Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Nodyn Polisi Caffael hwn yn cefnogi nodau llesiant Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol

Image
  • Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang
  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth

1. Pwyntiau i'w nodi

  • Nid yw'r wybodaeth yn y ddogfen hon yn gyngor cyfreithiol nac yn arweiniad statudol ac ni fwriedir iddi fod yn gynhwysfawr. Ni fwriedir ychwaith iddi fod yn drech na’r rhwymedigaethau cyfreithiol sydd ar Awdurdodau Contractio yn Sector Cyhoeddus Cymru ar hyn o bryd – dylai partïon contractio geisio eu cyngor cyfreithiol annibynnol eu hunain fel y bo'n briodol. Sylwer hefyd fod y gyfraith yn newid yn gyson ac y dylid ceisio cyngor mewn achosion unigol. Mae'r ddogfen hon yn adlewyrchu'r sefyllfa ym mis Mehefin 2023.
  • Mae'r Nodyn Polisi Caffael hwn yn adeiladu ar Ddatganiad Polisi Caffael Cymru a Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 ("PCR 2015") ac mae’n gydnaws â nhw. Nid yw Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2020, a oedd yn weithredol o 1 Ionawr 2021 ymlaen, wedi effeithio ar Reoliadau 2015.
  • elly, mae'r nodyn yn rhagdybio bod gan y darllenydd lefel benodol o wybodaeth am gaffael cyhoeddus. Mae ar gael drwy wefan Llywodraeth Cymru llyw.cymru a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at PolisiMasnachol@llyw.cymru neu drwy wasanaethau Llywodraeth Cymru i gwsmeriaid.

2. Diben

Bwriad y Nodyn Polisi Caffael hwn yw helpu prynwyr i ddefnyddio templedi Llywodraeth Cymru ar gyfer y Sector Cyhoeddus Caffael: Asesiadau Risg Cynaliadwyedd (SRA) ar gyfer Nwyddau a Gwasanaethau. Diben y SRA yw helpu prynwyr yn y sector cyhoeddus i:

  • Fodloni gofynion yr Egwyddor Datblygu Cynaliadwy yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015. Rhaid i gyrff sy'n dod o dan y Ddeddf “... weithredu mewn modd sy’n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.” (DLlCD 2015)
  • Gwneud y 5 Ffordd o Weithio a amlinellir yn y Ddeddf yn rhan annatod o’r broses cynllunio caffael a nodi pa allbynnau / ganlyniadau sy'n cyflawni’r saith Nod Llesiant yn y Ddeddf. Drwy ymgorffori'r 5 Ffordd o Weithio, mae templedi’r SRA yn helpu sefydliadau i wireddu’r Ddyletswydd Lles yn y Ddeddf ac i wneud y cyfraniad mwyaf posibl at sicrhau canlyniadau sy'n cefnogi pob un o'r saith nod llesiant.
  • Caffael mewn ffordd gynaliadwy, sef "y broses lle mae sefydliadau yn diwallu eu hanghenion o ran nwyddau, gwasanaethau, gwaith a chyfleustodau mewn ffordd sy’n sicrhau gwerth am arian ar sail oes gyfan a buddion i gymdeithas drwy greu canlyniadau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a llesiant diwylliannol.”
  • Sicrhau Gwerth am Arian, sef y cyfuniad gorau posibl o gostau oes gyfan o ran nid yn unig creu arbedion effeithlonrwydd a chanlyniadau o ansawdd da i'r sefydliad, ond hefyd i lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn awr ac yn y dyfodol.
  • Ystyried y gylchred oes wrth gaffael, sef ystyried pob agwedd ar y broses, o’r deunyddiau crai a ddefnyddir, y problemau sy'n codi wrth weithgynhyrchu, y defnydd a wneir o’r (cynhyrchion) / y gwasanaethau a ddarperir, tan yr adeg y roddir y gorau i’w defnyddio / y’u gwaredir / y caiff gwastraff ei greu.
Image
Ystyried y Gylchred Oes
Ystyried y Gylchred Oes
  • Deunyddiau crai (difrod amgylcheddol)
  • Gweithgynhyrchu (gwastraff a llygredd)
  • Cludiant (llygredd)
  • Gosod
  • Defnyddio (ailddefnyddio a addasu at ddibenion eraill)
  • Cynnal a chadw
  • Gwaredu (tirlenwi/adfer ynni a ailgylchu)

3. Cylchrediad a chwmpas

Cyhoeddwyd y Nodyn Caffael hwn er mwyn cynnig help llaw i’r holl gyrff yn sector cyhoeddus Cymru, gan gynnwys adrannau Llywodraeth Cymru, cyrff GIG Cymru, Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, yr awdurdodau lleol a'r sector cyhoeddus ehangach. Mae'r WPPN hwn yn ymdrin â chontractau am nwyddau a gwasanaethau, a gellir ei ddefnyddio hefyd ar gyfer prif elfennau contractau gwaith.

