Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Trafnidiaeth

Mae un o brosiectau ffyrdd mwyaf a mwyaf heriol yn dechnegol y DU wedi agor yn swyddogol. Bydd cwblhau rhaglen uwchraddio Ffordd Blaenau'r Cymoedd a oedd werth £2bn yn helpu i ddarparu gwell trafnidiaeth ac atgyweirio ein ffyrdd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae cam olaf y rhaglen uwchraddio a ariennir gan Lywodraeth Cymru, a gynlluniwyd i sicrhau ffyniant i rai o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, eisoes wedi creu 2,200 o swyddi newydd ledled y wlad gyda bron i hanner y rhai a gyflogir yn byw yn yr ardal leol ac yn dod o gefndir difreintiedig neu ddi-waith hirdymor.

Mae'r cam olaf gwerth £1.4bn sef Adran 5 a 6 – Dowlais i Hirwaun - yn helpu i gysylltu cymunedau drwy gysylltu'r Cymoedd, De a Gorllewin Cymru â Chanolbarth Lloegr a thu hwnt ynghyd â phorthladdoedd sy'n gwasanaethu cyrchfannau  yn Iwerddon a chyrchfannau Ewropeaidd eraill. Yn ogystal â gwella gwydnwch rhwydwaith cefnffyrdd De Cymru, mae'r ffordd yn creu cyswllt hanfodol ar draws pen cymoedd De Cymru ar gyfer y prosiect Metro sy'n gwella cysylltiadau â Dinas-ranbarthau Caerdydd a Bae Abertawe.

Cyflawnwyd hyn trwy greu:

  • 17.7km o ffordd ddeuol newydd
  • 6km o ffyrdd ymyl newydd
  • mwy na 14km o lwybrau teithio llesol
  • 38 o gwlfertau (strwythur sy'n sianelu dŵr heibio i rwystr), 32 o bontydd newydd a 28 o waliau cynnal newydd

Yn ogystal â rhoi hwb i economi'r rhanbarth gyda thua £400m yn cael ei fuddsoddi yn y gadwyn gyflenwi leol, mae'r prosiect wedi helpu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf trwy sesiynau ymgysylltu addysgol ac wedi cyflawni cyfres o fanteision amgylcheddol.

Ymysg y rhain mae:

  • cyflogi 246 o brentisiaid newydd, gyda 30 y cant ohonynt yn byw yn rhanbarth y Cymoedd
  • cefnogi mwy na 24,000 o oriau o ymgysylltu â disgyblion drwy'r rhaglen STEM
  • cynnal 86 o ymweliadau a safleoedd addysgol i ddangos i fyfyrwyr agweddau allweddol ar adeiladu
  • plannu mwy na 120,000 o goed newydd ac 8,000 o blanhigion newydd i gefnogi Glöynnod Byw Britheg y Gors a chreu cynefinoedd newydd ar gyfer rhywogaethau fel Ystlumod, Pathewod a Madfallod Dwr fel y gall bywyd gwyllt barhau i ffynnu

Wrth siarad ar ymweliad â phrosiect yr A465, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, Ken Skates:

"Mae darparu gwell trafnidiaeth ac atgyweirio ein ffyrdd yn flaenoriaeth i'r llywodraeth hon, a dyna pam rwy'n falch iawn o weld rhaglen uwchraddio ffyrdd hynod uchelgeisiol yn cael ei chwblhau.

"Mae wedi bod yn brosiect cymhleth, yn llawn heriau, ond mae'n enghraifft wych o sut y gall buddsoddiad wedi'i dargedu mewn seilwaith ffyrdd ddarparu manteision ar gymaint o lefelau, o ddarparu swyddi lleol i wella hygyrchedd, cefnogi addysg a sgiliau, yn ogystal â darparu manteision amgylcheddol.

"Wrth gwrs, mae prosiect o'r maint hwn yn anochel yn mynd i gael effaith ar drigolion lleol, a hoffwn ddiolch i'r rhai yr effeithiwyd arnynt am eu hamynedd. Rwy'n hyderus, unwaith y bydd pobl yn sylweddoli manteision y buddsoddiad hwn, y bydd atgofion o unrhyw darfu maen nhw wedi'i brofi yn dechrau pylu."

Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford:

"Mae buddsoddi yn y prosiect cyfalaf mawr hwn wedi creu manteision gwirioneddol i bobl leol. Mae wedi arwain at £400m ar gyfer y gadwyn gyflenwi leol ac wedi creu 2,200 o swyddi newydd.

"Y tu hwnt i wella trafnidiaeth, mae'r prosiect hwn wedi creu gwaddol yn yr ardal, trwy hyfforddi dros 200 o brentisiaid a darparu gweithgareddau STEM i ysgolion lleol. Mae hyn yn dangos sut mae ein buddsoddiadau yn gwella mwy na seilwaith yn unig; maen nhw'n cefnogi ein cymunedau."