Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Nodyn Polisi Caffael hwn yn cefnogi nodau llesiant Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol

Image
  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru sy’n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

1. Pwyntiau i’w nodi

  • Nid yw'r wybodaeth a amlinellir yn y ddogfen hon yn gyngor cyfreithiol ac ni fwriedir iddi fod yn hollgynhwysol – dylai partïon sy'n contractio geisio eu cyngor annibynnol eu hunain fel sy’n briodol. Noder hefyd fod y gyfraith yn newid yn gyson a dylid ceisio cyngor ar gyfer achosion unigol. Mae'r ddogfen hon yn adlewyrchu'r sefyllfa ym mis Chwefror 2021.
  • Nid yw Offeryn Statudol (OS) y DU Rhif 1319, Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2020, a ddaeth i rym ar 1 Ionawr, yn effeithio o hyd ar ddarpariaethau Rheoliad 20 a 77. Mae'r OS yn cywiro diffygion sy'n deillio o’r DU yn gadael yr UE ac yn gweithredu'r agweddau perthnasol ar y Cytundeb Ymadael rhwng y DU a’r UE.
  • Mae’r Nodyn Polisi Caffael Cymru (WPPN) hwn wedi'i ddrafftio'n bennaf ar gyfer swyddogion y sector cyhoeddus mewn swyddi caffael, masnachol a chyllid, felly, mae'n cymryd lefel benodol o wybodaeth am gaffael cyhoeddus yn ganiataol.
  • Mae'r nodyn hwn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru llyw.cymru a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at CommercialPolicy@llyw.cymru neu drwy bwynt cyswllt cyntaf Gwasanaethau Cwsmeriaid Llywodraeth Cymru yn Cysylltu â Llywodraeth Cymru.

2. Diben

Mae Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 (OS 2015 / 102) yn cynnwys dwy ddarpariaeth ar gyfer neilltuo contractau, sef rheoliad 20 a Rheoliad 77, sydd â’r nod o helpu awdurdodau contractio i fynd i’r afael â nodau cynhwysiant cymdeithasol.

Bwriad y WPPN hwn yw hyrwyddo cyfleoedd i ddefnyddio’r ddwy ddarpariaeth ar gyfer neilltuo contractau yn Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015, a darparu canllawiau i gyrff sector cyhoeddus Cymru eu hystyried pan fyddant yn defnyddio’r darpariaethau hyn.

3. Canllawiau

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gall caffael cyhoeddus ysgogi manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol a chefnogi swyddi a thwf, drwy ddarparu mecanweithiau sy'n caniatáu i gyflenwyr o bob maint ffynnu, yn hyrwyddo Cymru fel lle da i wneud busnes ac yn sicrhau cyfleoedd i bawb sy'n gwneud Cymru yn lle da i fyw ynddo. Mae hyn yn golygu, yn ogystal ag ystyried costau uniongyrchol contractau, y dylid hefyd ystyried y gwerth cymdeithasol/manteision cymunedol ehangach y gallai cyrff cyhoeddus eu sicrhau drwy ddylanwad eu gwariant.

Mae neilltuo contract o dan naill ai Rheoliad 20 neu Reoliad 77 yn caniatáu i awdurdodau contractio neilltuo contractau ar gyfer busnesau sydd â diben cymdeithasol. Dim ond y busnesau hynny sy'n bodloni'r meini prawf perthnasol a all dendro. Mae hyn yn gwarantu contractau a fydd yn sicrhau gwerth cymdeithasol ynghyd â nwyddau neu wasanaethau sy’n rhoi gwerth am arian.

3.1 Neilltuo Contractau o dan Reoliad 20

Mae Rheoliad 20 yn galluogi awdurodau contractio i gefnogi cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth a hyfforddiant i bobl anabl neu bobl o dan anfantais drwy wneud y canlynol:

  • Galluogi neilltuo gweithdrefnau dyfarnu contract i weithdai cyflogaeth warchodol (a elwir yn aml yn fusnesau cyflogaeth gefnogol yn y DU) a gweithredwyr economaidd mai eu prif nod yw integreiddio pobl anabl neu bobl sydd dan anfantais yn broffesiynol, neu
  • Sicrhau bod contractau o’r fath yn cael eu gweithredu yng nghyd-destun rhaglenni cyflogaeth warchodol
  • Pennu amod bod o leiaf 30% o gyflogeion y gweithdai, y gweithredwyr economaidd neu’r rhaglenni hynny yn weithwyr anabl neu weithwyr sydd dan anfantais. Mae Atodiad 2 yn rhoi rhagor o ganllawiau manylach ar y mater hwn.

3.2 Neilltuo contractau ar gyfer gwasanaethau penodol o dan Reoliad 77

Mae rheoliad 77 yn caniatáu neilltuo contractau ar gyfer rhai gwasanaethau i sefydliadau sydd â chenhadaeth gwasanaeth cyhoeddus sy'n canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau cymdeithasol, iechyd ac addysgol hanfodol penodol, ar yr amod nad yw'r contract yn para am fwy na thair blynedd ac nad yw'r awdurdod contractio wedi dyfarnu contract tebyg i'r sefydliad hwnnw yn ystod y tair blynedd flaenorol. Mae Atodiad 3 yn rhoi canllawiau manylach ar y mater hwn.

3.3 Manteision neilltuo contractau

3.3.1 Sicrhau gwerth am arian

Dylid cofio bod busnesau cyflogaeth gefnogol sy'n gymwys i wneud cais am gontractau neilltuol o dan Reoliad 20 a'r busnesau cymdeithasol hynny sy'n gymwys i dendro am gontractau o dan Reoliad 77, fel unrhyw fusnes arall, yn gweithredu mewn marchnadoedd cystadleuol, yn gwerthu eu nwyddau a'u gwasanaethau i ddefnyddwyr, y sector cyhoeddus ac i fusnesau eraill. Ni ddylid tybio y nad ydynt yn gystadleuol neu'n methu â bodloni gofynion o ran ansawdd neu ddarparu gwasanaethau. O ganlyniad, nid yw 'neilltuo’ contract yn golygu y dylai manylebau na’r meini prawf ar gyfer dewis contractwyr neu ddyfarnu contract gael eu 'llacio' o’u cymharu â’r rhai a fyddai'n cael eu defnyddio i sicrhau bod gofynion yr awdurdod contractio yn cael eu bodloni mewn cystadleuaeth agored.

Byddai trafod â’r farchnad ymlaen llaw, gan ddefnyddio darpariaethau Rheoliad 40 o Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015, yn debygol o roi sicrwydd ychwanegol ynghylch gwerth am arian cyn dechrau’r weithdrefn gaffael ar gyfer contract neilltuol. Gallai hyn gynnwys ceisio cyngor gan arbenigwyr annibynnol neu gyfranogwyr y farchnad, gan gynnwys, lle y bo'n berthnasol, fusnesau cyflogaeth gefnogol eu hunain.

Os yw marchnad sefydliadau cyflogaeth gefnogol sy’n gymwys o dan Reoliad 20 neu'r sefydliadau hynny sy'n gymwys i gymryd rhan o dan Reoliad 77 yn fach, efallai y bydd awdurdodau contractio am feincnodi cynigion llwyddiannus yn erbyn y farchnad agored. Fodd bynnag, dylid nodi na ddylid cyfyngu ymarfer o'r fath i gymhariaeth seml o brisiau, ond dylid cynnwys y manteision economaidd-gymdeithasol neu amgylcheddol ehangach y mae busnesau o'r fath yn eu cynnig. Efallai y bydd angen mân ddiwygiadau i Reolau Sefydlog a Chyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog er mwyn caniatáu neilltuo contract, neu fesurau eraill wedi’u cynllunio i wella cyfranogiad sefydliadau cyflogaeth gefnogol neu sefydliadau cymwys sy'n bodloni'r gofynion cymhwysedd i dendro am gontractau neilltuol o dan Reoliad 77.

