Neidio i'r prif gynnwy

Disgrifiwch ac eglurwch effaith y cynnig ar blant a phobl ifanc

  • Prif nod y cynllun Benthyciad Arbed Tenantiaeth (BAT) yw cadw pobl yn eu heiddo fel y gallant fwynhau llety tymor hwy. Bydd cynllun benthyciadau o'r fath yn tynnu rhywfaint o'r pwysau oddi ar ofn neu realiti mynd i ddyled. O'r herwydd, bydd o fudd sylweddol i iechyd meddyliol a chorfforol pobl, eu llesiant ac ansawdd bywyd yn fwy cyffredinol. Bydd hyn yn effeithio'n gadarnhaol ar blant gan y bydd yn cyfyngu ar yr aflonyddwch sy'n digwydd o symud tŷ.
  • Mae data o Gyfrifiad 2011 yn dangos cyfran ychydig yn uwch o aelwydydd â phlant dibynnol sy'n byw yn y sector rhentu preifat nag ar draws pob deiliadaeth (34% o’i  gymharu â 28%). Gan edrych ar rieni unigol (gyda phlant o unrhyw oedran) mae cyfran uwch yn y sector rhentu preifat nag ar draws pob deiliadaeth (17% o’i gymharu ag 11%)[1].
  • Gall byw gyda dyled fod yn niweidiol i iechyd a llesiant plant a phobl ifanc. Bydd y cynllun BAT yn ein galluogi ni i helpu i gefnogi teuluoedd yn ystod Covid-19 a fydd yn chwarae rhan bwysig o ran atal digartrefedd a helpu i amddiffyn teuluoedd a phlant sy'n agored i niwed.
  • O ystyried natur llog isel y benthyciadau bydd y teulu mewn sefyllfa ariannol gryfach nag fel arall sy'n golygu bod cymhlethdodau byw mewn teulu ag anawsterau ariannol yn llai. Mae posibilrwydd y bydd hyn ond yn gohirio'r anochel a allai arwain at effaith andwyol ar blant.
  • O ystyried yr amserlenni yr ydym yn gweithio iddynt, nid ydym wedi gallu ymgysylltu'n uniongyrchol â phlant a phobl ifanc. Fodd bynnag, o'n cyfarfodydd â rhanddeiliaid allanol a mewnol a fyddai'n ymwneud â chyflawni'r cynllun credwn y bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol ar yr uned deuluol, ac felly ar blant.

Eglurwch sut y mae'r cynnig yn debygol o effeithio ar hawliau plant Erthyglau CCUHP a'u perthnasedd

Mae'r erthyglau canlynol yn berthnasol i ddatblygiad y cynllun:

 

Rhif erthygl

Pam mae'n berthnasol?

3

Drwy'r Cynllun Arbed Tenantiaeth, mae Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei dyletswydd i gefnogi pobl ifanc, gan helpu i ddarparu amgylchedd sefydlog a diogel i ddiogelu buddiannau gorau'r plentyn.

27

Bydd y Cynllun Arbed Tenantiaeth yn cynnal safon byw sy'n ddigon da i ddiwallu anghenion meddyliol a chorfforol plant.

 

[1]https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/birthsdeathsandmarriages/families/articles/2011censusanalysishowdolivingarrangementsfamilytypeandfamilysizevaryinenglandandwales/2014-06-24