Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Pam y mae hyn yn bwysig

Mae atal a rheoli heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd (HCAI) yn flaenoriaeth strategol ar gyfer iechyd y boblogaeth a diogelwch cleifion. O ganlyniad i leihau gofynion y mae modd eu hosgoi ar y system, mae canlyniadau cleifion yn cael eu gwella, mae profiadau pobl yn cael eu gwella, mae egwyddorion gofal a llywodraethiant clinigol o ansawdd uchel yn cael eu cynnal, ac mae gwydnwch y system yn cael ei gryfhau. 

Mae mynd i'r afael â'r niwed i unigolion a'r gost gofal iechyd sy'n gysylltiedig â HCAI yn hanfodol ar gyfer optimeiddio diogelwch cleifion, llywio penderfyniadau iechyd y cyhoedd, a helpu i ddyrannu adnoddau yn ddarbodus. Mae deall effaith lawn yr heintiau hyn ar bobl ac ar y system yn hanfodol er mwyn datblygu strategaethau atal effeithiol a lleihau'r baich ar unigolion, sefydliadau gofal iechyd a chymdeithas.

Mae atal HCAI y mae modd eu hosgoi yn lleihau niwed, yn meithrin ymddiriedaeth ac yn helpu i ddarparu gofal diogel ac urddasol sydd wir yn diwallu anghenion unigolion a chymunedau.

Mae ymgorffori mesurau Atal a Rheoli Heintiau (IPC) o ansawdd uchel, ochr yn ochr â stiwardiaeth gyfrifol o adnoddau amgylcheddol, yn cyfrannu at gynaliadwyedd amgylcheddol trwy leihau defnydd gwrthficrobaidd diangen, lleihau gwastraff, a chefnogi'r gwaith o ddatgarboneiddio gwasanaethau gofal iechyd.

Bydd y Cod Ymarfer ar gyfer Atal a Rheoli Heintiau sy'n Gysylltiedig â Gofal Iechyd (2026) yn amlinellu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddileu HCAI y gellir eu hatal. Bydd yn pwysleisio'r ffaith bod gan bawb gyfrifoldeb yn hyn o beth a bod yn rhaid i'r dystiolaeth gadarn sy'n cefnogi IPC effeithiol sbarduno gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, heddiw ac ar gyfer y dyfodol.

Mae gan bobl, eu teuluoedd a'u gofalwyr hawl sylfaenol i dderbyn gofal mewn amgylcheddau sy'n ddiogel, yn lân, wedi'u cynnal yn dda ac yn cael eu rheoli'n dda drwy'r amser. Maent yn disgwyl i ofal gael ei ddarparu gan weithwyr proffesiynol cymwys a hyderus sydd wedi'u haddysgu'n dda, ac sy'n dangos arweinyddiaeth ac atebolrwydd wrth gymhwyso arferion IPC cadarn bob amser.

Mae cynorthwyo staff i ddarparu gofal diogel yn hanfodol er mwyn cynnal llesiant y gweithlu, lleihau niwed y mae modd ei osgoi, a chynnal ymddiriedaeth y cyhoedd mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae gan staff yr hawl i weithio mewn lleoliadau sy'n sicrhau eu diogelwch trwy fynediad at addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel, offer priodol a gwybodaeth briodol ac amgylcheddau sydd wedi'u cynllunio i leihau'r risg o haint. Os nad oes modd rhoi rheolaethau amgylcheddol ar waith (er enghraifft, yng nghartref unigolyn), dylai hierarchaeth o reolaethau fod ar waith i liniaru risg.

Cyd-destun

Sut mae hyn yn cyd-fynd â pholisi ehangach?

Mae'r datganiad ansawdd hwn yn adeiladu ar waith y Cod Ymarfer ac yn disodli strategaeth Llywodraeth Cymru "Ymrwymiad i Bwrpas: Dileu heintiadau ataliadwy sy'n gysylltiedig â gofal iechyd (HCAI): Fframwaith Camau Gweithredu ar gyfer Sefydliadau Gofal Iechyd yng Nghymru" (2011). Mae'n amlinellu disgwyliadau sy'n cyd-fynd â'r Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal, gan gynnwys meysydd a galluogwyr.

