Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Bydd y Cynllun Grant Strategol ar gyfer Sefydliadau Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol (neu’r ‘SVYWO’) (y Grant Sefydliadau Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol (NVYO) gynt) yn darparu cyllid craidd er mwyn cynorthwyo sefydliadau ieuenctid gwirfoddol i ddarparu a datblygu cyfleoedd Gwaith Ieuenctid o’r radd flaenaf i bobl ifanc 11-25 oed yng Nghymru. Gallai’r grant hwn ddarparu:

  • cymorth gyda chostau craidd cyffredinol h.y. cynorthwyo gyda chostau seilwaith cenedlaethol sefydliadau yng Nghymru (y sefydliadau fydd yn penderfynu ar gyfer pa ran o’r seilwaith y gwneir cais am gyllid craidd)
  • sefydlogrwydd i sefydliadau fel y gellir parhau gydag ymyriadau da yng Nghymru

Yn dilyn ceisiadau ar gyfer rownd gyntaf y grant a agorwyd yn Hydref 2021, mae ail rownd o’r grant yn cael ei agor ar gyfer ariannu o Mai 2023 i Mawrth 2025. Yn unol â’r rownd gyntaf, gofynnir am geisiadau gan sefydliadau gwirfoddol sydd nail ai’n gweithredu ledled Cymru yn darparu cyfleoedd gwaith ieuenctid o’r radd flaenaf, neu sy’n darparu gwasanaethau gwaith ieuenctid arbenigol wedi’i anelu at y rhai â nodweddion gwarchodedig.

Dylai’r ymgeiswyr sicrhau eu bod yn darllen y ddogfen hon sef Gwybodaeth i Ymgeiswyr am Grantiau, yn ei chyfanrwydd, yn cynnwys yr atodiadau, cyn cyflwyno cais.

Fframwaith polisi

Hyd a lefel y cymorth grant

Bydd ail rownd y grant SVYWO yn rhedeg o Mai 2023 hyd at 31 Mawrth 2024, a bydd yn cael ei rannu fel a ganlyn. Mae hyd at £300,000 y flwyddyn wedi ei neilltuo i’r rownd hwn.

Bydd y cyllid hwn ae gael i gefnogi sefydliadau ieuenctid gwirfoddol cenedlaethol sy’n darparu gwaith ieuenctid a sefydliadau gwaith ieuenctid llai o faint sy’n arbenigo mewn cefnogi pobl ifanc â nodwedd warchodedig neu sydd o gefndir economaidd-gymdeithasol difreintiedig.

Amserlen ymgeisio

Mae’r amserlen ar gyfer ymgeisio fel a ganlyn:

Wythnos yn dechrau 13 Mawrth 2023: Pecynnau ymgeisio llawn ar gael.

11 Ebrill 2023, 10.00am: Y dyddiad olaf y bydd Llywodraeth Cymru’n derbyn ceisiadau.

Ebrill 2023: Bydd ceisiadau’n cael eu hystyried gan banel a fydd yn cyflwyno argymhellion i Weinidog y Gymraeg ac Addysg.

30 Ebrill 2023: Cyhoeddi’r penderfyniadau erbyn y dyddiad hwn.

Mai 2023: Cyfnod cyllido’n cychwyn.

 

Sut i ymgeisio

Caiff y SVYWO ei reoli gan Lywodraeth Cymru. Mae’n ofynnol i sefydliadau sydd â diddordeb mewn ymgeisio am y SVYWO lenwi ffurflen gais.

Dylai ceisiadau gael eu cwblhau yn electronig a’u hanfon ar e-bost at gwaithieuenctid@llyw.cymru.

Pan fo cyfyngiad ar nifer y geiriau y dylid eu defnyddio yn y ffurflen gais, gofynnwn ichi beidio â mynd y tu hwnt i’r cyfyngiad hwn yn yr adrannau hynny.

