Nodyn Polisi Caffael Cymru WPPN 006: Datgarboneiddio drwy gaffael – ystyried cynlluniau lleihau carbon
Mae'r diweddariad hwn o WPPN 006 yn egluro nifer o bwyntiau ymadael wrth gaffael contractau mawr y llywodraeth.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Mae’r Nodyn Polisi Caffael hwn yn cefnogi nodau llesiant Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol

- Cymru lewyrchus
- Cymru gydnerth
- Cymru iachach
- Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
Pwyntiau i'w nodi
- Mae'r Nodyn Polisi Caffael Cymru (WPPN) hwn yn weithredol o ddyddiad cychwyn Deddf Caffael 2023 a Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024. Ar gyfer caffaeliadau a gychwynnwyd cyn y dyddiad hwn (24 Chwefror 2025), cyfeiriwch at WPPN 06/21.
- Mae wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Caffael 2023 a Rheoliadau Caffael 2024, megis terminoleg newydd. Nid yw'n golygu newid mewn polisi.
- Dylid darllen unrhyw bolisi ar y cyd â Datganiad Polisi Caffael Cymru, Deddf Caffael 2023, Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024 a Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.
- Ni ddylid ei drin fel cyngor cyfreithiol ac ni fwriedir iddo fod yn gynhwysfawr – dylai partïon contractio ofyn am eu cyngor annibynnol eu hunain fel y bo'n briodol. Sylwer hefyd bod y gyfraith yn gallu newid yn gyson ac y dylid ceisio cyngor mewn achosion unigol.
- Mae’r nodyn yn tybio bod gan y darllenydd lefel benodol o wybodaeth am gaffael cyhoeddus. Mae ar gael drwy wefan Llywodraeth Cymru LLYW.CYMRU a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at PolisiMasnachol@llyw.cymru neu at wasanaethau i gwsmeriaid Llywodraeth Cymru.
- Bydd cyfeiriadau at 'Ddeddf Caffael 2023 a Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024' yn cael eu mynegi yma fel "y gyfundrefn gaffael".
1. Diben
1.1 Mae’r diweddariad hwn o WPPN 006 yn egluro nifer o bwyntiau lle gwyrir oddi wrth Nodyn Polisi Caffael Llywodraeth y DU PPN 006: Taking account of Carbon Reduction Plans in the procurement of major government contracts. Mae’r rhain yn ymwneud â defnyddio Cynlluniau Lleihau Carbon yng Nghymru ac nid ydynt yn effeithio egwyddorion sylfaenol a bwriad arfaethedig y cynlluniau.
1.2 Mae’r gwelliannau i’r WPPN gwreiddiol a gyhoeddwyd ym mis Medi 2021 wedi eu gwneud yn dilyn adborth gan ddefnyddwyr a gellir eu crynhoi fel a ganlyn:
- Eglurder ar sut y dylid defnyddio Cynlluniau Lleihau Carbon o dan Fframweithiau a Marchnadoedd Deinamig
- Symleiddio’r broses Cynlluniau Lleihau Carbon ar gyfer y prynwr a’r cyflenwyr drwy argymell yn gryf y gofyniad i ddefnyddio templed Cynllun Lleihau Carbon fel y mae’n ymddangos ar dudalen we Llywodraeth y DU PPN 006
- Cyhoeddi rhestr wirio cydymffurfio â Chynlluniau Lleihau Carbon i helpu prynwyr a chyflenwyr i egluro gofynion Cynlluniau Lleihau Carbon a thrwy hynny, wneud Cynlluniau Lleihau Carbon yn fwy effeithiol ac effeithlon, ac
- Addasu’r ffigur trothwy o £5m (ac eithrio TAW) i gynnwys TAW ar gyfer ffigur newydd o £6m, er mwyn cyd-fynd â Nodiadau Polisi Caffael eraill Cymru.
2. Dosbarthiad a chwmpas
2.1 Cyhoeddwyd y Nodyn hwn er mwyn cynorthwyo adrannau Llywodraeth Cymru, cyrff GIG Cymru, a Chyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, i:
- ystyried Cynllun Lleihau Carbon fel maen prawf dethol cyflenwr ym mhob proses gaffael £6 miliwn a throsodd, a
- annog dull gweithredu’n seiliedig ar risg wrth ddefnyddio Cynlluniau Lleihau Carbon mewn prosesau caffael llai na £6 miliwn.
- Mae’r Nodyn hwn yn cael ei argymell fel arferion gorau i holl Awdurdodau Cymreig Datganoledig.
2.2 Gofynnir ichi ddosbarthu’r Nodyn hwn ar draws eich sefydliad a’i ddwyn at sylw penodol pobl sydd mewn rolau caffael, masnachol a chyllid.
3. Y cefndir a chanllawiau
3.1 Diwygiodd Llywodraeth Cymru Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ym mis Mawrth 2021 drwy gyflwyno ymrwymiad Cymru i DU sero net erbyn 2050. Rydym hefyd wedi pennu uchelgais dros dro yn Statws carbon sero-net erbyn 2030: Trywydd ar gyfer datgarboneiddio ar draws sector cyhoeddus Cymru (Gorffennaf 2021) er mwyn sicrhau bod y sector cyhoeddus yn sero net erbyn 2030.
3.2 Ar hyn o bryd, mae'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn gwario tua £7 biliwn ar gaffael nwyddau, gwasanaethau a gwaith sy’n cael eu darparu drwy gyflenwyr, darparwyr gwasanaethau a chontractwyr. Yn bwysicach na hynny, ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat mae rhwng 70% a 90% o ôl troed carbon sefydliadau yn y gadwyn gyflenwi ar gyfer y gwasanaethau a’r nwyddau hynny sydd wedi eu caffael (Yr Ymddiriedolaeth Garbon). Felly, mae sut y mae'r partneriaid hyn yn y gadwyn gyflenwi yn deall ac yn mynd i'r afael â’u hôl troed carbon eu hunain yn ddangosydd defnyddiol o’u parodrwydd i weithio gydag Awdurdodau Cymreig Datganoledig i leihau allyriadau wrth gyflawni contractau sector cyhoeddus sy’n hanfodol o ran cyflawni ein taith at gyrraedd statws sero net erbyn 2030.
3.3 Drwy gyflwyno Cynlluniau Lleihau Carbon fel maen prawf i bawb sy’n cynnig am gontract cyhoeddus gwerth £6 miliwn neu fwy, gall Awdurdodau Cymreig Datganoledig gadarnhau bod darpar bartneriaid yn y gadwyn gyflenwi wedi ymrwymo i weithio tuag at eu statws carbon Sero Net eu hunain erbyn 2050 a sicrhau eu hunain, wrth wneud hynny, bod cynigwyr yn debygol iawn o fod yn gweithredu mewn ffyrdd a fydd yn cynorthwyo Awdurdodau Cymreig Datganoledig i weithio tuag at uchelgais Cymru 2030 y sector cyhoeddus o statws carbon sero net, drwy weithredu i leihau allyriadau sy’n gysylltiedig â chyflawni contractau Awdurdodau Cymreig Datganoledig.
3.4 Atgoffir Awdurdodau Cymreig Datganoledig:
- Dim ond ar gyfer gofyniad pasio/methu cymhwyster cyflenwr y dylid defnyddio Cynlluniau Lleihau Carbon.
- Ni ddylid eu defnyddio i wahaniaethu rhwng cyflenwyr gan fod yr wybodaeth ar Gynllun Lleihau Carbon yn ymwneud ag ôl troed carbon y darpar gynigydd ei hun.
- Er bod Cynlluniau Lleihau Carbon yn ei gwneud yn ofynnol i gyflenwyr fanylu am eu Prosiectau Lleihau Carbon - Mentrau Lleihau Carbon wedi'u Cwblhau, ee systemau neu brosesau rheoli amgylcheddol sydd ganddynt yn eu lle, ac i ddarparu enghreifftiau o unrhyw brosiectau neu fentrau lleihau carbon sydd yn mynd rhagddynt o dan y pennawd hwnnw, er gwybodaeth yn unig y mae hyn. Dylid cwestiynu sut y gellid rhoi’r rhain ar waith wrth gyflawni contract Awdurdod Cymreig Datganoledig yn y tendr fel y gellir sgorio hynny yn erbyn y meini prawf dyfarnu cyhoeddedig ar gyfer y cyfle contractio sydd dan sylw. Bydd hyn yn sicrhau bod pob cynnig yn cael ei asesu ar yr un sail.