Mae Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 yn amlinellu Dyletswydd Ansawdd, sy'n ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau brofi eu bod yn darparu gofal o safon drwy System Rheoli Ansawdd. Mae’r system yn sicrhau bod pob agwedd ar ansawdd yn cael ei hystyried: cynllunio, sicrwydd, rheoli a gwella. Mae'r datganiad ansawdd hwn yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu a chomisiynu System Rheoli Ansawdd gadarn ar gyfer atal HCAI a rhoi sicrwydd o welliant mewn perthynas â phob un o’r safonau. 

Hefyd, mae'r Ddeddf yn sefydlu Dyletswydd Gonestrwydd statudol, sy'n gosod rhwymedigaeth gyfreithiol ar bob sefydliad y GIG yng Nghymru i weithredu mewn ffordd dryloyw pan fydd gofal yn arwain at ganlyniadau anfwriadol neu annisgwyl. Yn benodol, mae'r ddyletswydd hon yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau hysbysu unigolion ac ymddiheuro iddynt yn ffurfiol pan fydd tystiolaeth bod niwed cymedrol, niwed difrifol, neu farwolaeth wedi digwydd o ganlyniad i ofal neu driniaeth.

Mae'r datganiad ansawdd hwn yn adlewyrchu egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 drwy gefnogi dull gweithredu ataliol a hirdymor ym meysydd iechyd a gofal. Ei nod yw lleihau niwed y mae modd ei osgoi, gwella canlyniadau iechyd y boblogaeth, a hyrwyddo gwaith i ddarparu gofal iechyd cynaliadwy. Trwy IPC cadarn, stiwardiaeth gwrthficrobaidd, addysg, a gwella ansawdd yn barhaus, mae'r weledigaeth a amlinellir yn y datganiad ansawdd hwn yn cyfrannu at Gymru iachach, mwy cydnerth sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang, gan sicrhau bod yr hyn a wnawn heddiw yn diogelu ac yn gwella llesiant cenedlaethau'r dyfodol. 

Hefyd, mae'r gwaith hwn yn cyd-fynd â Chynllun Cyflawni Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru, gan gydnabod bod atal heintiau a defnyddio adnoddau mewn ffordd gyfrifol yn atgyfnerthu nodau iechyd y cyhoedd. 

Hefyd, mae sbardunau polisi'r DU yn cefnogi cyfeiriad ac uchelgais y datganiad ansawdd hwn i Gymru. Mae’r rhain yn cynnwys UK 20-year vision for antimicrobial resistance - GOV.UK) a’r UK 5-year National Action plan (NAP) for antimicrobial resistance.

Dull gweithredu

Sut mae'r ddogfen hon wedi cael ei datblygu? 

Cynhyrchwyd y ddogfen hon drwy Swyddfa'r Prif Swyddog Nyrsio, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Perfformiad a Gwella GIG Cymru. Mae'n seiliedig ar bolisi cenedlaethol a pholisi'r DU ac fe'i lluniwyd mewn partneriaeth ag arbenigwyr IPC amlbroffesiynol o bob cwr o Gymru. Arweiniwyd ymgysylltiad cadarn gan grŵp gorchwyl a gorffen cenedlaethol. Cafwyd cyfraniadau gan arweinwyr byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau ac arweinwyr gweithredol o bob rhan o GIG Cymru a'r trydydd sector.

Er bod dull system gyfan yn hanfodol ar gyfer newid trawsnewidiol, mae cwmpas y datganiad ansawdd hwn yn berthnasol i IPC yn benodol. Mae IPC yn gyfrifoldeb i bawb sy'n gweithio yn y GIG, ac ni ddylid ystyried y datganiad ansawdd hwn fel dogfen ar wahân. Mae strategaethau atal ehangach fel brechu, stiwardiaeth gwrthficrobaidd, Cymru Iachach, a datganiadau ansawdd penodol eraill yn ymwneud ag arbenigeddau allweddol yn atodiadau pwysig i'r ddogfen hon.

Mae'r nodweddion ansawdd wedi'u llunio ar sail y 12 Safon Ansawdd Iechyd a Gofal, sydd â'r bwriad o ddarparu fframwaith clir ar gyfer cynllunio, darparu a monitro gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru.

Cyflawni

Beth yw'r disgwyliadau ar gyfer sefydliadau GIG Cymru? 