Meini prawf cymhwysedd sefydliad

Er mwyn ymgeisio am gyllid rhaid i chi:

  1. fod yn sefydliad ieuenctid gwirfoddol cenedlaethol sy’n gweithredu ledled Cymru (gweithredu mewn 18 o awdurdodau lleol o leiaf, nail ai’n gorfforol neu’n ddigidol), a/neu
  2. fod yn darparu gwasanaethau gwaith ieuenctid arbenigol wedi’u hanelu at bobl ifanc â nodweddion gwarchodedig neu sydd o gefndir economaidd-gymdeithasol difreintiedig nad ydynt yn wasanaethau sy’n cael eu darparu’n eang unrhyw le arall ac a fyddai o berthnasedd strategol i’r strategaeth gwaith ieuenctid drwy sicrhau bod cyfleoedd yn fwy cydradd ac amrywiol.

Gall Ceisiadau fod yn gynigion ar y cyd.

  1. fod yn cyflawni gwaith ieuenctid ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed yn unol â:
  • Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Gwaith Ieuenctid
  • Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion
  • Strategaeth Genedlaethol Gwaith Ieuenctid Cymru 2019
  1. gydymffurfio â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, a’r Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc.
  2. dangos sut yr ydych yn bodloni gofynion iaith y bobl ifanc yr ydych yn gweithio gyda nhw, a
  3. dangos sut y byddwch yn rhannu sgiliau ac arferion addawol gydag eraill, yn enwedig o ran cynyddu cydraddoldeb ac estyn allan i wella cynwysoldeb.

Mathau o weithgareddau y gellir eu cynorthwyo gan y SVYWO

Mae’r grant hwn ar gyfer costau craidd. Pwrpas costau craidd yw rhoi sefydlogrwydd i sefydliadau yng Nghymru, gan alluogi Cymru i gadw ymyriadau gwaith ieuenctid o ansawdd. Costau gweithgareddau anghyfyngedig rheolaidd o ddydd i ddydd yw costau craidd (a elwir yn gostau rhedeg hefyd), sy’n angenrheidiol er mwyn i sefydliadau allu gweithredu. Fel arfer, maent yn cynnwys costau rheoli, gweinyddu a chymorth cyffredinol, yn ogystal â chostau adeiladau, rhai’n ymwneud â’r sefydliad cyfan yn hytrach na rhai’n ymwneud â phrosiectau unigol. Yn aml, gelwir y costau hyn yn gostau anuniongyrchol, yn gostau canolog neu’n gostau cymorth.

Mae costau craidd neu rhedeg nodweddiadol yn cynnwys:

  • cyflogau staff craidd fel rheolwyr, gweinyddwyr, staff cyllid, glanhawyr a gofalwyr
  • cynnal cyfarfodydd yr ymddiriedolwyr neu bwyllgor rheoli a’u treuliau
  • rhent, gwres, goleuadau, cynnal a chadw ac yswiriant
  • costau gweinyddol a chostau swyddfa, er enghraifft, deunyddiau ysgrifennu, biliau ffôn, postio, llungopïo
  • codi arian ar gyfer y costau cymorth ar gyfer y sefydliad yn ei gyfanrwydd

Llenwi eich cais SVYWO

Bydd yn ofynnol i sefydliadau sy’n llenwi’r ffurflen gais ar gyfer grant SVYWO roi manylion llawn ynglŷn â sut y bydd eu cais yn bodloni’r casgliad o feini prawf a nodir yn y ffurflen gais.

Bydd y panel asesu’n chwilio am dystiolaeth yn ymwneud â’r meysydd canlynol:

Adran A: Gwybodaeth yn ymwneud â’ch sefydliad(au). Os ydych yn cyflwyno cynnig ar y cyd, bydd y cyllid yn cael ei ddarparu drwy’r sefydliad arweiniol. Bydd angen manylion pob sefydliad sy’n rhan o’r cais, ond dim ond ar gyfer y sefydliad arweiniol y bydd angen manylion staff allweddol, ond os oes achos o wrthdaro dylid cyflwyno manylion y ddau sefydliad.