Fel gyda phob contract, ar ôl iddo gael ei ddyfarnu a bod ar waith am gyfnod, gall awdurdodau contractio asesu perfformiad y contract neilltuol. Yn ystod y broses hon, gall awdurdodau contractio archwilio'r canlyniadau gwirioneddol, y ffordd mae’r broses gaffael yn cael ei chyflawni yn erbyn y disgwyliadau, ac i ba raddau y rhoddir gwerth am arian.

Lle mae contractau neilltuol wedi cael eu defnyddio ac wedi rhoi gwerth am arian, dylid defnyddio'r profiadau a'r manteision cadarnhaol hyn i hyrwyddo'r defnydd o Reoliad 20 neu Reoliad 77.

3.3.2 Manteision ychwanegol neilltuo contractau

Mae’n cyfrannu at amcanion eich sefydliad eich hun i gyflawni yn erbyn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Gellir defnyddio neilltuo contractau i gyflawni’r Nodau Llesiant i sicrhau Cymru fwy ffyniannus a chyfartal, iachach a mwy cydnerth, ac ynddi gymunedau mwy cydlynus.

  • Galluogi mynediad gwell at gyfleoedd cyflogaeth ar gyfer anabl neu bobl sydd dan anfantais
  • Cynyddu amrywiaeth cyflenwyr y sector cyhoeddus i helpu i ddarparu nwyddau a gwasanaethau cyhoeddus gwell sy'n diwallu anghenion y rhai sy'n eu defnyddio, drwy fanteisio ar y gronfa ehangach o dalent a sgiliau sydd ar gael mewn gweithlu nad yw’n cael ei ddefnyddio'n llawer ar hyn o bryd, h.y. gweithwyr sydd dan anfantais sy'n wynebu rhwystrau i ymuno â'r farchnad lafur
  • Cyfrannu at ragor o cynhwysiant cymunedol a sicrhau bod pobl anabl yn cymryd rhan yn y farchnad lafar a’u cymunedau.

4. Gwybodaeth ychwanegol

Mae canllawiau manwl ar ddefnyddio Rheoliad 20 a Rheoliad 77 yn cael eu hamlinellu yn Atodiadau 2 a 3 yn y drefn honno. Mae atodiad 4 yn amlinellu ffyrdd eraill o weithio gyda sefydliadau eraill sy’n gymwys o dan Reoliad 20 a Rheoliad 77. 

5. Amseru

Mae’r nodyn hwn yn effeithiol o’r dyddiad cyhoeddi nes iddo gael ei ddisodli neu ei ganslo.

6. Dosbarthiad a chwmpas

Mae'r WPPN hwn yn uniongyrchol berthnasol i bob corff yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, a dylid ei ddosbarthu (er gwybodaeth) o fewn eich sefydliad, gan sicrhau yn enwedig fod y rhai sydd â rôl gomisiynu, cynllunio caffael neu reoli contractau yn derbyn copi.

7. Y camau mae angen i Awdurdodau Contractio eu cymryd

Dylai pob awdurdod contractio ystyried manteision posibl neilltuo contractau o dan ddarpariaethau Rheoliad 20 neu Reoliad 77 o Reoliadau Contractau Cyhoeddus, boed yn gyfan gwbl neu'n rhannol, fel rhan o'u gweithdrefnau cynllunio caffael. Mae Atodiad 4 yn amlinellu ffyrdd eraill o weithiau gyda sefydliadau sy’n gymwys o dan Reoliad 20 a Rheoliad 77, e.e. neilltuo lotiau o fewn contract neu fframwaith, neu nwyddau neu wasanaethau penodol, neu neilltuo canran o'r contract neu’r lot gyfan.

8. Perthnasedd Datganiad Polisi Caffael Cymru (DPCC)

Mae defnyddio Rheoliad 20 a Rheoliad 77 yn cyd-fynd â gweledigaeth DPCC 2021 ar gyfer Caffael yng Nghymru sy’n hwyluso newid ac yn datblygu gweithgareddau masnachol a fydd yn meithrin marchnadoedd cyflenwi bywiog yng Nghymru, ac yn hyrwyddo caffael sy’n seiliedig ar werth ac yn sicrhau’r canlyniadau hirdymor gorau posibl i Gymru (DPCC 2021, Egwyddor 10).

9. Deddfwriaeth

Mae'r dull hwn ar gyfer caffael yn ategu'r nod o sicrhau gwerth am arian, ac yn ceisio helpu awdurdodau contractio sy'n ddarostyngedig i Ddeddf Llesiant Genedlaethau’r Dyfodol i ddangos sut mae eu prosesau a'u canlyniadau caffael yn cyfrannu at amcanion y Ddeddf honno. Mae defnyddio Rheoliad 77 hefyd yn ategu camau sy'n ofynnol o dan adran 16 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Gellir defnyddio'r dull hwn ar y cyd ag amcanion gwerth cymdeithasol/manteision cymunedol awdurdodau contractio o dan Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015.

10. Manylion cyswllt

11. Cydnabyddiaeth

Mae Gwerth Cymru yn cydnabod ei fod wedi pwyso ar y cyhoeddiadau a’r sefydliadau canlynol (rhoddir dolenni lle bo hynny’n briodol):

Atodiad 1: Sicrhau mai prif nod darpar gynigwyr yw integreiddio gweithwyr anabl neu weithwyr sydd dan anfantais yn broffesiynol

Cwestiwn Cyn-gymhwyso/Dewis Cyflenwyr

“Er mwyn bod yn gymwys i gymryd rhan yn y tendr hwn, rhaid ichi ddangos mai prif nod eich sefydliad yw integreiddio pobl anabl neu bobl sydd dan anfantais yn gymdeithasol ac yn broffesiynol. Felly, cadarnhewch mai dyma brif nod eich sefydliad a chyflwyno copi o ddogfennau cyfansoddiadol neu sylfaenu eich sefydliad (neu ddolen i'r dogfennau hynny).

Cwestiwn LLWYDDO/METHU yw hwn. Os na allwch gadarnhau mai prif nod eich sefydliad yw integreiddio pobl anabl neu bobl sydd dan anfantais yn gymdeithasol ac yn broffesiynol, drwy eich dogfennau cyfansoddiadol neu sefydlu, ni fyddwch yn gymwys i gymryd rhan yn y tendr hwn.

Canllawiau

Drwy ‘ddogfennau cyfansoddiadol neu sylfaenu’ rydym yn golygu'r memorandwm ac erthyglau (os ydych yn sefydliad corfforedig ), amcanion elusennol (os ydych yn elusen), cytundeb aelodau neu ymddiriedolwyr, neu ddogfen gyfreithiol debyg. Ni fydd datganiad cenhadaeth neu bolisi yn unig yn ddigonol, oni bai ei fod wedi'i ategu gan dystiolaeth arall fel penderfyniad, cynllun busnes neu ddogfen debyg, ynghyd ag esboniad o (a) pam nad yw'r prif nod (h.y. integreiddio pobl anabl neu bobl sydd dan anfantais yn gymdeithasol ac yn broffesiynol) wedi'i nodi yn y dogfennau cyfansoddiadol neu sefydlu (e.e. newid newydd neu barhaus i’r sefydliad neu fusnes); a (b) pa gamau yr ydych yn eu cymryd i sicrhau bod hyn yn cael ei wneud a'r amserlen a ragwelir.”

Cwestiwn tendro (Datganiad Dull)

Disgrifiwch yr hyn mae eich sefydliad yn ei wneud neu'n bwriadu ei wneud i integreiddio pobl anabl neu bobl sydd dan anfantais yn gymdeithasol a/neu'n broffesiynol. Dylai eich ateb gael ei ategu, os oes modd, gan dystiolaeth ddogfennol fel cynlluniau hyfforddi/datblygu, amlinelliadau o gyrsiau; deunyddiau hyfforddi neu ddogfennau tebyg.