4. Yr hyn y mae gofyn i Awdurdodau Cymreig Datganoledig ei wneud
4.1 Dylai adrannau Llywodraeth Cymru, Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru ac Awdurdodau Cymreig Datganoledig sy’n mabwysiadu WPPN 006 ei ddarllen ar y cyd â chanllawiau cefnogi Llywodraeth y DU PPN 006 gan wyro oddi wrth hyn yn y cyswllt canlynol yn unig.
Sicrhau bod cynnwys Cynllun Lleihau Carbon neu gyfwerth* yn un o’r gofynion yn ystod y cam dethol wrth gaffael contractau cyhoeddus sy’n werth £6 miliwn neu fwy.
*DS er mwyn parhau i gydymffurfio â chytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Gaffael gan Lywodraethau, dylai Awdurdodau Cymreig Datganoledig hefyd ganiatáu cynigwyr, yn enwedig y rheini o du allan i’r DU a allai fod eisoes yn adrodd am eu hallyriadau C02e yn unol â phrotocol adrodd GHG i gyflwyno Cynllun Lleihau Carbon ar dempled gwahanol neu adrodd am eu hallyriadau C02e 1, 2, a 3.
- Er mwyn symleiddio'r broses Cynllun Lleihau Carbon ar gyfer prynwyr a chyflenwyr, argymhellir yn gryf y gofyniad i ddefnyddio templed Cynllun Lleihau Carbon fel y mae'n ymddangos ar dudalen we GOV.UK PPN 006. Bydd hyn yn sicrhau bod cyflwyniadau Cynlluniau Lleihau Carbon mewn fformat cyson a fydd yn gwneud paratoi cynllun yn symlach i gyflenwyr ac yn rhoi hyder iddynt nad yw cystadleuwyr yn cael rhywfaint o fantais o gyflwyniadau mwy cymhleth, ac yn gwneud gwiriadau prynwyr yn symlach ac felly'n gyflymach ac yn fwy effeithlon.
- Ar gyfer contractau sy'n llai na £6 miliwn, cynghorir Awdurdodau Cymreig Datganoledig yn gryf i gymryd asesiad seiliedig ar risg a defnyddio eu disgresiwn i roi gofyniad am Gynllun Lleihau Carbon mewn contractau mewn categorïau allyriadau uchel. Y sectorau allweddol sydd â'r allyriadau amcangyfrifedig mwyaf ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru yw gweithgareddau Gweithgynhyrchu, Adeiladu, Cludiant a Gweithgareddau Iechyd Dynol a Gwaith Cymdeithasol. Gall hefyd fod yn ddefnyddiol ystyried gweithgareddau sy'n gydrannau pwysig o ran cyflenwi contractau na fyddant efallai'n amlwg ar unwaith o deitl categori neu gontract e.e. defnydd ynni, cludo a dosbarthu cynnyrch neu ddeunyddiau, rheoli gwastraff.
- Defnyddio Cynlluniau Lleihau Carbon mewn Fframweithiau - gellir gofyn am Gynllun Lleihau Carbon naill ai yn ystod cam dethol cytundebau fframwaith sydd o fewn cwmpas neu farchnad ddynamig neu ar y pwynt yn ôl y gofyn unwaith y bydd y trefniant ar waith os yw'r contract yn ôl y gofyn yn werth £6 miliwn neu fwy. DS Er mwyn gallu gorfodi hynny, dylid cynnwys cymal yn nodi hynny yn fframwaith y contract / marchnad ddynamig.
- Er mwyn symleiddio gwiriadau cydymffurfio â Chynlluniau Lleihau Carbon, datblygwyd rhestr wirio cydymffurfio i helpu Awdurdodau Cymreig Datganoledig i wirio cyflwyniadau Cynlluniau Lleihau Carbon yn effeithlon ac yn effeithiol. Bydd hefyd o gymorth i gyflenwyr arfaethedig ddeall y broses asesu pan fyddant yn cyflwyno eu cynlluniau. Mae’r rhestr wirio ar gael ar dudalen LLYW.CYMRU ar gyfer y Nodyn hwn.