Adran B: Manylion a diben eich cais. Mae hyn yn cynnwys:

  • trosolwg o’ch cynnig gan gynnwys targedau penodol a fydd yn cael eu cyflawni a’u monitro
  • tystiolaeth o’ch cymhwysedd i ymgeisio am gyllid SVYWO
  • tystiolaeth yn ymwneud â bodloni gofynion ieithyddol pobl ifanc
  • tystiolaeth yn ymwneud â sicrhau ansawdd eich darpariaeth

Adran C: Rheoli eich cynnig. Mae hyn yn cynnwys:

  • sut y byddwch yn monitro ac yn gwerthuso eich cynnydd, yn dangos yr hyn rydych chi wedi’i gyflawni, ac yn lliniaru unrhyw risgiau a nodwyd. Dylech gynnwys manylion sut y bydd pobl ifanc yn dod yn rhan o’ch gwerthusiadau, ac unrhyw adnoddau/systemau monitro y byddwch yn eu defnyddio

Adran D: Gwybodaeth am y gyllideb. Mae hyn yn cynnwys:

  • gwybodaeth fanwl am ffynonellau cyllid, yn cynnwys y cyllid rydych chi’n gwneud cais amdano gan y grant SVYWO
  • tystiolaeth yn ymwneud â gwerth am arian, denu adnoddau ychwanegol
  • cynaliadwyedd

Dylid ystyried hyfywedd eich sefydliad a’ch gweithgaredd arfaethedig hefyd (yn cynnwys hyfywedd ariannol).

Gwybodaeth ychwanegol y mae ei hangen i ategu eich Ffurflen Gais

Mae’r cais yn cynnwys meysydd eraill y bydd angen ichi eu llenwi, a gall hyn gynnwys darparu dogfennau penodol (Adran E: Rhagdaliadau a dogfennau angenrheidiol).

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Cadarnhad ynghylch yr angen am ragdaliadau
  • Siart sefydliadol yn dangos yr holl swyddi y ceisir cyllid grant ar eu cyfer
  • Copi o’ch Polisi Cydraddoldeb
  • Copi o’ch Polisi Diogelu
  • Copi o Bolisi’r Gymraeg

Mae Adran F y ffurflen gais yn gofyn ichi wneud datganiadau perthnasol a chadarnhau eich bod yn deall.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais mewn perthynas â chylch cyllido SVYWO 2023 i 2025 yw 10.00am, 11 Ebrill 2023. Ni fydd unrhyw ffurflen gais a dderbynnir ar ôl y dyddiad a’r amser hwn yn cael ei hystyried. Rhaid ichi gyflwyno eich cais yn electronig at E-bost: gwaithieuenctid@llyw.cymru. Rhaid i bob rhan o’ch ffurflen gais ein cyrraedd erbyn y dyddiad cau uchod.

Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am ffurflenni cais na ddaethant i law cyn y dyddiad a’r amser cau. Efallai y byddai’n werth ichi ddewis cael derbynneb ar ffurf e-bost yn cadarnhau bod eich neges wedi cyrraedd.

Bydd ceisiadau’n cael eu hystyried gan banel. Bydd y panel yn cynnwys swyddogion Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr o’r maes Gwaith Ieuenctid. Bydd y panel yn asesu’r ceisiadau a’r dogfennau ategol ar sail y meini prawf a restrir uchod, cyn cyflwyno’u hargymhellion i Weinidog y Gymraeg ac Addysg. Cyfrifoldeb y Gweinidog fydd penderfyniadau ynghylch alldalu cymorth grant y Cynllun SVYWO hwn.

Go brin y bydd modd inni gynnig grant i’r holl ymgeiswyr. Os bydd cyfanswm yr arian y gwneir cais amdano gan yr holl ymgeiswyr yn fwy na’r gronfa grant sydd ar gael, bydd ceisiadau’n cael eu sgorio gan y panel ar sail y meini prawf, gan ystyried yr holl dystiolaeth.

Eich hysbysu ynghylch dyrannu grantiau

Bydd ymgeiswyr yn cael eu hysbysu trwy e -bost o ddeilliant y cais erbyn 30 Ebrill 2023. Bydd ymgeiswyr aflwyddiannus yn cael gwybod y rheswm(rhesymau) pam na fuont yn llwyddiannus. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu trwy e-bost o ddeilliant eu cais, wedi ei ddilyn yn fuan wedyn gan lythyr cynnig grant. Bydd amodau a thelerau safonol Llywodraeth Cymru yn berthnasol i unrhyw gynnig grant. I dderbyn y cynnig grant, bydd angen i’r ymgeisydd lofnodi’r ffurflen dderbyn ac anfon y ddogfen gyflawn yn ôl at Lywodraeth Cymru gan gadarnhau bod y rhai sydd wedi llofnodi’r llythyr cynnig ag awdurdod priodol i wneud hynny. Yna, gellir rhyddhau’r cyllid fel y cytunwyd yn yr amodau a’r telerau.