Uchafswm cyfrif geiriau (heb gynnwys atodiadau): [Ffigur]

Canllawiau

Mae angen inni weld tystiolaeth mai prif nod eich sefydliad yw integreiddio pobl anabl neu bobl sydd dan anfantais yn gymdeithasol ac yn broffesiynol. Felly, mae angen ichi cyflwyno tystiolaeth o ddull strwythuredig o fewn eich sefydliad o hyrwyddo neu gyflawni integreiddio o'r fath. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys:

  • Cyfleoedd strwythuredig i fagu hyder / datblygu hunan-fri, datblygu sgiliau rhyngweithio cymdeithasol, ac ati
  • Darparu hyfforddiant naill ai'n uniongyrchol neu wedi'i hwyluso (e.e. drwy ryddhau diwrnod i gyflogeion fynychu coleg lleol neu gynllun NVQ yn y swydd)
  • Cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant strwythuredig wedi'u hanelu at gynyddu sgiliau pobl anabl neu bobl sydd dan anfantais ar gyfer cyflogaeth
  • Helpu pobl anabl neu bobl sydd dan anfantais i symud i gyflogaeth brif ffrwd, er mwyn rhoi cyfleoedd iddynt ddatblygu eu gyrfa.

Noder: enghreifftiau yn unig yw'r uchod ac ni fwriedir iddynt gyfyngu ar y mathau o integreiddio y gellir eu darparu.

Atodiad 2: Canllawiau Rheoliad 20

Rheoliad 20 o Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 – ‘Contractau neilltuol’

Mae Rheoliad 20 wedi'i gynllunio i gefnogi cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant i bobl anabl neu bobl sydd dan anfantais. Mae'n bwysig nodi, er bod y Rheoliad yn cyfeirio at ‘weithdai cyflogaeth warchodol’, ac y cyfeirir atynt fel ffatrïoedd, busnesau neu raglenni cyflogaeth gefnogol yn y DU, nad oes angen i sefydliad gyfeirio ato'i hun fel sefydliad cyflogaeth warchodol neu gyflogaeth gefnogol, neu iddo fod yn elusen, cwmni buddiant cymunedol neu fenter gymdeithasol (er bod llawer o sefydliadau o'r fath yn debygol o fod), neu sefydliad sy’n derbyn cyllid gan y Llywodraeth neu rywle arall.

Mae Rheoliad 20 yn darparu y caiff awdurdodau contractio wneud y canlynol:

  1. Neilltuo’r hawl i gymryd rhan mewn gweithdrefnau caffael cyhoeddus i weithdai cyflogaeth warchodol (y cyfeirir atynt fel ffatrïoedd a busnesau cyflogaeth gefnogol yn y DU) a gweithredwyr economaidd mai eu prif nod yw integreiddio pobl anabl neu bobl sydd dan anfantais yn gymdeithasol ac yn broffesiynol.
  2. Darparu ar gyfer cyflawni contractau o'r fath yng nghyd-destun rhaglenni cyflogaeth warchodol, ar yr amod bod o leiaf 30% o gyflogeion y gweithdai, y gweithredwyr economaidd neu’r rhaglenni hynny yn weithwyr anabl neu weithwyr sydd dan anfantais.

    Mewn achosion o'r fath, bydd yr alwad i gystadlu yn cyfeirio at Reoliad 20 o Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015. Gellir defnyddio rheoliad 20 ar gyfer contractau sy'n uwch na'r trothwy gwerth perthnasol a'r rhai sy’n is, na chaiff ond busnesau cyflogaeth gefnogol dendro amdanynt.

7.1 Gwirio cymhwysedd sefydliadau sy’n tendro am gontractau neilltuol o dan Reoliad 20

Gan nad yw Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 yn dweud sut y gallai gweithdy cyflogaeth warchodol neu weithredwr economaidd ddangos mai ‘ei brif nod yw integreiddio pobl anabl neu bobl sydd dan anfantais yn gymdeithasol ac yn broffesiynol’, neu sut y gallai gweithdy cyflogaeth warchodol neu weithredwr economaidd ddangos ei fod yn bodloni'r trothwy o 30% o gyflogeion sydd naill ai'n anabl neu dan anfantais arall, mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi canllawiau ar y materion canlynol i gynorthwyo awdurdodau contractio yng Nghymru wrth neilltuo contractau o dan Reoliad 20.

Y tri phrif beth i’w hystyried yw:

7.1.1 Dangos prif ‘nod sefydliad'

Sut y gallai gweithdy cyflogaeth gefnogol neu weithredwr economaidd ddangos, mewn modd gwrthrychol ac mewn ffordd y gallai awdurdodau contractio ei gwirio, mai ei ‘brif nod’ yw "integreiddio pobl anabl neu bobl sydd dan anfantais yn gymdeithasol ac yn broffesiynol’?

“Dylid ystyried mai ystyr “prif nod” yw’r unig ddiben neu’r brif ddiben y cafodd y sefydliad ei sefydlu ar ei gyfer. Felly, ni ddylai gynnwys sefydliadau sy'n cyflawni gweithgareddau nad integreiddio pobl anabl a phobl sydd dan anfantais yw eu hunig neu eu prif ddiben, ac nad dyna brif ddiben y sefydliad, na'r rhai nad ydynt ond wedi cynnwys y nod hwn yn eu hamcanion yn ddiweddar, oni bai eu bod yn sefydliad newydd a sefydlwyd er mwyn helpu pobl anabl a phobl dan anfantais, neu sydd wedi newid eu swyddogaeth yn ddiweddar. 

Gallai profion neu fesurau y gellid eu defnyddio i wirio beth yw ‘prif nod’ sefydliad gynnwys:

  • A yw’r nod o helpu pobl anabl/pobl sydd dan anfantais i integreiddio yn gymdeithasol ac yn broffesiynol yn cael ei amlinellu yn nogfennau cyfansoddiadol y sefydliad o dan sylw, er enghraifft:
    • Memorandwm ac erthyglau (os yw'n gwmni)
    • Amcanion elusennol (os yw’n elusen)
    • Cytundeb aelodaeth neu ddogfen debyg (os yw’n bartneriaeth neu gorff anghorfforedig)

Ni fyddai datganiad cenhadaeth neu ei debyg, er enghraifft ar wefan, yn ddigonol oni bai ei fod wedi'i ategu gan dystiolaeth megis penderfyniad aelodau, cynllun busnes neu rywbeth tebyg sy'n dangos bod y sefydliad wedi mabwysiadu’r nod hwn fel ei brif nod mewn gwirionedd, ynghyd ag esboniad pam nad yw hyn yn cael ei nodi yn y dogfennau cyfansoddiadol a pha gamau y mae'r sefydliad yn eu cymryd i'w sefydlu fel ei brif nod.

Gallai awdurdodau contractio hefyd gynnal eu hymchwil eu hunain i gadarnhau'r wybodaeth a dderbyniwyd.

Mae Atodiad 1 yn rhoi cwestiynau enghreifftiol y gellir eu defnyddio yn yr holiadur cyn-gymhwyso / y cam dethol cyflenwyr i helpu awdurdodau contractio i gadarnhau prif ddiben y sefydliad a sut mae sefydliadau'n rheoli’r gwaith o integreiddio gweithwyr anabl a gweithwyr sydd dan anfantais yn gymdeithasol ac yn broffesiynol.

7.1.2 Dangos dull y sefydliad ar gyfer ‘Integreiddio’n gymdeithasol ac yn broffesiynol’

Sut y gellid diffinio a dangos dull y sefydliad ar gyfer ‘Integreiddio’n gymdeithasol ac yn broffesiynol’ er mwyn caniatáu gwerthuso gwrthrychol?

