Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn mesur lefelau unigrwydd yn y boblogaeth. Rhoddwyd chwe datganiad i bobl, yr oedd yn bosibl eu hateb gydag 'ydw/oes', 'nac ydw/nac oes' neu 'mwy neu lai'.[troednodyn 1]

Y chwe datganiad yw:

  • 'Rwy'n teimlo gwacter cyffredinol'.
  • 'Rwy'n gweld eisiau cael pobl o gwmpas'.
  • 'Rwy'n aml yn teimlo fy mod wedi cael fy ngwrthod'.
  • 'Rwy'n medru dibynnu ar lawer o bobl pan mae gen i broblemau'.
  • 'Mae llawer o bobl y gallaf ymddiried ynddynt yn llwyr'.
  • 'Rwy'n teimlo'n agos at ddigon o bobl'.

Cyfunwyd yr ymatebion i gynhyrchu graddfa o 0 i 6, gyda 0 y lleiaf unig a 6 y mwyaf unig. At ddibenion adrodd, rydym yn ystyried bod pobl sydd â sgôr rhwng 4 a 6 yn unig.

Mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar ganfyddiadau'r adran o'r Arolwg Cenedlaethol a gynhaliwyd dros y ffôn yn ystod 2022 i 23. Y canlyniadau hyn yw'r rhai y gellir eu cymharu orau â chanlyniadau'r flwyddyn flaenorol, 2012 i 2022. Nid yw mor hawdd cymharu'r canlyniadau ar gyfer 2019 i 2020 a blynyddoedd cyn hynny â'r canlyniadau ar gyfer blynyddoedd mwy diweddar oherwydd y newid o gyfweliadau wyneb yn wyneb i rai dros y ffôn. Mae canlyniadau pellach o bob blwyddyn ar gael yn y dangosydd canlyniadau.

Prif ganfyddiadau

  • Yn 2022 i 2023, roedd 13% o bobl yn unig, sy'n gyson â chanlyniadau 2021 i 2022.
  • Roedd pobl a oedd yn byw mewn amddifadedd materol yn fwy tebygol o fod yn unig na phobl nad oeddent yn byw mewn amddifadedd.
  • Roedd unigolion â chyflwr iechyd meddwl neu mewn gwaeth iechyd cyffredinol hefyd yn fwy tebygol o fod yn unig.
  • Roedd unigrwydd hefyd yn dangos perthynas gref â llesiant. Nododd pobl unig foddhad llawer is â bywyd na'r rhai nad oeddent yn unig.
  • Mae mwy o bobl yn gymdeithasol unig (er enghraifft heb lawer o bobl i ddibynnu arnynt am help) nag yn emosiynol unig (er enghraifft yn gweld eisiau cael pobl o gwmpas).

Unigrwydd

Yn 2022 i 2023, roedd 13% o bobl yn unig. Mae hyn yr un fath ag yn 2021 i 2022 a 2020 i 2021. Yn 2019 i 2020, 15% ydoedd.

Yn 2022 i 2023, roedd 48% weithiau'n unig (sgôr o 1 i 3) ac nid oedd 39% yn unig (sgôr o 0).

Cynhaliwyd dadansoddiad manwl i ymchwilio i'r cysylltiadau rhwng unigrwydd ac amrywiaeth o ffactorau demograffig, cymdeithasol ac iechyd. Wrth reoli cysylltiad â ffactorau eraill, roedd cysylltiad annibynnol rhwng y canlynol a bod yn unig:

  • Ethnigrwydd: roedd pobl a nododd eu bod yn 'Wyn – Prydeinig' yn llai tebygol o fod yn unig na'r rhai a nododd eu bod yn Ddu, Asiaidd neu'n rhan o grŵp ethnig lleiafrifol, fel y dangosir yn Ffigur 1.

Ffigur 1: Unigrwydd yn ôl ethnigrwydd

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart golofn wedi'i stacio sy'n dangos unigrwydd cyffredinol yn ôl ethnigrwydd. Pobl a nododd eu bod yn 'Wyn (Cymreig, Seisnig, Albanaidd neu Wyddelig Gogledd Iwerddon)' oedd â'r ganran uchaf o bobl nad oeddent yn teimlo'n unig o gwbl. Roedd pobl o gefndir Du, Asiaidd neu ethnig leiafrifol yn fwy tebygol o nodi pedwar neu fwy o ymddygiadau unig na phobl o gefndiroedd ethnig eraill.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2022 i 2023

Iechyd cyffredinol

Roedd pobl a oedd yn ystyried eu hunain mewn iechyd gwael yn fwy tebygol o fod yn unig na'r rhai mewn iechyd da. Roedd 20% mewn iechyd teg a 37% mewn iechyd gwael neu wael iawn yn unig, o'i gymharu â 7% o'r rhai mewn iechyd da neu iechyd da iawn.