Monitro a gwerthuso

Er mwyn galluogi Llywodraeth Cymru i fonitro dyfarniadau grant unigol a gwerthuso effeithiolrwydd y cynllun hwn, bydd angen i sefydliadau sy’n derbyn grant gymryd rhan mewn trefniadau monitro canol a diwedd blwyddyn, fel y nodir isod.

Bydd angen i sefydliadau sy’n derbyn grant ddarparu’r wybodaeth ganlynol erbyn 18 Hydref 2023 ac 18 Hydref 2024:

  • Adroddiad canol blwyddyn (a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i’w gwblhau) yn dangos y cynnydd ar sail yr amcanion y cytunwyd arnynt ac yn nodi’r hyn a gyflawnwyd ac effaith y cyflawniadau hynny. Rhaid i’r adroddiadau hyn gynnwys y gwariant hyd at y cyfnod hwnnw hefyd.

Bydd angen i sefydliadau sy’n derbyn grant ddarparu’r wybodaeth ganlynol erbyn 30 Ebrill 2024 a 30 Ebrill 2025:

  • Adroddiadau gwerthuso blynyddol (a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i’w cwblhau) yn dangos y cynnydd ar sail yr amcanion y cytunwyd arnynt ac yn nodi’r hyn a gyflawnwyd ac effaith y cyflawniadau hynny.

Disgwylir i’r sefydliadau fynychu cyfarfodydd monitro rheolaidd (dwywaith y flwyddyn o leiaf) gyda rheolwr grantiau Llywodraeth Cymru fel rhan o’r broses hon.

Efallai hefyd y bydd gofynion ychwanegol yn cael eu cynnwys yn y llythyr dyfarnu.

Taliadau

Ar ôl derbyn hawliad dilys, bydd ôl-daliadau chwarterol yn cael eu gwneud bob blwyddyn ym mis; Mehefin, Medi, Rhagfyr a Mawrth. Rhaid i sefydliadau sydd angen rhagdaliadau lenwi ffurflen gais rhagdaliadau i ddangos yr angen hwn. Gall ymgeiswyr llwyddiannus ofyn am y ffurflen hon, a bydd angen ei llenwi cyn i’r llythyr cynnig gael ei anfon.

Erbyn diwedd Mai 2023 a Mai 2024 rhaid i sefydliadau sy’n derbyn grant gyflwyno tystysgrif ‘Datganiad Gwariant’ (darperir templed). Rhaid i hon gael ei llofnodi er mwyn ardystio bod yr holl gymorth grant a gafwyd wedi’i wario at y dibenion y darparwyd ef ar eu cyfer.

Sylwer: ar gyfer sefydliadau â statws elusennol, rhaid iddynt baratoi cyfrifon blynyddol yn unol â chanllawiau’r Comisiynydd Elusennau, ‘Accounting by Charities Statement of Recommended Practice’, neu Ddatganiadau’r Comisiynydd, ‘Accrual Accounting for the Smaller Charity’ ac ‘Accounting for Smaller Charities Receipts and Payment Basis’, gan ddibynnu ar incwm blynyddol y sefydliad.

Bydd y sefydliad yn gyfrifol am bob hawliad ac am dderbyn taliadau a’r gofynion talu cysylltiedig a nodir uchod gyda Llywodraeth Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys, ond eu cyfyngu i’r canlynol:

  • Bydd yn ofynnol ichi ddychwelyd arian grant na chaiff ei ddefnyddio at y dibenion a gymeradwywyd.
  • Dim ond ar gyfer yr hyn a wariwch mewn gwirionedd y byddwn yn talu cyllid grant.
  • Gofynnwn ichi ddychwelyd unrhyw ordaliad.
  • Rhaid cydnabod Llywodraeth Cymru mewn unrhyw gyhoeddusrwydd yn ymwneud â’r gwaith a gynorthwyir gan y grant SVYWO a gall logos priodol gael eu darparu i gynorthwyo â hyn.