Gofynnir ichi gylchredeg y WPPN hwn ar draws eich sefydliad a’i anfon at sefydliadau perthnasol eraill yr ydych yn gyfrifol amdanynt ac, yn benodol, i’w ddwyn i sylw pobl sydd mewn rolau caffael, masnachol a chyllid.

Bydd y SRA yn dod yn rhan annatod o'r adnodd Blaenoriaethu Polisi sydd wrthi'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd yn rhan o'r Cynllun Gweithredu Digidol. Bydd y WPPN hwn yn cael ei ddiweddaru unwaith y bydd yr adnodd hwnnw wedi cael ei roi ar waith.

4. Y Cefndir

Mae SRA yn helpu prynwyr i nodi ac i reoli'r risgiau a'r cyfleoedd o ran cynaliadwyedd sy'n gysylltiedig â'r nwyddau neu'r gwasanaethau y maent yn eu caffael. Mae’r Asesiadau’n helpu i wneud hynny drwy sicrhau bod prynwyr yn gweithredu mewn ffordd sy’n gydnaws â'r Hierarchaeth Caffael Cynaliadwy a thrwy lywio’r camau sy’n rhan o’r cylch caffael.

Image
Yr hierarchaeth caffael cynaliadwy
Yr Hierarchaeth Caffael Cynaliadwy

Yr Hierarchaeth Caffael Cynaliadwy

  • Ailfeddwl am yr angen: dileu gwastraff yn y tarddle (Peidio â phrynu / prynu gwasanaeth yn lle cynnyrch)
  • Lleihau: defnyddio llai
  • Ailddefnyddio: gan y cwsmer neu'r cyflenwr / contractwr
  • Ailgylchu: Ailnegodi'r opsiynau gyda'r cyflenwr / contractwr
  • Adfer ynni
  • Diwedd oes
Image
Asesiadau risg cynaliadwyedd (SRA) yn ystod y cylch caffael

Asesiadau risg cynaliadwyedd (SRA) yn ystod y cylch caffael

SRA wedi'i gwblhau Cynllunio
Ar sail penderfyniadau a wnaed yn sgil y SRA Diffinio'r gofynion
Paratoi a hysbyebu'r tendr
Gwerthuso a dewis
Dyfarnu/dechrau'r contract
Rheoli'r contract
Yn dylanwadu ar gynlluniau/SRA yn y dyfodol Diwedd y contract/y gwersi a ddysgwyd

5. Arweiniad

Cynnal Asesiadau Risg Cynaliadwyedd

Gellir defnyddio'r asesiad beth bynnag yw gwerth y nwyddau a’r gwasanaethau sy’n cael eu caffael, a dylai’r asesiad lywio’r gwaith o ddatblygu’r strategaeth gaffael, y fanyleb, y cwestiynau tendro a phennu’r Dangosyddion Perfformiad Allweddol. Dylai fod yn ddogfen fyw sy'n sicrhau nad yw prynwyr yn colli golwg ar y risgiau a/neu'r cyfleoedd i sicrhau canlyniadau cynaliadwy drwy gydol y cylch caffael, gan fod yn ddogfen i gyfeirio ati wrth reoli contractau er mwyn sicrhau bod buddion disgwyliedig y contract yn cael eu gwireddu'n llawn.

Ym mhob achos, dylid sicrhau nad dim ond un unigolyn sy’n paratoi’r SRA. Dylai'r ymdrech a wneir arno fod yn gymesur â gwerth yr hyn sy’n cael ei gaffael, ac yn achos prosiectau mwy, dylai'r SRA fod yn ddogfen hanfodol sy'n cael ei berchenogi gan fwrdd y prosiect o dan  oruchwyliaeth Prif Berchennog Cyfrifol ac sy’n manteision ar yr arbenigedd sydd ei angen ar y sefydliad / sydd ar gael yn y sefydliad ei hun ac oddi wrth  asiantaethau allanol yn ôl yr angen.

