Neidio i'r prif gynnwy

Wrth i ni agosáu at ddiwedd y tymor seneddol, mae'r adroddiad hwn yn ceisio coladu, cofnodi a rhannu'r gwersi allweddol ar draws gwaith Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ailgartrefu Cyflym y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd (EHNAB). 

Rydym yn gobeithio y bydd yn fuddiol i'r rhai sy'n gweithio ar draws y maes, ac y bydd hefyd yn helpu i hysbysu'r weinyddiaeth newydd a fydd yn cychwyn yn dilyn yr etholiadau ym mis Mai 2026, wrth iddi ystyried sut i symud ymhellach tuag at roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru, gan gynnwys symud ymlaen tuag at y dull Ailgartrefu Cyflym. 

Drwy’r ddogfen i gyd, rydym wedi amlygu argymhellion mewn italig. Mewn rhai achosion, mae'r argymhellion hyn yn ceisio mynd i'r afael â bylchau a rhwystrau a adnabuwyd mewn systemau a strwythurau, ac mewn llawer iawn o achosion eraill, mae'r argymhellion hyn yn ceisio dathlu arfer da a adnabuwyd a'u hestyn yn fwy cyson ledled Cymru.

Bydd hi’n allweddol, fel rhan o daith Cymru i roi diwedd ar ddigartrefedd, ein bod yn gweithio ar y cyd – ar draws y sector tai a’r tu hwnt – i barhau i fwrw ymlaen ac yn agosach at ddull Ailgartrefu Cyflym.

Diolchiadau

Wrth gynhyrchu'r adroddiad hwn ar waith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen, diolchir i:

  • Chele Howard, Cadeirydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen
  • Paul Jones a Paul Firth fel cadeiryddion yr is-grwpiau cysylltiedig
  • Katie Dalton, Cyfarwyddwr Cymorth Cymru, arweinydd yr Uwchgynhadledd Ailgartrefu Cyflym 
  • Y cynrychiolwyr awdurdodau lleol a siaradodd yn yr Uwchgynhadledd Ailgartrefu Cyflym, a'r rhai a fu mor garedig â rhannu eu profiadau ar gyfer yr adroddiad hwn
  • Archie a Declan, y ddau arbenigwr trwy brofiad sydd wedi bod mor garedig â rhannu eu profiadau yn yr Uwchgynhadledd Ailgartrefu Cyflym ac o fewn yr adroddiad hwn
  • Debbie Thomas a Paul Bevan (ymgynghorydd llawrydd ar ddigartrefedd a thai yng Nghymru), a helpodd i gydlynu'r adroddiad hwn ar ran y grŵp
  • Y partneriaid traws-sector a gymerodd ran yn y Grŵp Gorchwyl a Gorffen a'i weithgorau cysylltiedig. 
  • Swyddogion Llywodraeth Cymru sydd wedi cefnogi rhaglen waith y grŵp Gorchwyl a Gorffen.

Gyda diolch arbennig i:

Katie Clubb o Gyngor Conwy, Cheryl Emery o Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Laura Garvey-Cubbon o Gyngor Caerdydd, ochr yn ochr â'u timau a'r Rheolwyr Perthynas yn Llywodraeth Cymru, am eu gwaith a'u hymrwymiad i’r ymarfer Adolygiad Dwfn Ailgartrefu Cyflym.

Negeseuon ar Ailgartrefu Cyflym gan Arbenigwyr trwy Brofiad

Mae'r negeseuon canlynol yn areithiau a ysgrifennwyd gan arbenigwyr sydd â phrofiad personol o ddigartrefedd, a rannwyd yn yr uwchgynhadledd Ailgartrefu Cyflym genedlaethol. 

Mae'r negeseuon hyn yn pwysleisio pam ei bod mor bwysig cofleidio dull Ailgartrefu Cyflym a'r gwahaniaeth sylweddol y mae bod â lle sefydlog i'w alw'n gartref yn ei wneud i fywydau pobl.

Pan fyddwn ni'n meddwl am gartref, beth ydyn ni'n ei olygu? Nid dim ond pedair wal neu do neu set dda o lenni ydyw ond i mi, mae cartref wedi golygu diogelwch, sefydlogrwydd ac urddas. Rwy'n gwybod hyn oherwydd fy mod wedi byw heb un.

Pan ddeuthum i Gymru am y tro cyntaf, cefais fy nharo gan ei harddwch a'i thawelwch ond fel bywyd ei hun, gall fod yn greulon ac yn garedig. Fe wnes i brofi rhywbeth roeddwn i'n meddwl na fyddwn byth yn mynd drwyddo eto - digartrefedd. Yn sydyn, nid oeddwn ond cragen yr hyn arferwn fod, wedi fy ngwthio i waelodion cymdeithas, ac roeddwn i'n agored i niwed; ni allai geiriau ar eu pennau eu hunain ei gyfiawnhau. Mae galar tlodi yn aros. Tlodi o ran bod heb unman i orffwys, unman i wella ydyw, daeth banciau bwyd yn ail gegin a dim lle i gael fy ngweld fel bod dynol.

Heb gartref, ceisio goroesi oedd popeth. Roedd nosweithiau'n hir ac yn greulon, roedd diwrnodau’n fyr ac yn aflonydd. Y rhan anoddaf oedd nid dim ond y diffyg to, ond y gwarthnod, y barnu, a'r sicrwydd cyson o fod yn ddim byd ond rhif. Ar adegau, roeddwn i'n teimlo fel pe bawn i'n boddi - nid dim ond mewn caledi, ond mewn systemau diddiwedd, yn cael fy nhrosglwyddo o un gwasanaeth i'r llall, yn cael rhifau ffôn yn hytrach na chymorth go iawn. Mae hynny'n mynd yn dreth. Mae'n draul ar eich iechyd meddwl, eich urddas, a'ch gobaith, mewn cyfnodau o drallod rhoddodd fy alcoholiaeth ganiatâd i mi farw.

Ond yna, newidiodd rhywbeth. Trwy Crisis Skylight ac eraill a safodd gyda mi, fe ymdriniwyd â mi nid fel rhif, nid fel ystadegyn, ond fel person. Gwnaeth hynny'r holl wahaniaeth. Gyda chymorth, gallwn ddechrau ailadeiladu fy hun, fesul darn, fel clai wedi torri yn cael ei ail-fowldio, gyda chartref - sefydlog, diogel a bod â rhywbeth a oedd yn eiddo i mi, o’r diwedd gallwn ddechrau tyfu eto.

Rhoddodd cartref y sylfaen i mi ganolbwyntio ar fy sobrwydd, ar fy astudiaethau, ac ar fy nyfodol. Rhoddodd falchder yn ôl i mi pan oeddwn yn edrych yn y drych. Fe’m hatgoffodd fod gwerth i mi, pan oedd y byd yn aml yn dweud wrthyf fel arall. Dyna pam fy mod yn dweud: nid yw llawer o'm buddugoliaethau, yn enwedig fy sobrwydd, i’w priodoli i mi yn unig. Buddugoliaethau ar y cyd ydynt - gyda'r bobl a’m cefnogodd, a chyda diogelwch lle i'w alw'n gartref. Erbyn heddiw rwyf wedi bod yn sobr am ddwy flynedd a 7 mis ac yn athro Saesneg tramor cymwysedig, a minnau hefyd ar y llwybr i ddod yn seicolegydd clinigol.

Felly, pan fyddwn yn siarad am ddigartrefedd, rwyf am i ni i gyd gofio nad mater polisi haniaethol mohono. Nid rhifau ar daenlen ydyw, ond bywydau pobl! Mae'n fater brys, oherwydd mae digartrefedd fel canser - mae'n ymledu os nad yw'n cael ei drin, mae'n erydu popeth, a gall ladd gobaith mor sicr ag y mae'n lladd iechyd.

Ond gellir ei wella. Rydyn ni'n ei wella trwy gydnabod tai fel hawl ddynol, nid braint. Rydyn ni'n ei wella trwy chwalu rhwystrau yn y system, fel na adewir i bobl syrthio trwy'r craciau. Rydyn ni'n ei wella trwy gydweithio gydag elusennau, cynghorau, llywodraeth, a chymunedau - i sicrhau bod gan bawb nid dim ond to, ond lle i berthyn, er mwyn bod â system sy'n gweithio i bawb nid dim ond yr ychydig.

Heddiw, rwy'n sefyll yma nid fel dioddefwr digartrefedd, ond fel goroeswr. Fe wnes i oroesi oherwydd i mi gael y cyfle i fod â chartref eto, i gael y cwtsh hwnnw. Fy ngobaith yw nad oes rhaid i neb arall ddioddef yr hyn yr es i drwyddo, y gallwn ni, gyda'n gilydd, sicrhau bod gan bawb yr urddas, y diogelwch, a'r sylfaen na all ond cartref ei gynnig."

- Archie, arbenigwr trwy brofiad

Declan yw f’enw i, ond rydw i hefyd yn defnyddio’r enw D'Captured (y byddaf yn ei esbonio ymhen ychydig).

Rwy'n siarad fel rhywun sydd wedi profi digartrefedd am sawl mis – ar y dechrau roeddwn i'n mynd o soffa i soffa ac yna roeddwn i'n mynd i lety brys a oedd yn brofiad ynddo'i hun, yna yn olaf fe gefais le mewn llety gwely a brecwast cyn i mi gael to sefydlog uwch fy mhen o'r diwedd. 

Mae byw mewn llety brys yn anodd iawn – nid oes gennych breifatrwydd na rheolaeth, oherwydd cyfyngiadau amser bach iawn efallai y byddwch chi'n dal i’ch cael eich hun mewn sefyllfa lle nad ydych chi'n gwybod a fydd gennych rywle diogel i aros bob nos, ni all eich teulu (ac, yn fy achos i, fy nau blentyn) aros gyda chi a achosodd lawer o straen ac anhrefn i mi fel rhywun a oedd yn gyd-riant. 

Mae'n anodd iawn rheoli eich dyfodol ac ailadeiladu pan nad oes gennych y rheolaeth yn y presennol.

Doeddwn i ddim yn gallu meddwl ymhellach na goroesi. Yr unig beth ar fy meddwl oedd poeni sut yr oeddwn yn mynd i wneud arian, o ble y byddai fy mhryd nesaf yn dod. Pryd y byddwn i’n cael fy mhlant yn ôl yn iawn yn hytrach nag am eiliadau byr. Doeddwn i ddim yn gallu dod o hyd i lonyddwch i ddechrau meddwl am fwy.

Ond unwaith y cefais le sefydlog i'w alw'n gartref, newidiodd popeth. Daeth fy meddwl yn dawelach ac roeddwn i'n gallu symud y tu hwnt i feddwl am oroesi a dechrau rhoi trefn ar bethau hyd yn oed os mai gweithredoedd bach oeddent. Oherwydd nid yw eich meddylfryd yn troi at ymlacio, mae'n dal i geisio mynd oddi ar ei wyliadwriaeth, pan fo’n dal ar bigau’r drain.

Ar ôl ychydig fisoedd, o'r diwedd roedd gen i'r llonyddwch meddwl i roi cynnig ar y sesiynau pyrograffeg (llosgi pren) gyda Crisis, yr oeddent wedi fy ngwahodd iddynt dro ar ôl tro o'r blaen a minnau ddim yn y lle iawn yn feddyliol i ddygymod â bod allan yn gyhoeddus a gadael diogelwch fy nghartref newydd.

Ond o'r diwrnod y bûm i yn y sesiwn, roeddwn i'n gaeth o'r eiliad y rhoddais gynnig byrograffeg. Fe ddeuthum o hyd i dawelwch ac ymdeimlad o gyffro ac roedd yr holl anhrefn a oedd yn rhedeg trwy fy mhen yn mynd yn dawel. 

Felly o hynny dechreuais ddatblygu fy sgiliau a daeth yn therapi i mi ac yn fy nhro roeddwn i'n falch o droi'r obsesiwn cryf hwn yn fusnes gennyf sydd bellach yn tyfu, sef 'Unleashed Creations,' lle rwy'n cael comisiynau i greu gwaith celf pyrograffeg at ofynion unigol a rhedeg gweithdai i addysgu'r gelfyddyd therapiwtig hon i eraill. Rwy'n gobeithio darparu'r un ymdeimlad o ryddhad a darparu allfa greadigol feddyliol-fuddiol i eraill, yr wyf yn credu hyd heddiw na fyddwn yma pe na bawn i wedi cael fy nghyflwyno iddi gan Crisis, rwyf bellach yn defnyddio’r enw D' Captured, fel a ddwedais ar y dechrau, sef fy enw artist.

Felly rydw i yma heddiw fel enghraifft o pam yn union ei bod mor bwysig sicrhau, gorau po gyntaf, bod gan bobl le sefydlog i'w alw'n gartref. Mae bod â lle i'w alw'n gartref wedi newid popeth ac wedi rhoi imi’r cyfle yr oedd arnaf ei angen i ddechrau gwella fy amgylchiadau yn hytrach na bod hynny’n freuddwyd gwrach. Diolch 

- Declan, arbenigwr trwy brofiad

Cyflwyniad i Ailgartrefu Cyflym

Mae Cartrefu Cyflym (y cyfeirir ato weithiau fel ‘a arweinir gan dai’) yn ddull o roi diwedd ar ddigartrefedd a gydnabyddir yn rhyngwladol, sydd wedi ennill ei blwyf ac a gydnabyddir mewn llawer o wledydd gan gynnwys Denmarc, Ffrainc, y Ffindir a Sbaen. Mae'n canolbwyntio ar newid diwylliannol i ffwrdd o'r model grisiau traddodiadol o ran cymorth, lle mae'n rhaid i rywun brofi eu bod yn 'barod' ar gyfer cartref, tuag at system sy'n cydnabod– er mwyn ffynnu ac ailadeiladu mewn gwirionedd – bod ar unigolyn yn gyntaf angen lle sefydlog i'w alw'n gartref. Mae'r dull yn cydnabod yr angen i ddarparu sicrwydd cartref i bobl yn gyntaf ac yna adeiladu cymorth o amgylch person fel y gallant gadw'r cartref hwnnw. 

Mae ymchwil wedi dangos bod y model grisiau yn gadael llawer o bobl ag anghenion cymorth cymhleth mewn sefyllfa lle maent yn "methu ag ateb gofynion rhaglenni o'r fath," gan arwain at lefelau uchel o ddigartrefedd parhaus [1]. Yn y cyfamser, mae egwyddorion Ailgartrefu Cyflym wedi dangos llwyddiant byd-eang, yn enwedig trwy'r dull Tai yn Gyntaf. 