Methu â chydymffurfio â’r gofynion adrodd

Efallai y bydd methu â chydymffurfio’n llawn â’r telerau ac amodau yn y llythyr dyfarnu grant yn arwain at oedi neu ganslo taliadau’r grant SVYWO, ac efallai y bydd camau’n cael eu cymryd i adennill unrhyw arian grant a dalwyd eisoes. Pe bai sefydliad yn cael unrhyw drafferthion, dylai gysylltu â Llywodraeth Cymru cyn gynted ag y bo modd, fel y gellir dod o hyd i ateb.

Gweithdrefn gwyno

Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud ei gorau i sicrhau bod y Cynllun yn cael ei weinyddi’n ôl y safonau uchaf a bod pob sefydliad sy’n cyflwyno cais yn cael ei drin yn deg. Os bydd gan sefydliad gŵyn neu sylwadau’n ymwneud ag unrhyw agwedd ar y Cynllun, dylai gysylltu â Llywodraeth Cymru yn ysgrifenedig. Bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio ateb o fewn 15 diwrnod gwaith.

 

Cyngor a chanllawiau cyffredinol

Mae’n bwysig i sefydliadau aros yn annibynnol a pheidio â mynd yn orddibynnol ar gyllid y llywodraeth. Rhaid i sefydliadau allu dangos eu bod yn gwneud pob ymdrech i godi cyllid neu gynyddu eu hincwm trwy gyfrwng ffynonellau nad ydynt yn ffynonellau’r llywodraeth.

Bydd swyddogion o’r Gangen Ymgysylltu ag Ieuenctid yn rhoi cyngor ac arweiniad yn ymwneud â’r broses ymgeisio yn ystod y cylch ymgeisio agored. Ni fydd modd i’r swyddogion drafod ceisiadau unigol. Dylid anfon ymholiadau’n ymwneud â’r Cynllun Grant SVYWO neu’r broses ymgeisio, ynghyd â ffurflenni cais, at e-bost: gwaithieuenctid@llyw.cymru.

Mae cymorth cyffredinol yn ymwneud â gwaith ieuenctid y sector gwirfoddol ar gael gan:

Paul Glaze
Prif Weithredwr
Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol
Uned 29
Tŷ Menter, 127-129 Stryd Bute
Caerdydd
CF10 5LE

Rhif ffôn: 029 2047 3498

Cyfeiriad e-bost: paul@cwvys.org.uk

 

Cyhoeddusrwydd

Gall ymgeiswyr llwyddiannus eu gofyn i gyfrannu at weithgareddau cyhoeddusrwydd yn y dyfodol.

Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol

Mewn perthynas ag unrhyw geisiadau am grant a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), rydym wedi cyhoeddi Hysbysiad Preifatrwydd Grantiau. Pwrpas hwn yw ei gwneud yn haws ichi ddeall sut y byddwn yn defnyddio ac yn diogelu eich gwybodaeth yn Llywodraeth Cymru pan fyddwch chi’n holi neu’n gwneud cais am gyllid. Bydd yr hysbysiad newydd yn rhoi manylion ychwanegol ichi, fel:

  • eich hawliau cynyddol mewn perthynas â’r wybodaeth a gadwn amdanoch
  • y sail gyfreithiol dros y modd y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth

Bydd yr Hysbysiad Preifatrwydd Grantiau yn berthnasol i bob grant neu gyllid a roddwn ichi.

Sut i gael mwy o wybodaeth

Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd ar waith ers mis Ionawr 2023 a gallwch ei weld ar Hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru.

Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd Grantiau’n sicrhau y byddwn yn parhau i gydymffurfio â chyfraith a rheoliadau preifatrwydd.

Atodiad

Cymhwysedd y gwariant

Bydd yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gael tystiolaeth yn dangos bod costau wedi’u hysgwyddo a’u talu i ategu unrhyw hawliad dan y grant.