Disgwylir i fyrddau iechyd, ymddiriedolaethau, a sefydliadau GIG ehangach yng Nghymru, gan gynnwys gwasanaethau a gomisiynir, gynnal adolygiad o'u statws mewn perthynas â phob un o'r nodweddion ansawdd a ddisgrifir yn y datganiad ansawdd. Bydd hyn yn gweithredu fel llinell sylfaen ac yn cyfrannu at ddatblygu cynlluniau gwella lleol neu sicrhau cysondeb â chynlluniau o’r fath sy'n bodoli eisoes. Hefyd, fe'i defnyddir i asesu darpariaeth, profiad a sicrwydd yn unol â disgwyliadau cenedlaethol.

Bydd Llywodraeth Cymru a Perfformiad a Gwella GIG Cymru yn pennu camau gweithredu allweddol, wedi'u hategu gan waith Grŵp Cyflawni HCAI GIG Cymru.

Bydd cymorth yn cael ei ddarparu gan dîm Rhaglen Heintiau sy'n Gysylltiedig â Gofal Iechyd, Ymwrthedd Gwrthficrobaidd a Rhagnodi (HARP) Iechyd Cyhoeddus Cymru, gweithwyr proffesiynol eraill yng nghyfarwyddiaethau Iechyd Cyhoeddus Cymru, a Perfformiad a Gwella GIG Cymru. Bydd camau gweithredu yn cael eu cyflawni mewn cydweithrediad â'r GIG ehangach, gan gynnwys gofal sylfaenol (meddygon teulu, deintyddion, fferyllwyr ac optometryddion), gwasanaethau cymunedol, partneriaid gofal cymdeithasol a rhwydweithiau arbenigol ledled Cymru.

Bydd gwaith cydweithredol parhaus yn canolbwyntio ar ddatblygu a darparu manylebau gwasanaeth cadarn sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer IPC ar bob lefel o ofal. Byddant yn cael eu llywio gan lwybrau, safonau, a chanllawiau clinigol cenedlaethol, a chodau ymarfer proffesiynol. Hefyd, bydd y broses ddatblygu yn ystyried cyfrifoldebau'r rhai sy'n comisiynu gofal er mwyn sicrhau bod arferion IPC wedi'u hymgorffori mewn gwasanaethau a gomisiynir. Rhoddir sylw hefyd i addysg, hyfforddiant ac adnoddau sydd eu hangen i gefnogi prosesau gweithredu effeithiol, monitro parhaus a gwerthuso ystyrlon.

Nodweddion IPC o ansawdd yng Nghymru

Diogel

  1. Defnydd cyson o lwybrau gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gyda’r rheini’n cael eu darparu gan weithlu amlbroffesiynol medrus, a’u cefnogi gan drefniadau llywodraethiant clinigol cadarn a llwybrau uwchgyfeirio, o'r man lle rhoddir gofal i arweinyddiaeth weithredol.
  2. Mae risgiau yn cael eu hasesu, eu cyfleu a'u huwchgyfeirio yn systematig oddi mewn i'r sefydliad yn ogystal â thrwy systemau monitro a llywodraethiant cenedlaethol, gyda mesurau priodol yn cael eu cymryd i liniaru a lleihau'r potensial ar gyfer niwed mewn ffordd ragweithiol.
  3. Mae data ar ddigwyddedd a chyffredinrwydd yn cael ei fonitro ac yn destun gwyliadwriaeth systematig er mwyn llywio rheolaethau a chamau gwella, yn ogystal â thargedau gwella i sicrhau bod modd cyflawni yn unol â safonau cenedlaethol y cytunwyd arnynt.
  4. Mae systemau cadarn yn cael eu sefydlu i ddogfennu a chadarnhau bod offer a dyfeisiau meddygol wedi'u dihalogi'n effeithiol, gan sicrhau eu bod yn ddiogel i'w hailddefnyddio. Mae hyn yn cynnwys darparu addysg gynhwysfawr i staff er mwyn atgyfnerthu ymwybyddiaeth o'u cyfrifoldebau a chanlyniadau posibl dihalogi annigonol.
  5. Monitro systematig o lanweithdra'r amgylchedd clinigol ac anghlinigol mewn ystadau newydd a hen ystadau, gan ddangos cydymffurfiaeth â'r Safonau Cenedlaethol Glanweithdra mewn Cyfleusterau Gofal Iechyd (sydd i'w cyhoeddi yn gynnar yn 2026). Mae systemau ar waith i fonitro diogelwch dŵr, arferion IPC safonol a seiliedig ar drosglwyddo, gwasanaethau golchi dillad, arferion dihalogi ac awyru amgylcheddol. Mae mynediad cyhoeddus a phobl yn mynd a dod mewn lleoliadau gofal iechyd yn cael eu hystyried, yn enwedig mewn ysbytai, lle mae risgiau IPC yn gallu bod yn uwch. Gan ddefnyddio'r hyn a ddysgwyd o'r pandemig, mae hyn yn cynnwys optimeiddio arferion ymweld ar wardiau a rheoli mannau aros. 

