Nodyn Polisi Caffael Cymru WPPN 008: Caffael dur mewn prosiectau adeiladu a seilwaith yng Nghymru
Mae'r WPPN hwn yn mynd i'r afael â chamau caffael cyhoeddus i gefnogi'r sector dur strategol bwysig yn y DU.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Mae’r Nodyn Polisi Caffael hwn yn cefnogi nodau llesiant Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol
- Cymru lewyrchus
- Cymru gydnerth
- Cymru sy’n fwy cyfartal
- Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
Pwyntiau i’w nodi
- Mae fersiwn 2 o Nodyn Polisi Caffael Cymru (WPPN) 008 ‘Caffael Dur mewn Prosiectau Adeiladu a Seilwaith yng Nghymru’ yn cymryd lle fersiwn 1 ‘WPPN 008: Caffael dur mewn prosiectau adeiladu a seilwaith mawr yng Nghymru’.
- Mae fersiwn 2 yn cynnwys cais i Awdurdodau Contractio Cymru gasglu ac adrodd data piblinell y dyfodol a data gwirioneddol ar gaffael dur ar gyfer prosiectau dros £2m.
- Ar gyfer caffaeliadau a ddechreuodd cyn y dyddiad hwn (24 Chwefror 2025), cyfeiriwch at WPPN 01/21.
- Wrth ddarllen unrhyw bolisi, dylech gyfeirio hefyd at:
- Ddatganiad Polisi Caffael Cymru
- Deddf Caffael 2023
- Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024
- Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023
- Rheoliadau Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2026
- Nid yw'r Nodyn hwn yn gyngor cyfreithiol ac ni fwriedir iddo fod yn gynhwysfawr – dylai partïon contractio ofyn am eu cyngor annibynnol eu hunain fel y bo'n briodol. Sylwer hefyd fod y gyfraith yn gallu newid yn gyson ac y dylid ceisio cyngor fesul achos unigol.
- Mae’r nodyn yn tybio bod gan y darllenydd lefel benodol o wybodaeth am gaffael cyhoeddus. Mae ar gael drwy wefan Llywodraeth Cymru LLYW.CYMRU a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at PolisiMasnachol@llyw.cymru neu at wasanaethau i gwsmeriaid Llywodraeth Cymru.
1. Y Pwnc
Mae’r WPPN hwn yn mynd i’r afael â chamau caffael cyhoeddus i gefnogi’r sector dur sy’n strategol bwysig yn y DU.
2. Lledaenu a chwmpas
Mae’r WPPN hwn yn uniongyrchol berthnasol i bob Awdurdod Contractio Cymreig os yw ei holl swyddogaethau, neu’r rhan fwyaf ohonynt, yn swyddogaethau sydd wedi’u datganoli i Gymru, a bydd yn berthnasol i unrhyw brosiect caffael sy’n werth mwy na £2 miliwn, gan gynnwys TAW.
Gallai prosiectau lle mae dur yn debygol o fod yn elfen hanfodol (mae ‘elfen hanfodol’ yn golygu cynnyrch strwythurol fel fframiau dur, bariau atgyfnerthu ac ati) gynnwys y canlynol (ond heb fod wedi'u cyfyngu iddynt):
- Seilwaith – fel rheilffyrdd a ffyrdd
- Adeiladu – fel adeiladu neu adnewyddu carchardai, ysbytai, prifysgolion, tai, canolfannau cymunedol, pontydd ac ysgolion
- Amddiffynfeydd llifogydd.
Dylid rhannu’r WPPN hwn o fewn eich sefydliad, gan dynnu sylw’r rheini mewn swyddi rheoli caffael neu gontractio ato’n benodol.
3. Y Cefndir
Mae diwydiant dur y DU yn chwarae rôl bwysig yn ein heconomi, gan ddarparu cynhyrchion dur o ansawdd uchel a helpu i gynnal seilwaith ein gwlad. Mae gweithgynhyrchu haearn sylfaenol a dur yn cefnogi tua 39,000 o swyddi â thâl da ym maes cynhyrchu dur, a 60,000 o swyddi eraill i fyny’r cadwyni cyflenwi ar draws llawer o rannau pwysig o economi’r DU (mae ffigurau 2021 yn dod o Nomis - Official Census and Labour Market Statistics). Mae’r sector cyhoeddus yn brynwr dur pwysig, gan ei brynu er mwyn adeiladu ein seilwaith hanfodol fel rheilffyrdd, ffyrdd, adeiladau, offer amddiffyn, ysgolion ac ysbytai.
