddefnyddio’r drwydded hon, yna bydd angen i chi wneud cais am drwydded benodol.
     
  4. Pan fydd angen defnyddio diheintydd o dan y drwydded hon, rhaid defnyddio’r crynodiad cywir, caniatáu amser cyswllt digonol, a rhaid iddo fod wedi ei gymeradwyo o dan y canlynol:
     
    1. Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Cymru) 2007 (fel y’i diwygiwyd) yng Nghymru
    2. Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Lloegr) 2007 (fel y’i diwygiwyd) yn Lloegr
    3. Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Yr Alban) 2008 (fel y’i diwygiwyd) yn yr Alban

       

  5. Nid yw’r awdurdod i symud carcasau dofednod neu adar caeth eraill o dan y drwydded hon yn berthnasol i safle sydd o dan hysbysiad Safle Heintiedig, Cyswllt neu Amheuaeth.
     
  6. Dim ond casglwr sydd wedi’i gofrestru o dan ofynion Erthygl 23 o Reoliad (CE) Rhif 1069/2009 (cyfraith a gymathwyd sy’n ymwneud â sgil-gynhyrchion anifeiliaid) sydd â hawl i symud carcas oni bai ei fod yn gweithredu o safle a gymeradwywyd o dan Erthygl 24 o’r Rheoliad hwnnw. Rhaid i unrhyw gerbyd a ddefnyddir i gludo carcas o dan y drwydded hon gydymffurfio â darpariaethau perthnasol 
  • Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Lloegr) (Gorfodi) 2013 (fel y'u diwygiwyd) yn Lloegr, 
  • Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) (Gorfodi) 2014 (fel y'u diwygiwyd) yng Nghymru neu 
  • Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Yr Alban) 2013 (fel y'u diwygiwyd) yn yr Alban.

 

  1. Rhaid cymeradwyo safle’r cyrchfan yn unol ag Erthygl 24 o Reoliad (CE) Rhif 1069/2009 (cyfraith a gymathwyd).
     
  2. Nid yw’r drwydded hon yn berthnasol i symudiadau i, neu o, unrhyw safle sy’n destun hysbysiad gwahardd gan arolygydd milfeddygol.
     
  3. Mae rhagor o wybodaeth i'w gweld yma:

Stoc marw a gwaredu anifeiliaid marw yn ddiogel (ar GOV.UK)

yn yr Alban (ar GOV.SCOT).

  1. Rhaid i bawb sy’n cadw adar gadw llygad barcud ar eu hadar am arwyddion o glefydau (https://www.gov.uk/guidance/avian-influenza-bird-flu) a sicrhau bioddiogelwch da bob amser. Os oes gennych unrhyw bryderon am iechyd eich adar, gofynnwch am gyngor gan eich milfeddyg yn ddi-oed bob amser.
     
  2. Os ydych chi'n credu bod yna achos o glefyd hysbysadwy, rhaid rhoi gwybod ar unwaith i: 
  • Yng Nghymru – APHA ar 0300 303 8268 
  • Yn Lloegr - Llinell Gymorth Gwasanaethau Gwledig Defra ar 0300 303 8268
  • Yr Alban – cysylltwch â'ch Swyddog Gwasanaethau Maes (ar GOV.UK) APHA lleol 
  1. Mae rhagor o fanylion am y ddeddfwriaeth sy’n cwmpasu ffliw adar ar gael yn:

Mae methu â chydymffurfio â’r mesurau gofynnol yn y drwydded hon yn drosedd o dan Adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981. Os yw rhywun yn euog o gyflawni trosedd o dan yr adran hon, y gosb yw uchafswm o chwe mis yn y carchar neu ddirwy nad yw’n uwch na Lefel 5 ar y raddfa safonol, neu’r ddau.

Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion

Rhif ffôn:

03003 038 268

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y drwydded gyffredinol hon, cysylltwch â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (ar GOV.UK).

Dylech gynnwys eich enw, eich cyfeiriad llawn a’ch rhif ffôn fel y gallwn sicrhau bod eich ymholiad yn cael ei gyfeirio at yr arbenigwr maes cywir.