Amserol

  1. Mae systemau a phrosesau effeithiol, gan gynnwys awtomeiddio, wedi'u sefydlu i hwyluso prosesau cyfathrebu ac uwchgyfeirio amlbroffesiynol ar draws y system gofal iechyd, gan alluogi ymatebion amserol i gynnydd mewn digwyddedd ac achosion o haint, a data arferol ar wyliadwriaeth heintiau. Mae hyn yn sicrhau bod ymyriadau'n cael eu gweithredu'n brydlon, gan fonitro a gwerthuso eu heffaith yn barhaus.
  2. Mae gwaith asesu cydymffurfiaeth amserol a chadarn sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn cael ei wneud ar gyfer pob agwedd ar ymarfer ac ymyriadau rheoli heintiau yn unol â phrotocolau y cytunwyd arnynt. Goruchwylir y gwaith hwn gan weithwyr proffesiynol medrus a phrofiadol fel bod modd gwneud penderfyniadau effeithiol a sicrhau blaenoriaethu clinigol.
  3. Rhennir dysgu amser real mewn ffordd weithredol ar draws sefydliadau a'r system iechyd ehangach er mwyn lliniaru risgiau ac atal niwed. Gellir cyflawni hyn trwy ddulliau strwythuredig fel systemau adrodd am ddigwyddiadau, bwletinau dysgu, rhannu dangosfyrddau, a digwyddiadau dysgu traws-sector, gan sicrhau bod modd lledaenu gwersi a ddysgwyd yn amserol a hyrwyddo gwelliant parhaus ym mhob lleoliad gofal.
  4. Mae'n hollbwysig cynnal asesiadau risg a brysbennu cleifion mewn ffordd amserol ac effeithiol os oes ganddynt haint neu eu bod mewn perygl o ddatblygu haint er mwyn eu hynysu yn briodol, gan gefnogi'r egwyddor o'r lle iawn a'r amser iawn ar gyfer llwybrau cleifion, ac er mwyn diogelu eraill. Mae casglu, adrodd ac uwchgyfeirio canlyniadau samplau clinigol yn amserol yn hwyluso diagnosis cywir ac yn sicrhau triniaeth briodol. Yn ogystal, mae gwaith glanhau a diheintio prydlon yn cael ei wneud er mwyn cefnogi arferion a pholisi IPC.