Mae Tai yn Gyntaf yn sicr yn agwedd ar y dull Ailgartrefu Cyflym ehangach, a dargedir ar gyfer pobl ag anghenion mwy cymhleth. Mae Tai yn Gyntaf yn darparu tai priodol gyda chymorth cofleidiol. Mae'r dull gweithredu wedi dangos llwyddiant mawr gyda Cymorth Cymru yn adrodd, ar draws yr 17 ardal y darparwyd Tai yn Gyntaf ynddynt yng Nghymru rhwng 2018 a 2023, bod cyfraddau llwyddiant ar gyfer cynnal tenantiaethau yn 91%.[2]

Yn ei ystyr ehangaf, mae effaith y dull Ailgartrefu Cyflym dros y model grisiau traddodiadol yn sylweddol. Mae'n gweithredu fel mesur ataliol, gan ddarparu cartref sefydlog a sicr i bobl cyn iddynt ddatblygu anghenion ychwanegol a chymhleth, a all yn aml fod yn gysylltiedig â chyfnodau hir o ddigartrefedd. Er enghraifft, mae ymchwil helaeth yn dangos y gall pobl sy'n profi digartrefedd fod yn fwy tueddol o brofi anawsterau gyda'u hiechyd meddwl a chorfforol. Gall hefyd fod yn anodd ceisio neu gynnal cyflogaeth heb le sefydlog i'w alw'n gartref.

Hefyd, mae'r dull wedi dangos llwyddiant sylweddol o ran lleihau lefelau digartrefedd sy’n digwydd dro ar ôl tro. Gan hynny, er bod y newid i ddull Ailgartrefu Cyflym yn galw am fuddsoddiad ariannol cychwynnol i gryfhau'r cyflenwad o dai yn unol â'r angen, ceir manteision ariannol dros y tymor hwy. Gellir gwireddu'r manteision buddsoddi-i-arbed hyn nid dim ond trwy atal digartrefedd, ond hefyd trwy leihau'r gwariant sylweddol ar lety dros dro ar hyn o bryd, y nododd Shelter Cymru ei fod yn £99 miliwn ledled Cymru yn 2023/24 yn ôl yr amcangyfrifon.[3]

[1] Gweler Staircases, Elevators and Cycles of Change ‘Housing First’ and Other Housing Models for Homeless People with Complex Support Needs gan Sarah Johnsen a Lígia Teixeira, Prifysgol Caer Efrog a Crisis, 2010, ar gael yn staircases_elevators_and_cycles_of_change_es2010.pdf

[2] Gweler Housing First in Wales continues to deliver impressive 91% tenancy sustainment rate - Cymorth Cymru

[3] Gweler The Cost of Crisis Report 2024

Ailgartrefu Cyflym yng Nghymru

Roedd egwyddor Ailgartrefu Cyflym yn ganolog i argymhellion y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd i Lywodraeth Cymru ar roi diwedd ar ddigartrefedd yn 2020. Ac yn dilyn hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymrwymiad cadarn i symud tuag at y dull Ailgartrefu Cyflym. Mae'r dull hwn yn sail i Gynllun Cenedlaethol Llywodraeth Cymru i Roi Diwedd ar Ddigartrefedd.

Mae egwyddor Ailgartrefu Cyflym hefyd wedi'i gwreiddio yn y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol sydd ar ddod, a fydd yn pennu’r cyfeiriad ar gyfer dyfodol cymorth digartrefedd yng Nghymru. Er enghraifft, mae dyletswyddau newydd arfaethedig fel y ddyletswydd i gynnig cymorth i helpu i gadw llety wedi'u gwreiddio o fewn egwyddorion Ailgartrefu Cyflym. 

Hefyd, mae Llywodraeth Cymru bellach yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ledled Cymru ddatblygu Cynlluniau Pontio Ailgartrefu Cyflym, ac mae pob ardal bellach wedi datblygu cynllun. Bwriad y cynlluniau hyn yw helpu awdurdodau lleol i adnabod y camau y mae eu hangen i bontio i ddull Ailgartrefu Cyflym sy'n canolbwyntio ar atal ac datrysiadau tai hirdymor cynaliadwy. 

Er bod yr ymrwymiadau hyn i wreiddio egwyddor Ailgartrefu Cyflym yn seilwaith Cymru yn allweddol i symud y genedl tuag at y dull gweithredu; ceir, wrth gwrs, ystyriaethau ehangach i sicrhau bod y dull yn cael ei wreiddio go iawn mewn ymarfer ledled y wlad. 

Cydnabyddir yn eang y bydd yn rhaid wrth ddull cydweithredol ar draws ystod o sefydliadau statudol a sefydliadau'r trydydd sector er mwyn dod yn genedl sy'n cofleidio'r dull Ailgartrefu Cyflym o roi terfyn ar ddigartrefedd yn llawn. Mae'n golygu ei bod yn ofynnol i arweinwyr awdurdodau lleol ymrwymo i ffyrdd amrywiol o gynyddu'r cyflenwad o dai er mwyn diwallu anghenion y rhai sy'n profi digartrefedd yn yr ardal leol. Mae'n golygu ei bod yn ofynnol i wasanaethau eraill gysylltu a darparu'r cymorth amlasiantaeth y gallai fod ei angen ar unigolyn i gadw ei gartref. Ac mae'n golygu ei bod yn ofynnol i bobl ar draws y sector hyrwyddo'r dull gweithredu. Er mwyn cofleidio'r dull Ailgartrefu Cyflym yn llawn, rhaid i ni ategu'r seilwaith a'r ymrwymiadau lefel uchaf a wnaed â hwb ymlaen ar draws yr holl feysydd hyn.

Ac, os gwnawn hynny, mae'r manteision yn enfawr – i unigolion sy'n ailadeiladu eu bywydau ar ôl wynebu trawma digartrefedd, i'n gwasanaethau cymorth tai sy’n gorfod ymestyn yn rhy bell ac sy'n cael trafferth ateb y galw, i awdurdodau lleol sy'n talu biliau gwerth miliynau o bunnoedd am arosiadau hir mewn llety dros dro, ac i'n gwasanaethau cyhoeddus ehangach sy'n gallu wynebu mwy o bwysau gan bod digartrefedd yn aml yn arwain at ddatblygu anawsterau iechyd, iechyd meddwl ac anawsterau eraill. 

Y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd a sefydlu'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ailgartrefu Cyflym

Ar ôl cyhoeddi'r Cynllun Cenedlaethol i Roi Diwedd ar Ddigartrefedd, ac i helpu i gynghori Llywodraeth Cymru ar ei chynnydd tuag at ei huchelgais i wneud digartrefedd yn “rhywbeth prin, byrhoedlog, na fydd yn cael ei ailadrodd," sefydlwyd y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd. Mae'r Bwrdd yn cynnwys arbenigwyr o bob rhan o'r sector tai yng Nghymru, yn ogystal â phartneriaid allweddol gan gynnwys y gwasanaeth iechyd a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi. 

Er mwyn ei gynorthwyo yn ei waith, fe wnaeth y Bwrdd adnabod ystod o feysydd allweddol i'w hystyried yn fanwl a sefydlu Grwpiau Gorchwyl a Gorffen ar draws pob un o'r meysydd hyn. Gan gydnabod bod Ailgartrefu Cyflym yn un o gonglfeini’r cynllun cenedlaethol i roi diwedd ar ddigartrefedd, fe wnaeth y Bwrdd sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ailgartrefu Cyflym, i ystyried yn ofalus sut orau i gefnogi'r newid hwn.

Wrth sefydlu'r grŵp hwn, cydnabuwyd y pwyntiau canlynol fel agweddau sylfaenol y mae eu hangen ar gyfer gwreiddio Ailgartrefu Cyflym ledled Cymru:

  • Sicrhau bod dealltwriaeth, ymwybyddiaeth a chefnogaeth gyffredinol ar gyfer y dull, nid dim ond ymhlith gweithwyr proffesiynol gwasanaethau tai, ond hefyd ar draws arweinwyr o fewn asiantaethau partner allweddol. Mae hyn yn cynnwys arweinwyr ehangach awdurdodau lleol, y gwasanaeth iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, gwleidyddion etholedig, arweinwyr y trydydd sector ac eraill.
  • Sicrhau ein bod yn creu'r cartrefi y mae eu hangen i gyd-fynd ag anghenion y rhai sy'n profi digartrefedd yng Nghymru.
  • Parhau i rannu arfer da a datblygu mwy o gysondeb ledled Cymru mewn gwaith cadarnhaol tuag at Ailgartrefu Cyflym.

O ystyried y brwdfrydedd i fynd ati ymhellach i archwilio'r meysydd allweddol hyn a sut y gellir eu cefnogi ledled Cymru, sefydlodd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ailgartrefu Cyflym ddau weithgor – y naill ar y cyflenwad o dai a'r llall ar gyfathrebu.

Gosodwyd amcan i’r naill a’r llall o'r gweithgorau, fel a nodir isod:

Amcanion ar gyfer y gweithgor ar y cyflenwad o dai:

  • Darparu dadansoddiad manwl o sut y mae data a gwybodaeth am anghenion tai pobl sy'n profi digartrefedd yn goleuo’r modd y darperir y cyflenwad o dai, wrth gynllunio ac yn ymarferol.
  • Defnyddio'r dadansoddiad hwn i adnabod argymhellion manwl ar gyfer sut y gall ALlau ledled Cymru wella sut y mae ehangiad y cyflenwad o dai’n cyd-fynd ag anghenion y rhai sy'n profi digartrefedd, gan dynnu ar arfer da, gwersi a rhwystrau/bylchau a adnabuwyd.
  • I awdurdodau lleol a oedd yn rhan o’r dadansoddiad dwfn i gymharu'r gwahanol ddulliau a ddefnyddir, gan ddysgu a datblygu arferion presennol yn eu hawdurdodau lleol eu hunain o ganlyniad.

Amcanion ar gyfer y gweithgor ar gyfathrebu:

  • Datblygu mwy o ddealltwriaeth a chefnogaeth ar gyfer y dull Ailgartrefu Cyflym yn genedlaethol, ar draws yr holl adrannau, asiantaethau ac arweinwyr strategol perthnasol mewn llywodraeth leol.

Mae'r adroddiad hwn yn ceisio coladu, cofnodi a rhannu'r gwersi allweddol o waith y grŵp Gorchwyl a Gorffen. Rydym yn gobeithio y bydd yr wybodaeth yn ddefnyddiol wrth i Lywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol barhau i gydweithio i barhau i symud yn agosach at ddull Ailgartrefu Cyflym ledled Cymru.

Dadansoddiad Dwfn o sut y mae’r cyflenwad o dai’n cyd-fynd ag anghenion tai pobl sy’n profi digartrefedd

Mae'n amlwg, i symud ymlaen tuag at ddull Ailgartrefu Cyflym yng Nghymru, bod angen i ni nid dim ond canolbwyntio ar greu cartrefi mwy fforddiadwy – ond hefyd ar sicrhau ein bod yn creu'r mathau cywir o gartrefi i gyd-fynd ag anghenion pobl sy'n profi digartrefedd. Yn wir, mae'r diffyg eiddo ag un ystafell wely ochr yn ochr â'r niferoedd uchel o bobl sengl sy'n profi digartrefedd yn aml yn cael ei enwi fel rhwystr allweddol i weithredu'r dull Ailgartrefu Cyflym. 

Mae'r adroddiad diweddar gan y Tasglu Tai Fforddiadwy, dan gadeiryddiaeth Lee Waters AS, yn tynnu sylw at y ffaith, ledled Cymru, "nad oes digon o gydgysylltu rhwng asesiadau ar anghenion y cyflenwad tai ar gyfer mynd i’r afael â digartrefedd a chynllunio tai’n strategol."

Er mwyn deall arferion cyfredol yn well a cheisio gwelliannau o ran sut y mae ein systemau’n cysylltu gwybodaeth am anghenion tai pobl sy'n profi digartrefedd a chynllunio’r cyflenwad, cynhaliodd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ailgartrefu Cyflym y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd ymarfer dadansoddi dwfn yn ardaloedd awdurdodau lleol Caerdydd, Conwy a Rhondda Cynon Taf yn 2024/25. Amcanion y dadansoddiad dwfn hwn oedd:

  • Darparu dadansoddiad manwl o sut y mae data a gwybodaeth am anghenion tai pobl sy'n profi digartrefedd yn goleuo’r modd y darperir y cyflenwad o dai, wrth gynllunio ac yn ymarferol.
  • Defnyddio'r dadansoddiad hwn i adnabod argymhellion manwl ar gyfer sut y gall ALlau ledled Cymru wella sut y mae ehangiad y cyflenwad o dai’n cyd-fynd ag anghenion y rhai sy'n profi digartrefedd, gan dynnu ar arfer da, gwersi a rhwystrau/bylchau a adnabuwyd.
  • I awdurdodau lleol a oedd yn rhan o’r dadansoddiad dwfn i gymharu'r gwahanol ddulliau a ddefnyddir, dysgu a datblygu arferion presennol yn eu hawdurdodau lleol eu hunain o ganlyniad.

Roedd y tri awdurdod lleol y cysylltwyd â nhw i gymryd rhan yn yr ymarfer dadansoddi dwfn wedi cwblhau Cynlluniau Pontio Ailgartrefu Cyflym (CPAC) ac Asesiadau o'r Farchnad Tai Leol (AFDL), gan y teimlid y byddai gallu manteisio ar y profiad hwn yn ddefnyddiol i'r ymarfer.

Helpodd gweithgor bach i ddatblygu cyfres o gwestiynau i'w defnyddio fel sail a chanllaw ar gyfer y dadansoddiad dwfn. Yna bu Rheolwyr Perthynas Llywodraeth Cymru’n gweithio gydag awdurdodau’r dadansoddiad dwfn i ymateb i'r cwestiynau. Cafodd yr ymatebion hyn eu coladu, eu hystyried a'u trafod gan y gweithgor bach, a geisiodd ystyried rhwystrau, bylchau mewn systemau ac arferion da. O hynny, adnabu’r grŵp wyth thema allweddol.

Trwy ddadansoddiad pellach, ceisiodd y grŵp ddatblygu argymhellion o dan bob un o'r meysydd thematig hyn, gyda golwg ar ystyried sut y gellid mynd ati ymhellach i archwilio gwersi o’r dadansoddiad dwfn a defnyddio arferion defnyddiol yn ehangach. 

Er bod yr ymarfer dadansoddi dwfn, fel a fwriadwyd, wedi canolbwyntio ar sut y mae’r cyflenwad o dai’n cyd-fynd ag anghenion, fe wnaeth hefyd ystyried gwersi llawer ehangach, gan gydnabod bod gwaith i gynyddu'r cyflenwad o dai wedi’i gysylltu’n agos ar draws sawl maes ymarfer.

Yn wir, rhoddwyd pwyslais tra phwysig gan yr holl awdurdodau lleol a gyfranogodd, ar yr angen i fwrw golwg eang ar ffyrdd amrywiol o ddiwallu anghenion tai. Roedd yn amlwg, er y dylai cynllunio’r cyflenwad o dai newydd gysylltu â'r wybodaeth am anghenion tai pobl sy'n profi digartrefedd, bod angen dull ehangach o asesu'r holl asedau a llwybrau sydd ar gael o fewn awdurdod i gynyddu'r cyflenwad o dai. Yn y bôn, er mwyn sicrhau bod y cyflenwad o dai’n cyd-fynd ag anghenion, pwysleisiodd y dadansoddiad dwfn fod rhaid i ni ddefnyddio dull eang a strategol sy'n rhychwantu gweithgarwch cynllunio’r cyflenwad, dyrannu tai cymdeithasol, caffael ac adfywio, yn ogystal â gwella mynediad at y sector rhentu preifat a mecanweithiau eraill.