Salwch meddwl

Roedd 39% o'r rhai â salwch meddwl (gan gynnwys gorbryder ac iselder) yn teimlo'n unig, tra mai dim ond 9% o'r rhai heb salwch o'r fath oedd yn teimlo'n unig.

Cymorth gan wasanaethau gofal cymdeithasol

Roedd 39% o'r bobl a oedd wedi defnyddio gwasanaethau cymorth a gofal cymdeithasol yn ystod y 12 mis diwethaf yn teimlo'n unig, tra mai dim ond 11% o'r rhai nad oeddent wedi defnyddio gwasanaethau o'r fath oedd yn teimlo'n unig.

Amddifadedd materol

Roedd amddifadedd materol yn ffactor arwyddocaol o ran yr unigrwydd a gofnodwyd. Roedd 34% o'r bobl mewn amddifadedd materol yn teimlo'n unig, o'i gymharu â 9% o'r rhai nad oeddent mewn amddifadedd materol.

Y math o aelwyd

Aelwydydd a oedd yn cynnwys oedolion sengl, nad oeddent yn bensiynwyr oedd fwyaf tebygol o adrodd am unigrwydd, fel y dangosir yn Ffigur 2.

Ffigur 2: Unigrwydd yn ôl y math o aelwyd

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart far sy'n dangos unigrwydd cyffredinol yn ôl y math o aelwyd. Pobl a oedd mewn aelwydydd sengl (nad oeddent yn bensiynwyr) oedd y rhai mwyaf tebygol o deimlo'n unig. Roedd pensiynwyr sengl ac aelwydydd a oedd yn cynnwys nifer o oedolion neu bensiynwyr yn llai tebygol o deimlo'n unig na phobl a oedd yn byw ar eu pen eu hunain.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2022 i 2023

Boddhad uchel iawn â bywyd

Roedd pobl a roddodd sgôr o 9 allan o 10 neu uwch ar gyfer eu boddhad â bywyd yn llai tebygol o adrodd am unigrwydd, fel y dangosir yn Ffigur 3.

Cytuno'n gryf bod pethau mewn bywyd yn werth chweil

Roedd pobl a roddodd sgôr o 9 allan o 10 neu uwch ar gyfer y datganiad 'cytuno'n gryf bod pethau mewn bywyd yn werth chweil' yn llai tebygol o adrodd am unigrwydd. Dangosir hyn hefyd yn Ffigur 3.

Ffigur 3: Unigrwydd yn ôl mesurau llesiant

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart golofn sy'n dangos unigrwydd cyffredinol pobl a nododd foddhad uchel iawn â bywyd ac a gytunodd yn gryf fod pethau mewn bywyd yn werth chweil. Yn y ddau achos, nid yw dros hanner yr ymatebwyr yn dangos unrhyw ddangosyddion o unigrwydd, a nodwyd bod llai na 10% o'r ymatebwyr hyn yn unig.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2022 i 2023

Ni chanfuwyd bod oedran, salwch cyfyngus hirdymor, credoau crefyddol, cyfeiriadedd rhywiol na defnydd o'r rhyngrwyd yn gysylltiedig ag unigrwydd.

Unigrwydd emosiynol a chymdeithasol

Mae dau ddimensiwn i unigrwydd: unigrwydd emosiynol a chymdeithasol. O'r chwe datganiad a restrir uchod, mae'r tri datganiad cyntaf (teimlo gwacter cyffredinol, gweld eisiau cael pobl o gwmpas, yn aml yn teimlo eu bod yn cael eu gwrthod) yn ddangosyddion o unigrwydd emosiynol ac mae'r tri datganiad olaf (heb lawer o bobl i ddibynnu arnynt, heb lawer o bobl y gallant ymddiried ynddynt yn llwyr, a dim digon o gysylltiadau agos) yn ddangosyddion o unigrwydd cymdeithasol.

Gan ddefnyddio graddfa o 0 i 3, gan roi sgôr o 2 i 3 fel unig a 3 fel unig iawn, canfuwyd bod unigrwydd cymdeithasol yn fwy cyffredin nag unigrwydd emosiynol. Mae 23% o bobl yn gymdeithasol unig, gyda 11% yn gymdeithasol unig iawn, o'i gymharu â 18% yn emosiynol unig, a 7% yn emosiynol unig iawn.