Effeithiol

  1. Mae adroddiadau safonedig ac ymchwiliadau amlbroffesiynol mewn perthynas â digwyddiadau niweidiol, gan gynnwys achosion o haint, yn cael eu cwblhau yn gyson. Mae prosesau lleol a chenedlaethol effeithiol yn cael eu sefydlu er mwyn rhannu'r hyn a ddysgir, rhoi newidiadau angenrheidiol ar waith, a lliniaru'r risg o niwed yn y dyfodol. Gweithredir yn agored ac yn dryloyw yn unol â'r ddyletswydd gonestrwydd, ac mae pobl, eu teuluoedd a'u gofalwyr yn cael eu cynnwys ym mhob rhan o’r broses ymchwilio.  
  2. Mae strategaethau iechyd cadarn ar gyfer y boblogaeth ar waith ac yn cael eu cyfleu'n effeithiol er mwyn hybu iechyd a llesiant trwy ganolbwyntio ar atal heintiau. Fe'u cefnogir gan brosesau ar gyfer darparu arweiniad, cyngor a chefnogaeth ar gyfer llesiant a hunanofal. 
  3. Mae polisïau a safonau IPC yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn cyd-fynd â chanllawiau cenedlaethol (Llawlyfr Cenedlaethol ar gyfer Atal a Rheoli Heintiau (NIPCM)). Maent yn cael eu cefnogi gan gynlluniau addysg, hyfforddiant a gweithredu cynhwysfawr, sy'n cael eu monitro am eu heffeithiolrwydd. Mae rhaglenni lleol sydd wedi'u teilwra yn monitro cydymffurfiaeth ag arferion gorau trwy archwilio a defnyddio pecynnau gofal, sy'n cyfrannu at adrodd cenedlaethol a gwelliant parhaus.
  4. Mae adeiladau gofal iechyd newydd a gwelliannau i gyfleusterau presennol yn cael eu dylunio trwy ymgynghori priodol. Mae'r dyluniad yn hwyluso arferion IPC effeithiol trwy ymgorffori gorffeniadau a ffitiadau o ansawdd uchel sy'n cefnogi systemau gweithredol diogel. Mae'r rhain yn cynnwys glanhau, dihalogi, awyru a diogelwch dŵr er mwyn sicrhau bod gwaith cynnal a chadw a monitro yn cael ei wneud. Ystyr cynnwys IPC mewn dylunio yw'r broses lle mae dylunwyr, penseiri, peirianwyr, rheolwyr cyfleusterau a chynllunwyr yn gweithio mewn partneriaeth gydweithredol â thimau IPC, staff iechyd a gofal cymdeithasol a defnyddwyr gwasanaethau er mwyn darparu cyfleusterau lle mae anghenion IPC wedi'u rhagweld, eu cynllunio a'u diwallu. Mae'r mewnbwn hwn yn parhau hyd at y cam adeiladu terfynol, a thu hwnt, ac mae'n bodloni'r gofynion rheoleiddiol a nodir ym Memorandwm Technegol Iechyd Cymru (WHTMs) a Memorandwm Technegol Iechyd (HTM).
  5. Mae stiwardiaeth gwrthficrobaidd (AMS) yn cael ei sefydlu'n glir, gan hyrwyddo'r defnydd cyfrifol ac effeithiol o wrthficrobyddion i leihau'r risg o ymwrthedd gwrthficrobaidd, a'r risg o heintiau manteisgar fel haint Clostridioides difficile (CDI). Mae datblygiadau ym maes Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau yn Electronig (ePMA) yn helpu'r presgripsiynydd i wneud penderfyniadau yn unol â chanllawiau presgripsiynu lleol.
  6. Cefnogir AMS gan ganllawiau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, strategaethau newid ymddygiad ac addysg a dysgu wedi'u teilwra. Bydd y broses o ddatblygu Cydweithredfa Ddysgu CDI Cymru Gyfan yn rhoi cyfleoedd i dimau, gwasanaethau a sefydliadau rannu arfer da presennol, dysgu a chymhwyso egwyddorion gwyddor ymddygiad, profi dulliau gwella ansawdd, ac optimeiddio dull System Rheoli Ansawdd o reoli HCAI. Dylid croesawu cyfleoedd i integreiddio a defnyddio synergeddau rhwng dulliau AMS ac IPC mewn achosion lle byddant yn gwella canlyniadau clinigol (er enghraifft, wrth hyrwyddo newid llwybr gwrthficrobau o lwybr mewnwythiennol i lwybr trwy'r geg).
  7. Mae prosesau archwilio lleol a chenedlaethol yn cael eu hymgorffori er mwyn nodi meysydd sy'n peri pryder neu amrywiad mewn arferion IPC. Mae'r archwiliadau hyn yn ymatebol ac yn cael eu defnyddio i sbarduno dysgu, llywio gwelliant a sicrhau bod darpariaeth gofal yn cyd-fynd ag arferion gorau.
  8. Mae IPC ac AMS effeithiol yn cael eu hymgorffori wrth ddarparu pob gwasanaeth er mwyn gwella canlyniadau sy'n bwysig i bobl, eu teuluoedd a'u gofalwyr. Mae'r rhain yn cynnwys gwella diogelwch cleifion, lleihau cymhlethdodau a lefelau aildderbyn, a phrofiad cadarnhaol i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau GIG Cymru. Hefyd, mae'r arferion hyn yn lleihau amrywiad diangen mewn gofal ac yn sicrhau bod adnoddau gofal iechyd yn cael eu defnyddio'n effeithlon ac yn gynaliadwy, yn unol ag ethos Gwerth mewn Iechyd.