Sylwer: i helpu prynwyr i lenwi’r SRA, cynhwyswyd nodiadau cyfarwyddyd yn yr adnodd ei hun ar ffurf 'sylwadau' mewn celloedd penodol sy’n cynnig arweiniad neu esboniad.

Mae 5 cam i’r broses o baratoi SRA (ymdrinnir â nhw mewn tabiau ar wahân yn yr adnodd):

Cam 1: Cofnodi manylion pennawd y contract

Dyma lle dylech nodi’r wybodaeth sylfaenol am hyd y lled y broses gaffael dan sylw. Dylai ategu’r asesiad o’r categori / farchnad a’r meini prawf ar gyfer dewis cyflenwyr, a dylai fod yn sail i’r strategaeth gaffael a sicrhau bod y camau a gymerir yn gymesur â gwerth a hyd y contract / cytundeb fframwaith. Er enghraifft, a fydd gwerth a hyd y contract yn rhoi digon o ddylanwad i'r awdurdod contractio dros y farchnad er mwyn iddo fedru dyfarnu ei gontract ei hun, neu a fyddai caffael mewn cydweithrediad ag eraill i gydgrynhoi'r galw ac i ddylanwadu drwy gytundeb fframwaith yn ffordd well o sicrhau gwerth am arian?

Yn unol â'r diffiniad o Gaffael Cynaliadwy, dylid ystyried mai ystyr  'gwerth am arian' yw'r cyfuniad gorau posibl o gostau oes gyfan o ran nid yn unig sicrhau arbedion effeithlonrwydd a chanlyniadau o ansawdd da i'r sefydliad, ond hefyd ganlyniadau sydd o fudd i gymdeithas, yr economi a'r amgylchedd, yn awr ac yn y dyfodol.

Cam 2: Cynllunio yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Dyma lle cofnodir sut yr aed ati i ystyried y 5 Ffordd o Weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, lle rhoddir crynodeb o ganlyniadau disgwyliedig y broses gaffael dan sylw, sut y bydd yn gwella llesiant Cymru, a sut y bwriedir adrodd am y canlyniadau neu’r buddion. Hefyd, yn ystod y cam hwn, atgoffir prynwyr y dylent, o gofio’r bygythiad sy’n gysylltiedig â’r newid yn yr hinsawdd a phwysigrwydd Sero Net (Sector Cyhoeddus Cymru yn Sero Net erbyn 2030 a’r DU yn Sero Net erbyn 2050), fynd ati ym mhob achos i ystyried datgarboneiddio a lliniaru effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.

Cam 3: Adolygiad o’r Galw

Eir ati yn ystod y cam hwn i herio'r angen ac i herio sut y bwriedir gweithredu, sef y camau cyntaf yn yr hierarchaeth caffael cynaliadwy. Ei nod yw ysgogi prynwyr i edrych o’r newydd ar y galw a ragwelir er mwyn osgoi ailbennu’r un gofynion ag o’r blaen a cholli cyfleoedd.

Cam 4: Effeithiau Allweddol yn ystod y Gylchred Oes

Mae'r adran hon yn edrych ar 4 cam sy’n rhan o’r 'gylchred oes' er mwyn helpu prynwyr i gael darlun cyflawn o'r cynnyrch(cynhyrchion) neu'r gwasanaeth(au) dan sylw.

Yn ystod y cam hwn, dim ond datblygu dealltwriaeth eang o'r cynnyrch(cynhyrchion) neu'r gwasanaeth(au) dan sylw a nodi'r prif broblemau y mae defnyddwyr y SRA:

  • A yw'r cynnyrch yn drwm ar ynni?
  • A yw’n creu gwastraff neu allyriadau?
  • A oes pryderon amgylcheddol amlwg?
  • A oes posibilrwydd o gamfanteisio ar y bobl dan sylw neu a fydd peryglon yn eu hwynebu?

Ar ôl ystyried sut i gynllunio’r broses gaffael ac edrych ar ei chyd-destun, eir ati yng Ngham 5, Asesu Risg a Chynllunio Gweithredu, i ymdrin â chamau i osgoi, i ddileu neu i reoli'r problemau hynny.