Cyfnod cymwys

Bydd gwariant yn gymwys dan SVYWO os yw wedi’i ysgwyddo a’i dalu rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024 a rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025, mewn perthynas â gweithgareddau a ddisgrifir yn y cais, ac ar ôl cael cymeradwyaeth wedyn gan Lywodraeth Cymru.

Ystyrir bod unrhyw wariant a gaiff ei ysgwyddo cyn 1 Ebrill 2023 yn anghymwys.

Treth ar werth

Mae Treth ar Werth (TAW) y gellir ei hadennill, trwy ba bynnag fodd, yn anghymwys, hyd yn oed os nad yw wedi’i hadennill mewn gwirionedd gan yr ymgeisydd.

Gellir cynnwys TAW anadenilladwy yng nghais y prosiect fel cost gymwys.

Adeg cyflwyno taliadau, bydd yn ofynnol i’r ymgeiswyr gyflwyno cadarnhad yn nodi mai costau TAW anadenilladwy yn unig sydd wedi’u cynnwys yn y cais SVYWO a’u hawlio wedyn yn ystod y cyfnod gweithredu.

Gwariant anghymwys

Mae’r costau canlynol yn anghymwys i gael cymorth dan SVYWO: (Nid yw’r rhestr hon yn gwbl gynhwysfawr)

  • costau a ysgwyddwyd cyn 1 Ebrill 2022
  • ffioedd banc ar gyfrifon
  • ffioedd trafodiadau ariannol, colledion a chomisiwn cyfnewid arian tramor, a threuliau eraill cwbl ariannol eu natur
  • ffioedd benthyciadau
  • ffioedd llog neu ffioedd gwasanaeth, sy’n deillio o brydlesi a threfniadau hurbwrcasu
  • costau sy’n deillio o ohirio taliadau i gredydwyr
  • dyledion drwg sy’n deillio o fenthyciadau i gyflogeion, perchnogion, partneriaid, cyfarwyddwyr, gwarantwyr neu gyfranddalwyr
  • dirwyon, cosbau ariannol a threuliau ymgyfreitha
  • talu am anrhegion a rhoddion ariannol
  • costau adloniant
  • gwaith atgyweirio a chynnal a chadw, oni bai ei fod yn ymwneud yn uniongyrchol â chyflawni’r prosiect
  • costau a gaiff eu hysgwyddo gan unigolion wrth sefydlu a chyfrannu at gynlluniau pensiwn preifat, neu sefydlu cynlluniau o’r fath gan sefydliadau sy’n derbyn cronfeydd strwythurol
  • costau dileu swyddi
  • talu am bensiynau heb eu hariannu

Costau cyflogau

Mae costau staffio’n gymwys ar gyfer personél sy’n ymwneud yn uniongyrchol â chyflawni’r prosiect, boed hynny’n llawn amser neu’n rhan-amser. Rhaid i’r ymgeiswyr gyflwyno sail resymegol dros y costau yn y ffurflen gais. Dylai costau staff gynnwys cyflogau gros a chyfraniadau yswiriant gwladol y cyflogwr, a gellir cynnwys costau pensiwn y cyflogwr pan fo cynllun pensiwn sefydledig i’w gael sy’n berthnasol i’r holl staff.

Gellir cynnwys costau rhesymol sy’n deillio o’r contract cyflogaeth, yn cynnwys cynnydd disgwyliedig mewn graddau neu raddfeydd cyflog, fel costau cymwys yn y cais.

Dylai’r ymgeiswyr nodi’r dull mwyaf priodol o ddosrannu costau staff a chyflwyno sail resymegol dros y costau yn y ffurflen gais.

Efallai y bydd costau recriwtio staff yn gostau cymwys.

Tâl Salwch, mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu

Efallai y bydd tâl salwch, mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu’n gymwys os yw’n cyd-fynd â pholisi staff y sefydliad neu os caiff ei gynnwys yng nghontract cyflogaeth yr unigolyn. Ni fydd tâl salwch statudol neu dâl mamolaeth statudol a gaiff ei adennill gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, hyd yn oed os na chaiff ei adennill gan yr ymgeisydd, yn gymwys. Rhaid i’r ymgeiswyr gyflwyno sail resymegol dros y costau yn y ffurflen gais.

