Trwydded gyffredinol ar gyfer symud wyau bwrdd i mewn i, tu mewn i neu allan o barth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban (EXD243(HPAI)(GB))
Trwydded gyffredinol ar gyfer symud wyau bwrdd.
Ar y dudalen hon
Mae’r drwydded hon yn caniatáu, yn amodol ar gydymffurfio â’r gyfraith berthnasol a’r amodau a nodir yn y drwydded hon, i wyau bwrdd gael eu symud i mewn i, tu mewn i neu allan o barth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban i’r safleoedd a ganlyn:
- canolfan pacio wyau a ddynodwyd gan Weinidogion Cymru yng Nghymru, yr Ysgrifennydd Gwladol yn Lloegr neu Weinidogion yr Alban yn yr Alban.
- safleoedd ar gyfer gwaredu yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban.
Dim ond symudiadau sydd fel arall yn cael eu gwahardd gan ddatganiad a gyhoeddwyd mewn ymateb i achosion o H5NX, er enghraifft H5N1, H5N5, sy’n cael eu caniatáu o dan y drwydded hon. Nid yw’n caniatáu symudiadau sydd wedi’u gwahardd gan ddatganiad a gyhoeddwyd mewn ymateb i achosion o unrhyw straen arall o HPAI.
Mae’r drwydded hon yn ddilys o 9:46 ar 06/10/2026 ac mae’n dirymu a disodli EXD243(HPAI)(GB) a ddaeth i rym am 13:45 ar 03/10/2026.
Cyhoeddwyd y drwydded hon gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban.
Llofnodwyd: ALBA BARRECHEGUREN GUTIERREZ Arolygydd Milfeddygol
Dyddiad: 06/10/2026 Amser: 09:46
Arolygydd Milfeddygol a benodwyd gan Weinidogion Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion yr Alban.
Os nad yw’r drwydded hon yn berthnasol i’r gweithgaredd rydych yn dymuno ymgymryd ag ef, neu os na allwch gydymffurfio ag unrhyw un o’r telerau ac amodau sy’n berthnasol i ddefnyddio’r drwydded hon, yna bydd angen i chi wneud cais am drwydded benodol (ar GOV.UK).
Deddfwriaeth
Gwneir y drwydded hon o dan y pwerau sydd wedi'u cynnwys yn Neddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (fel y'i diwygiwyd) a'r “Gorchymyn” sy'n golygu:
- Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd)
- Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Yr Alban) 2006 (fel y'i diwygiwyd)
- Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Lloegr) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd)
Cyhoeddir y drwydded gyffredinol hon yn unol â’r canlynol:
- Paragraff 14 o Atodlen 4 a pharagraffau 11 a 15 o Atodlen 5 i’r Gorchymyn yng Nghymru a Lloegr.
- Paragraff 15 o Atodlen 4 a pharagraffau 12 ac 16 o Atodlen 5 i’r Gorchymyn yn yr Alban.
Amodau’r drwydded
- Mae’r drwydded hon yn caniatáu symud wyau bwrdd yn uniongyrchol naill ai i ganolfan pacio wyau sydd â dynodiad wedi’i weithredu neu i safleoedd gwaredu er mwyn eu dinistrio.
- Nid yw’r drwydded hon yn awdurdodi symudiadau i unrhyw safleoedd sydd wedi derbyn hysbysiad gwahardd gan arolygydd milfeddygol nac allan o’r safleoedd hynny.
Mae amodau 3 i 5 yn berthnasol i symud wyau o safleoedd sydd wedi’u lleoli mewn Parth Gwarchod neu Barth Gwyliadwriaeth
- Yn union cyn symud wyau, rhaid i’r trwyddedai archwilio’r dofednod ar y safle i sicrhau nad ydynt yn dangos unrhyw arwyddion clinigol a allai fod yn gysylltiedig â ffliw adar (ar GOV.UK).