Effeithlon

  1. Mae'r adnoddau sydd ar gael yn cael eu defnyddio'n effeithlon ac yn gynaliadwy gyda'r nod o leihau effaith amgylcheddol a gwastraff, gan symud tuag at sero net wrth ganolbwyntio'n glir ar ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn sicrhau'r canlyniadau a'r profiadau gorau.
  2. Mae egwyddorion sy'n seiliedig ar werth yn cael eu cymhwyso i'r maes diagnosteg er mwyn osgoi ymyriadau diangen, fel samplu clinigol ailadroddus diangen/heb gyfiawnhad.
  3. Mae sefydliadau yn defnyddio dull diffiniedig o optimeiddio rhagnodi gwrthficrobaidd, ar ffurf rhaglen AMS gydgysylltiedig. Mae hyn yn cynnwys cydymffurfio â pholisïau stiwardiaeth gwrthficrobaidd lleol a chenedlaethol a chanllawiau rheoli heintiau sy'n cael eu llywio gan ganllawiau cenedlaethol sy'n seiliedig ar dystiolaeth, megis canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) sydd hefyd yn ystyried patrymau ymwrthedd gwrthficrobaidd lleol. Cefnogir hyn gan wyliadwriaeth, gwaith casglu data, a monitro arferion gorau gan gynnwys archwiliadau rheolaidd, yn genedlaethol ac yn lleol, er mwyn sicrhau bod polisïau ac arferion allweddol yn cael eu gweithredu, bod lleoliadau yn cydymffurfio â nhw a'u bod yn cael eu diweddaru o bryd i'w gilydd yn ôl yr angen.

Teg

  1. Mae sefydliadau yn cydnabod bod darparu gofal teg yn gofyn am ganolbwyntio ar degwch canlyniadau. Rhaid teilwra ymyraethau IPC ac AMS i adlewyrchu anghenion, risgiau ac amgylchiadau amrywiol unigolion a chymunedau. Mae hyn yn sicrhau bod gofal yn hygyrch ac yn effeithiol wrth sicrhau canlyniadau iechyd teg ac ystyrlon sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
  2. Rhoddir blaenoriaeth i ofal a thriniaeth ar sail angen clinigol ac maen nhw'n cael eu darparu'n deg, gan ganolbwyntio'n glir ar nodi a bodloni gofynion gofal ychwanegol a lleihau amrywiad ac ymyriadau diangen. Cefnogir canlyniad teg trwy ddulliau wedi'u personoli sy'n ystyried ffactorau risg unigolyn a'r graddau y mae unigolyn yn agored i niwed.
  3. Mae mynediad teg at safonau cyson o ran atal heintiau, AMS, arbenigedd dihalogi, cyngor, cymorth, cyfleusterau, profion a thriniaeth yn cael ei sicrhau ym mhob ardal ddaearyddol, gan gynnwys gofal a ddarperir y tu allan i ardal y bwrdd iechyd lle mae claf yn byw. 
  4. Mae nodweddion gwarchodedig, cefndiroedd cymdeithasol a diwylliannol ac anghenion gofal penodol yn cael eu cydnabod fel ffactorau hanfodol wrth ddarparu cyngor ac arferion IPC hygyrch a theg sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae hyn yn cynnwys addasiadau ar gyfer Cyfarpar Diogelu Personol (er enghraifft, ar gyfer amhariad ar y synhwyrau) ac ystyriaethau diwylliannol (yn unol â'r Polisi Dillad Gwaith ac Ymddangosiad Proffesiynol, sydd i fod i gael ei gyhoeddi yng Ngwanwyn 2026.)
  5. Rhoddir ystyriaeth i dystiolaeth yn ymwneud ag anghydraddoldebau yn y penderfynyddion cymdeithasol a phenderfynyddion ehangach iechyd sy'n cynyddu'r posibilrwydd o fod yn agored i haint, yn enwedig yng nghyd-destun pandemig neu glefyd endemig. Mae poblogaethau mewn ardaloedd o amddifadedd, a allai wynebu risg uwch o ddatblygu haint, cael canlyniadau gwael, a chael mwy o gydafiachedd, yn cael eu cefnogi'n rhagweithiol trwy reoli iechyd y boblogaeth, targedu addysg, a mynediad gwell at ofal iechyd. Mae tegwch canlyniadau yn cael ei fonitro'n weithredol i nodi anghydraddoldebau a llywio ymyriadau wedi'u targedu er mwyn gwella canlyniadau sy'n gysylltiedig â heintiau ar draws cymunedau. 
  6. Mae cleifion sy'n cael eu cytrefi neu eu heintio ag organebau arwyddocaol yn glinigol sydd ag ymwrthedd i wrthficrobau yn derbyn gofal cyson, priodol ac amserol. Nid yw eu statws haint yn rhwystro llawdriniaeth amserol nac yn lleihau mynediad at gyfleusterau sylfaenol (er enghraifft, cawodydd a thoiledau), nac yn peryglu eu llesiant cymdeithasol, yn enwedig pan fyddant wedi'u hynysu mewn ystafelloedd sengl.
  7. Mae byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yn dadansoddi patrymau rhagnodi gwrthficrobaidd yn rheolaidd mewn perthynas â ffactorau demograffig er mwyn nodi sbardunau allweddol a llywio ymyriadau AMS wedi'u targedu. Mae cryfhau'r broses o gasglu data a rhannu dysgu, trwy gydweithio â thimau iechyd cyhoeddus lleol, yn hanfodol er mwyn cefnogi'r dull gweithredu hwn a gwella dysgu ledled y system. 
  8. Rhaid i'r gwaith o godi adeiladau newydd, neu adnewyddu ac ailgynllunio adeiladau, gynyddu nifer yr ystafelloedd sengl sydd â ffitiadau glanweithdra digonol, hygyrch (er enghraifft, cawodydd a thoiledau sy'n cydymffurfio â'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd), gan sicrhau gofal teg i bob claf, gan gynnwys y rhai sydd ag anghenion symudedd.