Gwnaethom ddefnyddio'r un dull dadansoddi ag uchod (h.y. rheoli ar gyfer ystod o ffactorau ar yr un pryd) i edrych ar gysylltiadau rhwng gwahanol ffactorau ac unigrwydd emosiynol a chymdeithasol. Ar y cyfan, canfuwyd bod ffactorau tebyg yn bwysig i'r ddau fath hyn o unigrwydd ag ar gyfer unigrwydd cyffredinol.

Canfuwyd bod yr holl ffactorau a restrwyd yn flaenorol yn gysylltiedig ag unigrwydd emosiynol yn yr un modd ag ar gyfer unigrwydd cyffredinol. Yn ogystal, canfuwyd bod rhywedd, cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon yn ystod y pedair wythnos diwethaf, deiliadaeth a statws priodasol i gyd yn gysylltiedig ag unigrwydd emosiynol.

Roedd dynion yn llai tebygol o deimlo'n emosiynol unig na menywod, gyda 16% o ddynion yn teimlo'n emosiynol unig o'i gymharu â 21% o fenywod. Canfuwyd bod pobl a gymerodd ran mewn chwaraeon yn ddiweddar yn llai emosiynol unig, gyda 11% o'r rhai a gymerodd ran yn teimlo'n emosiynol unig o'i gymharu â 20% o'r rhai na gymerodd ran. Roedd y rhai a oedd yn berchen ar eu cartref yn llai tebygol o deimlo'n emosiynol unig na'r rhai a oedd yn byw mewn llety rhent preifat. Roedd 14% o'r rhai a oedd yn byw mewn tai sy'n eiddo i berchen-feddianwyr yn teimlo'n emosiynol unig o'i gymharu â 25% o rentwyr preifat. Roedd y ddau grŵp yn llai tebygol o deimlo'n emosiynol unig na'r rhai a oedd yn byw mewn tai cymdeithasol, fodd bynnag, lle'r oedd 35% o bobl yn teimlo'n emosiynol unig. Dangosir effeithiau statws priodasol ar unigrwydd yn Ffigur 4.

Ffigur 4: Unigrwydd emosiynol a chymdeithasol yn ôl statws priodasol

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart far sy'n dangos unigrwydd emosiynol a chymdeithasol yn ôl statws priodasol. Pobl a oedd yn sengl, wedi ysgaru neu wedi gwahanu oedd y rhai mwyaf tebygol o deimlo'n gymdeithasol unig. Pobl a oedd wedi gwahanu neu a oedd yn weddw neu'n bartner sifil goroesol oedd y rhai mwyaf tebygol o deimlo'n emosiynol unig.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2022 i 2023

Canfuwyd bod gan unigrwydd cymdeithasol lai o ffactorau yn gysylltiedig ag ef nag oedd gan unigrwydd emosiynol. Canfuwyd bod y rhan fwyaf o'r ffactorau y canfuwyd eu bod yn gysylltiedig ag unigrwydd cyffredinol hefyd yn gysylltiedig ag unigrwydd cymdeithasol yn yr un ffyrdd ag a ddisgrifir uchod. Fodd bynnag, ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw gysylltiadau annibynnol rhwng unigrwydd cymdeithasol a defnydd o ofal cymdeithasol, na'r math o aelwyd. Yn ogystal, er y nodwyd bod statws priodasol a chymryd rhan mewn chwaraeon hefyd yn gysylltiedig ag unigrwydd cymdeithasol mewn ffyrdd tebyg i unigrwydd emosiynol, ni nodwyd deiliadaeth fel ffactor sy'n gysylltiedig ag unigrwydd cymdeithasol. Nodwyd rhywedd fel ffactor sy'n gysylltiedig ag unigrwydd cymdeithasol, ond ni ellid dod o hyd i unrhyw wahaniaeth arwyddocaol o fewn y data.

Ni chanfuwyd bod oedran, salwch cyfyngus hirdymor, credoau crefyddol, cyfeiriadedd rhywiol na defnydd o'r rhyngrwyd yn gysylltiedig ag unigrwydd emosiynol na chymdeithasol. 