Nododd yr adroddiad Caffael Cyhoeddus o Ddur 2016 y cyfle i gefnogi’r sector dur drwy ymyriadau mewn prosesau caffael cyhoeddus; mae ei argymhellion yn parhau’n berthnasol ac yn 2019 ymrwymodd Llywodraeth Cymru i Siarter Dur y DU, gan ymrwymo i weithio gyda’r diwydiant i ystyried sut y gall ein penderfyniadau dylunio o ran adeiladu, seilwaith a pheirianneg sifil a’r caffael sy’n deillio o hynny greu cyfleoedd ar gyfer diwydiant dur y DU (diffiniad UK Steel, cymdeithas fasnach ar gyfer y diwydiant yn y DU, o Ddur y DU yw ‘unrhyw ddur wedi’i wneud mewn ffwrnais chwyth neu ffwrnais arc drydan yn y DU.’).
Bydd Strategaeth Dur Llywodraeth y DU, sy’n cael ei datblygu ar hyn o bryd, yn ystyried caffael dur yn y sector cyhoeddus ymhellach.
4. Camau gweithredu sy’n ofynnol gan Awdurdodau Contractio Cymreig
Dylai Awdurdodau Contractio Cymreig ddefnyddio’r cylch oes caffael i nodi unrhyw gyfle i gefnogi diwydiant dur y DU i sicrhau bod y contract yn cael yr effaith economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol fwyaf bosibl.
4.1 Cynllunio cyn-caffael
Dylai cynlluniau cyn-caffael Awdurdodau Contractio Cymreig gynnwys asesiad ar gyfer pob prosiect lle bydd dur yn elfen annatod a lle mae gan yr Awdurdod Contractio Cymreig gyfle i ddylanwadu ar y ffordd mae’r dur sydd ei angen yn cael ei gaffael.
Mae’n bwysig ystyried sut a phryd y bydd mewnbynnau dur yn cael eu caffael drwy’r gadwyn gyflenwi, gan fod cael gwybod am raglenni perthnasol neu brosiectau unigol yn galluogi’r sector dur i baratoi yn well a diwallu anghenion y dyfodol drwy sicrhau bod y capasiti cywir ar waith. Yn ogystal, gall y sector dur sicrhau canlyniadau gwell i brosiectau drwy ddeialog gynnar a nodi’r potensial ar gyfer atebion arloesol.
Felly mae gofyn i Awdurdodau Contractio Cymreig gofnodi amcanestyniadau o’u hanghenion dur (ni ddylid drysu’r biblinell ddur â’r Hysbysiad Piblinell o dan Ddeddf Caffael 2023 sydd ar gyfer amlinellu gwybodaeth benodedig am bob contract cyhoeddus sydd â gwerth amcangyfrifedig o dros £2 miliwn. Dylai Awdurdodau Contractio Cymreig droi at adran 93 o Ddeddf Caffael 2023 am ragor o wybodaeth).
Y Biblinell Ddur:
- Gofynnir i Awdurdodau Contractio Cymreig ddarparu data am y dur y rhagwelir y bydd ei angen arnynt bob blwyddyn ariannol i Lywodraeth Cymru.
- Dylai pob sefydliad ddarparu cyswllt a enwir o fewn y sefydliad sy’n gyfrifol am ddarparu’r datganiadau sydd eu hangen o dan y WPPN hwn.
- Dylid cynnwys prosiectau mor gynnar â phosibl er mwyn ysgogi’r farchnad.
- Mae taenlen Excel ‘Piblinell gaffael dur: Ebrill 2026’ ar gael gyda’r Nodyn Polisi hwnc i’w lawrlwytho ar gyfer eich datganiad data.
Ystyriwch eich opsiynau dylunio a’u goblygiadau ar gyfer gofynion dur, gan nodi cynnyrch a meintiau dur penodol y bydd eu hangen yn erbyn y potensial i gael gafael ar y rhain o fewn y DU. Mae ymgysylltu rhagarweiniol â'r farchnad (PME) yn ddull defnyddiol o ymgysylltu â chyflenwyr yn y farchnad. O dan Ddeddf Caffael 2023 gellir ei ddefnyddio i gynorthwyo Awdurdodau Contractio Cymreig i ddatblygu eu gofynion dur a'u dull o gaffael. Gall helpu i gynllunio’r weithdrefn ac amodau cymryd rhan neu feini prawf dyfarnu a chynorthwyo Awdurdodau Contractio Cymreig i nodi cyflenwyr yn y farchnad, neu hyd yn oed feithrin capasiti ymhlith cyflenwyr yn y farchnad i gyflawni gofynion dur. Dylai Awdurdodau Contractio Cymreig gyfeirio at adrannau 16 ac 17 o Ddeddf Caffael 2023 i gael gwybodaeth PME a hysbysiadau PME. Mae canllawiau ar PME hefyd ar gael ar dudalen Deddf Caffael 2023: dogfennau canllaw. Gall cyrff masnach fel UK Steel roi cyngor ar sut i ymgysylltu’n effeithiol â’r sector domestig; mae Cyfeiriadur Dur y DU yn rhoi rhestr o sefydliadau a chynnyrch sydd ar gael yn y DU.