Cam 5: Asesu Risg a Chynllunio Gweithredu

Mae'r adran Cynllunio Gweithredu yn cynnig cyfres o faterion posibl sy’n gysylltiedig â chynaliadwyedd (amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd) y dylai prynwyr eu hystyried o ran pa mor berthnasol ydynt i’r broses gaffael dan sylw ac o ran rhoi sgôr i’r 'risg' sy'n gysylltiedig â'r materion hynny. Y cam cyntaf wrth ystyried pob un o’r materion hyn yw penderfynu a yw'n berthnasol ai peidio, gan gofnodi 'ydy', 'nac ydy' neu 'ansicr' yng ngholofn C y SRA. Os ydyw, dylid llenwi’r rhes yn y SRA. Os nad ydyw, dylid symud ymlaen i'r mater nesaf, ac os 'ansicr' yw’r ateb, dylid mynd ati i geisio eglurder yn ei gylch  e.e. drwy gyfeirio’r mater at gydweithwyr y gallai fod ganddynt rywfaint o wybodaeth neu arbenigedd perthnasol; chwilio ar y rhyngrwyd neu gyfeirio at asiantaethau cymorth arbenigol e.e. yr Ymddiriedolaeth Garbon, WRAP (Rhaglen Gweithredu'r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau), Llywodraeth Cymru etc. Er mwyn iddynt fod ar gael i gyfeirio atynt yn y dyfodol, rhowch fanylion byr am eich rhesymau dros ateb 'ydy', 'nac ydy' neu 'ansicr' yng ngholofn D yn y SRA. Os ydych wedi nodi nad ydych yn sicr, defnyddiwch golofn D i fanylu ar sut yr ydych yn bwriadu mynd ati i geisio eglurder am y mater.

Caiff risg ei mesur drwy asesu 'maint posibl / effaith bosibl' y risg a pha mor 'debygol'  ydyw. Ar ôl rhoi sgôr i'r risg bosibl / y cyfle posibl sy’n gysylltiedig â phob un o’r materion, mae'r SRA yn awgrymu’r camau lleiaf y gall prynwyr eu hystyried a hefyd pryd y gallant ‘wthio'r ffiniau’.

Maint

Maint yr effaith y bydd y nwyddau / cynhyrchion sydd o dan ystyriaeth yn ei chael dros oes y contract neu'r fframwaith, neu faint y budd a fydd yn deillio ohonynt. Dyma'ch asesiad goddrychol chi o 'faint' yr effaith neu’r budd sy’n gysylltiedig â’r mater allweddol. Dylech benderfynu a ddylid rhoi sgôr uchel, cymedrol neu isel i faint y risg drwy ystyried y materion a ganlyn:

  • am ba hyd y bydd yr effaith yn parhau (tymor byr, canolig, hirdymor)
  • pa mor bell y bydd yn effaith yn lledaenu neu pa mor bell y bydd ei dylanwad (lleol, rhanbarthol, cenedlaethol, byd-eang)
  • canran y rhanddeiliaid / y boblogaeth yr effeithir arnynt.

Tebygolrwydd

Dyma'ch asesiad goddrychol chi o ba mor debygol yw hi y bydd yr effaith sy'n gysylltiedig â'r nwyddau / cynhyrchion sydd o dan ystyriaeth yn cael ei gweld yn ystod oes y contract neu'r fframwaith dan sylw. Rhoddir sgôr uchel, ganolig neu isel i debygolrwydd:

  • Uchel – mae’n debygol iawn y bydd y mater dan sylw yn codi’n gyson neu y bydd disgwyl iddo ddigwydd yn rheolaidd iawn.
  • Cyfrwng – byddech yn disgwyl i'r mater dan sylw ddigwydd ar ryw adeg neu sawl gwaith neu’n ysbeidiol.
  • Isel – nid yw’r mater dan sylw yn debygol o ddigwydd neu efallai mai dim ond ambell waith y bydd yn gwneud hynny.

Wrth asesu, rhoddir sgôr o 3 phwynt ar gyfer Maint a Thebygolrwydd os yw’r risg yn uchel, sgôr o 2 bwynt os yw’n gymedrol / ganolig, a sgôr o 1 pwynt os yw’n isel. Mae’r sgorau’n cael eu cyfrifo a'u dangos yn y golofn Arwyddocâd (Sgôr Risg) ar ffurf rhif, a rhoddir cod lliw i’r gell hefyd: coch – ‘risg uchel', oren – 'risg gymedrol / ganolig neu ‘wyrdd’ – risg isel. Mae'r codau lliw o gymorth i flaenoriaethu’r camau gweithredu unwaith y bydd pob mater wedi cael ei ystyried.