Y cyd-destun polisi

Unigrwydd yw un o'r 50 dangosydd cenedlaethol a ddefnyddir i fesur cynnydd yn erbyn Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r Ddeddf hon wedi'i chynllunio i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae hefyd yn rhan o Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd Cymru, sy'n ystyried y ffactorau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol amrywiol sy'n effeithio ar iechyd yr unigolyn, y gymuned a chymdeithas. Mae unigrwydd yn ddangosydd ar gyfer "amodau byw", gan gefnogi datblygiad cymunedau cydlynol. Mae Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol, sy'n canolbwyntio ar roddwyr gofal a derbynwyr gofal, hefyd yn defnyddio unigrwydd fel mesurydd ar gyfer llesiant yr unigolion hyn.

Gwybodaeth am ansawdd

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn arolwg ffôn, hapsampl, graddfa fawr, parhaus sy'n cwmpasu pobl ledled Cymru. Dewisir cyfeiriadau ar hap, ac anfonir gwahoddiadau drwy'r post, yn gofyn am ddarparu rhif ffôn ar gyfer y cyfeiriad. Gellir darparu'r rhif ffôn drwy borth ar-lein, llinell ymholiadau ffôn neu'n uniongyrchol i rif ffôn symudol y cyfwelydd ar gyfer yr achos hwnnw. Os na ddarperir rhif ffôn, gall cyfwelydd alw yn y cyfeiriad a gofyn am rif ffôn. 

Mae siartiau manwl a thablau canlyniadau ar gael yn ein dangosydd canlyniadau rhyngweithiol. I gael gwybodaeth ynglŷn â chasglu’r data a’r fethodoleg, gweler ein tudalennau adroddiad ansawdd, adroddiad technegol ac adroddiad atchweliad.

Mae traws-ddadansoddi yn awgrymu y gallai ffactorau amrywiol fod yn gysylltiedig â'r ymatebion a roddwyd i bob cwestiwn a ofynnwyd yn yr Arolwg Cenedlaethol. Er hynny, mae'r ffactorau hyn yn aml yn gysylltiedig â'i gilydd (er enghraifft, gall pobl sydd â salwch cyfyngus hirdymor fod yn hŷn hefyd). Er mwyn deall effaith pob ffactor unigol yn well, rydym wedi defnyddio dulliau ystadegol i wahanu effaith unigol pob ffactor. Bydd y dulliau hyn yn caniatáu inni edrych ar effaith un ffactor gan gadw'r ffactorau eraill yn gyson – “sef rheoli ar gyfer ffactorau eraill”. Nodwyd bod pob dadansoddiad a ddisgrifir yn yr adroddiad hwn yn ffactor unigol.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a Gwasanaeth Cofrestru 2007, sy'n dangos cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Golyga statws Ystadegau Gwladol fod yr ystadegau swyddogol yn bodloni'r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai unrhyw ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau'n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny â'r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan nad yw'r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo'r safonau yn cael eu hadfer.

Cadarnhawyd y byddai'r ystadegau hyn yn parhau i gael eu dynodi'n Ystadegau Gwladol ym mis Mehefin 2020 yn dilyn asesiad cydymffurfio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (llythyr cadarnhad). Y tro diwethaf i'r ystadegau hyn gael eu hasesu’n llawn (adroddiad llawn) yn erbyn y Cod Ymarfer oedd yn 2013.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • darparu dadansoddiadau manylach yn y dangosydd canlyniadau a'i gwneud yn haws i ddefnyddwyr gymharu canlyniadau ar draws blynyddoedd
  • diweddaru pynciau'r arolwg yn flynyddol i sicrhau ein bod yn parhau i ddiwallu anghenion polisi sy'n newid
  • gwneud dadansoddiad atchweliad yn rhan safonol o'n hallbynnau i helpu defnyddwyr i ddeall cyfraniad ffactorau penodol at ganlyniadau o ddiddordeb

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru. Diben y rhain yw sicrhau Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n rhaid eu defnyddio i fesur y cynnydd a wneir tuag at gyflawni’r nodau Llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Cafodd y 50 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym mis Mawrth 2016. Mae'r Arolwg Cenedlaethol yn casglu gwybodaeth ar gyfer 15 o'r 50 dangosydd.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai'r ystadegau sydd wedi'u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd gynnig naratif ategol i'r dangosyddion cenedlaethol, a gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio yn eu hasesiadau llesiant lleol a'u cynlluniau llesiant lleol.

Troednodiadau

[1] Mae hon yn raddfa safonol a ddefnyddir i fesur unigrwydd, graddfa De Jong Gierveld.

Manylion cyswllt

Tîm arolygon
E-bost: arolygon@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Ystadegau Gwladol

SB 41/2023