Gan hynny, mae'r themâu a'r argymhellion a adnabuwyd yn y dadansoddiad dwfn yn ystyried sut mae data'n goleuo gweithgarwch cynllunio anghenion trwy ddogfennau allweddol fel Asesiadau o’r Farchnad Dai Leol a Chynlluniau Datblygu Lleol (CDLl), ond hefyd yn cwmpasu ystod o feysydd ehangach eraill sy'n berthnasol i'r dull Ailgartrefu Cyflym. Mae a wnelo â'r olwg strategol eang y bydd ei hangen o fewn Cynlluniau Pontio Ailgartrefu Cyflym wrth iddynt gael eu datblygu ymhellach.

Rydym yn gobeithio y bydd yr argymhellion sy'n dod i'r amlwg o’r dadansoddiad dwfn yn ddefnyddiol i Lywodraeth Cymru. Yn wir, roedd yr adroddiad diweddar gan y Tasglu Tai Fforddiadwy’n cynnwys argymhelliad bod "rhaid i Lywodraeth Cymru adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar gyfer Ailgartrefu Cyflym ynghylch y ffordd orau o adlewyrchu data ar anghenion digartrefedd wrth gynllunio cyflenwadau, gan sicrhau bod y cyflenwad tai i fynd i’r afael ag anghenion pobl leol ddigartref yn cael ei flaenoriaethu’n briodol." [4]

Mae'n werth nodi hefyd bod llawer o'r themâu a'r argymhellion a adnabuwyd ar draws yr ymarfer dadansoddi dwfn yn arbennig o berthnasol i Lywodraeth Cymru wrth iddi baratoi ar gyfer a datblygu canllawiau ar gyfer y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol. Er enghraifft, mae'r angen am fwy o gydweithio a rhannu data, pwysigrwydd cael eu hysbysu gan bobl sydd ag arbenigedd trwy brofiad personol, a'r angen i roi ystyriaeth ofalus i gymorth ar gyfer pobl sy'n gadael y carchar i gyd yn berthnasol i feysydd yn y Bil ac fe'u harchwilir hefyd yn y gwersi isod.

Yn ogystal â hynny, rydym yn gobeithio y bydd y themâu a'r argymhellion a amlinellir isod hefyd yn ddefnyddiol i awdurdodau lleol, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, darparwyr cymorth a phartneriaid allweddol eraill ledled Cymru o ran symud ar y cyd tuag at roi diwedd ar ddigartrefedd. 

Mae'r argymhellion yn ceisio adnabod a hyrwyddo arfer da. Gan hynny, wrth ddarllen trwy'r argymhellion, dylid cydnabod y gallai awdurdodau lleol, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a phartneriaid mewn gwahanol rannau o'r wlad eisoes fod yn cofleidio nifer o'r argymhellion a amlinellir. Rydym yn gobeithio, trwy rannu'r gwersi ar y cyd yn y ffordd hon, y bydd yn helpu'r holl awdurdodau lleol a phartneriaid allweddol ledled Cymru i ystyried enghreifftiau o arfer da o ardaloedd eraill y byddent o bosibl yn dymuno eu mabwysiadu ymhellach.

Arfer Da cyffredinol a adnabuwyd ar draws y dadansoddiad dwfn

Datgelodd y dadansoddiad dwfn fod llawer o waith cadarnhaol a chreadigol yn cael ei wneud i symud tuag at ddull Ailgartrefu Cyflym yn y tri awdurdod lleol a gyfranogodd. Ceir llawer o enghreifftiau o arfer da a mewnwelediadau a allai fod yn ddefnyddiol i awdurdodau lleol eraill a phartneriaid ehangach eu hystyried yn eu gwaith Ailgartrefu Cyflym. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Gweithio rhagweithiol, cadarnhaol a chydweithredol o fewn awdurdodau lleol a chydag asiantaethau partner, yn enwedig y gwasanaeth iechyd, y gwasanaeth prawf, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (LCC) ac asiantaethau'r trydydd sector 
  • Arloesi i sefydlu trefniadau gweithio a phartneriaethau newydd i ddarparu gwasanaethau sy'n gysylltiedig ag Ailgartrefu Cyflym, megis staff amlddisgyblaethol mewn timau iechyd a thai 
  • Casglu data da i oleuo penderfyniadau strategol ynghylch cynllunio tai 
  • Gweithio i gysoni a/neu gydlynu dogfennau strategol i alluogi prosesau penderfynu gwybodus; er enghraifft, trwy gynnwys grwpiau perthnasol wrth ddrafftio amryw strategaethau i oruchwylio eu rhyng-gysylltedd 
  • Ffyrdd o weithio sy'n ceisio sicrhau cefnogaeth, perchnogaeth ac arweinyddiaeth o fewn awdurdodau lleol ac asiantaethau partner i symud y dull Ailgartrefu Cyflym ymlaen
  • Dulliau â ffocws penodol ac ar y cyd i gynorthwyo pobl ag anghenion tai sydd â gofynion ychwanegol, megis pobl ag anghenion dwys/cymhleth a phobl sy'n gadael y carchar, gan gynnwys datblygiad a llwyddiant Tai yn Gyntaf.

Fel a amlinellir yn adran 4 o'r adroddiad hwn, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i chwilio am ffyrdd o rannu ac ehangu arfer da ledled Cymru.

Thema 1: Data

Er mwyn sicrhau bod gwybodaeth am anghenion pobl sy'n profi digartrefedd yn cyd-fynd â'r cyflenwad, pwysleisiodd y dadansoddiad dwfn ei bod yn bwysig ystyried a yw'r data a goladwyd ar angen yn ddigon fel sylfaen ar gyfer gwneud penderfyniadau. Mae hefyd yn arbennig o bwysig bod gwybodaeth gan bobl â 'phrofiad personol’ yn cael ei chasglu fel agwedd allweddol ar setiau data. 

Mae gwybodaeth am y math o dai y mae eu hangen i gyd-fynd â meintiau a gofynion aelwydydd yn cael ei chasglu trwy'r Asesiad o’r Farchnad Dai Leol a'i diweddaru mewn Prosbectws Tai blynyddol. Mae gwybodaeth am y math o gymorth tai y mae ei angen ar rai pobl yn cael ei choladu trwy Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai (SRhCT) i ddangos yr angen am dai â chymorth newydd/wedi'u hail-bwrpasu a gwasanaethau ataliol. Mae cofnodi anghenion cymorth yn gywir yn hanfodol i oleuo Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai. 

O fewn y dadansoddiad dwfn, roedd yn amlwg bod yr awdurdodau lleol a gyfranogodd yn casglu llawer o wybodaeth am anghenion pobl sy'n profi digartrefedd ar draws llawer o feysydd, gan gynnwys nodweddion gwarchodedig, a darparwyd enghreifftiau o arfer da yn hyn o beth. Fodd bynnag, ceir amrywiadau yn y data a sy’n cael ei goladu a disgwylir, ar draws yr awdurdodau na wnaethant gyfranogi yn yr ymarfer, y bydd amrywiad ychwanegol.

Nodwyd hefyd y ceir anghysonderau yn aml ar draws awdurdodau lleol o ran y math o ddata ac ehangder y data a gofnodir. Hefyd, tynnodd cyfranogwyr yn y dadansoddiad dwfn sylw at y ffaith bod data ar anghenion tai pobl sy'n profi digartrefedd yn aml yn cael ei gadw ar draws gwahanol blatfformau o fewn awdurdodau ac ar draws gwahanol gyrff, gan ei gwneud hi'n anodd triongli gwybodaeth. 

Ar ben hynny, dynododd y dadansoddiad dwfn fod systemau cofnodi data yn aml yn rhwystr i’r gallu i goladu gwybodaeth yn ganolog ac nad ydynt yn hwyluso trefn i gofnodi manylion cyflawn a byw am amgylchiadau pobl mewn un lle. 

Croesawodd awdurdodau lleol a gyfranogodd y gwaith parhaus yn Llywodraeth Cymru i geisio symud data i lefel unigol, ond cydnabuwyd fod angen bwrw golwg fwy cyffredinol hefyd ar wella systemau ar gyfer coladu a dadansoddi data.

Rhannwyd arfer da ac enghreifftiau cadarnhaol o ran data ar draws y dadansoddiad dwfn, megis awdurdodau lleol yn cwrdd yn rheolaidd â phartneriaid ymhlith Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i adnabod a rhagfynegi anghenion tai, yn ogystal â datblygu perthynas weithio glòs â phartneriaid allweddol i gynnal a rhannu gwybodaeth. Rhoddwyd enghraifft ehangach gysylltiedig o rannu data a oedd yn ymwneud â Phorth Cartrefi a Lleoedd canolog Llywodraeth Cymru lle gall awdurdodau lleol a derbynwyr cyllid gynnig, rheoli ac adolygu cynlluniau tai y mae angen cyllid ar eu cyfer gan Lywodraeth Cymru. Er, fel a nodir yn yr argymhellion, bod angen ystyried sut y gellir gwella systemau data, roedd hefyd yn amlwg bod elfennau o arfer da y gellir eu harchwilio, eu rhannu ac, o bosibl, adeiladu arnynt.

Argymhellion

  1. Dylai Llywodraeth Cymru archwilio gydag awdurdodau lleol sut y gellid gwella systemau cofnodi er mwyn galluogi data digartrefedd i oleuo gweithgarwch cynllunio ar gyfer anghenion tai mewn modd digonol. Dylai hyn gynnwys ystyried datblygu neu addasu offer cyfredol, a'r angen posibl am system ganolog.
     
  2. Dylai Llywodraeth Cymru adolygu diffiniadau a chanllawiau ar gyfer coladu data ar anghenion tai a digartrefedd (gan gynnwys nodweddion gwarchodedig) er mwyn sicrhau eu bod yn ddigon cynhwysfawr a chyson ledled Cymru.
     
  3. Dylai Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, y gwasanaeth iechyd, y gwasanaeth prawf a phartneriaid ehangach y sector ledled Cymru archwilio ffyrdd y gellid rhannu eu data yn haws ac yn fwy rhwydd i oleuo penderfyniadau ynghylch digartrefedd a thai.
     
  4. Dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu offer i ategu gwaith i ragfynegi anghenion yn y dyfodol ar draws meysydd lle ceir niferoedd uwch o achosion o anghenion tai acíwt a digartrefedd, gan gynnwys anghenion tai arbenigol yn gyntaf, pobl sy'n gadael y carchar ac anghenion sy'n seiliedig ar gydraddoldeb.
     
  5. Dylai awdurdodau lleol ystyried sut y maent yn sicrhau y gellir defnyddio'r data yn y ffordd orau i oleuo penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ynghylch y cyflenwad o dai a datblygiad Ailgartrefu Cyflym, megis penodi staff arbenigol sydd â sgiliau mewn cofnodi, cydlynu a dadansoddi data.
     
  6. Dylai awdurdodau lleol ymgynghori â phobl sydd â phrofiad personol o ddigartrefedd wrth ddatblygu strategaethau perthnasol, gan sicrhau eu bod yn casglu gwybodaeth fanwl gan aelwydydd digartref am eu hanghenion a'u dewisiadau i oleuo gweithgarwch cynllunio tai. 

Thema 2: Cyflenwad o dai/tai o’r maint cywir 

Tynnodd y dadansoddiad dwfn sylw at y ffaith yr effeithir yn arbennig ar lawer o grwpiau o bobl gan y cyflenwad annigonol o dai ar hyn o bryd, megis pobl anabl, pobl ag anghenion iechyd meddwl, pobl ifanc (gan gynnwys y rhai sy'n gadael gofal), pobl sydd wedi profi cam-drin domestig, ceiswyr lloches a ffoaduriaid, sipsiwn a theithwyr, pobl sy'n gadael yr ysbyty a'r carchar, a phobl ddigartref sengl ag anghenion sy’n cyd-ddigwydd. 

Nodwyd fod y diffyg eiddo mwy â phedair ystafell wely neu fwy yn broblem arbennig. Fodd bynnag, cydnabuwyd bod y diffyg llety person sengl yn broblem arbennig o gyffredin - gan nodi’n arbennig bod tor perthynas wedi bod yn un o brif achosion digartrefedd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. 

Pwysleisiodd y dadansoddiad dwfn fod hyn bellach yn angen acíwt nad oedd wedi cael ei ragfynegi yn y gorffennol - efallai gyda newidiadau diwylliannol yn ysgogi’r newid hwn yn y galw. Roedd awdurdodau lleol a gyfranogodd yn teimlo bod yr angen hwn yn creu cymhlethdod wrth geisio datrysiadau; a hwythau’n nodi'r anhawster a achosir wrth ddiwallu'r angen mawr am gartrefi ag un ystafell wely gan sicrhau yr un pryd bod mannau cymunedol yn parhau i fod yn gymysg a hwythau hefyd yn cydnabod yr anawsterau gyda dwysedd eiddo Tai Amlfeddiannaeth. Er bod awdurdod lleol a gyfranogodd yn gweithio ar ddatblygu mwy o eiddo a reolir gyda llety ag un ystafell wely, cydnabuwyd mai dim ond rhan o'r datrysiad yw hyn. Yn wir, mae'r angen am eiddo ag un ystafell wely yn rhychwantu carfan eang o bobl, na fydd gan lawer ohonynt anghenion cymorth cymhleth.

Teimlwyd fod angen ystyried a rhagweld yn ofalus beth yw’r taflwybr a'r angen yn y dyfodol am gartrefi ag un ystafell wely. Heb ystyriaeth ofalus o'r fath, nid yw'n glir a fydd yr angen hwn am lety ag un ystafell wely yn parhau i godi, yn aros yn statig ynteu’n lleihau yn y dyfodol. Roedd awdurdodau lleol yn ymwybodol y gellid creu nifer uchel o unedau eiddo ag un ystafell wely na fydd defnydd iddynt o bosibl yn y tymor hwy.

Yn gysylltiedig â'r angen i ystyried datrysiadau ar gyfer yr angen acíwt a dybryd am eiddo ag un ystafell wely, adnabu’r dadansoddiad dwfn, yn ogystal â bwrw golwg ar gynllunio’r cyflenwad o dai newydd, ei bod yn hanfodol bwysig edrych ar y darlun mawr sydd hefyd yn ystyried sut orau i ddefnyddio’r stoc dai gyfredol a phresennol. 

Tynnodd awdurdodau lleol a gyfranogodd sylw at bwysigrwydd cydweithio â landlordiaid cymdeithasol i ddeall pa stoc sydd ar gael, sut y mae'n cael ei defnyddio a sut y gellid ei defnyddio'n fwy effeithiol (megis ail-bwrpasu tai gwarchod). Mae angen cynnwys yr wybodaeth ehangach hon ochr yn ochr â'r angen am dai newydd mewn gweithgarwch cynllunio strategol.

Mae'n bwysig sicrhau bod deiliaid yn teimlo'n ddiogel ac yn sefydlog yn eu cartrefi. Fodd bynnag, ar draws y dadansoddiad dwfn, nododd awdurdodau lleol a gyfranogodd y gall newidiadau i anghenion aelwydydd ddigwydd y tu hwnt i'r adeg dyrannu. Roedd hyn, ochr yn ochr â chydnabyddiaeth bod anawsterau i’w cael yn aml wrth sicrhau cartrefi i aelwydydd mwy, yn golygu bod tai o’r maint cywir wedi cael ei nodi fel thema sy'n dod i'r amlwg.

Dangoswyd arfer da ac arloesi gan yr awdurdodau lleol i gynyddu'r cyflenwad o dai, megis mynd ati’n rhagweithiol i adnabod cartrefi gwag a’u gwella fel y gellir eu defnyddio eto (er enghraifft, trwy bostdafliadau, arolygon blynyddol, ail-bwrpasu adeiladau), a gwaith cydweithredol gyda landlordiaid preifat i'w cynorthwyo i ddarparu ar gyfer aelwydydd digartref trwy Gynllun Lesio Cymru a threfniadau eraill. Tynnodd awdurdodau lleol a gyfranogodd sylw hefyd at bwysigrwydd a gwerth sefydlu perthnasoedd gweithio da a chyfarfodydd rheolaidd gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn yr ardal.

Argymhellion 

  1. Dylai awdurdodau lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ledled Cymru ystyried ffyrdd o wella eu gwaith gyda'i gilydd ymhellach, gan gynnwys adnabod cyfleoedd newydd i gynnal data ar y cyd a byw ar anghenion esblygol deiliaid tai cymdeithasol, gan gynnwys mewn perthynas â gorlenwi a thanfeddiannaeth.
     
  2. Gall awdurdodau lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, a hwythau’n adeiladu ar arfer da presennol, ystyried sut y gallent gynorthwyo deiliaid tai cymdeithasol i symud i eiddo llai os yw eiddo llai yn diwallu eu hanghenion a'u bod yn dymuno symud cartref.
     
  3. Dylai Llywodraeth Cymru ddarparu digon o gyllid mewn perthynas â chyfalaf ar gyfer adeiladu cartrefi cymdeithasol a refeniw i roi cymorth i gynllunio a gweithredu strategaethau ar gyfer cynyddu'r cyflenwad o dai.
     
  4. Dylai Llywodraeth Cymru archwilio a oes angen addasu a chyflwyno mwy o hyblygrwydd o fewn grantiau i ymateb i newidiadau mewn anghenion tai.
     
  5. Dylai Cynlluniau Pontio Ailgartrefu Cyflym a chynllunio strategol fwrw golwg eang ar sut i ddiwallu anghenion tai sy'n dod i'r amlwg trwy asesu asedau eiddo lleol ar lefel eang. Dylai hyn gynnwys cynllunio cartrefi newydd, ond hefyd gweithio ar y cyd gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a landlordiaid preifat, adfywio cartrefi gwag, ailddynodi, prynu eiddo, ac ail-bwrpasu adeiladau (fel swyddfeydd, llety myfyrwyr nas defnyddir ddigon, a thai a rennir). Er mwyn hwyluso hynny, dylai Llywodraeth Cymru geisio rhannu enghreifftiau o arfer da ar draws y meysydd hyn. 
     
  6. Dylai Llywodraeth Cymru ehangu mentrau a chymorth i awdurdodau lleol weithio gyda landlordiaid y Sector Tai Rhent Preifat a rhoi cymhellion iddynt, i gynyddu'r defnydd o dai rhent preifat fforddiadwy o ansawdd da ar gyfer Ailgartrefu Cyflym, yn enwedig i bobl sengl. Dylai hyn gynnwys ystyried sut i ddefnyddio Cynllun Lesio Cymru ymhellach.
     
  7. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried sefydlu gweithgor i gynorthwyo awdurdodau lleol i fynd i'r afael â chymhlethdodau ateb y galw acíwt am eiddo ag un ystafell wely. Dylai gweithgor o'r fath gynnwys partneriaid allweddol fel awdurdodau lleol, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a sefydliadau perthnasol yn y trydydd sector. Dylai ystyried datrysiadau ymarferol i ateb y galw cyfredol, gan hefyd ystyried yn ofalus sut i ragfynegi’r angen am eiddo o'r fath yn y dyfodol ac ymgorffori'r amcanestyniadau hyn mewn cynlluniau i ateb y galw presennol. Er enghraifft, ystyried sut y gallai dyluniad hyblyg ar gyfer adeiladau alluogi awdurdodau i ateb gofynion cyfredol, gan hefyd gydnabod y gallai galw o'r fath newid yn y dyfodol. 
     
  8. Dylai Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol archwilio sut y gall polisïau cynllunio lleol addasu a chyflymu i lenwi bylchau yn y cyflenwad o dai, yn ogystal ag unrhyw fodd i flaenoriaethu tai fforddiadwy trwy'r broses gynllunio.

Thema 3: Arweinyddiaeth

Fel a nodwyd gan y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd a'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ailgartrefu Cyflym ehangach, mae canfyddiadau'r dadansoddiad dwfn yn ailadrodd bod sicrhau derbyniad a chefnogaeth gan uwch arweinwyr a goruchwyliaeth effeithiol yn hanfodol i fwrw ymlaen â'r dull Ailgartrefu Cyflym. 

Mae'r dadansoddiad dwfn yn dynodi bod cynnal gweledigaeth drosfwaol ar draws arweinwyr adrannol yn hanfodol i sicrhau bod adrannau allweddol yn gweithio ar y cyd i gysylltu gwybodaeth am anghenion pobl sy'n profi digartrefedd â datblygiadau ar y cyflenwad o dai.

Amlygodd hefyd na ellir datrys digartrefedd ymhlith rhai pobl trwy’r cyflenwad o dai yn unig. Mae ar rai pobl angen cymorth gan bartneriaid fel y gwasanaeth iechyd, gwasanaethau iechyd meddwl, y gwasanaeth prawf, gwasanaethau cymdeithasol, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a'r trydydd sector i reoli eu tenantiaethau. 

Os nad oes gan aelodau etholedig ar draws pob strwythur llywodraethu ddealltwriaeth dda am y dull Ailgartrefu Cyflym a’i ethos ehangach, mae potensial iddynt greu rhwystrau i ddyrannu tai a phrosiectau ehangach sy'n ceisio diwallu anghenion pobl sy'n profi digartrefedd. Mae'n bwysig gweithio gyda'r holl aelodau etholedig, yn enwedig cynghorwyr lleol sy'n ymwneud â chynllunio, i gynyddu eu gwybodaeth a’u cefnogaeth ar gyfer y dull Ailgartrefu Cyflym. 

Yn gryno, mae’n rhaid wrth ymrwymiad a gweithredoedd arweinwyr yr holl bartneriaid perthnasol i roi Ailgartrefu Cyflym ar waith yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Amlygwyd enghreifftiau o arfer da yn y dadansoddiad dwfn o arweinyddiaeth effeithiol, ac ymrwymiadau cryf i Ailgartrefu Cyflym o fewn awdurdodau lleol ac ymhlith partneriaid ehangach. Mae hyn wedi arwain at roi Ailgartrefu Cyflym ar waith yn effeithiol, yn enwedig ym maes Tai yn Gyntaf ar gyfer pobl ag anghenion cymorth cymhleth. Ymhlith yr enghreifftiau roedd cymeradwyo cynlluniau Ailgartrefu Cyflym gan aelodau'r Cabinet ac adrodd yn ôl wrthynt ar y cynlluniau hynny, grwpiau llywio amlasiantaeth Tai yn Gyntaf a defnyddio Dangosyddion Perfformiad Allweddol cyffredin ar draws asiantaethau. Er y bydd gweithredu llawer o'r argymhellion yn y papur hwn yn dibynnu ar arweinyddiaeth effeithiol, ceir rhai argymhellion allweddol sy’n ymwneud yn benodol ag arweinyddiaeth.

Argymhellion

  1. Dylai Llywodraeth newydd Cymru nodi ac atgyfnerthu gweledigaeth ar gyfer cydweithio ar draws holl adrannau allweddol awdurdodau lleol, y gwasanaeth iechyd, y gwasanaeth prawf, y trydydd sector a rhanddeiliaid ehangach i weithredu Ailgartrefu Cyflym ac i fynnu tystiolaeth bod gweithio ar y cyd yn digwydd.
     
  2. Dylai arweinwyr adrannol perthnasol mewn awdurdodau lleol gymryd cyfrifoldeb ac atebolrwydd ar y cyd am weithredu'r dull Ailgartrefu Cyflym, gan gynnwys mesurau llwyddiant cyffredin, a chymeradwyo ac adolygu Cynlluniau Pontio Ailgartrefu Cyflym (CPAC) gan aelodau'r Cabinet.
     
  3. Dylai Llywodraeth Cymru, swyddogion awdurdodau lleol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a phartneriaid eraill gydweithio i godi ymwybyddiaeth a chynyddu cefnogaeth ymhlith cynghorwyr lle mae Ailgartrefu Cyflym yn y cwestiwn.
     
  4. Dylai arweinwyr ar draws yr holl bartneriaid allweddol perthnasol - gan gynnwys awdurdodau lleol, y trydydd sector, a gwasanaethau eraill - hybu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth am Ailgartrefu Cyflym a hyrwyddo manteision y dull yn eu gwaith o ddydd i ddydd 

Thema 4: Gweithio gyda phobl ag anghenion dwys/cymhleth

Nododd y dadansoddiad dwfn fod gwasanaethau tai a digartrefedd yn aml yn gweithio gyda phobl sydd ag anghenion cymorth cymhlethAmlygwyd y bu cynnydd yn nifer y bobl yn y sefyllfa hon dros y blynyddoedd diwethaf, sy'n rhoi cyfrifoldebau ychwanegol ar awdurdodau lleol a phartneriaid i sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at lety a chymorth addas.

Dangosodd y dadansoddiad dwfn bwysigrwydd sicrhau bod darparu ar gyfer pobl ag anghenion cymhleth yn rhan o gynllunio ar gyfer y cyflenwad o dai – gan gynnwys asesu'r angen am dai â chymorth a Tai yn Gyntaf. Pwysleisiodd bwysigrwydd adnabod a gweithio gyda phartneriaid allweddol i greu, cefnogi a gwireddu gweledigaeth ar gyfer datblygu modelau darparu newydd i ddiwallu anghenion sy'n dod i'r amlwg. 

Fel ar draws meysydd eraill o fewn gwaith y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd, pwysleisiodd y dadansoddiad dwfn alwadau am eglurder ar gyllid newydd a pharhaus (gan gynnwys trwy'r Grant Cymorth Tai) i alluogi gwasanaethau i gynllunio ac i gefnogi'r nifer cynyddol o bobl ag anghenion cymorth cymhleth.

Amlygwyd arfer da o ran datblygu perthnasoedd gwaith cydweithredol rhwng awdurdodau lleol a’r gwasanaeth iechyd i gefnogi pobl ag anghenion cymorth dwys/cymhleth. Roedd enghreifftiau yn cynnwys timau amlddisgyblaethol arbenigol o nyrsys cyffredinol, iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau, gweithiwr cymdeithasol a therapyddion sy'n gweithio ar y cyd gyda staff tai a digartrefedd, a chyfarfodydd gweithredol amlasiantaeth rheolaidd i ddatrys sefyllfaoedd lle mae pobl mewn argyfwng.

Argymhellion

  1. Ledled Cymru, dylai adrannau tai, digartrefedd a gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol, y gwasanaeth iechyd, y gwasanaeth prawf, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, y trydydd sector a phartneriaid eraill weithio ar y cyd i adnabod a darparu modelau priodol o ran tai, cymorth a gwasanaethau eraill i bobl ag anghenion dwys/cymhleth yn yr ardal.
     
  2. Ledled Cymru, dylai adrannau tai, digartrefedd a gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol, y gwasanaeth iechyd, y gwasanaeth prawf, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, y trydydd sector a phartneriaid eraill archwilio ffyrdd o ddarparu ystod o opsiynau i bobl ag anghenion dwys/cymhleth, megis Tai yn Gyntaf a 'llety a reolir' (lle mae pobl yn byw mewn llety hunangynhwysol gydag argaeledd cymorth ar y safle wedi'i deilwra i'w hanghenion). 
     
  3. Dylai Llywodraeth Cymru barhau i annog a galluogi rhannu arfer da Tai yn Gyntaf a darparu digon o gyllid ychwanegol ar gyfer Tai yn Gyntaf a gwasanaethau i bobl ag anghenion cymorth dwys/cymhleth. 
     
  4. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried ariannu modelau Ailgartrefu Cyflym amgen yn benodol i fynd i'r afael ag anghenion sydd heb eu diwallu ar gyfer pobl ag anghenion cymorth dwys/cymhleth. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys modelau Tai yn Gyntaf, Ymyriad Cyfnod Allweddol neu Llwybrau.

Thema 5: Y Rhai sy’n Gadael y Carchar

Cydnabyddir yn eang bod mwy o achosion o ddigartrefedd ymhlith pobl sy'n gadael y carchar ac, i lawer, y nodir bod eu hanghenion tai heb eu diwallu. Datgelodd y dadansoddiad dwfn rai gwersi allweddol a oedd yn ymestyn y tu hwnt i’r ffocws ar sicrhau bod gwybodaeth am anghenion tai’n cyd-fynd â chynllunio ar gyfer y cyflenwad gyfer pobl sy'n gadael y carchar. 

Yn benodol, pwysleisiodd y gall rhwystrau godi wrth ddyrannu tai cymdeithasol, yn ogystal â chael tai preifat. Er enghraifft, gall fod rhwystrau wrth ddod o hyd i dai addas mewn lleoliadau priodol yng ngoleuni troseddau blaenorol, yn ogystal â rhywfaint o gyndynrwydd gan landlordiaid cymdeithasol a phreifat i dderbyn pobl sy'n gadael y carchar. Mewn rhai achosion, gall polisïau cymdeithasau tai fod yn waharddol i gyn-droseddwyr gan eu hatal rhag cael mynediad at lety. Gall fod yn arbennig o anodd cynorthwyo troseddwyr rhyw cofrestredig a phobl sy'n destun trefniadau amlasiantaethol ar gyfer amddiffyn y cyhoedd (MAPPA) i ddod o hyd i dai. 

Er, wrth gwrs, y bydd angen i gymdeithasau tai gynnal dadansoddiad ac asesiad risg gofalus wrth ystyried eu cymunedau a'u cynigion tai, awgrymodd yr ymarfer dadansoddi dwfn y byddai dull â phwyslais ychydig yn wahanol a mwy cytbwys yn ddefnyddiol mewn rhai achosion.

Adnabuwyd arfer da wrth weithio'n greadigol gyda landlord preifat i ddarparu tai yn benodol ar gyfer pobl sy'n gadael y carchar. Taflodd y dadansoddiad dwfn oleuni hefyd ar y prosiect 'Built for Zero' yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r fenter hon yn rhoi anogaeth i rannu data’n fwy cydweithredol a mynd ati’n helaeth i feithrin perthnasoedd rhwng Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi, y gwasanaeth prawf, y gwasanaeth iechyd, awdurdodau lleol a'r trydydd sector i gynllunio tai ar gyfer pobl sy'n gadael y carchar. Mae'r fenter yn pwysleisio pwysigrwydd adnabod partneriaid allweddol ar y cychwyn cyntaf ac yna sefydlu dull ar gyfer cydweithio.

Argymhellion 

  1. Dylai Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, y gwasanaeth prawf a phartneriaid allweddol eraill weithio gyda'i gilydd i ystyried a datblygu dulliau cydweithredol o asesu risg a rheoli risg ar gyfer pobl sy'n gadael y carchar, yn enwedig troseddwyr risg uchel, gan gynnwys mewn polisïau dyrannu, er mwyn gwella eu mynediad at dai cymdeithasol. Efallai y bydd Llywodraeth Cymru yn dymuno ystyried a oes cyfle i edrych ar y meysydd hyn o fewn ei Gweithgor Llety ar ôl y Carchar.
     
  2. Dylai Llywodraeth Cymru roi anogaeth i rannu arfer da a chydweithio rhwng awdurdodau lleol, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, y gwasanaeth prawf a phartneriaid allweddol eraill ynghylch tai a chefnogi pobl sy'n gadael y carchar, gan gynnwys ystyried mabwysiadu'r dull 'Built for Zero' o gefnogi pobl sy'n gadael y carchar mewn ardaloedd eraill yng Nghymru. 

Thema 6: Cysoni canllawiau

Yn ogystal ag asesu'r data ar anghenion pobl sy'n profi digartrefedd, ceisiodd y dadansoddiad dwfn ddeall a yw canllawiau a phrosesau cynllunio yn ffafriol i roi cymorth i sicrhau bod anghenion tai ymhlith pobl sy'n profi digartrefedd yn cyd-fynd â chynllunio’r cyflenwad. I'r perwyl hwn, ystyriodd y dadansoddiad dwfn gyfres o gwestiynau ynghylch Cynlluniau Pontio Ailgartrefu Cyflym, Asesiadau o’r Farchnad Dai Leol, a Phrosbectysau Tai. 

Ym mhob un o'r awdurdodau lleol a gyfranogodd, canfuwyd fod anghenion tai mewn Cynlluniau Pontio Ailgartrefu Cyflym yn cael eu defnyddio i oleuo Asesiadau o’r Farchnad Dai Leol a'r rhan fwyaf o Brosbectysau Tai. Fodd bynnag, dangosodd y data crai hefyd fod canfyddiadau gwahanol am Gynlluniau Pontio Ailgartrefu Cyflym – yn enwedig pa un a oedd angen cyllid gan Lywodraeth Cymru i'r cynlluniau gael eu rhoi ar waith yn llawn, ynteu ai dogfennau strategol/gweithredol yn unig oeddent.

Cododd y dadansoddiad dwfn bwysigrwydd gweld y darlun ehangaf o’r cyflenwad o dai a digartrefedd er mwyn sicrhau gwaith effeithiol ar gyfer cynllunio cartrefi newydd, mynd i'r afael ag adnewyddu ac adfywio cartrefi gwag. Gan hynny, tynnodd sylw at yr angen i sicrhau bod strategaethau ehangach yn cael eu cysoni â'r dogfennau strategol allweddol hyn. Ar draws yr holl awdurdodau a gyfranogodd yn y dadansoddiad dwfn, pwysleisiwyd fod data ystadegol ar ddigartrefedd, Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai a phrofiadau Timau Cyngor ar Dai/Datrysiadau Tai wedi siapio cynnwys yr Asesiad o’r Farchnad Dai Leol.

Codwyd mater pellach ynglŷn â mynd i'r afael â digartrefedd ac anghenion tai o fewn y gofyniad mewn polisïau cynllunio lleol a chenedlaethol i greu cymunedau cymysg.

Roedd cysondeb o ran dilyniannu amseriad cynhyrchu dogfennau a chynlluniau yn cael ei ystyried yn arbennig o bwysig fel bod data o wahanol ffynonellau yn dod ynghyd ar adeg debyg. Er bod y canllawiau presennol ar yr Asesiad o’r Farchnad Dai Leol yn tynnu sylw at bwysigrwydd cydlynu rhwng cylchoedd cynllunio, mae'r dadansoddiad dwfn yn dynodi y gallai fod yn ddefnyddiol rhoi ystyriaeth bellach a darparu rhagor o wybodaeth yn hyn o beth.

Roedd arfer da yn pwysleisio’r angen i sicrhau bod lefel o oruchwyliaeth ar draws cyfres o strategaethau a chynlluniau i hybu eu cysylltedd. Er enghraifft, sefydlodd un o'r awdurdodau lleol weithgor i adolygu rhyng-gysylltedd rhwng dogfennau strategaeth allweddol. 

Mewn un arall, mae tîm y Strategaeth Dai yn cydlynu gwaith i ddatblygu, gweithredu a monitro’r holl ddogfennau strategol ar gyfer tai. Mae'r Asesiad o’r Farchnad Dai Leol yn cael ei gwblhau gan Reolwr y Strategaeth Dai, y Swyddog Tai Fforddiadwy ac Uwch Swyddog Cynllunio Strategol, mae'r prosbectws yn cael ei gwblhau gan Reolwr y Strategaeth Dai a'r Swyddog Tai Fforddiadwy, ac mae’r Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym yn cael ei gwblhau gan Reolwr y Strategaeth Dai a Swyddog y Strategaeth Digartrefedd. Mae Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai hefyd wedi'i gwreiddio yn yr un broses. Mae cynnwys y dogfennau yn adlewyrchu bod y rhain wedi cael eu datblygu ar y cyd ac nid eu croeswirio yn unig. 

Gellid rhannu arfer da o'r fath gydag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru a gall fod yn gyfrwng i fanteisio ar arbenigedd partneriaid allweddol.

Argymhellion 

  1. Dylai Llywodraeth Cymru adolygu 'Cynlluniau Pontio Ailgartrefu Cyflym: Canllawiau i Awdurdodau Lleol a Phartneriaid' i sicrhau eu bod yn gosod gweledigaeth gyffredinol, yn myfyrio ynghylch arferion sy'n dod i'r amlwg ac yn esbonio unrhyw gyswllt rhwng y canllawiau a chyllid Ailgartrefu Cyflym. 
     
  2. Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod mecanwaith clir yn ei le i oruchwylio a chydlynu gwybodaeth mewn dogfennau allweddol a chysylltiedig ar ddigartrefedd a thai (er enghraifft Cynlluniau Pontio Ailgartrefu Cyflym, Asesiadau o’r Farchnad Dai Leol, Cynlluniau Datblygu Lleol, strategaethau Cartrefi Gwag a Digartrefedd/y Rhaglen Cymorth Tai). Dylid adolygu'r dogfennau hyn yn rheolaidd hefyd i ystyried anghenion newidiol a dadansoddiadau data.
     
  3. Dylai Llywodraeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol (ac ystyried gweithio gyda phartneriaid allweddol eraill) i adolygu sut orau y gall cysoni a dilyniannu Cynlluniau Pontio Ailgartrefu Cyflym, Asesiadau o’r Farchnad Dai Leol, Cynlluniau Datblygu Lleol, strategaethau Cartrefi Gwag a Digartrefedd/y Rhaglen Cymorth Tai a dogfennau allweddol eraill sicrhau’r gweithgarwch cynllunio cydweithredol gorau posibl ar gyfer tai.
     
  4. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried bod digartrefedd yn cael ei gynrychioli fel maes polisi penodol o fewn y Fframwaith Cynllunio Cenedlaethol.
     
  5. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried darparu diweddariadau i awdurdodau lleol i sicrhau cysondeb rhwng yr Asesiad o’r Farchnad Dai Leol, y Prosbectws Tai, Canllawiau’r Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym a Chanllawiau'r Rhaglen Cymorth Tai.

Thema 7: Cyhoeddiadau a digwyddiadau rhanddeiliaid, a chanllawiau i ymarferwyr

Fel maes polisi cymharol newydd, adnabu’r dadansoddiad dwfn fod y ddealltwriaeth am Ailgartrefu Cyflym yn tyfu ond nad oedd yr holl bartneriaid perthnasol yn ei ddeall yn ddigon da eto. Mae hwn yn faes arbennig o bwysig i ymdrin ag ef er mwyn i Ailgartrefu Cyflym ddatblygu i fod y dull a’r ymateb prif ffrwd lle mae anghenion tai yn y cwestiwn. 

Roedd cydnabyddiaeth hefyd i bwysigrwydd mynd ati mewn modd trylwyr i gasglu data cydraddoldeb i helpu i ddarparu gwybodaeth am anghenion tai ymhlith grwpiau penodol o bobl. Cydnabuwyd efallai na fydd rhai pobl yn dymuno darparu data o'r fath i rai sefydliadau, ac y gallai rhannu gwybodaeth rhwng sefydliadau, yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, helpu i lenwi bylchau mewn data. Cydnabuwyd hefyd nad yw pocedi o arfer da o ran gwybodaeth am gydraddoldeb o reidrwydd yn gyson. Er enghraifft, er y gallai fod arfer da wrth gasglu'r wybodaeth hon pan fo pobl yn ymgyflwyno’n ddigartref, efallai na fydd hyn yn cael ei ailadrodd mewn meysydd eraill, megis y Gofrestr Tai Gyffredin.

Roedd arfer da yn y maes hwn yn cynnwys cydweithio rhwng awdurdod lleol a darparwyr tai a chymorth yn y trydydd sector, gan bod gan yr ail o’r rhain wybodaeth fwy cynhwysfawr am gydraddoldeb oherwydd eu perthynas weithio glòs â phobl. Roedd arfer da arall yn cynnwys cyhoeddiadau ar gydraddoldeb yng nghyswllt Ailgartrefu Cyflym a ddarperir gan Tai Pawb (sefydliad tai, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol). 

Mae nifer o'r argymhellion cynharach yn cyfeirio at ganllawiau a chymorth i randdeiliaid. Hefyd, adnabuwyd y canlynol:

Argymhellion

  1. Dylai Llywodraeth Cymru gynorthwyo gydag adnoddau a chanllawiau i helpu awdurdodau lleol i gasglu gwybodaeth am gydraddoldeb a sicrhau bod yr wybodaeth hon yn bwydo i mewn i systemau a phrosesau perthnasol i helpu i ddarparu gwybodaeth am anghenion tai. 
     
  2. Dylai Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ddefnyddio mecanweithiau (megis digwyddiadau, sesiynau briffio, gweithgorau a fforymau) i hyrwyddo a chynyddu dealltwriaeth am Ailgartrefu Cyflym, yn enwedig ymhlith cydweithwyr ac asiantaethau partner y mae eu gwybodaeth heb ddatblygu cymaint. 

Thema 8: Safonau Gofod

Yn ystod yr ymarfer dadansoddi dwfn, cydnabuwyd fod safonau lle yn darparu sylfaen bwysig iawn ar gyfer ansawdd tai cymdeithasol, a’r rheiny wedi'u nodi mewn deddfwriaeth. Fodd bynnag, awgrymodd rhanddeiliaid hefyd y gall safonau gyflwyno rhwystrau wrth gaffael ac ail-bwrpasu eiddo. Yn benodol, soniwyd am achos tai teras yng nghymunedau’r cymoedd, ac ardaloedd eraill lle gallai fod swm sylweddol o stoc dai hŷn. Roedd awdurdodau lleol a gyfranogodd yn teimlo y gall gofynion o ran safonau lle atal llawer o unedau eiddo o'r fath rhag cael eu prynu/eu hail-bwrpasu a'u rhentu fel cartref cymdeithasol. 

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru, Existing Dwelling and Off the Shelf Guidance for Registered Social Landlords and Local Authorities yn amlinellu'r hierarchaeth safonau a gofynion y mae cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol sydd â chartrefi rhent cymdeithasol yn gyfrifol am eu bodloni a'u cynnal ledled Cymru. Mae'n amlinellu'r safonau sy'n ofynnol ar draws Safonau Ansawdd Datblygu Cymru 2021 a Safon Ansawdd Tai Cymru 2023, ac mae'n nodi'r hyblygrwydd a'r ffiniau a roddir i fodloni'r safonau hyn o fewn cyllid y Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol a’r Grant Tai Cymdeithasol.

Mae cwestiynau a godwyd ar draws yr ymarfer dadansoddi dwfn yn awgrymu y bydd yn bwysig – yn enwedig gan bod y canllawiau i fod i gael eu hailgyhoeddi yn y flwyddyn ariannol newydd – ystyried a oes digon o ymwybyddiaeth o'r dull hierarchaidd presennol o ymdrin â safonau, ac a yw'r hyblygrwydd cyfredol yn taro cydbwysedd priodol rhwng hwyluso datblygiad a chynnal safonau ansawdd.

Argymhellion:

  1. Dylai Llywodraeth Cymru adolygu a ellid rhannu/cyfleu’r canllawiau presennol ar safonau lle wrth gaffael a datblygu eiddo ar gyfer rhent cymdeithasol yn ehangach, yn ogystal ag a yw'r dull yn taro cydbwysedd da rhwng darparu hyblygrwydd i roi anogaeth i ddatblygu eiddo, gan hefyd gynnal safonau deddfwriaethol ac ansawdd.

Meysydd eraill

Amlygwyd heriau ar draws y dadansoddiad dwfn ynghylch datblygu tai newydd yn gyffredinol, megis costau adeiladu uwch, prinder deunyddiau, dim digon o gyllid, a deddfwriaeth anghydnaws a all weithiau rwystro datblygiad (megis ecoleg, lefelau ffosffadau a gofynion datgarboneiddio).

Hefyd, pwysleisiwyd y cysylltiad hanfodol rhwng cynyddu’r cyflenwad a mynediad at ddyraniadau tai. Yn wir, er mwyn i ni roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru, mae angen i ni sicrhau, yn ogystal â chreu'r mathau o gartrefi y mae eu hangen i ddiwallu anghenion pobl sy'n profi digartrefedd, bod y modd y dyrennir tai’n hwyluso mynediad priodol ar gyfer aelwydydd digartref ac mae cymorth a roddir i denantiaid hefyd yn hanfodol. Yn hyn o beth, dylid nodi y gallai llawer o'r argymhellion (yn enwedig ynghylch gweithio ar y cyd, rhoi cymorth i bobl gadw llety, gwella cymorth i bobl sy'n gadael y carchar a dyraniadau tai cymdeithasol), gael eu hategu’n dda gan y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol a'i ganllawiau cysylltiedig y disgwylir iddynt gael eu cyflwyno. 

Er mai'r bwriad hirdymor yng Nghymru yw y bydd digon o lety’n ei gwneud yn bosibl mabwysiadu Ailgartrefu Cyflym ar raddfa lawn, ar hyn o bryd ceir defnydd sylweddol o lety dros dro oherwydd nifer uchel o aelwydydd digartref. Mae'n hanfodol bod awdurdodau lleol yn sicrhau bod y llety hwn o ansawdd addas. 

Adnabuwyd arfer da mewn ystod o feysydd ar draws y dadansoddiad dwfn, megis casglu data, cydweithio amlasiantaeth cryf, ac arweinyddiaeth ragweithiol wrth bontio i Ailgartrefu Cyflym. Efallai nad yw'r dulliau cadarnhaol a'r arfer da hyn yn cael eu defnyddio'n gyson ledled Cymru gyfan, a byddai'n ddefnyddiol deall y rhesymau dros amrywiadau er mwyn cynnig cymorth lle y bo’n briodol. 

Argymhellion:

  1. Dylai Llywodraeth newydd Cymru barhau i archwilio ffyrdd o fynd i'r afael â rhwystrau i adeiladu cartrefi newydd ac adnewyddu cartrefi presennol.
     
  2. Dylai awdurdodau lleol barhau i ddefnyddio cyllid y Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol i wella ansawdd llety dros dro i'w ddefnyddio gan aelwydydd digartref tra byddant yn aros am dai mwy addas. 

Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod adnoddau a chymorth ar gael i awdurdodau lleol, megis mentora, a chymorth i weithredu canllawiau ac arfer da, wrth iddynt geisio llywio ymhellach ar hyd eu teithiau Ailgartrefu Cyflym.

[4] Gweler y Tasglu Tai Fforddiadwy: adroddiad ac argymhellion [HTML] | LLYW. CYMRU

Y gweithgor Cyfathrebu a'r Uwchgynhadledd Ailgartrefu Cyflym genedlaethol

Un o amcanion allweddol y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ailgartrefu Cyflym oedd datblygu mwy o ddealltwriaeth am y dull. Yn hollbwysig, rhaid i gefnogaeth ar gyfer y dull Ailgartrefu Cyflym gael ei chyflawni’n genedlaethol, ar draws yr holl adrannau perthnasol mewn llywodraeth leol, asiantaethau ehangach ac arweinyddiaeth strategol. 

Rhan o'r gwaith hwn oedd mapio partneriaid, rhanddeiliaid a dylanwadwyr allweddol a datblygu cynllun cyfathrebu. Mae'r gwaith hwn wedi dechrau, ac roedd yn cynnwys edrych ar ddiffiniadau o Ailgartrefu Cyflym, yn ogystal â chyflwyno sesiwn yng nghynhadledd Shelter Cymru i archwilio adborth ar yr ystod o randdeiliaid perthnasol y mae eu hangen i gofleidio'r dull yn llawn. O'r fan honno, fe wnaed rhywfaint o waith cychwynnol i ddechrau mapio rhanddeiliaid allweddol, a dechrau ystyried negeseuon allweddol yn ogystal â llwybrau cyfathrebu y gellir eu defnyddio i gyrraedd y grŵp hwn.

Fodd bynnag, cafodd y gwaith hwn ei atal am y tro am bod y grŵp wedi penderfynu, cyn estyn allan at bartneriaid ehangach, bod angen cyfathrebu pellach gyda phartneriaid allweddol ar draws y sector tai.

Mewn cyfnod o alw uchel am wasanaethau digartrefedd gyda'r nifer uchaf erioed o bobl sy'n aros mewn llety dros dro, cydnabuwyd bod hon yn adeg allweddol i bartneriaid o'r fath ddod ynghyd i ystyried y dull Ailgartrefu Cyflym yng Nghymru. Yn hollbwysig, gan bod yr ymarfer dadansoddi dwfn a oedd yn mynd rhagddo wedi adnabod enghreifftiau o arfer da, roedd yn teimlo fel adeg allweddol i rannu datrysiadau ar draws partneriaid allweddol a myfyrio ar y daith Ailgartrefu Cyflym yng Nghymru hyd yn hyn. Fe benderfynodd y grŵp gynnal uwchgynhadledd Ailgartrefu Cyflym genedlaethol ar gyfer arweinwyr allweddol ar draws y sector. Roedd y grŵp yn teimlo y dylai fod cynhadledd arall wedyn ar gyfer partneriaid ehangach y flwyddyn ganlynol.

O ganlyniad, cynhaliwyd yr uwchgynhadledd Ailgartrefu Cyflym genedlaethol ym mis Medi 2025 yng Nghaerdydd. Ei nod oedd defnyddio dull â ffocws ar ddatrysiadau i hybu Ailgartrefu Cyflym, yn ogystal â rhannu syniadau ac arfer da. Roedd yr uwchgynhadledd, a lywyddwyd gan Cymorth Cymru mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru, wedi’i bwriadu ar gyfer pobl mewn swyddi uwch/strategol ar draws llywodraeth leol, tai, sefydliadau'r trydydd sector a gwasanaethau cyhoeddus yr oedd eu rolau yn ymwneud ag unrhyw agwedd ar Ailgartrefu Cyflym.

Fe wnaeth bron i 150 o bobl gofrestru i fod yn bresennol gan gynnwys pobl â phrofiad personol o ddigartrefedd, a chynrychiolwyr 50 o sefydliadau (22 awdurdod lleol, 17 sefydliad yn y trydydd sector, saith Landlord Cymdeithasol Cofrestredig, a phedwar o sefydliadau cynrychiolaidd, polisi a phreifat). 

Fe wnaeth yr uwchgynhadledd gwmpasu llawer o'r themâu a ddaeth i'r amlwg o'r gwaith dadansoddi dwfn ac roedd yn cynnwys cyflwyniadau ar y canlynol: 

  • Trosolwg a Myfyrdodau Lleol ar y Dadansoddiad Dwfn o Ailgartrefu Cyflym 
  • Cael Cefnogaeth Strategol: Data ac Arweinyddiaeth
  • Cyflenwad o Dai: Cynyddu a Chysoni’r Stoc i Ddiwallu Anghenion Pobl Ddigartref
  • Gwasanaethau Cyhoeddus: Allwedd i Atal

Roedd gweithdai yn yr uwchgynhadledd yn cwmpasu'r meysydd canlynol:

  • Cynyddu a Chysoni’r Cyflenwad o Dai 
  • Cynllun Lesio Cymru – Cynyddu'r Cyflenwad yn y Sector Tai Rhent Preifat
  • Lleihau Dibyniaeth ar Lety Dros Dro Anaddas
  • Gweithio gyda Phartneriaid Cyfiawnder Troseddol
  • Ailgartrefu Cyflym, Dyfodol Teg – Gwreiddio Cydraddoldeb ym Mhob Cam

Arweiniwyd y cyflwyniadau a'r gweithdai gan gynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Tai Pawb a Chyngor Ffoaduriaid Cymru, a naw awdurdod lleol, sef Conwy, Caerdydd, Sir Ddinbych, Castell-nedd Port Talbot, Wrecsam, Powys, Rhondda Cynon Taf, Ynys Môn a Merthyr Tudful. Defnyddiodd y cyflwynwyr ddull agored, gan rannu'n onest rai o'r heriau yr oeddent wedi'u hwynebu, yn ogystal â rhai o'r datrysiadau y maent wedi'u datblygu neu'n dechrau eu datblygu.

Caiff peth o'r arfer da a arddangoswyd yn y digwyddiad ei amlinellu yn adran isod yr adroddiad, ond gallwch hefyd weld y rhan fwyaf o'r cyflwyniadau ar-lein.

Adborth gan y rhai a oedd yn bresennol 

Ar ddiwedd yr uwchgynhadledd atebodd y rhai a oedd yn bresennol gwestiynau am rwystrau wrth weithio tuag at y dull Ailgartrefu Cyflym, goresgyn y rhwystrau hynny, yn ogystal ag am ddata a chydweithio yn y dyfodol mewn perthynas ag Ailgartrefu Cyflym. 

Gellir crynhoi'r adborth hwn fel a ganlyn:

  1. Rhwystrau

Roedd 65 o ymatebion a’r rhwystr i bontio i Ailgartrefu Cyflym a amlygwyd yn fwyaf cyffredin oedd dim digon o dai addas.

Amlygodd mynychwyr ystod o rwystrau eraill yn eu hadborth, gan bwysleisio'r angen i ystyried llawer o ffactorau wrth bontio i Ailgartrefu Cyflym. Y prif awgrymiadau eraill oedd:

  • Pobl yn methu â fforddio eiddo rhent preifat a lefel annigonol cyfraddau Lwfans Tai Lleol (LTLl)
  • Cysondeb data 
  • Dim digon o arweinyddiaeth, gweledigaeth a chefnogaeth wleidyddol mewn rhai ardaloedd
  • Dim digon o gydweithio rhwng asiantaethau 
  • Peth ffocws parhaus ar yr angen i ymgeiswyr fod yn ‘barod ar gyfer tenantiaeth' cyn symud i mewn i gartref
  • Peth amharodrwydd i dderbyn risg wrth gartrefu pobl ag anghenion cymhleth neu bobl sy'n byw mewn llety â chymorth neu dros dro
  1. Goresgyn y rhwystrau hyn 

Gofynnwyd i'r rhai a oedd yn bresennol pa gymorth fyddai'n fwyaf defnyddiol i oresgyn y rhwystrau uchod. Roedd 45 o ymatebion, a’r adborth mwyaf cyffredin oedd:

  • Mwy o gyllid cyfalaf i gynyddu nifer y cartrefi 
  • Mwy o gyllid refeniw i gefnogi pobl, yn enwedig ar gyfer Tai yn Gyntaf a chefnogi pobl ag anghenion cymorth cymhleth 

Rhoddodd y rhai a oedd yn bresennol amrywiaeth o awgrymiadau eraill yn eu hadborth, a’r prif rai oedd:

  • System ddata gyson, wedi’i chanoli ar draws pob awdurdod lleol 
  • Gwell cydweithio rhwng asiantaethau, megis tai, digartrefedd, timau prawf ac iechyd
  • Dyrannu tai cymdeithasol yn deg gan landlordiaid 
  1. Sicrhau bod y cyflenwad o dai’n cyd-fynd ag anghenion tai

Gofynnwyd hefyd i'r rhai a oedd yn bresennol am eu barn ynglŷn â sut, ledled Cymru, y gallem geisio sicrhau bod anghenion tai a'r cyflenwad o dai’n cyd-fynd yn well â’i gilydd. Roedd 43 o ymatebion a'r adborth mwyaf cyffredin oedd: 

  • Gwelliannau yn ansawdd a’r modd y defnyddir data – roedd hyn yn cynnwys data sy'n ymwneud ag anghenion pobl ddigartref, data 'rhestr aros' ar gyfer tai, y cyflenwad o dai, mathau o dai, yn ogystal â data ar y math o dai y byddai pobl sy'n profi digartrefedd yn eu hoffi 

Y prif awgrymiadau eraill oedd:

  • Sicrhau bod timau gwasanaethau digartrefedd, y strategaeth dai/datblygu a chynllunio’n cyd-fynd yn well â’i gilydd ac yn cydweithio’n well
  • Gwell gweithio amlasiantaeth 
  1. Cydweithio yn y dyfodol ar Ailgartrefu Cyflym 

Gofynnwyd i'r rhai a oedd yn bresennol ystyried ffyrdd yr hoffent barhau i gydweithio ar Ailgartrefu Cyflym. Roedd 40 o ymatebion a'r adborth mwyaf cyffredin oedd cefnogaeth i’r canlynol:

  • Digwyddiad Cymru-gyfan blynyddol
  • Digwyddiadau rhanbarthol 
  • Digwyddiadau yn y cnawd 
  • Mecanweithiau i rannu arfer da, megis sioeau teithiol, llyfrgell adnoddau, cylchlythyrau, rhannu straeon llwyddiant a 'chymunedau arfer gorau'

Y prif awgrymiadau eraill oedd:

  • Targedu pobl ac asiantaethau a allai fod â llai o wybodaeth am Ailgartrefu Cyflym ar hyn o bryd
  • Defnyddio themâu neu weithdai i ymdrin â phynciau penodol fel dyraniadau a defnyddio Tai Amlfeddiannaeth

Adborth Cyffredinol gan y Rhai a Oedd yn Bresennol 

Cafwyd llawer o adborth cadarnhaol gan y rhai a oedd yn bresennol ar ddiwrnod yr uwchgynhadledd ac ar ôl hynny ynglŷn â'r modd y’i trefnwyd, ei chynnwys a'r cyfle i ddod ynghyd gyda chymheiriaid. Enghreifftiau o'r adborth hwn oedd: 

  • Mae hyn wedi bod yn amhrisiadwy. Allwn ni ei wneud unwaith y flwyddyn?
  • Cynhadledd wych
  • Da iawn am gyflwyno cynhadledd ardderchog wythnos diwethaf. Roedd wir yn werth chweil, rhoddodd rywbeth i bobl gnoi cil arno ac mae bob amser yn dda dod â phobl ynghyd.
  • Dim ond eisiau dweud diolch yn fawr am drefnu'r digwyddiad. Roedd yn wych rhannu'r llwyfan gyda chydweithwyr mewn ALlau eraill a dysgu beth mae eraill yn ei wneud, ac yn gyfle gwych i weld llawer o wynebau yr wyf wedi'u gweld ar Teams yn unig!'

Argymhellion 

Roedd llawer o'r awgrymiadau a godwyd gan y rhai a oedd yn bresennol yn yr uwchgynhadledd yn cyd-fynd yn dda iawn â chanfyddiadau'r dadansoddiad dwfn. Yn galonogol, roedd yr adborth mwyaf cyffredin i'r pedwar cwestiwn ynghylch rhwystrau, sut i'w goresgyn, sicrhau bod y cyflenwad o dai’n cyd-fynd ag anghenion, a chydweithio yn y dyfodol ynghylch Ailgartrefu Cyflym yn cyd-fynd â’r argymhellion a nodir uchod o fewn y dadansoddiad dwfn ac maent yn eu hategu ymhellach. 

Hefyd, roedd yr adborth o'r digwyddiad yn pwysleisio’r angen i barhau i rannu arfer da. Roedd yn pwysleisio, wrth i Gymru barhau i fwrw ymlaen â’i thaith Ailgartrefu Cyflym, y bydd creu mannau parhaus i feithrin perthnasoedd, rhannu gwybodaeth, dysgu oddi wrth ei gilydd a thyfu cefnogaeth i'r dull gweithredu ymhlith partneriaid ehangach yn hanfodol.

Gan hynny, mae'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn argymell: 

  • Bod Llywodraeth Cymru yn creu uwchgynhadledd/lle rheolaidd i awdurdodau lleol ymgynnull a rhannu arfer da a datrysiadau wrth iddynt symud ymhellach tuag at ddull Ailgartrefu Cyflym.
  • Y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau y cynhelir uwchgynhadledd Ailgartrefu Cyflym arall ar gyfer partneriaid a rhanddeiliaid ehangach a allai fod yn ymgysylltu’n llai â'r dull.
  • Y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod arfer da ar Ailgartrefu Cyflym yn cael ei rannu'n eang ymhlith yr holl randdeiliaid perthnasol (gan gynnwys gwasanaethau tai, cymorth, iechyd a phrawf).
  • Bod Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio i ddatblygu cynllun cyfathrebu sy'n rhychwantu’r rhanddeiliaid amlasiantaeth ehangach sy'n allweddol i gyflawni'r dull Ailgartrefu Cyflym yn llwyddiannus.

Enghreifftiau o Arfer Da

Mewn hinsawdd lle mae'r defnydd o lety dros dro ledled Cymru yn dal i fod yn uchel, mae'n amlwg bod gwaith i'w wneud o hyd i fynd i'r afael â rhwystrau ac i wreiddio’r dull Ailgartrefu Cyflym yn llawn. Yn wir, nid yw gwreiddio’r dull hwn yn hawdd. Mae'n galw am newid sylweddol mewn ffyrdd o weithio, yn ogystal â chefnogaeth gan randdeiliaid lluosog a buddsoddiad yn y cyflenwad o dai. Mae'r symud i Ailgartrefu Cyflym yn daith gydweithredol a fydd yn cymryd amser i'w chyflawni.

Serch hynny, trwy gydol gwaith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen – yn enwedig y Dadansoddiad Dwfn a'r Uwchgynhadledd – roedd hi’n amlwg, ledled Cymru, bod llawer o uchelgais ac ymdrech i chwilio am ffyrdd ymlaen, gyda chynnydd yn cael ei wneud.

Mae awdurdodau lleol ledled Cymru yn chwilio am ddatrysiadau ac yn dangos enghreifftiau o arfer da ac arloesol wrth iddynt geisio pontio i ddull Ailgartrefu Cyflym a goresgyn rhwystrau.

Wrth i Gymru barhau i fwrw ymlaen â'i thaith Ailgartrefu Cyflym, bydd gan waith i adnabod a rhannu arfer da o'r fath, yn ogystal â cheisio ei gymhwyso'n fwy cyson ledled Cymru, rôl allweddol mewn llwyddiant.

Mae'r isod yn ceisio rhannu nifer o'r enghreifftiau o arfer da a rannwyd ar draws gwaith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen[5]:

Rhwystr: Diffyg tai sefydlog fforddiadwy ac addas 

Dros y blynyddoedd diwethaf, bu gostyngiad sylweddol mewn llety rhent preifat fforddiadwy. Hefyd, mae'r galw am dai cymdeithasol wedi bod yn uchel. Gydag awdurdodau lleol yn wynebu anawsterau gyda chyflenwad cyfyngedig, yn enwedig o eiddo ag un ystafell wely, mae aelwydydd digartref yn aros mewn llety dros dro am gyfnodau estynedig. Mae hyn, wrth gwrs, yn mynd yn groes i egwyddor Ailgartrefu Cyflym.

Enghreifftiau o Arfer Da wrth geisio datrysiadau i'r rhwystr hwn: 

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi gweithio gyda landlordiaid y sector tai rhent preifat, gan ddefnyddio Cynllun Lesio Cymru i drosi eiddo o ansawdd is na’r safon ac anfforddiadwy yn opsiynau tai fforddiadwy, o ansawdd da, ar gyfer y tymor hwy. Mae Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Sir Powys wedi cydweithio gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (LCC) ac wedi ceisio cynyddu eu defnydd o dai cyngor a thai Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig fel llety dros dro ac yna, yn ddiweddarach, wedi 'fflipio’r' llety dros dro yn dai parhaol, gan ganiatáu i aelwydydd aros mewn cartref addas a sefydlog. Mae'r dull hwn wedi helpu i leihau'r defnydd o dai dros dro wedi’u cydgrynhoi a lleihau'r nifer o weithiau y mae angen i bobl symud i ddatrys eu digartrefedd.

Mae Cyngor Sir Powys hefyd wedi cynyddu ei gymorth i bobl sy’n wynebu risg o fod yn ddigartref trwy gynnig bondiau a/neu fenthyciadau i alluogi pobl i symud i mewn i eiddo rhent preifat. Hefyd, mae wedi adolygu a diwygio ei bolisïau dyrannu i gynyddu'r flaenoriaeth a roddir i rai pobl gael mynediad at lety parhaol (fel pobl sy'n barod i symud ymlaen o dai â chymorth), gan leddfu gwasgbwyntiau o fewn y system. 

Yn y cyfamser,mae Cyngor Dinas Caerdydd yn adrodd ei fod wedi rhoi blaenoriaeth i ehangu nifer yr opsiynau tai sydd ar gael ar draws yr awdurdod. Mae hyn wedi cynnwys buddsoddi yn ailddatblygiad tîm Sector Tai Rhent Preifat y Cyngor, gan brynu eiddo yn uniongyrchol o'r farchnad agored. Mae'r cyngor hefyd wedi canolbwyntio ar adeiladu mwy o lety i bobl ag anghenion cymhleth, gan gydnabod y cynnydd yn y galw ac y gall llety dros dro gyflwyno mwy byth o heriau pan fydd gan bobl anghenion cymorth ychwanegol. Yn benodol, mae wedi cyflwyno cynllun "llety a reolir" newydd gyda chymorth ar y safle. Mae'r cyngor hefyd wedi ehangu ei gynnig Tai yn Gyntaf, gan ddarparu cannoedd o unedau o lety i oedolion a phobl ifanc na fyddent fel arfer yn gallu rheoli cartref yn y gymuned.

Er bod y dull Ailgartrefu Cyflym yn ceisio symud pobl i gartrefi sefydlog cyn gynted â phosibl, mae maint y galw am lety dros dro – yn ogystal â'r fframiau amser hwy y mae eu hangen i adeiladu cartrefi parhaol – wedi golygu y bu angen i rai ardaloedd fuddsoddi ar yr un pryd mewn ychwanegu at y stoc dai ar gyfer llety dros dro fel mesur trosiannol. Mae Cyngor Dinas Caerdydd wedi cael gwared ar gannoedd o fannau cysgu cyffredin a gwestai trwy gynyddu argaeledd llety hunangynhwysol. Yn benodol, mae'r cyngor wedi defnyddio datblygiad cartrefi modwlar i ddiwallu anghenion tai brys teuluoedd sy'n profi digartrefedd. Yn y cyfamser, mae Cyngor Caerdydd hefyd wedi ceisio cynyddu llety a reolir a chynigion Tai yn Gyntaf, er mwyn helpu i leihau arosiadau mewn llety dros dro ar gyfer aelwydydd sengl ag anghenion mwy cymhleth. Ar ben hynny, mae'r cyngor yn adrodd bod gwaith yn mynd rhagddo i gynyddu’n sylweddol nifer y cartrefi fforddiadwy yn y ddinas, gyda chynllun datblygu tai Caerdydd yn amcanu at ddarparu 2400 o gartrefi erbyn mis Mawrth 2028.

Mae’r dull Ailgartrefu Cyflym a’r dull atal ill dau’n amcanu at sicrhau tai sefydlog yn gyflym, gydag Ailgartrefu Cyflym yn canolbwyntio ar ailsefydlu ar unwaith ac atal yn targedu arwyddion cynnar o ansefydlogrwydd tai. Mae cysylltu Ailgartrefu Cyflym â dulliau atal yn ffordd effeithiol o adnabod pobl a all osgoi treulio unrhyw amser mewn llety dros dro neu lety argyfwng a lleihau costau ymhellach yn ogystal â dwyn canlyniadau gwell i unigolion. Gyda dyletswyddau atal cryfach ar y gweill ar hyn o bryd gyda deddfwriaeth newydd a ragwelir yng Nghymru, mae'r enghreifftiau isod yn dangos sut y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, a Chyngor Sir Ynys Môn eisoes wedi dechrau rhoi ffocws sylweddol ar atal aelwydydd rhag bod yn ddigartref yn y lle cyntaf.

Yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, mae swyddogion wedi ceisio datblygu dealltwriaeth dda am atal a'r adnoddau y mae eu hangen i gefnogi'r gwaith hwn trwy weithio'n agos gydag ystod o bartneriaid allweddol, gan gynnwys y gwasanaeth iechyd, y gwasanaeth prawf a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi – gan gydnabod y gall sbardunau digartrefedd ymestyn yn eang. Mae'r cyngor wedi edrych yn fanwl ar adolygiadau rheolaidd o arfer gweithredol ac adroddiadau data. 

Yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot, mae ailstrwythuro gwasanaethau wedi sicrhau bod y tîm Pwynt Cyswllt Cyntaf yn cynnwys pedwar Swyddog Opsiynau Tai Atal a dau Swyddog Ymyrryd yn Gynnar. Mae'r swyddogion hyn yn darparu cymorth fel cyngor ynghylch budd-daliadau, cyllidebu, a datrys ôl-ddyledion i atal digartrefedd cyn iddo ddechrau. Mae'r cyngor yn adrodd bod hyn yn sicrhau yr ymdrinnir yn gynnar â materion, gan leihau achosion o ymgyflwyno mewn argyfwng a chryfhau sicrwydd tai. O fewn Gwasanaeth Atal ac Ailsefydlu'r cyngor, mae gweithwyr a neilltuwyd i Ailgartrefu Cyflym yn darparu cymorth parhaus, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i helpu unigolion i gynnal eu llety. 

Mae Cyngor Sir Ynys Môn hefyd wedi ceisio ail-fodelu ei swyddogaeth Opsiynau Tai i Bobl Ddigartref, gan sicrhau bod y strwythur bellach yn ymgorffori Arweinydd Tîm Atal ac Arweinydd Tîm Argyfwng. Mae'r cyngor yn nodi bod y strwythur newydd hwn yn galluogi'r timau i flaenoriaethu gwaith atal ac argyfwng, sy'n arwain at ganlyniadau mwy cadarnhaol a lleihad yn yr angen i ymyrryd mewn argyfwng. Mae llwybrau wedi'u targedu hefyd wedi cael eu datblygu i helpu i adnabod grwpiau agored i niwed sy'n agosáu at bwyntiau trosiannol, fel y gall cymorth ddechrau cyn iddynt gyrraedd sefyllfa argyfyngus. Mae'r rhain yn cynnwys llwybr carcharorion, llwybr iechyd meddwl, llwybr rhyddhau cyffredinol, llwybr trais domestig a llwybr pobl ifanc.

Rhwystr: Meithrin partneriaethau cryf ar draws sectorau 

Un o egwyddorion sylfaenol Ailgartrefu Cyflym yw sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at y cymorth y mae ei angen arnynt i ailadeiladu eu bywydau. Mae'r sbardunau ar gyfer digartrefedd a'r anghenion cymorth a all ddatblygu o ganlyniad i brofi trawma digartrefedd yn ymestyn ymhell y tu hwnt i ddrysau tai. Er enghraifft, gall anghenion cymorth gynnwys iechyd, rheoli perthnasoedd, datblygu sgiliau ariannol, iechyd meddwl neu fynd i'r afael â defnyddio sylweddau. Gan hynny, mae sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at y cymorth y mae ei angen arnynt yn galw am gydweithio ar draws rhanddeiliaid lluosog, gan gynnwys Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, darparwyr Grant Cymorth Tai, landlordiaid preifat, adrannau mewnol awdurdodau lleol, y gwasanaeth iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a’r gwasanaeth prawf. Mae gan bob partner wahanol flaenoriaethau, pwysau a chyfyngiadau gweithredol, a all arwain at heriau o ran cysoni amcanion. Er enghraifft, mewn rhai ardaloedd gall fod yn anodd annog timau iechyd i ymwneud yn weithredol ag Ailgartrefu Cyflym. 

Enghreifftiau o Arfer Da wrth geisio datrysiadau i'r rhwystr hwn: 

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn adrodd bod cyfathrebu agored am wirioneddau pwysau digartrefedd, adnabod manteision cydfuddiannol partneriaeth, a nodau cyffredin yn helpu i feithrin cydweithrediad. Mae'r cyngor wedi sefydlu fforymau ymgysylltu rheolaidd, y mae'n adrodd eu bod wedi bod yn hanfodol i ddod â darparwyr cymorth yn agosach at wasanaethau statudol, gan sicrhau bod pawb yn gweithio o un cynllun. Mae'r perthnasoedd hyn wedi galw am waith parhaus, yn enwedig pan fo adnoddau dan bwysau neu pan fydd newidiadau polisi yn effeithio ar ddarparu gwasanaethau. Mae cytundebau clir, atebolrwydd a rennir, a dangos canlyniadau cadarnhaol i bob parti wedi bod yn strategaethau allweddol i oresgyn yr anawsterau hyn. Cynhelir fforymau amlasiantaeth rheolaidd (e.e. paneli Llety Dros Dro) gan y cyngor gan amcanu at sicrhau tryloywder a gweithredu cydgysylltiedig. Mae'r cyngor yn nodi bod hyn wedi gwella effeithlonrwydd a chanlyniadau.

Yn y cyfamser, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn rhannu ei fod wedi cydweithio'n agos gyda phartneriaid i rannu gweledigaeth a thaith Ailgartrefu Cyflym a sicrhau bod yr holl bartneriaid allweddol yn deall eu rôl o ran ei gyflawni. Mae hyn yn cynnwys cynnal cyfarfodydd dal-i-fyny rheolaidd i rannu data a chanlyniadau. Mae'r Cyngor wedi clustnodi adnoddau staff i sefydlu unrhyw ffyrdd newydd o weithio, megis aelodau o staff a neilltuir i oruchwylio Tai yn Gyntaf, sy'n cynnwys sefydlu pwynt cyswllt yn awdurdod lleol ar gyfer atgyfeiriadau, ymholiadau partneriaid, a sefydlu a chadeirio grwpiau gweithredol a llywio Tai yn Gyntaf. 

Ar ben hynny, mae'r Cyngor hefyd wedi sefydlu tîm allgymorth amlddisgyblaethol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morganwg, sy'n cynnwys nyrsys iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau, therapyddion, gweithiwr cymdeithasol ac arbenigwyr camddefnyddio sylweddau yn y trydydd sector. Mae'r partneriaid hyn yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr tai a digartrefedd i helpu i roi’r cymorth y mae ei angen. Mae'r gwasanaeth hwn yn rhoi cymorth 'cofleidiol' i grwpiau o aelwydydd digartref, gan gynnwys pobl ag anghenion cymhleth sy'n cael eu cefnogi trwy Tai yn Gyntaf a phobl sy'n byw mewn llety dros dro.

Yng Ngogledd Cymru, mae grŵp gweithredol y Bwrdd Cynllunio Ardal yn cynnwys eitem sefydlog ar yr agenda ar Ailgartrefu Cyflym a thai, sy'n helpu i hwyluso trafodaethau parhaus a chyson gyda phartneriaid allweddol ar gefnogi'r rhai sy'n profi digartrefedd a chamddefnyddio sylweddau.

Enghraifft arall o ddull Ailgartrefu Cyflym yn Abertawe yw trwy Crisis Skylight Wales, sydd wedi bod yn treialu'r dull Ymyriad Cyfnod Allweddol (CTI) gyda rhai sy'n gadael y carchar. Mae tystiolaeth gref gan yr Unol Daleithiau a Denmarc i ategu’r dull hwn fel ymyriad effeithiol i atal digartrefedd i bobl ar adeg pontio mewn bywyd, fel gadael y carchar. Mae'r dull yn gweithio trwy ddarparu mynediad at dai sefydlog a chymorth dwys, am amser cyfyngedig â ffocws pendant i helpu pobl i ymgartrefu yn eu cartref a chael mynediad at wasanaethau cymorth prif ffrwd. Mae timau CTI argyfwng yn gweithio gyda phobl cyn, yn ystod ac ar ôl eu rhyddhau o'r carchar i gynorthwyo pobl i gael hyfforddiant, cyflogaeth a thai sefydlog. Mae eu dull hyblyg yn eu galluogi i weithio gydag unigolion sy'n dod allan o'r carchar, gan gynnwys y rhai sydd ar rimand, cyfnod prawf, neu gydag achosion sy’n dal ar agor, gan gynnig cymorth am fisoedd ar ôl eu rhyddhau ac yn sylweddol hwy na chynlluniau eraill fel y gwasanaeth Rheoli Troseddwyr yn y Gymuned (CAS 3), sy'n rhoi cymorth am 12 wythnos i bobl heb gyfeiriad sefydlog ar ôl eu rhyddhau. 

 Yng Nghaerdydd, mae Gwasanaethau Cynhwysiant Iechyd yn cael eu datblygu trwy gydweithio amlasiantaeth cryf rhwng Cyngor Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, yn ogystal â phartneriaid yn y trydydd sector ac ym maes cyfiawnder troseddol. Gan adeiladu ar y Tîm Amlddisgyblaethol Digartrefedd a arweinir gan y Cyngor, mae'r rhaglen yn symud ymlaen tuag at fodel prif ganolfan a lloerennau, sy'n cyfuno allgymorth arbenigol—gan gynnwys clinigau meddygon teulu a nyrsio mewn hosteli anghenion mawr, swyddfeydd prawf, a lleoliadau trydydd sector—gyda mewngymorth mewn ysbytai a datblygiad Hyb Cynhwysiant Iechyd, i wella mynediad i bobl sy'n profi digartrefedd a grwpiau iechyd cynhwysiant eraill. Yn ganolog i'r model hwn mae'r defnydd o ddata i ddeall yr angen a dangos effaith, gan gynnwys dadansoddiad o weithgarwch y GIG, marwolaethau ymhlith pobl ddigartref, a thracio yn seiliedig ar garfannau. Ar ôl ehangu gwasanaethau allgymorth a chyflwyno tîm mewngymorth mewn ysbytai, mae'r data yn dangos gostyngiadau mewn presenoldeb yn yr adrannau brys, derbyniadau i'r ysbyty, diwrnodau gwelyau, a chostau cysylltiedig ar gyfer carfannau sefydledig. Un o wersi allweddol y gwaith hwn yw bod ymatebion integredig gan wasanaethau iechyd, tai a gofal cymdeithasol wedi’u cydleoli, a ategir gan drefniadau llywodraethu a phartneriaethau cryf, yn fwy effeithiol na dulliau sy’n seiliedig ar wasanaethau unigol i wella canlyniadau a lleihau pwysau ar y system. 

Rhwystr: Sicrhau bod data cywir yn goleuo prosesau penderfynu

Elfen bwysig o ddatblygu Ailgartrefu Cyflym yw sicrhau bod yr adnoddau cyfyngedig sydd ar gael i awdurdodau lleol yn cael eu cyfeirio i ble y byddant yn cael yr effaith fwyaf. Mae pwysigrwydd data cywir, perthnasol ac ystyrlon ar anghenion tai a chymorth amrywiol pobl sy'n profi digartrefedd wedi cael ei godi’n rheolaidd ar draws gwaith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen fel agwedd allweddol ar alluogi gwneud prosesau penderfynu da a gwybodus ynglŷn â chynllunio tai ac adnoddau. Yn anffodus, gall y diffyg systemau TG sy'n gallu casglu’r holl ddata y mae ei angen, yn ogystal â'r angen i adolygu data ac adroddiadau yn gyson fod yn rhwystr i wneud penderfyniadau da.

Enghreifftiau o Arfer Da wrth geisio datrysiadau i'r rhwystr hwn: 

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn adrodd ei fod wedi cryfhau darpariaeth reng-flaen trwy oruchwyliaeth strategol a mewnwelediadau sy’n seiliedig ar ddata. Gan ddefnyddio data tai ar y stoc, y trosiant a’r galw, mae tîm Strategaeth Dai’r cyngor wedi ceisio llywio ymyriadau wedi'u targedu, gwella partneriaethau a galluogi cymorth wedi'i deilwra i bobl ag anghenion cymhleth. Mae'r cyngor yn adrodd am gyflawniadau allweddol gan gynnwys, cymeradwyaeth y Cabinet i brynu stoc sy'n eiddo i'r cyngor, ‘fflipio’ contractau meddiannaeth yn llwyddiannus (h.y. newid cartref dros dro yn gartref parhaol), a lansio'r peilot Homes for Me. Mae'r peilot hwn yn proffilio cleientiaid i greu pecynnau tai a chymorth wedi'u personoli. Mae'r cyngor yn pwysleisio bod gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar data bellach yn ganolog i lunio gwasanaethau.

Mae Cyngor Dinas Caerdydd yn adrodd ei fod wedi sefydlu prosesau cadarn i sicrhau bod unrhyw ddata sy'n nodi anghenion tai yn cael ei rannu gyda'r timau sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau strategol. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod timau tai a digartrefedd rheng-flaen yn adrodd ar ddata allweddol wrth uwch reolwyr yn systematig a hynny’n wythnosol, yn fisol ac yn flynyddol. Mae'r cyngor hefyd yn adrodd ei fod yn defnyddio mewnwelediadau o'r Asesiadau o’r Farchnad Dai Leol a'r prosbectws tai blynyddol i oleuo Strategaeth ei Raglen Cymorth Tai.

Yn y cyfamser,mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi ceisio adolygu ei ddata, gan weithio gyda Swyddog Data a Rheolwyr Gwasanaethau'r cyngor i roi eglurder ar yr adroddiadau data sy’n ofynnol ar gyfer meysydd gwasanaeth. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod y data mwyaf perthnasol bob amser yn cael ei gasglu a'i ddadansoddi. Fel a nodwyd yn y dadansoddiad dwfn, mae'r prosiect 'Built for Zero' yn yr ardal wedi cynnwys rhannu data’n gydweithredol a meithrin perthynas rhwng partneriaid lluosog. Mae'r prosiect hwn, sy'n cydnabod y cyfraddau uchel o ddigartrefedd ymhlith pobl sy'n gadael y carchar yn yr ardal, yn ogystal â'r ystod o anghenion cymorth a all fodoli o fewn y grŵp hwn, wedi gweithio'n agos gyda phartneriaid – gan gynnwys Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi, y gwasanaeth prawf, y gwasanaeth iechyd, y cyngor, Crisis a'r trydydd sector. Mae'n ceisio rhannu a dal data byw ar y rhai y disgwylir iddynt adael y carchar, a chynllunio ar y cyd ar gyfer eu hanghenion cymorth a thai. Mae'r prosiect wedi cydnabod pwysigrwydd datblygu dangosyddion perfformiad allweddol cyffredin ar draws partneriaid ac adroddir ei fod yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i'r ffordd y mae partneriaid bellach yn gweithio gyda phobl sy'n gadael y carchar.

Argymhellion

Mae'r uchod yn rhannu casgliad yn unig o'r arferion esblygol a pharhaus sy'n dod i'r amlwg ar draws cynghorau yng Nghymru. Mae enghreifftiau pellach hefyd ar gael trwy'r cyflwyniadau a roddwyd yn yr Uwchgynhadledd Ailgartrefu Cyflym Genedlaethol a gellir eu gweld ar-lein.

Ar draws holl waith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen cafwyd cydnabyddiaeth, wrth symud tuag at ddull Ailgartrefu Cyflym, bod datblygu diwylliant o rannu arferion da yn allweddol.

  • Argymhelliad: Bod Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, y trydydd sector a phartneriaid allweddol eraill yn parhau i rannu'n rhagweithiol a cheisio efelychu enghreifftiau o arfer da, i'n helpu i symud tuag at y dull Ailgartrefu Cyflym ac ataliol.
  • Argymhelliad: Bod adolygiad o Gynlluniau Pontio Ailgartrefu Cyflym (CPAC) yn cael ei gynnal ledled Cymru i roi cymorth pellach i adnabod a rhannu arferion da.

[5] Sylwer nad yw pob enghraifft o arfer da a godwyd trwy waith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn cael eu darparu yma, gan nad oedd pob cyswllt ar gael ar adeg ysgrifennu'r adroddiad hwn.

Casgliad

Dylid cydnabod bod y penderfyniad i symud tuag at y dull Ailgartrefu Cyflym wedi dod o fewn cyd-destun lle nad oedd y dull yn cael ei ddeall yn gyffredinol ac yng nghanol problemau sylweddol gyda'r cyflenwad o dai ledled Cymru.

Ar draws gwaith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ailgartrefu Cyflym, gan gynnwys yr adborth gan yr arbenigwyr ar draws y sector a oedd yn bresennol yn yr uwchgynhadledd genedlaethol a'r gwersi o'r ymarfer dadansoddi dwfn, ceir cytundeb cyffredinol ar y cyfan bod rhwystrau i’w cael o hyd wrth i ni symud tuag at ddull Ailgartrefu Cyflym yng Nghymru. Mae'r rhain wedi'u hadnabod o fewn y themâu o'r dadansoddiad dwfn a'r adrannau o’r adroddiad sy’n ymdrin ag arfer da a’r uwchgynhadledd, ac maent yn cynnwys: 

  • Yr angen am gefnogaeth ehangach ar draws arweinwyr cenedlaethol a'r rhanddeiliaid ehangach y mae ei hangen i gyflawni'r dull Ailgartrefu Cyflym
  • Pwysigrwydd gwella argaeledd data ar anghenion tai pobl sy'n profi digartrefedd, ei ansawdd a dadansoddiadau ohono 
  • Yr angen i fuddsoddi ymhellach mewn datblygu a chefnogi datblygiad cyflenwad o dai sy’n cyd-fynd ag anghenion. Yn benodol, ystyried sut y gall meddwl strategol yn y maes hwn fwrw golwg eang, gan gysylltu dulliau o ymdrin â thai newydd, adfywio a mecanweithiau eraill ar gyfer gwella argaeledd tai
  • Yr angen i ddatblygu cymorth a ffyrdd cydweithredol o weithio, yn enwedig i gynorthwyo'r rhai sydd ag anghenion mwy cymhleth neu arbenigol.

Fodd bynnag, er ei bod yn amlwg bod llawer o waith i'w wneud o hyd ledled Cymru i'n symud yn agosach at ddull Ailgartrefu Cyflym ac i ffwrdd o'r niferoedd uchel o bobl sy'n byw mewn llety dros dro; mae'n amlwg bod yna hefyd lawer o enghreifftiau o sut y mae awdurdodau lleol, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, a phartneriaid allweddol eraill yn gweithio gyda'i gilydd tuag at oresgyn rhai o'r rhwystrau hyn a adnabuwyd. Ac mae manteision gwneud hynny eisoes yn cael eu gweld ar draws y meysydd hyn. Mae'r gwaith ar draws y dadansoddiad dwfn wedi dangos pwysigrwydd rhannu'r arferion da hyn, fel y gellir cymhwyso'r gwersi yn fwy cyson. 

Mae'r argymhellion drwy’r ddogfen hon i gyd yn tynnu sylw at yr angen i Lywodraeth newydd Cymru yng Ngwanwyn 2026 ailddatgan yr ymrwymiad cenedlaethol i symud tuag at ddull Ailgartrefu Cyflym, sydd wedi'i integreiddio â dyletswyddau atal estynedig newydd. Wrth wneud hynny, dylai'r weinyddiaeth newydd ystyried gwersi o bob rhan o'r adroddiad hwn ac o gyngor y rhai sydd â phrofiad personol o ddigartrefedd. Dylai geisio tyfu a datblygu cefnogaeth i’r dull a dealltwriaeth amdano ymhlith arweinwyr allweddol – gan dynnu ar arbenigedd arweinwyr sefydledig yn y maes ledled Cymru i helpu i eirioli dros y dull a datblygu'r agenda ymhellach. 

Dylai Llywodraeth nesaf Cymru geisio rhoi cymorth ac adnoddau pellach i adeiladu ar y seilwaith a'r offer presennol ar gyfer cefnogi'r dull Ailgartrefu Cyflym yng Nghymru, megis offer coladu data a datblygu canllawiau ymhellach. Yn hollbwysig, dylai hefyd amcanu at fonitro cynnydd wrth symud yn agosach tuag at y dull Ailgartrefu Cyflym, gan sefydlu meini prawf llwyddiant clir.

Ar ben hynny, ar draws y sector, ceir neges glir hefyd, er mwyn gallu bwrw ymlaen â'r dull gweithredu, y bydd cyllid gan Lywodraeth Cymru yn hollbwysig – er mwyn cefnogi ffyrdd newydd o weithio ac i fuddsoddi mewn cynyddu'r cyflenwad o dai.

Ond, yn ogystal â'r galwadau hyn am weithredu gan Lywodraeth nesaf Cymru, mae'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen hefyd wedi bod yn glir y bydd llwyddiant bwrw ymlaen â'r dull Ailgartrefu Cyflym hefyd yn dibynnu'n helaeth ar ymrwymiad parhaus y sector. Mae'n hollbwysig bod awdurdodau lleol, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, gwasanaethau cyhoeddus ehangach megis y gwasanaeth iechyd, a'r trydydd sector yn gweithio ar y cyd i chwilio am ddatrysiadau ac i fwrw ymlaen â newid arferion gweithio i ddod â ni'n agosach at ddull Ailgartrefu Cyflym. 

Bydd manteision parhau i adeiladu ar y sylfeini a'r cynnydd a wnaed ar Ailgartrefu Cyflym a bwrw ymlaen â'r dull yn sylweddol - i'r rhai sy'n profi digartrefedd, i awdurdodau lleol, gwasanaethau cyhoeddus ehangach, a phwrs y wlad.