Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn bwriadu adeiladu trydydd bont dros yr Afon Menai.

Statws:
Wedi ei gynllunio
Rhanbarth / Sir:
gogledd Cymru (Gwynedd/Ynys Môn)
Dyddiad dechrau:
2020/2021
Dyddiad gorffen:
2022/2023
Cost:
£130miliwn yn dibynnu ar yr opsiwn a ddewisir
Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Ystyriodd yr adolygiad ffyrdd y prosiect hwn

Mae’r dudalen hon yn adlewyrchu ein rhaglen flaenorol ar gyfer buddsoddi mewn ffyrdd. Cafodd rhaglen newydd ei chyhoeddi yn y cynllun cyflawni trafnidiaeth.

Byddwn yn cyhoeddi tudalennau newydd ar y wefan er mwyn adlewyrchu’r rhaglen newydd.

Pam rydym yn ei wneud

Mae’r A55 yn bwysig yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.  Hon yw prif ffordd economaidd Gogledd Cymru ac mae’n rhan o lwybr yr Euro 22 ar y rhwydwaith ffyrdd ledled Ewrop.  Pont Britannia yw’r unig ran o’r ffordd ym Mhrydain sydd heb ffordd ddeuol, ac mae hyn yn golygu ei bod yn achosi tagfeydd mawr i deithwyr lleol ac ymwelwyr.  

Nod y cynllun yw:

  • gwella capasiti, dibynadwyedd ac amser teithio
  • sicrhau bod y rhwydwaith yn fwy cadarn
  • gwella cyfleoedd i ddefnyddwyr sydd ddim yn gyrru 
  • gwella diogelwch.

Datblygiadau presennol

Daeth astudiaeth ddiweddar i’r casgliad na fyddai gwella capasiti drwy gyflwyno system draffig llanw a thrai dair ffordd ar y Bont Britannia bresennol yn bodloni safonau diogelwch gofynnol.  

Cafodd achos Busnes Amlinellol Strategol ei gwblhau yn ystod Gwanwyn 2016 a oedd yn cadarnhau yr angen am 3ydd pont dros y Fenai.

Rydym  wedi penodi cynghorwyr AECOM a RML i gyflawni astudiaeth gyda’r nod o ddewis llwybr a ffefrir ar gyfer y croesi.

Cyhoeddasom grynodeb o'r ymatebion ar gyfer yr ymgynghoriad hwn ym mis Hydref.

Amserlen

Dechrau Caffael Cynghorwyr Strategol: Hydref 2016
Astudiaeth Dewis Ffordd: Diwedd 16 tan Gwanwyn 18
Cyhoeddi llwybr a ffefrir: Haf 2018

Camau nesaf

Byddwn yn cynnal astudiaeth dewis ffordd i asesu’r amrywiol opsiynau i fynd i’r afael â’r tagfeydd ar y Bont Britannia bresennol.

Mae disgwyl i’r astudiaeth o lwybrau bara 18 mis a bydd yn cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus. Bydd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn cael eu hystyried ynghyd â’r gwerthusiad technegol, cymdeithasol ac amgylcheddol cyn inni ddewis y llwybr a ffefrir.

Sut rydym yn ymgynghori

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus rhwng Tachwedd 2007 a Chwefror 2008. Bydd angen ymgynghoriad cyhoeddus arall cyn penderfynu ar y llwybr a ffefrir.

Byddwn yn penodi cynghorwyr technegol i ddatblygu dyluniad rhagarweiniol. Mae'r dyluniad yn edrych ar faterion amgylcheddol a pheirianneg yn fwy manwl. Mae hefyd yn ystyried sylwadau a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad.

Byddwn hefyd yn cynnal adolygiad manwl i gadarnhau pa fath o bont a dewis y croesiad dwy neu bedair lôn.

Ymgyngoriadau

Ymgyngoriadau yw un o’r ffyrdd i ni gael adborth ar brosiect

Cyhoeddiadau

Adroddiadau, datganiadau amgylcheddol a chynlluniau