Mae hyn yn rhan o'r prawf "prif nod" uchod a bwriedir iddo fod yn eithaf helaeth a hyblyg. Mae darparu tystiolaeth o'r hyn y mae'r sefydliad yn ei wneud (neu'n bwriadu ei wneud, yn achos sefydliad newydd) yn rhan o brofi mai dyma yw eu "prif nod". Os yw integreiddio’n gymdeithasol a/neu yn broffesiynol yn rhan o "brif nod" y sefydliad, yna byddai i’w gweld yn rhesymol y dylent allu amlinellu naill ai grynodeb o'r hyn y maent yn ei wneud, neu atodi cynlluniau sy'n dangos yr hyn maent yn ei wneud, i helpu gweithwyr anabl neu weithwyr sydd fan anfantais i integreiddio. Er mwyn peidio â rhoi gormod o faich ar sefydliadau llai, gwirfoddol ac er mwyn peidio â chyfyngu ar y mathau o weithgareddau a allai ddod o dan y pennawd hwn, ni ddylai'r gofyniad fod yn rhy ragnodol ynglŷn â'r math o weithgaredd. Yr hyn sy'n bwysig yw bod tystiolaeth o ddull strwythuredig gwirioneddol o sicrhau integreiddio cymdeithasol ar ryw ffurf neu'i gilydd.

O ystyried mai diben Rheoliad 20 yw helpu sefydliadau mai eu prif nod yw ‘integreiddio gweithwyr anabl neu weithwyr sydd dan anfantais yn gymdeithasol ac yn broffesiynol’, efallai y bydd awdurdodau contractio am ddehongli'r ddarpariaeth hon fel nad oes angen dangos integreiddio cymdeithasol yn ogystal ag integreiddio proffesiynol, na’u dangos ar wahân. O ganlyniad, gellir ymdrin â’r math o integreiddio cymdeithasol a phroffesiynol y mae'r sefydliad yn ceisio'i gyflawni fel ei brif nod mewn modd agored, ac nid oes angen ei gwneud yn ofynnol iddynt ddangos y ddwy elfen ar wahân.

7.1.3 Dangos bod 30% o’r gweithlu yn anabl neu dan anfantais

7.1.3.1 Yn y cam dewis cyflenwr / cyn-gymhwyso

Sut y gellid dangos tystiolaeth bod y trothwy o 30% wedi’i fodloni mewn modd y gellir ei wirio yn y cam dewis cyflenwr / cyn-gymhwyso, i sicrhau mai dim ond cynigwyr cymwys a all symud ymlaen i’r cam tendro?

  • Dylai fod yn ofynnol i gynigwyr hunanardystio yn ystod y cam cymhwyso, a 
  • Dylai’r awdurdod contractio gadw’r hawl i’w gwneud yn ofynnol i’r cynigydd gyflwyno gwybodaeth fanylach, neu
  • I gynnal rhai gwiriadau, gan gynnwys archwiliadau o’r safle, i gadarnhau bod y cynigydd yn gymwys i gael ei wahodd i dendro am y contract neu i gael y contract.

Dylid nodi'n benodol hefyd yn y dogfennau tendro ac yn nhelerau ac amodau'r contract y gellir canslo’r contract ar unwaith heb iawndal os gwelir bod y cynigydd wedi gwneud datganiad ffug.

Diben y gwiriad yw sicrhau bod y cynigydd yn bodloni'r gofynion a nodir yn Rheoliad 20, ac felly, nid yw’r dystiolaeth y caiff awdurdod contractio ofyn amdani yn cael ei chyfyngu gan Reoliad 60, gan nad yw hyn yn ymwneud â phrofi cymhwyster technegol neu broffesiynol cynigydd, yn hytrach ei fod yn gymwys i dendro am gontract neilltuol. Mae cwestiynau dethol enghreifftiol efallai y bydd awdurdodau contractio am eu cynnwys ar gael yn Atodiad 1.

Mae hyn yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru i hyrwyddo cystadleuaeth agored a hygyrch. Mae'r risg o gamadrodd bwriadol yn debygol o fod yn isel, o ystyried y bydd yn rhaid i'r sefydliad gyflwyno tystiolaeth gredadwy mai ei ‘brif nod’ yw integreiddio gweithwyr anabl / sydd o dan anfantais. Os gall sefydliad ddangos hyn, mae'n debygol y bydd yn cyflogi mwy na 30% o weithwyr anabl / sydd dan anfantais neu fel arall bydd yn methu cyflawni ei amcanion datganedig yn sylweddol.

7.1.3.2. Yn ystod y cam cyn dyfarnu contract

Sut y gellir dangos bod y trothwy o 30% wedi’i fodloni mewn ffordd y gellir ei wirio yn ystod y cam cyn dyfarnu contract?

Cyn dyfarnu'r contract, gellid gofyn i'r cynigydd(wyr) llwyddiannus ategu ei hunanardystiad yn y cam dewis cyflenwyr /cyn-gymhwyso â chofrestr fanylach ond dienw o gyflogeion (gan sicrhau nad oes modd adnabod unigolion), sy'n rhoi manylion cryno am y mathau o anabledd / anfantais sydd gan bob cyflogai. Dylai cyfarwyddwr y sefydliad lofnodi i gadarnhau bod y rhestr hon yn wir, ynghyd â:

  • chydnabyddiaeth y gall datganiad anghywir (heb amharu ar unrhyw hawl neu rwymedi arall) arwain at wahardd y sefydliad o'r broses dendro neu ganslo’r contract, a
  • cyfeiriad yn y dogfennau tendro at archwiliad safle (os yw'r awdurdod contractio yn penderfynu y gall gynnwys yn y broses hon yn unol â Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015), gyda'r rhyddid i gerdded o gwmpas a siarad ar hap â gweithwyr nad ydynt wedi cael eu dewis ymlaen llaw. Er na fyddai hwn yn ddull manwl gywir, byddai'n wiriad defnyddiol o gyfran y cyflogeion sydd o dan anfantais a ddatganwyd yn yr hunanardystiad yn y cam dewis cyflenwyr / cyn-gymhwyso.

7.2 Pa mor aml y dylai cymhwysedd sefydliadau sy’n cyflawni contractau neilltuol o dan reoliad 20 gael ei ailasesu y ystod y contract?

Nid yw'n ofynnol o dan Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 gadarnhau bod y trothwy'n cael ei fodloni drwy gydol oes y contract. Felly, mae'n bwysig ystyried pa delerau ac amodau y dylid eu cynnwys yn y contract, fel gofyniad i’r cyflenwr warantu ei fod bodloni meini prawf Rheoliad 20 ac y bydd yn parhau i'w bodloni drwy gydol y contract. Gallai hyn hefyd gynnwys rhwymedigaeth i hysbysu'r awdurdod contractio ar unwaith os bydd y meini prawf yn peidio â chael eu bodloni. Gellid nodi y gallai torri’r rhwymedigaethau hyn arwain at ganslo’r contract ar unwaith (yn ôl disgresiwn absoliwt yr awdurdod contractio).

Argymhellir bod awdurdodau contractio’n cynnwys monitro parhaus er mwyn sicrhau bod y meini prawf yn parhau i gael eu bodloni, yn enwedig os yw'r awdurdod contractio yn credu bod risg uchel o beidio â chydymffurfio. Bydd angen cynnwys union natur y monitro hwn yn y contract.

Gallai telerau ac amodau’r contract gynnwys:

  1. Cymal Gwarantu Parhaus – sy’n ei gwneud yn ofynnol i'r cyflenwr hysbysu'r awdurdod contractio ar unwaith os yw'r ‘prif nodau’ neu’r ganran o 30% o gyflogeion sydd dan anfantais yn newid. Gall methu â hysbysu'r awdurdod contractio am newidiadau o'r fath neu sefyllfa lle canfyddir bod y cyflenwr yn methu cyflawni eu ‘prif nodau’ neu'r ganran o 30% o gyflogeion sydd dan anfantais arwain at ganslo’r contract ar unwaith (yn ôl disgresiwn absoliwt yr awdurdod contractio)
  2. Cymal Canslo’r Contract – i ganiatáu’r awdurdod contractio, yn ôl ei ddisgresiwn absoliwt, ganslo’r contract ar unwaith os yw’r cyflenwr yn methu bodloni gofynion y Cymal Gwarantu Parhaus neu os canfyddir nad yw’n cyflawni ei ‘brif nodau’ neu’r ganran o 30% o gyflogeion sydd dan anfantais.

    Ar gyfer contractau lle mae’r awdurdod contractio’n credu bod risg uchel o fethu cydymffurfio, gallai awdurdodau contractio ystyried cynnwys rhai neu bob un o’r canlynol yn y contract:

    • Cymal Monitro Contract – Mae’r awdurdod contractio yn cadw’r hawl i gynnal ymweliadau archwilio â’r safle unwaith y flwyddyn neu fwy neu i gynnal archwiliadau ar hap, a chymryd camau dilynol
    • Cymal Datgan Cydymffurfiaeth – Y gofyniad i gyflwyno datganiad cyfnodol (e.e. unwaith bob chwe mis neu bob blwyddyn), yn ôl disgresiwn absoliwt yr awdurdod contractio, yn cadarnhau:
      1. nad yw “’prif nodau’ y cyflenwr wedi newid a
      2. bod y ganran o 30% o gyflogeion sydd dan anfantais wedi cael ei bodloni ac yn parhau i gael ei bodloni.

7.3. Diffinio pobl anabl a phobl sydd dan anfantais

Beth mae ‘anabl’ a ‘dan anfantais’ yn ei olygu?

Roedd Cyfarwyddeb Gaffael yr UE a droswyd gan Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 cyn i'r DU beidio â bod yn Aelod-wladwriaeth o'r Undeb Ewropeaidd, yn cynnig awgrym bras yn unig o'r hyn y gallai ‘dan fantais’ ei olygu – ‘fel pobl ddi-waith, aelodau o leiafrifoedd difreintiedig neu grwpiau eraill sydd ar gyrion y gymdeithas’. Er eglurder, mae Gwasanaethau Masnachol y Goron wedi darparu’r diffiniad canlynol o ‘dan anfantais’ o Reoliad y Comisiwn (UE) Rhif 651/2014 (Diffiniad cymorth gwladwriaethol) a ddaeth i rym ar 17 Mehefin 2014, y gall awdurdodau contractio Cymru ei ddefnyddio wrth lunio eu gofynion os ydyn' am wneud hynny.

Mae ‘gweithiwr dan anfantais’ yn golygu unrhyw un:

  1. nad yw wedi bod mewn cyflogaeth rheolaidd â thâl yn ystod y chwe mis blaenorol, neu
  2. sydd rhwng 15 a 24 mlwydd oed, neu
  3. nad yw wedi ennill cymhwyster addysg uwchradd neu alwedigaethol uwch (Y Dosbarthiad Safonol Rhyngwladol ar gyfer Addysg) neu sydd o fewn dwy flynedd i gwblhau addysg amser llawn ac nad yw wedi cael cyflogaeth reolaidd â thâl o’r blaen, or
  4. sydd dros 50 mlwydd oed, neu
  5. sy’n byw fel oedolyn sengl a chanddo un dibynnydd neu fwy, neu
  6. sy’n gweithio mewn proffesiynau mewn Aelod-wladwriaeth lle mae’r anghydbwysedd rhwng y rhywiau o leiaf 25% yn uwch na’r anghydbwysedd cyfartalog rhwng y rhywiau ar draws holl sectorau economaidd yr Aelod-wladwriaeth honno, ac sy’n aelodau o grŵp rhyw sy’n cael ei dangynrychioli, neu
  7. sy’n aelod o leiafrif ethnig o fewn Aelod-wladwriaeth sydd angen datblygu ei broffil o ran iaith, hyfforddiant galwedigaethol neu brofiad gwaith er mwyn gwella ei ragolygon ar gyfer dod o hyd i gyflogaeth sefydlog.

Mae Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 yn defnyddio diffiniad Deddf Cydraddoldeb 2015 (gweler adran 6) o anabledd.

‘Unigolyn anabl’:

“Mae gan unigolyn anabledd:

  1. Os oes ganddo nam corfforol neu fedyddiol, a
  2. mae’r nam yn cael effaith sylweddol* a hirdymor** ar allu’r unigolyn i gyflawni gweithgareddau bob dydd”

*mae ‘sylweddol’ yn golygu mwy na bach neu ddibwys, e.e. mae’n cymryd llawer mwy o amser nag y byddai fel arfer i gwblhau tasg bob dydd fel gwisgo
** mae ‘hirdymor’ yn golygu o leiaf 12 mis, e.e. cyflwr anadlu sy’n datblygu o ganlyniad i haint ar yr ysgyfaint (gweler Atodlen 1 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010).

Atodiad 3: Canllawiau ar Reoliad 77

8. Rheoliad 77 o Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 – ‘Contractau neilltuol ar gyfer rhai gwasanaethau’

Mae rheoliad 77 yn caniatáu neilltuo contractau ar gyfer rhai gwasanaethau i sefydliadau penodol, ar yr amod nad yw'r contract yn para am fwy na thair blynedd ac nad yw'r awdurdod contractio wedi dyfarnu contract tebyg i'r sefydliad hwnnw yn ystod y tair blynedd flaenorol.

Mae rheoliad 77 wedi'i gynllunio i helpu sefydliadau i ymsefydlu a chystadlu i ddarparu gwasanaethau sydd â dimensiwn iechyd, cymdeithasol, addysgol neu ddiwylliannol. Mae nifer o amodau y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn i sefydliadau fod yn gymwys i wneud cais am unrhyw gontractau neilltuol y gellir eu caffael o dan Reoliad 77. Y bwriad yw caniatáu i sefydliadau sy'n bodloni'r amodau cymhwyso yn Rheoliad 77 gael y cyfle i ymsefydlu cyn i gontractau o'r fath naill ai gael eu cynnig ar sail cystadleuaeth agored neu gael eu haildendro o dan Reoliad 77 i sefydliadau cymwys eraill wneud cynnig. Mae'r sefydliadau hyn fel arfer yn Fentrau Cymdeithasol a drefnir o amgylch egwyddorion Cydfuddiannol a/neu Gydweithredol.

8.1 Sefydliadau cymwys

Er mwyn cymryd rhan mewn tendr a neilltuir o dan Reoliad 77, mae’n rhaid i sefydliadau bodloni pob un o’r amodau canlynol:

  1. Rhaid mai prif amcan sefydliadau cymwys yw cyflawni cenhadaeth gwasanaeth cyhoeddus sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaethau sy’n dod o dan y codau CPV (Geirfa Caffael Cyffredin) sy’n berthnasol i Reoliad 77 (Gweler Atodiad 5).
  2. Mae’r elw yn cael ei ailfuddsoddi â’r nod o gyflawni amcan y sefydliad, ac mae unrhyw elw sy’n cael ei ddosbarthu yn cael ei rannu yn seiliedig ar ystyriaethau cyfranogol
  3. Mae strwythurau rheoli neu berchnogaeth y sefydliad yn (neu byddant os a phan fydd yn cyflawni’r contract):
    1. seiliedig ar berchnogaeth gan gyflogeion neu egwyddorion cyfranogol
    2. ei gwneud yn ofynnol i gyflogeion, defnyddwyr neu randdeiliaid wneud cyfraniad gweithredol
    a
  4. Ni ddyfarnwyd contract i’r sefydliad dan Reoliad 77 ar gyfer y gwasanaethau dan sylw o fewn y tair blynedd diweddaf.

8.2 Cadarnhau cymhwysedd sefydliadau sy’n tendro am gontractau o dan Reoliad 77

Gall busnesau sydd â diddordeb mewn contract sy’n cael ei neilltuo o dan Reoliad 77 gadarnhau cymhwysedd eu busnes mewn perthynas â gofynion b) ac c) uchod (adran 8.1 – Sefydliadau Cymwys) drwy gyflwyno’r canlynol:

  • Ar gyfer Cwmnïau Cyfyngedig drwy Warant – Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu wedi’u cofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau.
  • Ar gyfer Cwmnïau Buddiant Cymunedol – Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu wedi’u cofrestru gan y Rheoleiddiwr Cwmnïau Buddiant Cymunedol, Tŷ’r Cwmnïau.
  • Ar gyfer Cwmnïau Cydweithredol, Cymdeithasau Buddiant Cymunedol neu gymdeithasol cydweithredol go iawn – Rheolau wedi’u cofrestru gyda’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol.
  • Ar gyfer Busnesau Cydfuddiannol – Gweithredoedd Ymddiriedolaeth (os mai ymddiriedolaeth cyflogeion sy’n berchen arno) neu Gylch Gorchwyl y Cyngor Gweithwyr.

8.3 Codau CPV sy’n berthnasol i Reoliad 77

Dim ond i gontractau gwasanaethau sy’n dod o dan y codau CPV a nodir yn Rheoliad 77 (wedi'u hatodi yn Atodiad 5 o'r WPPN hwn er gwybodaeth) y gellir cymhwyso rheoliad 77. Mae'r codau CPV yn ymwneud â gwasanaethau sy’n dod o dan y ‘gyfundrefn cyffyrddiad ysgafn’ (Rheoliad 74 o Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015).

8.4 Hyd contract a chyfyngiadau eraill

Rhaid i gontractau sy’n cael eu tendro yn unol â rheoliad 77:

  • beidio â chael eu dyfarnu i sefydliadau sydd wedi ennill contractau wedi’u tendro o dan Reoliad 77 yn y gorffennol ar gyfer yr un gwasanaethau, gan yr un awdurdod contractio o fewn y tair blynedd diwethaf
  • peidio â phara am fwy na thair blynedd.

8.5 Cysylltiadau â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Mae’n bosibl y bydd Rheoliad 77 yn fecanwaith defnyddiol i Awdurdodau Lleol i'w helpu i roi atebion ar waith sy'n bodloni eu dyletswydd o dan adran 16 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a gyflwynodd ddyletswydd i hyrwyddo mentrau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol, a gwasanaethau a arweinir gan ddefnyddwyr a’r trydydd sector, gan roi sylw penodol i ofal, cymorth a gwasanaethau ataliol.

Mae neilltuo contractau o dan Reoliad 77 hefyd yn gyfle i gefnogi twf busnesau o'r fath a datblygu'r marchnadoedd ar gyfer y sector hwn.

Atodiad 4: Ffyrdd eraill o weithio gyda Busnesau Cyflogaeth Gefnogol

9. Ffyrdd eraill o weithio gyda Busnesau Cyflogaeth Gefnogol a sefydliadau sy’n gymwys o dan Reoliad 77

Mae polisi caffael Llywodraeth Cymru yn annog cyrff cyhoeddus i sicrhau bod cyfleoedd ar gyfer contractau yn agored i bawb, ac nad yw cyflenwyr llai, gan gynnwys sefydliadau'r trydydd sector, yn cael eu hatal rhag ennill contractau'n unigol, fel consortia neu drwy rolau o fewn y gadwyn gyflenwi.

Fel rheol, dylai awdurdodau contractio geisio osgoi cymhlethdod neu orddibyniaeth ddiangen ar ddogfennau safonol, yn enwedig yn ystod y cam dewis cyflenwyr / cyn-gymhwyso. Bydd llawer o'r busnesau hyn yn fusnesau bach a chanolig ac felly bydd ganddynt adnoddau cyfyngedig ar gael i baratoi tendrau. Efallai na fyddant yn gallu darparu’r holl wybodaeth gyfochrog sydd ei hangen, neu efallai y bydd gwneud hynny’n afresymol o ddrud.

Mewn sefyllfaoedd lle mae contractau'n rhy fawr neu gymhleth i'w tendro ar sail contract neilltuol yn eu cyfanrwydd, mae gan awdurdodau contractio nifer o opsiynau eraill y gallant eu defnyddio i weithio gyda busnesau sy'n bodloni meini prawf cymhwysedd Rheoliad 77.

9.1 Cynnig ar y Cyd: gwahodd ceisiadau cydweithredol neu gonsortia

Gall bod yn barod i dderbyn ceisiadau cydweithredol neu ar y cyd gan fusnesau sy'n gymwys i wneud cais am 'gontractau neilltuol' ganiatáu i gontractau gael eu neilltuo a fyddai fel arall yn rhy fawr neu gymhleth i sefydliadau sengl eu cyflawni. Gall cynnig ar y cyd fod ar sawl ffurf wahanol ac, yn hollbwysig, mae'n caniatáu i gwmnïau gyfuno eu hadnoddau i gynyddu eu capasiti neu eu cwmpas ar y cyd er mwyn cystadlu am gontractau a allai fod wedi bod y tu hwnt i’w cyrraedd fel arall. Mae'n bwysig cynnwys digon o amser yn y broses dendro er mwyn caniatáu i gyflenwyr baratoi cynnig ar y cyd. Mae'r Canllaw Cynnig ar y Cyd a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru, CGGC a Chanolfan Cydweithredol Cymru yn rhoi arweiniad i brynwyr a chyflenwyr yn y sector cyhoeddus ar sut i wneud a rheoli ‘cynigion ar y cyd' yn llyw.cymru.

9.2 Meini prawf dyfarnu

Mae'n ofynnol i awdurdodau contractio seilio meini prawf dyfarnu ar sail ‘y tendr mwyaf manteisiol yn economaidd’ o dan Reoliad 67 o Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015. Mae hyn yn cynnwys y cydbwysedd gorau rhwng ‘ansawdd a phrisiau’, a all gynnwys gwerthuso ystyriaethau cymdeithasol lle mae'r ystyriaethau cymdeithasol hynny'n gysylltiedig â phwnc y contract. Gall hyn ganiatáu i ffactorau nad ydynt o bosibl yn fesuradwy yn economaidd gael eu hystyried. Gall y rhain gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) meini prawf sy'n gysylltiedig â nodau a swyddogaethau ehangach yr awdurdod contractio a gellir eu defnyddio i sicrhau y cydnabyddir cynigwyr a all fodloni amcanion 'gwerth cymdeithasol' yr awdurdod contractio (Gweler WPPN 01/29 WPPN 01/20, Cymalau gwerth cymdeithasol/manteision cymunedol drwy gaffael cyhoeddus yn llyw.cymru) Mae'r gyfundrefn cyffyrddiad ysgafn yn rhoi cryn hyblygrwydd o ran meini prawf dyfarnu, ar yr amod bod y meini prawf yn gysylltiedig â phwnc y contract. Yn yr un modd â phan bennir meini prawf dyfarnu eraill, mae'n bwysig sicrhau y gellir gwerthuso’r meini prawf yn wrthrychol ac nad ydynt yn rhoi rhyddid i’r awdurdod contractio ddewis yn ddirwystr.

Sut mae hyn yn helpu i roi cyfleoedd i fusnesau cyflogaeth gefnogol sy’n gymwys o dan Reoliad 77 wneud cais heb ddefnyddio proses lawn ar gyfer contract neilltuol?

Pan fydd yn bosibl bod awdurdod contractio’n ansicr ynghylch maint y farchnad gyflenwi sydd ar gael, caiff awdurdodau contractio ddefnyddio geiriad y meini prawf hynny, gan gyfeirio neu heb gyfeirio at Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015, yn y fanyleb neu fel amrywiolyn mewn tendrau a reolir.

Bydd hyn yn sicrhau cyflenwad o'r nwyddau neu’r gwasanaethau sydd eu hangen gan y bydd yn caniatáu cynigion gan bob cynigydd, wrth roi’r cyfle i unrhyw fusnesau sy'n bodloni'r safonau cymhwysedd amrywiol uwch sgorio'n dda pan fydd y tendrau’n cael eu gwerthuso.

9.3 Strategaethau lotio (rhannu contractau’n lotiau)

O dan Reoliad 46(1) o Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015, gall awdurdodau contractio benderfynu dyfarnu contract ar ffurf lotiau ar wahân a gallant bennu maint a phwnc lotiau o'r fath. Yn amodol ar y cyfyngiadau penodol, caiff awdurdodau contractio ymgorffori'r darpariaethau hyn mewn cyfundrefn gyffwrdd ysgafn er mwyn gweithio gyda busnesau sy'n gymwys i gyflwyno cynnig am gontractau neilltuol er mwyn pennu'r strategaeth lotio fwyaf priodol ar gyfer cyflawni gofynion yr awdurdod contractio. Yn amodol bob amser ar rwymedigaethau ehangach o dan Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015, gallai awdurdodau contractio ystyried rhoi cyfleoedd i ffatrïoedd a busnesau cyflogaeth gefnofol sy’n bodloni gofynion Rheoliad 20 neu fusnesau sy'n bodloni gofynion Rheoliad 77 drwy:

  1. Neilltuo un neu fwy o lotiau
  2. Neilltuo lotiau yn ôl math penodol o nwyddau neu wasanaethau lle rydych yn gwybod bod busnesau cymwys yn gweithredu, neu
  3. Neilltuo canran o'r contract cyfan neu lot.

9.4 Cyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi

Gall awdurdodau contractio annog eu prif gyflenwr(wyr) / contractwr(wyr) neu gyflenwr(wyr) / contractwr(wyr) Haen 1 i gynnwys busnesau sy’n gymwys o dan Reoliad 20 neu Reoliad 77 yn eu cadwyn gyflenwi, i ddarparu elfen benodol o'r contract. O dan y senario hwn, byddai prif gyflenwyr / cyflenwyr Haen 1 / contractwyr yn rhydd i chwilio'r farchnad am fusnesau o'r fath. Mae hefyd yn bosibl i awdurdodau contractio annog yn gryfach drwy 'enwebu' busnesau penodol i brif gyflenwyr / contractwyr neu gyflenwyr / contractwyr Haen 1 drafod â nhw ynghylch y posibilrwydd o fod yn gyflenwr.

Mae'r llwybr ‘anogaeth’ yn peri llawer llai o risg nag ‘enwebu’ is-gontractwyr, gan y dylai'r penderfyniad terfynol ynghylch cynnwys cyflenwyr yn y gadwyn gyflenwi gael ei wneud gan y prif gontractwr. Fodd bynnag, os yw'r awdurdod contractio wedi dyfarnu contract mewn modd dilys i sefydliad o dan naill ai Reoliad 20 neu Reoliad 77, efallai yr hoffai ystyried a all ‘enwebu’ y sefydliad hwn wrth gaffael y prif gyflenwr / contractwr neu gyflenwr / contractwr Haen 1.

Argymhellir egluro'r gofyniad hwn yn y cyfnod ymgysylltu â’r farchnad ymlaen llaw er mwyn rhoi amser i ddarpar gynigwyr ystyried anghenion yr awdurdod contractio ac ymchwilio i'r farchnad i gryfhau eu cais.

9.5 Amodau'r Contract: Cymalau Contract a Dangosyddion Perfformiad Allweddol

Gellid cynnwys telerau contract a/neu ddangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer cyflawni elfennau penodol o’r contract drwy ffatrïoedd a busnesau cyflogaeth gefnogol sy'n bodloni gofynion Rheoliad 20 neu'r rhai sy'n bodloni gofynion Rheoliad 77.

Rhaid rhoi sylw gofalus i delerau contract a/neu ddangosyddion perfformiad allweddol er mwyn sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu a bod y cyflenwr / contractwr Haen 1 yn parhau i fod yn gyfrifol am bob is-gontractwr. Bydd hyn yn dibynnu ar eiriad y contract a ddefnyddiwch – a bydd angen ystyried y geiriad fesul achos.

Ac eithrio achosion lle efallai y bydd awdurdod contractio am enwebu cyflenwr y mae wedi dyfarnu contract iddo mewn modd dilys o dan Reoliad 20 neu Reoliad 77, dylai awdurdodau contractio gyfeirio prif gontractwyr at y ffynonellau priodol o wybodaeth am ffatrïoedd a busnesau cyflogaeth gefnogol sy'n bodloni gofynion Rheoliad 20 neu'r busnesau hynny sy'n bodloni gofynion Rheoliad 77.

Bydd Busnes Cymdeithasol Cymru2 yn gallu eich helpu i nodi'r busnesau hynny sy'n bodloni'r gofynion cymhwysedd ar gyfer naill ai Rheoliad 20 neu Reoliad 77. Dylid cyfeirio ymholiadau at sbwenquiries@wales.coop.

Mae’n bosibl y byddwch eisoes yn ymwybodol o fusnesau cyflogaeth gefnogol neu fusnesau sy’n bodloni gofynion Rheoliad 77 drwy rai ffynonellau gwybodaeth, ac wedi hysbysu’r busnesau hynny am y posibilrwydd y bydd y prif gontractwr yn cysylltu â nhw. Ariennir Busnes Cymdeithasol Cymru gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru. Mae’n cael ei weithredu gan Ganolfan Cydweithredol Cymru. Fodd bynnag, nid ddylech gyfyngu’r prif gontractwr i ystyried dim ond y busnesau rydych yn ymwybodol ohonynt.

10. Hyrwyddo cyfleoedd Busnes i Fusnes

Gall cyrff sector cyhoeddus sydd wedi cefnogi busnesau yn eu cymunedau a/neu sydd wedi cael profiad cadarnhaol gyda ffatrïoedd a busnesau cyflogaeth gefnogol sy'n bodloni gofynion Rheoliad 20 neu'r busnesau hynny sy'n bodloni gofynion Rheoliad 77, naill ai fel prif gontractwyr neu fel is-gontractwyr, helpu'r busnesau hyn drwy eu hyrwyddo i sefydliadau'r sector preifat i archwilio cyfleoedd busnes i fusnes.

11. Offerynnau a chanllawiau

Ffynonellau gwybodaeth ar gyfer asesu’r farchnad am nwyddau a gwasanaethau:

  • GwerthwchiGymru yn caniatáu i gyflenwyr nodi eu bod yn fusnes cyflogaeth gefnogol pan fyddant yn cofrestru, ynghyd â chategorïau’r Eirfa Gaffael Gyfredion (CPV) mae ganddynt ddiddordeb yn eu cyflenwi
  • Cyfeirlyfr Busnesau Cymdeithasol yng Nghymru (Mehfin 2019) wedi’i lunio gan Fusnes Cymdeithasol Cymru (Ariennir Busnes Cymdeithasol Cymru gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru. Mae’n cael ei weithredu gan Ganolfan Cydweithredol Cymru), a
  • Mae’r Cyfeirlyfr Busnesau Cyflogaeth Gefnogol a gynhelir gan Gymdeithas Prydain ar gyfer Mentrau Cyflogaeth Gefnogol (BASE) yn rhestru ei aelodau ledled y DU yn ôl rhanbarth a’r categorïau maent yn eu cyflenwi.

Atodiad 5: Codau CPV sy’n berthnasol i Reoliad 77

  • 75121000-0 - Gwasanaethau addysgol gweinyddol
  • 75122000-7 - Gwasanaethau gofal iechyd gweinyddol
  • 75123000-4 - Gwasanaethau tai gweinyddol
  • 79622000-0 - Gwasanaethau cyflenwi personél cymorth domestig
  • 79624000-4 - Gwasanaethau cyflenwi personél nyrsio
  • 79625000-1 - Gwasanaethau cyflenwi personél meddygol
  • 80110000-8 - Gwasanaethau addysg cyn-ysgol
  • 80300000-7 - Gwasanaethau addysg uwch
  • 80420000-4 - Gwasanaethau e-ddysgu
  • 80430000-7 - Gwasanaethau addysg oedolion ar lefel prifysgol
  • 80511000-9 - Gwasanaethau hyfforddi staff
  • 80520000-5 - Cyfleusterau hyfforddi
  • 80590000-6 - Gwasanaethau tiwtora
  • 850000000-9 - Gwasanaethau iechyd a gwaith cymdeithasol
    • 85100000-0 Gwasanaethau iechyd
    • 85110000-3 Gwasanaethau ysbyty a gwasanaethau cysylltiedig
    • 85111000-0 Gwasanaethau ysbytai
    • 85111100-1 Gwasanaethau llawfeddygol mewn ysbytai
    • 85111200-2 Gwasanaethau meddygol mewn ysbytai
    • 85111300-3 Gwasanaethau gynaecolegol mewn ysbytai
    • 85111310-6 Gwasanaethau ffrwythloni in-vitro
    • 85111320-9 Gwasanaethau obstetregol mewn ysbytai
    • 85111400-4 Gwasanaethau adsefydlu mewn ysbytai
    • 85111500-5 Gwasanaethau seiciatrig mewn ysbytai
    • 85111600-6 Gwasanaethau orthotig
    • 85111700-7 Gwasanaethau therapi ocsigen
    • 85111800-8 Gwasanaethau patholeg
    • 85111810-1 Gwasanaethau dadansoddi gwaed
    • 85111820-4 Gwasanaethau dadansoddi bacteriolegol
    • 85111900-9 Gwasanaethau dialysis mewn ysbytai
    • 85112000-7 Gwasanaethau cymorth mewn ysbytai
    • 85112100-8 Gwasanaethau dillad gwely mewn ysbytai
    • 85112200-9 Gwasanaethau gofal cleifion allanol
    • 85120000-6 Gwasanaethau ymarfer meddygol a gwasanaethau cysylltiedig
    • 85121000-3 Gwasanaethau ymarfer meddygol
    • 85121100-4 Gwasanaethau meddygon teulu
    • 85121200-5 Gwasanaethau arbenigedd meddygol
    • 85121210-8 Gwasanaethau gynaecolegol neu obstetregol
    • 85121220-1 Gwasanaethau arbenigol arenneg neu'r system nerfol
    • 85121230-4 Gwasanaethau cardioleg neu arbenigwyr yr ysgyfaint
    • 85121231-1 Gwasanaethau cardioleg
    • 85121232-8 Gwasanaethau arbenigwyr yr ysgyfaint
    • 85121240-7 Gwasanaethau ENT neu awdioleg 
    • 85121250-0 Gwasanaethau gastroenteroleg a geriatrig
    • 85121251-7 Gwasanaethau gastroenteroleg
    • 85121252-4 Gwasanaethau geriatrig
    • 85121270-6 Gwasanaethau seiciatreg neu seicoleg
    • 85121271-3 Gwasanaethau ar gyfer y rhai sydd wedi aflonyddu yn seicolegol
    • 85121280-9 Gwasanaethau offthalmoleg, dermatoleg neu orthopedeg
    • 85121281-6 Gwasanaethau offthalmoleg
    • 85121282-3 Gwasanaethau dermatoleg
    • 85121283-0 Gwasanaethau orthopedig
    • 85121290-2 Gwasanaethau pediatrig neu wroleg
    • 85121291-9 Gwasanaethau pediatrig
    • 85121292-6 Gwasanaethau wroleg
    • 85121300-6 Gwasanaethau arbenigedd llawfeddygol
    • 85130000-9 Gwasanaethau ymarfer deintyddol a gwasanaethau cysylltiedig
    • 85131000-6 Gwasanaethau deintyddol
    • 85131100-7 Gwasanaethau orthodontig
    • 85131110-0 Gwasanaethau llawdriniaeth orthodontig
    • 85140000-2 Gwasanaethau iechyd amrywiol
    • 85141000-9 Gwasanaethau a ddarperir gan bersonél meddygol
    • 85141100-0 Gwasanaethau a ddarperir gan fydwragedd
    • 85141200-1 Gwasanaethau a ddarperir gan nyrsys
    • 85141210-4 Gwasanaethau triniaeth feddygol yn y cartref
    • 85141211-1 Gwasanaethau triniaeth dialysis meddygol yn y cartref
    • 85141220-7 Gwasanaethau cynghori a ddarperir gan nyrsys
    • 85142000-6 Gwasanaethau parafeddygol
    • 85142100-7 Gwasanaethau ffisiotherapi
    • 85142200-8 Gwasanaethau homeopathig
    • 85142300-9 Gwasanaethau hylendid
    • 85142400-0 Darparu cynhyrchion anymataliaeth yn y cartref
    • 85143000-3 Gwasanaethau ambiwlans
    • 85144000-0 Gwasanaethau cyfleusterau iechyd preswyl
    • 85144100-1 Gwasanaethau gofal nyrsio preswyl
    • 85145000-7 Gwasanaethau a ddarperir gan labordai meddygol
    • 85146000-4 Gwasanaethau a ddarperir gan fanciau gwaed
    • 85146100-5 Gwasanaethau a ddarperir gan fanciau sberm
    • 85146200-6 Gwasanaethau a ddarperir gan fanciau trawsblannu organau
    • 85147000-1 Gwasanaethau iechyd cwmnïau
    • 85148000-8 Gwasanaethau dadansoddi meddygol
    • 85149000-5 Gwasanaethau fferylliaeth
    • 85150000-5 Gwasanaethau delweddu meddygol
    • 85160000-8 Gwasanaethau opteg 
    • 85170000-1 Gwasanaethau aciwbigo a cheiropracteg 
    • 85171000-8 Gwasanaethau aciwbigo
    • 85172000-5 Gwasanaethau ceiropracteg 
    • 85200000-1 Gwasanaethau milfeddygol
    • 85210000-3 Meithrinfeydd anifeiliaid domestig
    • 85300000-2 Gwasanaethau gwaith cymdeithasol a gwasanaethau cysylltiedig
    • 85310000-5 Gwasanaethau gwaith cymdeithasol
    • 85311000-2 Gwasanaethau gwaith cymdeithasol gyda llety
    • 85311100-3 Gwasanaethau lles i'r henoed
    • 85311200-4 Gwasanaethau lles ar gyfer y rhai dan anfantais
    • 85311300-5 Gwasanaethau lles i blant a phobl ifanc
    • 85312000-9 Gwasanaethau gwaith cymdeithasol heb lety
    • 85312100-0 Gwasanaethau gofal dydd
    • 85312110-3 Gwasanaethau gofal dydd i blant
    • 85312120-6 Gwasanaethau gofal dydd i blant a phobl ifanc dan anfantais
    • 85312200-1 Darpariaethau yn y cartref
    • 85312300-2 Gwasanaethau arweiniol a chwnsela
    • 85312310-5 Gwasanaethau arweiniol
    • 85312320-8 Gwasanaethau cwnsela
    • 85312330-1 Gwasanaethau cynllunio teulu
    • 85312400-3 Gwasanaethau lles nad ydynt yn cael eu darparu drwy sefydliadau preswyl
    • 85312500-4 Gwasanaethau adsefydlu
    • 85312510-7 Gwasanaethau adsefydlu galwedigaethol
    • 85320000-8 Gwasanaethau cymdeithasol
    • 85321000-5 Gwasanaethau cymdeithasol gweinyddol
    • 85322000-2 Rhaglen gweithredu cymunedol
    • 85323000-9 Gwasanaethau iechyd cymunedol
  • 925000000-6 – Gwasanaethau llyfrgell, archif, amgueddfa a gwasanaethau diwylliannol eraill
  • 926000000-7 - Gwasanaethau chwaraeon
  • 98133000-4 - Gwasanaethau a ddarperir gan sefydliadau aelodaeth gymdeithasol
  • 98133110-8 - Gwasanaethau a ddarperir gan gymdeithasau ieuenctid

* Gan fod codau CPV yn cael eu diwygio o bryd i'w gilydd, dim ond fel canllaw y rhoddir y rhestr hon ac ni ddylid dibynnu arni wrth gynllunio unrhyw gaffael penodol, pan ddylech wirio'r codau CPV presennol.