Efallai y gellir ystyried costau’n ymwneud â darparu staff dros dro i gymryd lle staff sydd ar absenoldeb mamolaeth neu absenoldeb salwch hirdymor adeg gweithredu’r prosiect fel costau cymwys. Fodd bynnag, ni fydd cyllid SVYWO ychwanegol yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru. Bydd y costau hyn yn cael eu hystyried fesul achos gan Lywodraeth Cymru.

Costau teithio a chynhaliaeth

Dim ond pan fydd costau teithio a chynhaliaeth yn ymwneud â’r cynnig SVYWO y gellir eu hystyried fel costau cymwys, a phan fydd Llywodraeth Cymru’n ystyried eu bod yn rhesymol. Rhaid i’r ymgeiswyr gyflwyno sail resymegol dros y costau yn y ffurflen gais.

Bydd yn rhaid i lwfansau dyddiol a chostau llety gyd-fynd â pholisi safonol y sefydliad cyflogi mewn perthynas â chynhaliaeth. Bydd Llywodraeth Cymru’n ystyried y costau hyn wrth asesu’r prosiect er mwyn sicrhau eu bod yn rhesymol.

Dylai cyfraddau y filltir gyd-fynd â’r cyfraddau statudol a bennir gan y Cynllun Taliadau Lwfans Milltiredd Cymeradwy – gellir gweld y cyfraddau hyn trwy ddilyn y ddolen ganlynol Defnyddio cerbyd: cyfraddau y filltir o 4 Gorffennaf 2019 ar gov.uk.

Costau hyfforddi staff

Gellir cynnwys y gost o hyfforddi staff mewn perthynas â gweithgareddau’r prosiect yn y cais; er, disgwylir i bob sefydliad sy’n cyflwyno cais fod â staff sydd wedi’u hyfforddi’n briodol i gyflawni’r prosiect. Dim ond costau hyfforddi staff ar gyfer hyfforddiant sy’n berthnasol i gaffael gwybodaeth arbenigol er mwyn eu galluogi i gyflawni’r prosiect SVYWO yn effeithiol y dylid gwneud cais amdanynt. Ni fydd y gost o ddarparu hyfforddiant ar gyfer datblygiad personol staff yn gymwys. Rhaid i’r ymgeiswyr gyflwyno sail resymegol dros y costau yn y ffurflen gais.

Ni fydd costau hyfforddi ar gyfer cymhwyster gwaith ieuenctid lefel 2 neu 3 yn cael eu hystyried, oherwydd gellir cael gafael ar y cyrsiau hyn trwy Addysg Oedolion Cymru ac Awdurdodau Lleol.

Taliadau bonws a chymelliadau i staff

Mae’r canlynol yn anghymwys:

  • taliadau bonws neu lwfansau eraill di-dreth
  • taliadau ymadael
  • darpariaethau hawliau pensiwn eithriadol neu anarferol
  • taliadau bonws
  • benthyciadau
  • ceir cwmni

Mae’r canlynol yn gymwys pan fônt yn drethadwy:

  • taliadau gofal plant neu daliadau crèche

Ffioedd proffesiynol neu ymgynghori a ffioedd Is-gontractwyr

Bydd gwariant ar waith a wneir gan ymgynghorydd neu is-gontractwr yn gymwys os bydd y gwaith yn hanfodol i gyflawni’r prosiect ac os bydd y costau, ym marn Llywodraeth Cymru, yn rhesymol. Rhaid i’r ymgeiswyr gyflwyno sail resymegol dros y costau yn y ffurflen gais.

Pan fydd ffioedd ymgynghori a ffioedd contractwyr wedi bod yn destun proses dendro gymeradwy, efallai y gellir cynnwys cyfradd y farchnad sy’n deillio o’r ymarfer hwnnw yn y cais, cyn belled nad yw’r tendr gwreiddiol yn fwy na thair oed.

Gall ffioedd ymgynghori gynnwys gwasanaethau cyfreithiol, cyfrifyddiaeth ac archwilio sy’n ofynnol i gyflawni’r prosiect.