Mae cymal contract enghreifftiol ‘Rhwymedigaeth i hysbysebu cyfleoedd cadwyn gyflenwi’ yn Atodiad 3.
4.2 Caffael
Gallai Awdurdodau Contractio Cymreig ystyried gosod amodau cymryd rhan (yn unol ag adran 22 o'r Gyfundrefn Gaffael) fel ffordd o fynd i'r afael â phroblem dympio dur a diffyg cydymffurfio â safonau derbyniol o ran iechyd, diogelwch a lles a safonau amgylcheddol.
Mae enghreifftiau o gwestiynau'r cam cyn-gymhwyso / dewis ar gael yn Atodiad 1.
Mae rhagor o wybodaeth yn WPPN 001 Holiadur Dewis Safonol ar gyfer Contractau Gweithiau a WPPN 002 Holiadur Caffael Penodol Cymru (WPSQ) a'i ddefnyddio ar gyfer Contractau Nwyddau, Gwasanaethau a Gweithiau.
Nodwch nad yw’r Safon Asesu Gyffredinol y cyfeirir ati yn WPPN 001 yn cynnwys cwestiynau am ddur yn benodol, fodd bynnag, mae’n cynnwys meysydd sy’n berthnasol i ddur fel gweithgynhyrchu, adeiladu a chyflenwi.
Amodau cymryd rhan
Mae natur cynhyrchu dur yn golygu bod cydymffurfio â chyfraith gymdeithasol, lafur ac amgylcheddol y tu allan i’r DU a’r UE yn fater o bwys; gall hyn fod yn wahaniaethydd defnyddiol wrth ddewis cyflenwyr.
Dylai Awdurdodau Contractio Cymreig ystyried pennu Safon y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BRE), BES 6001 Sicrhau Cynnyrch Adeiladu’n Gyfrifol neu gyfatebol wrth gaffael prosiectau gyda chydrannau dur. Mae'r safon BES 6001 yn cwmpasu amrywiaeth o gynhyrchion sylfaen adeiladu, gan gynnwys barrau atgyfnerthu dur carbon.
Mae BES 6001 sydd wedi’i achredu gan drydydd parti yn rhoi sicrwydd i Awdurdodau Contractio Cymreig fod deunyddiau cyfansoddol o gynhyrchion sy’n dod dan y safon wedi cael eu caffael yn gyfrifol. Mae’r safon yn disgrifio fframwaith ar gyfer llywodraethu’r sefydliad, rheoli’r gadwyn gyflenwi ac agweddau amgylcheddol a chymdeithasol i fynd i’r afael â nhw er mwyn sicrhau bod cynhyrchion adeiladu’n cael eu caffael yn gyfrifol; mae’n darparu’r gallu i brofi bod system effeithiol ar gyfer sicrhau caffael cyfrifol yn bodoli.
Er mwyn cefnogi tryloywder y gadwyn gyflenwi, dylai Awdurdodau Contractio Cymreig wneud y canlynol:
- Mynnu BES 6001 neu gyfatebol fel rhan o’r meini prawf cymhwyso ar gyfer cynigwyr
- Ei gwneud yn ofynnol i gontractwyr Haen 1 gyflwyno cynlluniau cadwyn gyflenwi wrth wneud cais am gontractau sy’n cynnwys sut y bydd dur yn cael ei gaffael
- Cynnwys amod contract i sicrhau bod y contractwr Haen 1 a’i is-gontractwyr yn hysbysebu’n agored drwy gwerthwchigymru.llyw.cymru unrhyw gyfleoedd cadwyn gyflenwi sy’n weddill ar gyfer darparu dur (hy lle na chytunwyd ar unrhyw drefniadau contract erbyn dyddiad dyfarnu’r prif gontract).
