Neidio i'r prif gynnwy

Pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Mae’r cynnig yn ymwneud â pharhad y Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol i Athrawon ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth (‘y Cynllun’). Nid yw’n gwneud unrhyw newidiadau sylfaenol i’r polisi presennol, ac mae’r asesiad effaith hwn yn ailasesu’r Cynllun i gofnodi a lliniaru unrhyw effeithiau negyddol a nodir. Mae fersiwn o’r Cynllun wedi bod ar waith ers tua 20 mlynedd a thros yr amser hwnnw mae wedi esblygu i ddiwallu anghenion newidiol y sector. Mae fersiwn gyfredol y Cynllun yn gwneud taliad i athrawon dan hyfforddiant ar ôl iddynt gwblhau rhaglenni addysg gychwynnol i athrawon (AGA) penodedig lle mae’r cymhwyster yn darparu arbenigedd pwnc ar gyfer addysgu yn y sector ysgolion uwchradd (plant a phobl ifanc 12 i 16 oed). Mae’r Cynllun yn un o dri chynllun sydd ar gael i athrawon dan hyfforddiant. Y lleill yw’r Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol i Athrawon o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol a’r Cynllun Iaith Athrawon Yfory. Gellir hawlio cymhellion yn ychwanegol at y Cyllid Myfyrwyr sydd ar gael yng Nghymru i fyfyrwyr AGA llawnamser a rhan-amser.

Mae cynlluniau cymhelliant Llywodraeth Cymru yn gweithio fel cyfres, a dim ond rhan fach o’r mentrau i hyrwyddo gyrfaoedd addysgu yng Nghymru yn ehangach yw’r rhain. Mae holl gymhellion Llywodraeth Cymru ar gyfer AGA wedi’u bwriadu fel ymyriad recriwtio i fynd i’r afael â diffygion uniongyrchol sydd i’w gweld (megis y ‘pynciau â blaenoriaeth’ gan gynnwys athrawon pynciau STEM, athrawon cyfrwng Cymraeg ac athrawon ethnig leiafrifol) yn y gweithlu addysgu mewn modd cymesur er mwyn helpu i recriwtio ar gyfer AGA mewn ffordd benodol ac wedi’i thargedu.

Comisiynodd Llywodraeth Cymru sawl adroddiad ymchwil yn edrych ar agweddau penodol ar strategaethau cymell athrawon newydd drwy Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA) (cyrchwyd ddiwethaf 4 Ebrill 2023). Cyhoeddwyd canfyddiadau’r adroddiadau yn 2019 ac mae llawer ohonynt mewn perthynas â chynlluniau cymhelliant Cymru wedi cael eu gweithredu, yn eu plith:

  • Cynnig bwrsariaeth symlach a mwy safonol yng Nghymru.
  • Canolbwyntio ar arbenigedd pwnc.
  • Cymhellion sy’n cael eu hystyried yn ofalus fel rhan o strategaeth ehangach, gyfannol i recriwtio i’r proffesiwn addysgu.

Mae’r dystiolaeth hon, ynghyd ag adroddiadau eraill a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru (Llywodraeth Cymru, 2019) yn awgrymu nad cymhellion ariannol yw’r ffactor pwysicaf i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr sy’n dewis dilyn AGA. Fodd bynnag, fel y nodwyd yn yr adroddiadau, mae’r mater yn un cymhleth ac mae angen ei osod yng nghyd-destun datblygu’r proffesiwn fel cynnig gyrfa deniadol.

Yn ôl tystiolaeth ddiweddar sy’n ymwneud â chynlluniau cymhelliant hyfforddiant cychwynnol i athrawon (HCA) Lloegr (Y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg, 2022), mae tystiolaeth gref a chyson bod bwrsariaethau hyfforddi yn gysylltiedig â chynnydd yn y nifer a gaiff eu recriwtio i HCA.

Er bod y cynlluniau cymhelliant yng Nghymru a Lloegr yn wahanol, maent yn weddol debyg o ran y symiau cymhelliant dros y cyfnod y mae’r ymchwil yn cyfeirio ato.