- Cyn mynd i mewn i’r safle lle y mae’r wyau’n cael eu llwytho neu fynd allan ohono:
- rhaid i du allan y cerbyd fod yn rhydd o unrhyw halogiad gweladwy gan laid, slyri, tail anifeiliaid, ysgarthion neu unrhyw ddeunydd tebyg arall
- rhaid glanhau a diheintio olwynion a bwâu olwynion ar ôl llwytho a chyn gadael y safle. Rhaid i’r gwaith glanhau a diheintio gael ei wneud mewn man lle nad oes modd i’r cerbyd gael ei halogi gan blu, carthion, sarn, neu blisgyn wyau dofednod, neu unrhyw ddeunydd tebyg.
- rhaid i’r wyau, y pecynnau, y paledi, y cynhwyswyr a’r trolïau fod yn rhydd o halogiad gweledol gan blu, tail neu sarn dofednod, plisgyn wyau sy’n deillio o wyau eraill neu unrhyw ddeunydd arall tebyg cyn eu hanfon
- Rhaid i’r cerbyd a ddefnyddir allu dal dŵr, fod wedi’i orchuddio a chario pecyn gorlif rhag ofn y bydd gorlifiad.
Mae amodau 6 i 12 yn berthnasol i symud wyau o bob safle
- Rhaid i wyau sy’n cael eu symud i safleoedd a ddynodwyd yn ganolfannau pacio wyau neu safleoedd gwaredu:
- gael eu pacio mewn pecynnau tafladwy neu mewn cynhwyswyr pacio sydd wedi’u glanhau a’u diheintio’n effeithiol ac wedi’u marcio felly gan y sawl sy’n gwneud y gwaith glanhau a diheintio
- bod mewn pecynnau ar baledi neu gynhwyswyr glân
- cael eu llwytho ar gerbyd o ardal sy’n rhydd o halogiad gweledol gan laid, slyri, tail anifeiliaid, ysgarthion neu unrhyw ddeunydd tebyg arall.
- Rhaid i blisgyn wyau a rhannau eraill o wyau sy’n deillio o ffermydd sydd wedi’u lleoli yn y Parth Gwyliadwriaeth neu Warchod presennol gael eu gwaredu mewn ffatri gymeradwy sy’n rendro sgil-gynhyrchion anifeiliaid fel sgil-gynhyrchion anifeiliaid Categori 1 neu Gategori 2 fel sy’n ofynnol gan y ddeddfwriaeth Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid perthnasol. Rhaid trin deunydd o’r fath â gwres i ddinistrio unrhyw feirws ffliw adar a allai fod yn bresennol. Ni chaniateir i blisgyn wyau nad ydynt wedi’u trin â gwres:
- gael eu rhoi’n uniongyrchol ar dir a ddefnyddir i fwydo anifeiliaid
- cael eu defnyddio mewn unrhyw gynhyrchion a roddir i anifeiliaid eu bwyta
- Rhaid i’r trwyddedai sicrhau bod unrhyw berson/personau sy’n ymwneud â’r gwaith symud wyau yn gwneud y canlynol:
- peidio â mynd i mewn i unrhyw safle dofednod neu adar caeth, neu adael unrhyw safle o’r fath, os yw/ydynt yn gwisgo dillad neu esgidiau sy’n amlwg wedi’u baeddu gan laid, tail dofednod neu adar, neu unrhyw ddeunydd tebyg
- yn glanhau ac yn diheintio ei esgidiau/eu hesgidiau cyn mynd i mewn neu adael unrhyw safle neu fan lle mae dofednod neu adar caeth yn bresennol
- yn tynnu unrhyw ddillad tafladwy cyn gadael safle dofednod neu adar caeth a pheidio â’u hailddefnyddio ar safle arall
- yn sicrhau bod dillad nad ydynt yn dafladwy yn lân ac yn rhydd o unrhyw halogiad gweladwy cyn gadael safle dofednod neu adar caeth
- yn cymryd pob rhagofal rhesymol arall i osgoi trosglwyddo llaid, slyri, tail anifeiliaid, ysgarthion, plu neu unrhyw ddeunydd tebyg arall rhwng safleoedd ar gyfer dofednod ac adar caeth.