- Ei gwneud yn ofynnol i gontractwyr Haen 1 gofnodi tarddiad cydrannau dur hanfodol i’w defnyddio, gan barhau i wneud hyn drwy gydol y contract.
4.3 Dyfarnu’r contract
Mae'r Gyfundrefn Gaffael wedi cyflwyno dull newydd o asesu tendrau mewn gweithdrefn dendro gystadleuol ar gyfer contract cyhoeddus gan ddefnyddio 'MAT', (tendr mwyaf manteisiol) (adran 19 o'r Ddeddf Caffael), yn lle 'MEAT' (tendr mwyaf manteisiol yn economaidd). Felly, ni ddylai Awdurdodau Contractio Cymreig seilio eu penderfyniadau i ddyfarnu contractau ar y pris prynu isaf yn unig.
Er bod y gost i’r pwrs cyhoeddus yn bwysig, dylai Awdurdodau Contractio Cymreig y gallai prisiau anarferol o isel olygu nad yw’r contract yn debygol o gael ei gyflawni’n iawn. Hefyd, gallai codi pris is na darparwyr domestig yn annheg arwain at golli swyddi gydag effeithiau economaidd a chymdeithasol sylweddol ar y cymunedau yr effeithir arnynt.
4.4 Monitro a chydymffurfio ar ôl dyfarnu contract
Yn ogystal â darparu datganiad data blynyddol ar gyfer gofynion dur a ragwelir, mae'n ofynnol i Awdurdodau Contractio Cymreig ddarparu data gwirioneddol ar ddur wedi'i gaffael yn y flwyddyn flaenorol.
Mae hyn yn berthnasol i:
- brosiectau a rhaglenni sy'n werth £2 miliwn neu fwy
Dylai'r data gynnwys ansawdd, y math o gynnyrch a'r tarddiad. Dylid cofnodi data ar darddiad y dur fel y nodir yn y Dystysgrif Arolygu (EN10204 Math 3.1) a dylai contractwyr hefyd nodi a yw'r tarddiad a nodir hefyd wedi'i gofnodi yn y dystysgrif ynghylch ble cafodd y dur ei doddi a'i dywallt.
Mae Atodiad 2 yn nodi'r gofyniad llawn, gan gynnwys mathau o gynnyrch dur sy'n dod o fewn y cwmpas.
Dylai Awdurdodau Contractio Cymreig nodi'r angen i ddarparu datganiadau data blynyddol mewn dogfennu tendro i sicrhau bod y gofynion hyn yn cael eu trosglwyddo i gyflenwyr yn eu telerau ac amodau cytundebol.
Dylid cyflwyno pob amcangyfrif piblinell a data gwirioneddol i Lywodraeth Cymru o fewn deg wythnos i ddiwedd y flwyddyn ariannol.
Gall y daenlen Excel ‘Piblinell gaffael dur: Ebrill 2026’ sydd ar gael gyda'r Nodyn Polisi hwn hefyd gael ei ddefnyddio ar gyfer y datganiad data dirdrafodion.
5. Deddfwriaeth
Gan gynnwys y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:
- Deddf Caffael 2023
- Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024
- Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
- Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023
- Rheoliadau Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2026
6. Perthnasedd Datganiad Polisi Caffael Cymru (WPPS)
Mae'r Nodyn Polisi Caffael Cymru hwn yn cyd-fynd ag Egwyddorion Canlynol Datganiad Polisi Caffael Cymru:
Egwyddor 3
Byddwn yn datblygu prosesau caffael cynaliadwy hirdymor, sy'n adeiladu ar arfer gorau ac yn ei raddio ac yn pennu camau clir sy’n dangos sut mae caffael yn cefnogi'r gwaith o gyflawni amcanion llesiant sefydliadol.
Egwyddor 5
Byddwn yn cefnogi amcanion polisi Llywodraeth Cymru sy'n gysylltiedig â chaffael blaengar, megis yr Economi Sylfaenol a Chylchol, drwy weithgarwch caffael cydweithredol, sy’n seiliedig ar leoedd (boed yn genedlaethol, yn rhanbarthol neu'n lleol) sy'n meithrin cadwyni cyflenwi lleol gwydn.
Egwyddor 9
Byddwn yn gwella'r dull o integreiddio a hefyd profiadau defnyddwyr o'n hatebion a'n cymwysiadau digidol er mwyn sicrhau'r defnydd gorau posibl o’n data am gaffael at ddiben hwyluso penderfyniadau.