Awgrymiadau am y camau lleiaf y dylid eu cymryd, awgrymiadau am bryd i 'wthio'r ffiniau', ac am bryd i weithredu

Mae pob rhes yn y SRA yn awgrymu rhai o’r camau gweithredu lleiaf y dylai prynwyr eu hystyried wrth bwyso a mesur pob 'mater', a hefyd pryd y dylent ystyried ‘wthio’r ffiniau’.  Mae lle yno hefyd i’r prynwyr fanylu ar yr adeg orau yn y cylch caffael i fynd i'r afael â'r camau hynny. Er enghraifft, gan ddibynnu ar gyd-destun y broses gaffael dan sylw, efallai y byddai'n fwyaf priodol defnyddio'r Fanyleb neu'r adran dethol Cyflenwr i bennu gofynion clir o ran ansawdd ac o ran pwy sy’n gymwys. Fodd bynnag, er mwyn gwneud hynny, byddai angen i’r prynwyr wybod yn union yr hyn y maen nhw ei eisiau o ran naill ai’r agweddau technegol / yr agweddau perfformiad, a gallu a chapasiti'r farchnad i gyflenwi’r nwyddau neu’r gwasanaethau. Pan fo marchnad yn un ansicr neu’n un gyfyngedig, efallai y gellir mynd i'r afael â hyn yn well yn ystod cam rheoli’r contract er mwyn sicrhau bod y cyflenwad yn cael ei sicrhau, a bod safonau neu ganlyniadau gwell yn cael eu sbarduno drwy drafod gwelliant parhaus neu weithio mewn ffordd arloesol, gan ategu hynny drwy ddrafftio cymalau priodol yn y contract.

Y Fanyleb

Ar yr amod nad ydych yn defnyddio manylebau i osgoi egwyddorion craidd cystadleuaeth deg, agored, tryloyw ac anwahaniaethol, manylebau yw’r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau cynaliadwyedd, oherwydd y bydd yn rhaid i unrhyw gynhyrchion neu wasanaethau sydd i'w cyflenwi o dan y contract fodloni'r safonau gofynnol o ran cynaliadwyedd. Wrth gwrs, mae'n bwysig profi manylebau ar y farchnad er mwyn sicrhau eu bod yn fforddiadwy a bod y farchnad yn gallu cwrdd â’r gofynion. Os nad yw'r farchnad yn barod ar gyfer eich uchelgais, yna gall cymalau yn y contract e.e. cymalau ynglŷn â gwelliant parhaus neu weithio mewn ffyrdd arloesol fodd yn ffordd i gyfiawnhau trafodaeth gyda'ch cyflenwyr / contractwyr er mwyn gwella’r hyn y byddant yn gallu’i gynnig  yn ystod y contract. Er y gallai'r trafodaethau hynny arwain at arbedion o ran cost, yr hyn y dylid rhoi’r prif sylw iddo yw gwella cynaliadwyedd y nwyddau neu'r gwasanaethau sy'n cael eu caffael e.e. asesiad carbon o’r cynhyrchion, llai o ddeunyddiau crai, a deunyddiau crai o ffynonellau mwy cynaliadwy, rheoli dulliau cludo wrth ddosbarthu, etc.

Dewis cyflenwyr

Mae’r cam hwn yn un hanfodol oherwydd dyma lle y gallwch bennu safonau ansawdd ac unrhyw feini prawf gofynnol y mae'n rhaid i gyflenwyr eu bodloni os ydynt yn dymuno gwneud cais am waith. O wneud hyn yn dda, dylai helpu darpar gynigwyr i weld yn gyflym a ydynt yn gallu neu’n dymuno cyflwyno tendr/cais.

Gwerthuso

Cam Gwerthuso’r Tendr yw'r cyfle i ofyn cwestiynau am faterion cynaliadwyedd sy'n gysylltiedig â'r contract ac i weld sut mae cynigwyr yn bwriadu rheoli'r materion hynny wrth gyflawni'r contract. Dylai’r pwysoliad cymharol a roddi i’r meini prawf cynaliadwyedd fod cyn uched â phosibl fel y bo modd gwahaniaethu rhwng cynigion, yn enwedig mewn marchnadoedd lle mae prisiau'n gystadleuol, a lle mae ansawdd yn cael ei safoni’n weddol neu’n cael ei reoleiddio'n dda.