- Ar ôl dadlwytho yn safle’r cyrchfan:
- yn achos safleoedd a ddynodwyd yn ganolfannau pacio wyau, rhaid i’r rhannau o’r cerbyd ac unrhyw beth arall a ddefnyddiwyd i gludo’r wyau y gallant fod wedi’u halogi â phlu, tail, sarn, plisgyn wy, wyau wedi torri neu ddeunydd tebyg gael eu glanhau a’u diheintio’n effeithiol cyn gynted â’i bod yn rhesymol ymarferol ar y safle
- yn achos safle ar gyfer gwaredu, rhaid i’r gwaith glanhau a diheintio ddigwydd cyn gynted â’i bod yn rhesymol ymarferol ac, mewn unrhyw achos, cyn defnyddio’r cerbyd eto.
- Rhaid i’r gwaith glanhau a diheintio gydymffurfio ag:
- Erthygl 66(5) o’r Gorchymyn yng Nghymru
- Erthygl 66(5) o’r Gorchymyn yn Lloegr
- Erthygl 65(4) o’r Gorchymyn yn yr Alban
- Rhaid gwneud cofnod o’r symudiad hefyd cyn gynted â’i bod yn rhesymol ymarferol ar ôl y symudiad a’i gadw am o leiaf 6 wythnos ar ôl cwblhau’r daith, fel sy’n ofynnol gan:
- Erthygl 74 o’r Gorchymyn yng Nghymru a Lloegr
- Erthygl 73 o’r Gorchymyn yn yr Alban
- Wrth symud unrhyw beth o dan awdurdod y drwydded hon, rhaid i berson gario nodyn cludo. Rhaid i’r nodyn cludo gynnwys:
- beth sy'n cael ei symud, gan gynnwys faint sy'n cael ei symud
- dyddiad y symudiad
- enw’r traddodwr
- cyfeiriad y safle lle dechreuodd y symudiad
- enw’r traddodai
- cyfeiriad safle'r cyrchfan
Nodiadau esboniadol
- Rhaid i berson sy’n symud unrhyw beth o dan awdurdod y drwydded hon roi ei enw a’i gyfeiriad, dangos y nodyn cludo a chaniatáu i rywun wneud copi llawn neu gopi o ddarn o’r nodyn cludo, os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd, neu un o swyddogion eraill Gweinidogion Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol neu Weinidogion yr Alban.
- Pan fydd angen defnyddio diheintydd o dan y drwydded hon, rhaid defnyddio'r crynodiad cywir, caniatáu amser cyswllt digonol, a rhaid i'r diheintydd gael ei gymeradwyo o dan y canlynol:
- Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Lloegr) 2007 (fel y'i diwygiwyd) yn Lloegr
- Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Yr Alban) 2008 (fel y’i diwygiwyd) yn yr Alban
- Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Cymru) 2007 (fel y'i diwygiwyd) yng Nghymru
- Rhaid i bawb sy’n cadw adar gadw llygad barcud am arwyddion o glefyd yn eu hadar a sicrhau bioddiogelwch da (ar GOV.UK) ar bob achlysur. Os oes gennych unrhyw bryderon am iechyd eich adar, gofynnwch am gyngor gan eich milfeddyg yn ddi-oed.
- Mae rhagor o fanylion am y ddeddfwriaeth sy’n cwmpasu ffliw adar ar gael yn:
Mae methu â chydymffurfio â’r mesurau gofynnol yn y drwydded hon yn drosedd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981. Y gosb yn dilyn euogfarn am drosedd o dan yr adran hon yw uchafswm o 6 mis o garchar neu ddirwy nad yw'n fwy na Lefel 5 ar y raddfa safonol neu'r ddau.
Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
03003 038 268
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y drwydded gyffredinol hon, cysylltwch â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (ar GOV.UK).
Dylech gynnwys eich enw, eich cyfeiriad llawn a’ch rhif ffôn fel y gallwn sicrhau bod eich ymholiad yn cael ei gyfeirio at yr arbenigwr cywir.
