Neidio i'r prif gynnwys

Mae’r Nodyn Polisi Caffael hwn yn cefnogi nodau llesiant Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol

Image
  • Cymru lewyrchus

Pwyntiau i’w nodi

  • Nodyn Polisi Caffael Cymru (WPPN) 018: Mae 'cyhoeddi hysbysiadau manylion contract ar gyfer contractau yn ôl y gofyn o dan drefniadau etifeddol', yn egluro'r hysbysiadau manylion contract a gyhoeddir mewn perthynas â chontractau yn ôl y gofyn sy'n deillio o fframweithiau neu systemau prynu deinamig a sefydlwyd o dan 'Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015' (PCR 2015).
  • Mae WPPN 018 yn cymryd lle WPPN '01/24: Tryloywder – cyhoeddi hysbysiadau dyfarnu contractau'
  • Dylid darllen unrhyw bolisi ar y cyd â’r canlynol:
    • Datganiad Polisi Caffael Cymru
    • Deddf Caffael 2023
    • Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024
    • Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023
    • Rheoliadau Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2026
  • Ni ddylid ei drin yn gyngor cyfreithiol ac ni fwriedir iddo fod yn gynhwysfawr – dylai partïon contractio ofyn am eu cyngor annibynnol eu hunain yn ôl y gofyn. Sylwer hefyd fod y gyfraith yn gallu newid ac y dylid ceisio cyngor ar wahân bob tro.
  • Mae’r nodyn yn tybio bod gan y darllenydd lefel benodol o wybodaeth am gaffael cyhoeddus. Mae ar gael drwy wefan Llywodraeth Cymru LLYW.CYMRU a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at PolisiMasnachol@llyw.cymru neu at wasanaethau i gwsmeriaid Llywodraeth Cymru.

Sylwch fod pob trothwy yn y WPPN hwn yn cynnwys TAW. Cofiwch mai dim ond ar nwyddau a gwasanaethau penodol y telir TAW.

1. Diben neu fater

1.1 Mae Deddf Caffael 2023 (y Ddeddf) yn ei gwneud yn ofynnol cyhoeddi hysbysiad manylion Contract ("CDN") pan fydd contract cyhoeddus yn cael ei lofnodi (adran 53 o'r Ddeddf). Bydd angen cyhoeddi CDN hefyd i gyd-fynd â chontractau hysbysadwy sydd o dan y trothwy (adran 87 o'r Ddeddf).

1.2 Mae'r ddeddfwriaeth gaffael newydd yn ymdrin yn unig â chontractau a ddyfernir o dan y drefn gaffael newydd o 24 Chwefror 2025. Nid oes gofyn i gontractau a ddyfarnwyd cyn hyn fodloni'r gofyn i gyhoeddi CDN. Mae'r nodyn polisi hwn yn crynhoi rhai o fanteision cyhoeddi CDN, gan gynnwys contractau nad ydynt yn ddarostyngedig i Ddeddf Caffael 2023 a rheoliadau cysylltiedig.

2. Cefndir

2.1 Gosododd Gweinidogion Cymru reoliadau ('Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024', paragraff 47(3)) o dan y Ddeddf sy'n newid gwerth y contract hysbysadwy o dan y trothwy i £30,000. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i Awdurdodau'r Llywodraeth Ganolog ("CGAs") ac Awdurdodau Is-ganolog y Llywodraeth ("SGAs") gyhoeddi CDN ar gyfer pob contract caffael sy'n werth mwy na £30,000.

2.2 Os ydych chi'n Awdurdod Contractio Cymreig (WCA) sy'n dyfarnu contract yn ôl y gofyn o dan drefniant caffael a gedwir yn ôl o dan Ddeddf Caffael 2023, (er enghraifft, fframwaith Gwasanaethau Masnachol y Goron), yna bydd angen i chi ddilyn rheoliadau Caffael Llywodraeth y DU. Mae hyn yn golygu y bydd angen i CGAs gyhoeddi CDN ar gyfer contract hysbysadwy sydd o dan y trothwy ag iddo werth bras o £12,000 a bydd angen i awdurdodau nad ydynt yn ganolog gyhoeddi CDN ar gyfer contract hysbysadwy sydd o dan y trothwy ag iddo werth bras o £30,000 fan leiaf (gweler adran 87(4) o'r Ddeddf).

2.3 Mae WCAs Cymru yn cael eu hatgoffa hefyd o'r ymrwymiad i hysbysebu contractau dros £30,000 fel a nodir yn Nodyn Polisi Caffael Cymru 013: Caffael sy’n gyfeillgar i fusnesau bach a chanolig.

3. Arweiniad

3.1 Mae cyhoeddi CDN yn ofyniad yn y Ddeddf i sicrhau tryloywder. O dan ddeddfwriaeth gaffael newydd Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (Deddf SPPP), unwaith y bydd CDN yn cael ei gyhoeddi ar blatfform digidol Cymru, caiff y wybodaeth ei chyhoeddi yn awtomatig ar y swyddogaeth "cofrestr contractau" ar y platfform os bydd y WCA wedi galluogi hynny. Bydd hyn yn gwneud yr holl gontractau y mae WCA wedi'u dyfarnu yn fwy tryloyw, gan ddarparu data megis math o gontract, cyflenwr, hyd contract ac ati.

3.2 Ceir rhagor o wybodaeth am y CDN yn y canllaw canlynol - Canllawiau Deddf Caffael 2023: hysbysiadau manylion contract.

3.3 Fodd bynnag, ar gyfer Fframweithiau a Systemau Prynu Dynamig a ddyfarnwyd cyn i'r drefn newydd ddod i rym, (yn yr achos hwn, PCR 2015), nid oes gofyn cyfreithiol i gyhoeddi CDN ar gyfer contract yn ôl y gofyn.