Canolbwyntio ar yr unigolyn

  1. Mae gan bobl, eu teuluoedd a'u gofalwyr fynediad amserol at wybodaeth glir a chyfredol am eu gofal, gweithdrefnau IPC a'r disgwyliadau sydd arnynt. Mae gwybodaeth yn cael ei darparu mewn fformatau hygyrch sydd wedi'u teilwra i ddiwallu anghenion amrywiol, ac mae'n cynnwys canllawiau ar sut mae pobl yn gallu cadw'n iach, atal heintiau a chyfrannu'n weithredol at eu hadferiad. 
  2. Dylai cynlluniau triniaeth sy’n cael eu cydgynhyrchu gael eu datblygu trwy broses o wneud penderfyniadau ar y cyd yn seiliedig ar wybodaeth, gan sicrhau bod pobl ag HCAI yn cael eu cefnogi i wneud penderfyniadau a deall risgiau a manteision triniaeth. Mae cymorth ychwanegol yn cael ei ddarparu ar gyfer pobl sydd â rhwystrau cyfathrebu, iaith neu wybyddol er mwyn sicrhau dealltwriaeth a chyfranogiad teg. 
  3. Mae IPC yn cael ei gynnwys yn llawn yn llwybr clinigol pob claf ac yn cael ei adolygu'n barhaus er mwyn sicrhau dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Trwy flaenoriaethu gofal holistaidd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, mae ymyriadau yn cael eu teilwra i fodloni anghenion unigryw pob unigolyn, gan hyrwyddo llesiant pobl mewn ffordd gynhwysfawr ac ymatebol.
  4. Cesglir a gweithredir ar adborth pobl ar eu profiad mewn modd amserol, ac mae'n cael ei drionglu gyda metrigau ansawdd eraill, gan gynnwys adborth gan gyrff allanol a'r hyn a ddysgwyd wrth wrando ar bryderon, hanesion cleifion a chanmoliaeth. Mae'r rhain yn llywio cynlluniau gwella lleol ac yn cynorthwyo partneriaeth rhwng pobl a'r gweithlu wrth fynd ati i ddylunio a darparu gwasanaethau.