Tystiolaeth arall sy’n cefnogi’r defnydd o’r Cynllun i ddenu arbenigwyr pwnc i raglenni AGA Cymru yw’r penderfyniad diweddar i ychwanegu Bioleg fel pwnc â blaenoriaeth. Dangosodd dadansoddiad o niferoedd recriwtio i AGA ac o’r gweithlu fod angen denu arbenigwyr Bioleg i’r proffesiwn. Ar ôl cyflwyno Bioleg fel un o’r pynciau cymwys y mae cymhelliant ar gael ar eu cyfer, cynyddodd y nifer a gaiff eu recriwtio i raglenni AGA Bioleg Uwchradd gan gau’r bwlch rhwng y dyraniad cenedlaethol a’r niferoedd gwirioneddol a gaiff eu recriwtio.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda CGA a’n Partneriaethau AGA i fonitro’r effaith ar recriwtio athrawon dan hyfforddiant a’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer parhau i ddefnyddio cymhellion i gyrraedd ein nodau.

Fel y nodwyd uchod, dylid ystyried defnyddio cymhelliant ariannol yn rhan o set ehangach a chyfannol o fesurau i sicrhau bod gan ein gweithlu addysgu ddigon o athrawon, a bod athrawon sydd â’r sgiliau a’r wybodaeth mewn meysydd pwnc arbenigol ar gael i addysgu mewn ysgolion ledled Cymru i ddiogelu addysg plant a phobl ifanc. Mae hyn yn cael effaith gadarnhaol arnyn nhw’u hunain, eu teuluoedd a’u cymunedau. Mae diben a nodau ehangach addysg yn cael effeithiau cadarnhaol sylweddol. Fodd bynnag, nid yw effaith y cynnig penodol hwn yn fawr gan mai darn bach yw’r cynnig o’r gwaith llawer ehangach sy’n gysylltiedig â sicrhau system addysg o ansawdd uchel yng Nghymru.

Mae gan y cynnig nodau hirdymor clir i barhau i hwyluso’r gwaith o gyflwyno’r cwricwlwm drwy sicrhau gweithlu addysgu arbenigol, o ansawdd uchel ac sydd wedi cael addysg addas. Mae hyn yn cefnogi’n anuniongyrchol yr amcanion canlynol yn y Rhaglen Lywodraethu:

  • Parhau â’n rhaglen hirdymor o ddiwygio addysg, a sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a bod safonau’n codi.
  • Cefnogi ysgolion ac athrawon i gyflwyno ein Cwricwlwm i Gymru.
  • Ehangu cyfran y gweithlu addysg sy’n gallu addysgu a gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Gweithredu’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd.

Ymgynghorir â’n partneriaid allweddol, Partneriaethau AGA, CGA ac Estyn, yn flynyddol o ran asesu’r effaith ar recriwtio athrawon dan hyfforddiant a gwella nodau polisi’r cynnig yn barhaus. Yn ogystal, mae ein Partneriaethau AGA a CGA, fel partneriaid gweithredu’r cynnig, yn ymwneud â’r cylch rhinweddol parhaus o welliant parhaus wrth weithredu’r cynnig yn ymarferol.

Disgwylir i’r broses o weithredu’r cynnig ar gyfer blwyddyn academaidd 2023 i 2024 gostio tua £3 miliwn i £6 miliwn. Mae’r cynnig yn cael ei arwain gan y galw ac yn dibynnu ar y niferoedd a gaiff eu recriwtio i raglenni AGA. Mae’r gyllideb ar gyfer y cynnig hwn yn cael ei darparu’n flynyddol yn amodol ar adolygu, gwerthuso a modelu ariannol parhaus. Telir costau’r cynnig drwy’r gyllideb addysg. Nid oes angen unrhyw gyllid ychwanegol i weithredu’r cynnig.

Nid oes angen deddfwriaeth sylfaenol nac is-ddeddfwriaeth. Fodd bynnag, mae gan bob cynllun cymhelliant AGA gynllun cyfreithiol sy’n ategu ac yn egluro gofynion y grant a’r modd y caiff ei ddarparu ar gyfer yr ymgeiswyr hynny sy’n dymuno gwneud cais.

Casgliad

Sut mae’r bobl y mae’r cynnig fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi bod yn rhan o’i ddatblygu?

Gwahoddir cynrychiolwyr o’r sefydliadau sy’n ymwneud â darparu AGA yng Nghymru, gan gynnwys Sefydliadau Addysg Uwch, Ysgolion, CGA ac Estyn i ymgysylltu â’r polisi a’r gwaith o weithredu’r cynnig yn flynyddol. Mae undebau’r gweithlu addysg hefyd yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw newidiadau posibl i’r polisi a’r gwaith o weithredu’r cynnig yn ymarferol.

Beth yw’r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf?

Mae datblygu proffesiwn addysg o ansawdd ar ddechrau taith dysgu proffesiynol unigolyn yn ganolog i wireddu ein gweledigaeth ar gyfer addysg yng Nghymru ac yn un o’r pedwar amcan galluogi yn ‘Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl’.

Bydd y cynnig yn cael effaith gadarnhaol ar athrawon dan hyfforddiant sy’n gymwys i wneud cais a chael y cymhelliant ariannol.

Yn ogystal, mae’r cynnig yn cael ychydig o effaith gadarnhaol anuniongyrchol ar blant a phobl ifanc. Bwriad y cynnig yw sicrhau bod digon o athrawon sydd â’r sgiliau a’r wybodaeth mewn meysydd pwnc arbenigol ar gael i addysgu mewn ysgolion ledled Cymru gan ddiogelu addysg plant a phobl ifanc drwy’r Cwricwlwm i Gymru.

Mae sicrhau gweithlu addysgu i ddiogelu addysg plant a phobl ifanc yn cael effeithiau cadarnhaol arnyn nhw’u hunain, eu teuluoedd a’u cymunedau. Mae diben a nodau ehangach y cwricwlwm ac addysg yn cael effeithiau cadarnhaol sylweddol ar bobl, cymunedau, yr economi a’r Gymraeg. Fodd bynnag, nid yw effaith y cynnig penodol hwn yn ddigon arwyddocaol i’w mesur mewn ffordd ystyrlon gan mai darn bach yw’r cynnig o’r gwaith llawer ehangach sy’n gysylltiedig â sicrhau system addysg o ansawdd uchel yng Nghymru.

Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig:

  • yn sicrhau’r cyfraniad mwyaf posibl at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant a/neu,
  • yn osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Mae sicrhau proffesiwn addysgu cydweithredol, o ansawdd uchel ac sy’n seiliedig ar ymchwil, yn cyfrannu at nifer o’r nodau llesiant, gan gynnwys Cymru lewyrchus, Cymru sy’n fwy cyfartal, Cymru o gymunedau cydlynus, a Chymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. Bwriad y cynnig yw cefnogi recriwtio athrawon pwnc arbenigol dan hyfforddiant i AGA, ac wedi hynny i’r gweithlu addysgu ysgolion, sy’n ofynnol i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru, sef y prif gyfrwng ar gyfer cyfrannu at les plant a phobl ifanc ledled Cymru.

Sut bydd effaith y cynnig yn cael ei monitro a’i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo a phan ddaw i ben

Mae’r cynnig yn cael ei adolygu’n flynyddol yn erbyn ei nodau, a’r data a’r gyllideb sydd ar gael. Gwahoddir rhanddeiliaid allweddol i ymgysylltu â’r broses hon a darparu tystiolaeth ar gyfer gwella ac asesu effaith yn barhaus.

Bydd yr asesiad effaith diweddaraf hwn yn cael ei adolygu’n flynyddol fel rhan o hyn i fonitro effaith y cynnig ac unrhyw newidiadau posibl a wneir o ystyried data a thystiolaeth newydd.