3.4 Mae hyn yn golygu nad oes cofnod llawn a chywir o gontractau dros £30,000 a ddyfarnwyd.

3.5 Er mwyn cael data mwy cywir, argymhellir bod WCAs yn cyhoeddi CDN ar gyfer contractau yn ôl y gofyn o dan gytundeb Fframweithiau a Systemau Prynu Dynamig a ddyfarnwyd o dan yr hen drefn (os nad ydynt eisoes yn gwneud hynny).

3.6 Pan na ellir cyhoeddi CDN am nad yw'r cyflenwr wedi'i gofrestru ar y Platfform Digidol Canolog ac felly nid oes ganddo'r rhif adnabod unigryw sydd ei angen i gwblhau'r hysbysiad, dylai WCAs yn hytrach gyhoeddi 'hysbysiad dyfarnu safle' ar GwerthwchiGymru. Bydd hyn yn sicrhau tryloywder o ran contractau yn ôl y gofyn a ddyfernir o dan drefniadau etifeddol lle na ellir bodloni'r gofynion technegol i gyhoeddi CDN. Er eglurder, gellir cyhoeddi CDN ar wahân hefyd, er enghraifft, mewn perthynas â chontract yn ôl y gofyn trwy drefniant fframwaith.

3.7 Bydd hyn yn sicrhau bod yr holl ddata yn cael ei roi yn y gofrestr gontractau ar GwerthwchiGymru, drwy CDNs (neu hysbysiad dyfarnu safle) sydd wedi'u cyhoeddi. Byddai hynny'n bodloni gofynion y gofrestr contractau o dan Ddeddf SPPP ac yn sicrhau bod nifer (a gwerth) y contractau hysbysadwy sydd o dan y trothwy ac a ddyfernir gan WCAs yn gywirach, a lle bo’r rheini wedi'u dyfarnu i gyflenwyr yng Nghymru a/neu fusnesau bach a chanolig yng Nghymru.

4. Gweithredoedd sydd eu hangen gan Awdurdodau Contractio

4.1 Dylai WCAs ddarllen y nodyn polisi hwn i ddeall y bwlch data sy'n deillio o gyflwyno'r drefn newydd ac ystyried mabwysiadu'r canllawiau i wella tryloywder, ac i'w helpu i gydymffurfio â gofyniad y 'Gofrestr Contractau' yn y Ddeddf SPPP.

5. Dosbarthiad a chwmpas

5.1 Cyhoeddwyd yr WPPN hwn i gynorthwyo pob WCA, gan gynnwys adrannau Llywodraeth Cymru, cyrff GIG Cymru, Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a'r sector cyhoeddus ehangach.

5.2 Mae’r WPPN hwn yn ymdrin â chontractau nwyddau, gwasanaeth a gwaith sy’n cael eu darparu yng Nghymru.

5.3 Dylech rannu'r WPPN hwn â'ch sefydliad cyfan ac â sefydliadau perthnasol eraill yr ydych yn gyfrifol amdanynt, gan dynnu sylw'r rhai sy'n gweithio mewn rolau caffael, masnachol a chyllid ato.

6. Deddfwriaeth

Yn cynnwys y canlynol ymhlith eraill:

  • Deddf Caffael 2023
  • Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
  • Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023
  • Rheoliadau a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023

7. Perthnasedd Datganiad Polisi Caffael Cymru (WPPS)

7.1 Mae'r Nodyn Polisi Caffael Cymru hwn yn cyd-fynd ag Egwyddorion Canlynol Datganiad Polisi Caffael Cymru:

Egwyddor 2

Byddwn yn rhoi caffael yn ganolog i waith datblygu a gweithredu polisi yng Nghymru.

Egwyddor 9

Byddwn yn integreiddio ein hatebion a'n cymwysiadau digidol yn well, a gwella profiad defnyddwyr ohonynt gan sicrhau bod cymaint o'n data caffael yn cael ei ddefnyddio i gefnogi penderfyniadau â phosib.

8. Gwybodaeth ychwanegol

8.1 Mae'r WPPN hwn yn cefnogi’r Strategaeth Ddigidol i Gymru.

  • Cenhadaeth 4: yr economi ddigidol - Mae arferion a pholisïau caffael yn cefnogi arloesedd a ffyniant economaidd, gan ganiatáu i fusnesau yng Nghymru ffynnu a chefnogwn y sector cyhoeddus i weithio gyda marchnad o gwmnïau ymatebol.
  • Cenhadaeth 6: data a chydweithio - Mae data’r sector cyhoeddus ar gael ac yn cael ei gyhoeddi’n agored, lle bo hynny’n briodol (hynny yw, nid data personol), mewn fformatau sy’n cefnogi tryloywder, ailddefnyddio ac atebolrwydd.

8.2 Darllenwch y canllawiau sydd ar gael ar dudalen we Canllawiau Deddf Caffael 2023, i gael rhagor o wybodaeth – yn enwedig am y canllawiau ar "Hysbysiadau manylion contract", "contractau o dan y trothwy " a "Llwyfan Digidol Cymru (Gwerthwch2Cymru)". Mae'r dudalen we ganlynol hefyd yn cynnig dolenni i reoliadau perthnasol a gyhoeddwyd o dan Deddf Caffael 2023.

8.3 Darllenwch hefyd y dudalen we ganlynol i gael rhagor o wybodaeth, canllawiau a rheoliadau a gyhoeddir o dan Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, yn benodol 'Canllawiau statudol: cofrestr contractau': Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru).

9. Manylion cyswllt

9.1 Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Nodyn Polisi Caffael Cymru hwn, cysylltwch â:

PolisiMasnachol@llyw.cymru / CommercialPolicy@gov.wales