Egwyddor 10
Byddwn yn hyrwyddo caffael sy'n seiliedig ar werth sy'n sicrhau'r canlyniadau hirdymor gorau posibl i Gymru.
7. Gwybodaeth Ychwanegol
8. Manylion cyswllt
Commercial Policy – Polisi Masnachol – CommercialPolicy@gov.wales / PolisiMasnachol@llyw.cymru
9. Cyfeiriadau
Cyfeiriwyd at y canlynol wrth baratoi’r WPPN hwn;
- ‘Caffael Dur yn y Sector Cyhoeddus – Adroddiad i’r galw am ddur yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn y dyfodol a chapasiti a gallu’r sector dur’ (Llywodraeth Cymru 2016)
- Nodyn Polisi Caffael – Caffael Dur mewn Prosiectau Mawr
- Nodyn Gweithredu 16/15 30 Hydref 2015 (Gwasanaeth Masnachol y Goron, 2015)
- Caffael Dur mewn Prosiectau Mawr – canllawiau diwygiedig. Nodyn Gweithredu 11/16 13 Rhagfyr 2016 (Gwasanaeth Masnachol y Goron, 2016)
- Siarter Dur y DU 2019
- Nodyn Polisi Caffael 04/23: Caffael Dur yng Nghytundebau'r Llywodraeth
- Nodyn Polisi Caffael 010: Caffael Dur yng Nghytundebau'r Llywodraeth
- Nodyn Polisi Caffael 022: Caffael Dur yng Nghytundebau’r Llywodraeth
Atodiad 1: Cwestiynau'r Cam Cyn-gymhwyso / Dewis
WPSQ V1.1 – Holiadur Penodol i Gaffael Cymru:
C52. Ar gyfer contractau sy'n ymwneud â phrosiectau/rhaglenni sy'n werth £3 miliwn neu fwy, disgrifiwch y systemau, y polisïau, y safonau a'r gweithdrefnau sydd ar waith gennych ar gyfer rheoli cadwyni cyflenwi sy'n benodol i ddur, er mwyn sicrhau bod cadwyni cyflenwi'n cael eu rheoli mewn ffordd gadarn a'ch bod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol.
C53. Rhowch fanylion prosiectau tebyg blaenorol lle rydych wedi dangos lefel uchel o gymhwysedd ac effeithiolrwydd wrth reoli holl aelodau'r gadwyn gyflenwi sy'n ymwneud â chyflenwi neu gynhyrchu dur er mwyn sicrhau cyflenwad dur cynaliadwy a gwydn.
C54a. Ystumio'r Gystadleuaeth: A ydych yn cymryd camau i sicrhau nad yw aelodau eich cadwyn gyflenwi yn gwneud cytundebau â gweithredwyr economaidd eraill sydd â’r nod o ystumio cystadleuaeth fel y disgrifir yn Atodlen 7 i Ddeddf Caffael 2023, paragraffau 7-9?
C54b. Os ydych wedi ateb 'Ydw' i C54a uchod, rhowch amlinelliad byr o’r camau rydych yn eu cymryd.
C55a. Rheoli Cadwyni Cyflenwi: Disgrifiwch y systemau, y polisïau, y safonau a'r gweithdrefnau sydd ar waith gennych ar hyn o bryd i sicrhau bod cadwyni cyflenwi'n cael eu rheoli mewn ffordd gadarn.
C55b. Os yw'n well gennych lanlwytho tystiolaeth ddogfennol ymateb i C55a, gallwch wneud hynny yma.
C56a. Polisïau Iechyd a Diogelwch: A ydych chi’n cymryd camau i sicrhau bod gan bob aelod o’ch cadwyn gyflenwi bolisïau iechyd a diogelwch priodol yn eu lle sy’n ymdrin â’r canlynol o leiaf:
a. Datganiad Polisi – wedi'i lofnodi a'i ddyddio
b. Y Sefydliad a'i Gyfrifoldebau – sut mae gofynion Iechyd a Diogelwch yn cael eu gweithredu; ac
c. Y Trefniadau – y safonau a'r gweithdrefnau wedi'u mabwysiadu'n, a bod y rhain yn cael eu hadolygu bob dwy flynedd o leiaf?
C56b. Os ydych wedi ateb 'Ydw' i C56a uchod, rhowch ddisgrifiad byr o’r camau rydych yn eu cymryd.
C57a. Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch Y Gadwyn Gyflenwi: A ydych yn cymryd camau i sicrhau bod pob aelod o’ch cadwyn gyflenwi yn darparu hyfforddiant iechyd a diogelwch priodol, yn enwedig ar gyfer gweithwyr sy’n cyflawni tasgau a allai fod yn beryglus?
C57b. Os ydych wedi ateb 'Ydw' i C57a uchod, rhowch ddisgrifiad byr o’r camau rydych yn eu cymryd.
Atodiad 2: Gofyniad llawn, gan gynnwys mathau o gynnyrch dur sydd o fewn y cwmpas
Monitro a chydymffurfio
Mae'n ofynnol i bob Awdurdod Contractio Cymreig gyflwyno datganiad data blynyddol i Lywodraeth Cymru.
Mae'r gofyniad adrodd yn cynnwys data ar ddwy elfen:
- piblinellau o'r galw amcanestynedig am gaffael dur ar gyfer prosiectau/rhaglenni yn y dyfodol, a
- data gwirioneddol ar y dur wedi'i gaffael yn y flwyddyn ariannol flaenorol, gan gynnwys:
- faint o ddur maent wedi'i gaffael (yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol) dros y flwyddyn ariannol flaenorol
- y math o gynnyrch dur
- tarddiad y dur wedi'i gaffael, a
- sut maent wedi cymhwyso canllawiau caffael dur y sector cyhoeddus.
- Yn berthnasol i brosiectau a rhaglenni sydd werth £2 filiwn neu fwy
Tarddiad y Dur wedi'i Gaffael
Dylid cofnodi'r data hwn fel y nodir yn y Dystysgrif Arolygu (EN10204 Math 3.1) a dylai contractwyr hefyd nodi a yw'r tarddiad a nodir hefyd wedi'i gofnodi yn y dystysgrif ynghylch ble cafodd y dur ei doddi a'i dywallt. Os nad yw'r geiriad ynghylch lleoliad toddi a thywallt ar y dystysgrif brawf a ddarperir gyda'r dur a brynwyd, ni ddisgwylir i'r contractwyr ymchwilio i'r tarddiad ymhellach. O 2023 ymlaen, mae cynhyrchwyr dur y DU wedi nodi'n glir ar dystysgrifau prawf a oedd y dur wedi'i doddi a'i dywallt yn y DU.
Y Math o Gynnyrch Dur
Y data sydd ei angen ynghylch y math o gynnyrch dur yw'r disgrifiad o'r dur a brynwyd o dan un o'r penawdau cynnyrch isod (e.e. cynhyrchion dur gwastad wedi'i rolio', dur plât ac ati). Nid yw penawdau cynnyrch eraill nad ydynt wedi'u cynnwys yn y rhestr hon o fewn cwmpas y gofyniad. Fodd bynnag, mae'r enghreifftiau o gynnyrch penodol o dan bob pennawd cynnyrch ar gyfer arweiniad yn unig ac nid ydynt yn cynrychioli rhestr gynhwysfawr:
Cynhyrchion dur gwastad wedi'i rolio: Cynhyrchion y cyfeirir atynt yn gyffredin fel coil, dalen a stribed wedi'u rholio'n boeth ac oer, gan gynnwys cynhyrchion dur wedi'u cladio, wedi'u platio ac wedi'u galfaneiddio. Bydd hyn yn cynnwys cynhyrchion fel paneli adeiladu dur wedi'i gotio, dur melin tun, neu ddalennau gwrymiog.
- Dur plât: Cynhyrchion y cyfeirir atynt yn aml fel plât trwm neu blât cwarto, ac sy'n nodweddiadol o ddur gwastad wedi'i rolio sy'n fwy na 10mm o drwch.
- Adrannau a siapiau: Cynhyrchion y cyfeirir atynt yn aml fel trawstiau, colofnau, stanciau cynnal, sianeli fflans, bylbiau gwastad ac onglau.
- Barrau atgyfnerthu: Cynhyrchion y cyfeirir atynt yn gyffredin fel rebar, boed ar ffurf rhodenni, coiliau, neu gynhyrchion sy'n addas ar gyfer rhwyll.
- Barrau a rhodenni eraill: Amrediad eang o gynhyrchion melin ddur eraill y cyfeirir atynt yn gyffredin fel rhodenni gwifrol, barrau marsiant, barrau llachar a barrau du.
- Tiwbiau / pibellau / adrannau gwag: Cynhyrchion dur y cyfeirir atynt yn aml fel adrannau / proffiliau gwag, tiwb wedi'i weldio, tiwb di-dor, pibellau, ac adrannau gwag.
- Gwifren: cynhyrchion dur y cyfeirir atynt yn gyffredin fel gwifren neu linyn, a gynhyrchir drwy dynnu rhodenni i gynhyrchu gwifren o ddiamedrau amrywiol. Byddai hyn yn cynnwys cynhyrchion adeiladu fel gwifren wedi'i straenio ymlaen llaw, a chynhyrchion wedi'u cotio a'u platio.
- Rheilffyrdd: Deunyddiau ar gyfer adeiladu traciau rheilffordd neu dramffordd o haearn neu ddur, gan gynnwys rheilffordd rhigol. (Nodwch: Ni fyddai hyn yn cynnwys cynhyrchion fel llafnau switsh, rhodenni pwynt, trawstiau, clipiau rheilffordd, botymau croesfan.)
- Estyllod dalen: Estyllod dalen wedi'u gwneud o elfennau wedi'u cydosod; onglau, siapiau ac adrannau wedi'u weldio.
Mae'r penawdau cynnyrch hyn yn cyfeirio at y cynhyrchion dur hynny a wneir naill ai o ddur di-aloi neu ddur aloi / gwrthstaen. Yn fras, maent yn cael eu categoreiddio o dan y system codau tariffau wedi'u cysoni fel penawdau 7208 hyd at 7306.
Mae'r gofynion adrodd wedi'u cynllunio i gofnodi 'cynhyrchion dur' ar gyfer prosiectau cyhoeddus, yn hytrach na 'chynhyrchion sy'n cynnwys dur' fel sgriwiau neu gynwysyddion dur. Er enghraifft, os yw contractwr neu is-gontractwr yn prynu cynwysyddion dur wedi'i weithgynhyrchu i gyflawni ei gontract cyhoeddus, ni fyddai disgwyl iddo adrodd ar darddiad y dur a ddefnyddir i wneud y cynwysyddion hynny. I'r gwrthwyneb, os yw'n prynu adrannau dur i wneud strwythur dur wedi'i weithgynhyrchu i'w gyflenwi mewn prosiect cyhoeddus, dylai adrodd ar darddiad yr adrannau dur.
Ffynhonnell: Nodyn Polisi Caffael 010 Canllawiau diwygiedig ar gaffael dur yng Nghontractau'r Llywodraeth. Diweddarwyd: Chwefror 2025 (Gwasanaethau Masnachol y Goron)
Atodiad 3: Amod Contract Enghreifftiol - Rhwymedigaeth i hysbysebu cyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi
1. Rhaid i’r cyflenwr sicrhau bod yr holl is-gontractau, y mae’r cyflenwr yn bwriadu eu caffael ar ôl dyddiad y contract hwn, ac nad yw’r cyflenwr, cyn dyddiad y contract hwn, wedi’u dyfarnu eisoes i is-gontractwr penodol, yn:
- Cael eu hysbysebu ar GwerthwchiGymru.llyw.cymru, a
- Cael eu dyfarnu yn dilyn proses deg, dryloyw a chystadleuol sy’n gymesur â natur a gwerth yr is-gontract.
2. Rhaid i unrhyw is-gontract a ddyfernir gan y cyflenwr yn unol â Chymal 1 gynnwys darpariaethau addas i’w gosod, rhwng partïon yr is-gontract:
- gofynion i’r un effaith â’r rheini yng Nghymal 1, a
- gofyniad i’r is-gontractwr gynnwys mewn unrhyw is-gontract y mae’n ei ddyfarnu yn ei dro, ddarpariaethau addas i’w gosod, rhwng y partïon i’r is-gontract hwnnw, ofynion i’r un effeithiau â’r rheini sy’n ofynnol dan y Cymal 2 hwn.
3. At ddibenion Cymalau 1 a 2, ystyr 'is-gontract' yw contract rhwng dau neu fwy o gyflenwyr, ar unrhyw gam o bellter oddi wrth yr Awdurdod mewn cadwyn is-gontractio, a wneir yn gyfan gwbl neu’n sylweddol er mwyn cyflawni neu gyfrannu at berfformiad y cyfan neu unrhyw ran o’r contract hwn ac ystyr “is-gontractwr” yw unrhyw drydydd parti y mae
- y cyflenwr yn ymrwymo i is-gontract gydag ef, neu
- trydydd parti dan (a) yn ymrwymo i is-gontract ag ef; neu weision neu asiantau’r trydydd parti hwnnw.