Rheoli’r contract

Os nad yw contract yn cael ei reoli’n da, mae'r buddion a’r canlyniadau a ddisgwylir yn annhebygol o gael eu gwireddu. Gellir defnyddio'r cam hwn i nodi unrhyw gamau y gellid eu cymryd yn ystod oes y contract i annog y cyflenwr i fynd i'r afael ag agweddau lle mae risg o ran cynaliadwyedd ac i ddod o hyd i atebion arloesol. Dylid defnyddio mecanweithiau / dulliau adrodd i gasglu data rheoli yn gyson ac i olrhain y manteision a ragwelir, gan gynnwys allbynnau a chanlyniadau o ran cynaliadwyedd.

Dangosyddion Perfformiad Allweddol (DPA)

Ar ôl nodi’r risgiau a’r cyfleoedd penodol sy’n gysylltiedig â chynaliadwyedd, mae'n bwysig monitro’r buddion a rheoli'r risgiau drwy ddefnyddio Dangosyddion Perfformiad Allweddol. Gall DPA fod yn fwy defnyddiol na thargedau oherwydd eu bod yn nodi'n glir yr ymddygiadau allweddol sy’n ofynnol o ran perfformiad, heb eu bod o reidrwydd yn pennu terfynau. Gall targedau fod yn ddefnyddiol ond unwaith y bydd cyflenwyr wedi cyrraedd y targedau hynny, mae’n bosibl na fyddant yn cymryd camau pellach a allai fod wedi parhau i wella canlyniadau. Ar ôl pennu DPA a thargedau, mae'n hanfodol bod cleientiaid yn eu cynnwys yn y cyfarfodydd rheolaidd a gynhelir gyda’r cyflenwyr i reoli’r contract. Bydd hynny’n fodd i sicrhau bod cyflenwyr yn perchenogi’r materion ac y bydd yn ofynnol iddynt gyflwyno adroddiadau rheolaidd am y DPA/targedau. O wneud hynny, gellir sicrhau bod y materion o ran cynaliadwyedd a nodwyd ac a ymgorfforwyd yn y contract yn cael eu troi'n ganlyniadau go iawn. Bydd hefyd yn helpu i atal pryderon eraill sy’n gysylltiedig â chynaliadwyedd ac a fydd wedi’u nodi yn ystod y broses cynllunio caffael, rhag cael eu diraddio. Dylid defnyddio DPA i lywio contractau at y dyfodol ac i sicrhau bod yr holl fuddion sy'n deillio o gontract yn cael eu gwireddu, yn hytrach na dim ond y buddion hynny y mae’n hawdd rhoi gwerth ariannol arnynt.

6. Y camau y mae gofyn i Awdurdodau Contractio eu cymryd

Cynghorir awdurdodau contractio yn sector cyhoeddus Cymru i fabwysiadu'r Asesiadau Risg Cynaliadwyedd (SRA), ac i’w defnyddio wrth gynllunio ymarferion caffael.

7. Deddfwriaeth

  • Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
  • Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015

8. Amseru

Mae'r WPPN hwn yn weithredol o fis Mehefin 2023 ymlaen tan iddo gael ei ddisodli neu ei ganslo.

9. Perthnasedd Datganiad Polisi Caffael Cymru (WPPS)

Mae'r WPPN hwn yn cyd-fynd â'r Egwyddorion a ganlyn yn WPPS:

  • Egwyddor 3: Byddwn yn datblygu caffael cynaliadwy hirdymor, sy’n adeiladu ar arfer gorau ac yn ei raddio ac yn pennu camau clir sy’n dangos sut y mae caffael yn cefnogi y broses o gyflawni amcanion llesiant sefydliadol.
  • Egwyddor 6: Byddwn yn gweithredu i atal y pryderon cynyddol dros newid hinsawdd drwy flaenoriaethu lleihau carbon ac allyriadau sero drwy gaffael mwy cyfrifol a chynaliadwy er mwyn cyflawni ein huchelgais ar gyfer sector cyhoeddus sero net yng Nghymru ar erbyn 2030.

10. Gwybodaeth ychwanegol

Mae rhestr lawn o Nodiadau Polisi Caffael Cymru i’w gweld ar llyw.cymru.

11. Manylion cyswllt

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y WPPN hwn, mae croeso ichi gysylltu â swyddogion Polisi Masnachol – Polisi: Masnachol@llyw.cymru.

12. Cydnabyddiaeth

Cyfeiriwyd at y dogfennau isod wrth baratoi'r WPPN hwn: