Neidio i'r prif gynnwys

Trwydded

Mae’r drwydded hon, yn amodol ar gydymffurfio â’r amodau a nodir yn yr Atodlen o Amodau isod, yn caniatáu:

  • symud unrhyw ran o garcas aderyn o safle mewn parth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth i labordy neu filfeddygfa ar gyfer profion diagnostig neu archwilio;
  • symud samplau o ddofednod byw neu adar caeth eraill, gan gynnwys samplau gwaed, a samplau o ysgarthion a swabiau, o safle mewn parth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth i labordy neu filfeddygfa ar gyfer profion diagnostig neu archwilio.

Dim ond symudiadau sydd fel arall yn cael eu gwahardd gan ddatganiad a gyhoeddwyd mewn ymateb i achosion o H5NX sy’n cael eu caniatáu o dan y drwydded hon, er enghraifft H5N1, H5N5. Nid yw’n caniatáu symudiadau sydd wedi’u gwahardd gan ddatganiad a gyhoeddwyd mewn ymateb i achosion o unrhyw straen arall o HPAI.

Mae’r drwydded hon yn ddilys o 21:30 ar 19/10/2026 hyd nes y caiff ei hatal neu ei dirymu’n ysgrifenedig.

Cyhoeddwyd y drwydded hon gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban.

 

Llofnodwyd: Richard Hepple Arolygydd Milfeddygol

Dyddiad:     19/10/2026                 Amser: 21:32

Arolygydd Milfeddygol a benodwyd gan Weinidogion Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion yr Alban.

Os nad yw’r drwydded hon yn berthnasol i’r gweithgaredd rydych yn dymuno ymgymryd ag ef, neu os na allwch gydymffurfio ag unrhyw un o’r telerau ac amodau sy’n berthnasol i ddefnyddio’r drwydded hon, yna bydd angen i chi wneud cais am drwydded benodol (ar gov.uk). 

Deddfwriaeth

Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (fel y’i diwygiwyd).

Gorchymyn Anifeiliaid (Darpariaethau Amrywiol) 1927 – Erthygl 2(1).

Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd) - Atodlen 4 paragraffau 11, 14 ac 16; Atodlen 5 paragraffau 8, 8A ac 15.

Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Lloegr) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd) – Atodlen 4 paragraffau 11, 14 ac 16; Atodlen 5 paragraffau 8, 8A a 15.

Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (yr Alban) 2006 (fel y’i diwygiwyd), Atodlen 4 paragraffau 11, 15 ac 17; Atodlen 5 paragraffau 9 ac 16.

Atodlen yr amodau

  1. Rhaid i garcasau neu samplau sy’n cael eu symud o dan y drwydded hon gael eu hanfon trwy ddosbarthiad a gofnodwyd, eu cludo gan wasanaeth negesydd neu eu danfon yn uniongyrchol o’r safle yn y parth gwarchod neu’r parth gwyliadwriaeth i’r safle derbyn i’w profi neu eu harchwilio. 
  2. Ni chaiff carcasau a samplau eu symud o unrhyw safle sydd wedi derbyn hysbysiad gwahardd gan arolygydd milfeddygol. 
  3. Ni chaniateir symud carcasau a samplau o dan y drwydded hon at ddibenion profi am glefyd adar hysbysadwy. 
  4. Yn union cyn casglu samplau neu garcasau, i’w symud o dan y drwydded hon, rhaid archwilio’r dofednod ar y safle i sicrhau nad ydynt yn dangos unrhyw arwyddion clinigol a allai fod yn gysylltiedig â ffliw adar (ar gov.uk). 
  5. Cyn i unrhyw symudiad arfaethedig o dan y drwydded hon ddigwydd, rhaid i’r person(au) sy’n gyfrifol am y labordy/filfeddygfa sy’n gyrchfan i’r symudiad:
  6. fod wedi cael eu hysbysu am y symudiad arfaethedig
  • fod wedi cael eu hysbysu bod y samplau neu’r carcasau yn dod o barth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth ffliw adar (fel y bo’n briodol), a
  • fod yn ymwybodol o amodau’r drwydded hon, a rhaid iddynt fod wedi cytuno i dderbyn y samplau neu’r carcasau
  1. Rhaid labelu deunydd pacio allanol a ffurflen cyflwyno’r samplau i ddangos y safle gwreiddiol a nodi’n glir bod y safle hwn wedi’i leoli mewn parth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth ffliw adar (fel y bo’n briodol). 
  2. Rhaid pacio pob sampl yn unol â Rheoliadau Cludo Nwyddau Peryglus a Defnyddio Offer Gwasgedd Cludadwy 2009 (fel y’u diwygiwyd) a’r Cytundeb Ewropeaidd ar Gludo Nwyddau Peryglus ar y Ffordd (ADR) rhwng Gwledydd (gweler nodyn esboniadol 1, isod, am ddolen i ragor o wybodaeth). 
  3. Rhaid i’r holl samplau neu garcasau gael eu pecynnu i fodloni gofynion pecynnu UN3373 – P650. Dylid marcio pob pecyn gyda’r geiriau “BIOLOGICAL SUBSTANCE CATEGORY B” (“SYLWEDD BIOLEGOL CATEGORI B”). Rhaid i’r geiriau hyn fod mewn llythrennau o leiaf 6mm o uchder ac wedi’u gosod ger y label diemwnt UN3373 (gweler nodyn esboniadol 1, isod, am ddolen i ragor o wybodaeth). 
  4. Rhaid i bawb sy’n defnyddio’r drwydded gyffredinol hon: 
  • pan fyddant yn y safle gwreiddiol, wisgo naill ai:
    • dillad amddiffynnol tafladwy, neu 
    • oferôls nad ydynt yn dafladwy sy’n gallu amddiffyn dillad rhag halogiad ac y mae modd eu glanhau a’u diheintio’n llawn; a chyfarpar diogelu personol nad yw’n dafladwy
  • peidio â mynd i mewn i’r safle gwreiddiol neu adael y safle gwreiddiol yn gwisgo dillad neu esgidiau sydd wedi’u baeddu’n amlwg gan laid, ysgarthion dofednod neu adar neu unrhyw ddeunydd tebyg 
  • glanhau a diheintio eu hesgidiau cyn mynd i mewn i’r safle gwreiddiol neu adael y safle gwreiddiol  
  • tynnu unrhyw ddillad tafladwy cyn gadael y safle gwreiddiol; ac ni chânt eu hailddefnyddio ar safle arall
  • sicrhau bod dillad nad ydynt yn dafladwy yn lân ac yn rhydd o unrhyw halogiad gweladwy cyn gadael y safle gwreiddiol  
  • cymryd pob rhagofal rhesymol arall i osgoi trosglwyddo llaid, slyri, tail anifeiliaid, ysgarthion, plu neu unrhyw ddeunydd tebyg arall rhwng safleoedd dofednod ac adar caeth
  1. Cyn mynd i mewn i’r safle neu adael y safle lle mae’r samplau neu garcasau i’w symud ohono:
  • rhaid i du allan y cerbyd sy’n cludo’r samplau/carcasau fod yn rhydd o unrhyw halogiad gweladwy gan sarn, llaid, slyri, tail anifeiliaid, ysgarthion, plisgyn wy, wyau wedi torri, plu neu unrhyw ddeunydd tebyg arall
  • rhaid glanhau a diheintio olwynion a bwâu olwyn y cerbyd. Rhaid i’r gwaith glanhau a diheintio ar ôl llwytho ddigwydd mewn man lle nad oes modd i’r cerbyd gael ei halogi y tu hwnt i’r fan honno gan sarn, llaid, slyri, tail anifeiliaid, ysgarthion, plisgyn wy, wyau wedi torri, plu neu unrhyw ddeunydd tebyg
  1. Ar ôl trin y samplau neu’r carcasau, rhaid glanhau a diheintio unrhyw arwyneb yn y safle gwreiddiol a ddaeth i gysylltiad â’r samplau neu’r carcasau, ac unrhyw offer a ddefnyddiwyd wrth drin samplau neu garcasau o’r fath. 
  2. Rhaid i’r gwaith glanhau a diheintio gydymffurfio ag: 
  • Erthygl 66(5) o’r Gorchymyn yng Nghymru
  • Erthygl 66(5) o’r Gorchymyn yn Lloegr
  • Erthygl 65(4) o’r Gorchymyn yn yr Alban
  1. Rhaid i’r trwyddedai sicrhau bod deunydd sy’n cael ei symud o dan y drwydded hon yn cael ei waredu mewn safle llosgi sgil-gynhyrchion anifeiliaid cymeradwy drwy’r modd o waredu a bennir ar gyfer deunydd Categori 1 neu ddeunydd Categori 2 gan Reoliad (EC) Rhif 1069/2009 a gymathwyd. Rhaid i waredu carcasau ddigwydd trwy’r dull gwaredu a’r defnydd a ganiateir gan Reoliad (EC) Rhif 1069/2009 ar gyfer y categori perthnasol o ddeunydd.
  2. Rhaid i unrhyw berson sy’n symud carcasau/samplau o dan y drwydded hon wneud cofnod o’r symudiad gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) manylion cofrestru unrhyw gerbyd a ddefnyddir, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y symudiad. Rhaid cadw’r manylion hyn am o leiaf chwe wythnos o ddyddiad cwblhau’r symudiad, fel sy’n ofynnol gan:
  • Erthygl 74 o’r Gorchymyn yng Nghymru a Lloegr
  • Erthygl 73 o’r Gorchymyn yn yr Alban
  1. Rhaid i unigolyn sy’n symud unrhyw beth o dan awdurdod y drwydded hon sicrhau bod ganddo nodyn cludo. Rhaid i’r nodyn cludo gynnwys:
    1. faint o ddeunyddiau sy’n cael eu symud 
    2. dyddiad y symudiad 
    3. enw’r traddodwr
    4. cyfeiriad y safle lle symudwyd deunyddiau ohono
    5. rhif cofrestru’r cerbyd sy’n casglu
    6. enw’r traddodai
    7. cyfeiriad y safle gwaredu

Nodiadau esboniadol

  1. Y “Gorchymyn”: Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Lloegr) (Rhif 2) 2006 (fel y'i diwygiwyd) yn Lloegr, Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 (fel y'i diwygiwyd) yng Nghymru, neu Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Yr Alban) 2006 (fel y'i diwygiwyd) yn yr Alban.
  2. Am ragor o wybodaeth ynghylch Amodau 7 a 8, uchod, gweler ein canllawiau ar y broses Cludo nwyddau peryglus (ar gov.uk).
  3. Yn y drwydded hon:
    1. ystyr “carcas” yw unrhyw garcas aderyn ac mae’n cynnwys unrhyw ran o garcas aderyn.
    2. ystyr “aderyn caeth arall” yw aderyn nad yw’n perthyn i deulu’r dofednod sy’n cael ei gadw’n gaeth, ac mae hynny’n cynnwys aderyn anwes ac aderyn sy’n cael ei gadw ar gyfer sioeau, rasys, arddangosfeydd, cystadlaethau, bridio neu i’w werthu. 
  4. Rhaid i berson sy’n symud unrhyw beth o dan awdurdod y drwydded hon roi ei enw a’i gyfeiriad, dangos y nodyn cludo a chaniatáu i rywun wneud copi llawn neu gopi o ran o’r nodyn cludo, os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd neu un o swyddogion eraill Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol.
  5. Rhaid i bawb sy’n cadw adar gadw llygad barcud ar eu hadar am arwyddion o glefydau a sicrhau bioddiogelwch da (ar gov.uk) bob amser. Os oes gennych unrhyw bryderon am iechyd eich adar, gofynnwch am gyngor gan eich milfeddyg yn ddi-oed.
  6. Am ragor o fanylion am ddeddfwriaeth sy'n ymdrin â ffliw adar:

Mae methu â chydymffurfio â’r mesurau gofynnol yn y drwydded hon yn drosedd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981. Y gosb yn dilyn euogfarn am drosedd o dan yr adran hon yw uchafswm o chwe mis yn y carchar neu ddirwy nad yw’n fwy na Lefel 5 ar y raddfa safonol, neu’r ddau.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y drwydded gyffredinol hon, cysylltwch â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (ar gov.uk). 

Dylech gynnwys eich enw, eich cyfeiriad llawn a’ch rhif ffôn fel y gallwn sicrhau bod eich ymholiad yn cael ei gyfeirio at yr arbenigwr maes cywir.