Ffynhonnell: Nodyn Polisi Caffael – Caffael Dur mewn Prosiectau Mawr Nodyn Gweithredu 16/15 30 Hydref 2015 (Gwasanaethau Masnachol)
Atodiad 4: Cymal o gontract enghreifftiol - Y Gofyniad am Ddata am Gynhyrchu Dur a'i Darddiad
[cynhwyswch y gofyniad hwn ym mhrif gorff y contract ar gyfer prosiectau/rhaglenni cymwys]
1.1 Fel amod o'r contract hwn, mewn perthynas â phrynu cynhyrchion dur, mae'r Cyflenwr yn cytuno i:
- cofnodi'r data math o gynnyrch dur, sy'n ffurfio'r disgrifiad o'r dur a brynwyd o dan un o'r categorïau isod (e.e. Cynhyrchion Dur wedi'u Rholio Fflat, Plât Dur ac ati).
- Cynnyrch Dur Rholio Fflat: Cynhyrchion y cyfeirir atynt yn gyffredin fel coil, taflen a stribed wedi'u rholio poeth ac oer, gan gynnwys y rhai sydd wedi'u clad, wedi'u platio a'u galfaneiddio. Bydd hyn yn cynnwys cynhyrchion fel paneli adeiladu dur wedi'u gorchuddio, dur tunmill, neu ddalennau rhychog.
- Plât Dur: Cynhyrchion y cyfeirir atynt yn aml fel plât trwm neu quarto, ac yn nodweddiadol o ddur rholio gwastad sy'n fwy na 10mm o drwch.
- Adrannau a Siapiau: Cynhyrchion y cyfeirir atynt yn gyffredin fel trawstiau, colofnau, pentyrrau dwyn, sianeli fflans, fflatiau bylbiau, ac onglau.
- Bar atgyfnerthu: Cynhyrchion y cyfeirir atynt yn gyffredin fel rebar, boed hynny mewn gwialen, coiliau, neu gynhyrchion sy'n addas ar gyfer rhwyll.
- Bariau a Rhodenni eraill: Ystod eang o gynhyrchion melin ddur eraill y cyfeirir atynt yn gyffredin fel gwialen wifren, bar masnachwr, bar llachar, bar du.
- Tiwbiau / Pibellau / Adrannau gwag: Cynhyrchion dur y cyfeirir atynt yn gyffredin fel adrannau / proffiliau gwag, tiwb weldio, tiwb di-dor, pibellau, adrannau gwag.
- Gwifren: cynhyrchion dur y cyfeirir atynt yn gyffredin fel gwifren neu linyn, a gynhyrchir trwy dynnu gwialen i gynhyrchu gwifren o ddiamedrau amrywiol. Byddai hyn yn cynnwys cynhyrchion adeiladu fel gwifren wedi'i straen ymlaen llaw, a'r rhai wedi'u gorchuddio a'u platio.
- Rheilffordd: Deunydd adeiladu trac rheilffordd neu dramffordd o haearn neu ddur, gan gynnwys rheilffordd rhigol. (Nodyn: Ni fyddai hyn yn cynnwys cynhyrchion fel llafnau switsh, gwiail pwynt, cysgwyr, clipiau rheilffordd, brogaod croesi).
- Pentyrru Dalennau: Pentyrru dalennau wedi'u gwneud o elfennau wedi'u cydosod; onglau, siapiau ac adrannau wedi'u weldio
- cofnodi'r data maint dur, sy'n ffurfio swm y dur mewn tunnell
- cofnodi'r data tarddiad dur, sy'n ffurfio'r wlad y cynhyrchwyd y dur ynddi fel y nodir yn y Dystysgrif Arolygu (EN10204 Math 3.1) sydd ynghlwm wrth y dur a brynwyd, ac ai dyma hefyd lle cafodd y dur ei doddi a'i dywallt yn ôl y Dystysgrif, ac
- adrodd y data math o gynnyrch dur, data maint dur, a data tarddiad dur i'r Awdurdod, gan ddefnyddio'r templed a ddarperir, o fewn deng wythnos i ddiwedd y flwyddyn ariannol y gosodwyd y contract.
1.2 Os nad yw'r Cyflenwr yn prynu'r dur yn uniongyrchol, mae'n parhau i fod yn gyfrifol am gofnodi ac adrodd y data math o gynnyrch dur, y data maint dur, a'r data tarddiad dur i'r Awdurdod, yn unol â 1.1. Bydd yn gwneud pob trefniant angenrheidiol gyda'i Is-gontractwr i hwyluso hyn.
Ffynhonnell: Nodyn Polisi Caffael 010 Caffael dur yng Nghytundebau’r llywodraeth