5. Deddfwriaeth
Yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:
- Deddf Caffael 2023
- Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024
- Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023
- Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, rhan 2 a Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cymru) 2021 (12 Mawrth 2021)
- Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
- Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
6. Amseriad
6.1 Mae'r Nodyn Polisi Caffael Cymru hwn yn berthnasol i gaffaeliadau a gychwynnwyd o dan y Gyfundrefn Gaffael ac felly mae'n weithredol o gychwyn Deddf Caffael 2023 a Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024 hyd nes y caiff ei ddisodli neu ei ganslo.
7. Perthnasedd Datganiad Polisi Caffael Llywodraeth Cymru
Mae'r Nodyn hwn yn cyd-fynd â'r Egwyddorion a ganlyn yn Natganiad Polisi Caffael Cymru:
Egwyddor 6
Byddwn yn gweithredu i atal y pryderon cynyddol dros newid hinsawdd drwy flaenoriaethu lleihau carbon ac allyriadau sero drwy gaffael mwy cyfrifol a chynaliadwy er mwyn cyflawni ein huchelgais ar gyfer sector cyhoeddus sero net yng Nghymru erbyn 2030.
8. Gwybodaeth ychwanegol
Yn ogystal â'r dolenni a grybwyllir yn PPN 006 Llywodraeth y DU ar sut i gyfrifo allyriadau carbon, mae’n bosibl yr hoffech ystyried y canllawiau a ganlyn sy’n rhai penodol i Gymru:
- Gellir dod o hyd i dempled Cynllun Lleihau Carbon a’r rhestr wirio cydymffurfio â Chynlluniau Lleihau Carbon ar dudalen we LLYW.CYMRU ar gyfer WPPN 006
- WPPN 016 Mynd i’r afael â CO2e mewn cadwyni cyflenwi
- Canllaw sector cyhoeddus ar gyfer adrodd ar garbon sero-net (Ebrill 2023)
9. Manylion cyswllt
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Nodyn hwn, cysylltwch â: Polisi Masnachol: PolisiMasnachol@llyw.cymru
10. Cydnabyddiaeth
Defnyddiwyd y cyhoeddiadau a ganlyn wrth baratoi'r Nodyn hwn:
- Guidance on adopting and applying the PPN 006 – Selection Criteria (Swyddfa'r Cabinet Mehefin 2021)
- Statws carbon sero-net erbyn 2030: Trywydd ar gyfer datgarboneiddio ar draws sector cyhoeddus Cymru (Llywodraeth Cymru Gorffennaf 2021)
- Procurement Policy Note 006: Taking account of Carbon Reduction Plans in the procurement of major government contracts (Swyddfa'r Cabinet Mehefin 2021)
- Cymru wedi ymrwymo i sero-net erbyn 2050, ond yr uchelgais yw taro’r nod yn gynt (Llywodraeth Cymru Chwefror 2021)
- An introductory guide to Scope 3 emissions (Yr Ymddiriedolaeth Garbon, 2023)
11. Cyfeiriadau
- PPN 06/21: Frequently asked questions - GOV.UK (Swyddfa'r Cabinet, Mehefin 2021)
- Guidance on adopting and applying the PPN 006 – Selection Criteria (Swyddfa'r Cabinet, Mehefin 2021)
- Statws carbon sero-net erbyn 2030: Trywydd ar gyfer datgarboneiddio ar draws sector cyhoeddus Cymru (Llywodraeth Cymru Gorffennaf 2021)
- Procurement Policy Note 006: Taking account of Carbon Reduction Plans in the procurement of major government contracts (Swyddfa'r Cabinet, Chwefror 2025)
- Technical standard for Completion of Carbon Reduction Plans (Swyddfa'r Cabinet, Mehefin 2021)
- Cynllun Ymgysylltu Llywodraeth Cymru ar gyfer Cynllun Cyflawni Carbon Isel 2 (Llywodraeth Cymru Mawrth 2021)
- Cynllun Lleihau Carbon: Rhestr Wirio Cydymffurfiaeth ar LLYW.CYMRU