Arweinyddiaeth

  1. Mae arweinyddiaeth dosturiol, gynhwysol a beiddgar yn amlwg ar bob lefel, gan hwyluso newid trawsnewidiol mewn ffordd gydgysylltiedig, o'r man lle rhoddir gofal i arweinyddiaeth weithredol. Mae llinellau gweld a llinellau cyfathrebu clir yn cael eu sefydlu er mwyn sicrhau bod staff rheng flaen yn cael eu grymuso i ddylunio a chyflwyno newidiadau angenrheidiol ym maes gofal clinigol, a bod modd uwchgyfeirio materion critigol yn effeithiol.
  2. Cefnogir gwaith goruchwylio ar lefel y Bwrdd gan aelod penodol o'r Bwrdd Gweithredol sy'n gyfrifol am IPC ac Aelod Annibynnol dynodedig. Mae Uwch Swyddog Adrodd (SRO) neu Gyfarwyddwr Atal a Rheoli Heintiau (DIPC) yn gweithio ar lefel Weithredol, ac mae strwythurau llywodraethiant yn galluogi adrodd yn uniongyrchol i'r bwrdd iechyd neu dîm gweithredol yr ymddiriedolaeth. Mae'r rôl hon yn darparu goruchwyliaeth a sicrwydd mewn perthynas ag IPC, gan gynnwys glanweithdra, yr amgylchedd adeiledig ac AMS, i'r bwrdd iechyd neu'r ymddiriedolaeth.
  3. Mae proses cynllunio ar gyfer olyniaeth gadarn wedi'i sefydlu i gynorthwyo arweinwyr IPC ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, gan sicrhau mynediad teg at gyfleoedd datblygu. Mae hyn yn cynnwys cyfleoedd i staff ddatblygu eu gwybodaeth am lythrennedd digidol a genomeg.
  4. Mae IPC yn eitem gyson ar agenda cyfarfodydd y Bwrdd ac is-bwyllgorau, gan sicrhau integreiddio, gwelededd a dylanwad ar draws agenda Ansawdd a Diogelwch y sefydliad. Mae hyn yn golygu bod modd arfarnu risgiau a chyfleoedd sefydliadol sy'n gysylltiedig ag IPC yn rheolaidd. Mae uwch-reolwyr IPC yn cymryd rhan yn y fforymau hyn er mwyn darparu mewnbwn arbenigol a sicrhau bod blaenoriaethau IPC yn cael eu cynnwys wrth wneud penderfyniadau strategol.

Y Gweithlu

  1. Mae timau IPC ac AMS amlbroffesiynol medrus sydd ag adnoddau digonol yn cael eu sefydlu ac yn gweithredu’n unol â chanllawiau cenedlaethol, gyda chymorth gweithgareddau cynllunio'r gweithlu cenedlaethol. Mae'r timau hyn yn cymryd rhan weithredol mewn rhaglenni sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n adlewyrchu'r cynllun cyflawni HCAI cenedlaethol, yn cefnogi diogelwch cleifion ac yn mynd i'r afael â blaenoriaethau risg lleol. Er mwyn hwyluso hyn, mae sefydliadau yn sicrhau mynediad at seilwaith digidol a data gwell er mwyn helpu i gasglu, dadansoddi a dehongli data perthnasol. Hefyd, maent yn defnyddio gwybodaeth sy'n deillio o ddata i lywio gwelliant parhaus, arwain ymyriadau a gwerthuso'r effaith ar leoliadau gofal.
  2. Mae'r gweithlu yn cymryd rhan mewn addysg amlbroffesiynol ac mae ganddo fynediad at gyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus hanfodol ac uwch, megis Fframwaith Addysg, Dysgu a Datblygu Cymru Gyfan ar gyfer y Gweithlu Atal a Rheoli Haint Arbenigol. Mae hyn yn cefnogi gwybodaeth ac arbenigedd uwch, yn helpu i gadw'r gweithlu, yn meithrin datblygiad gyrfa ac yn creu llif cynaliadwy o dalent ar gyfer y dyfodol.
  3. Ceir cydymffurfiaeth â lefelau a gytunwyd o hyfforddiant IPC a hyfforddiant Techneg Aseptig Di-gyffwrdd (ANTT) gorfodol, ac mae staff yn cael amser wedi’i neillltuo i gael eu rhyddhau er mwyn cwblhau'r hyfforddiant. 
  4. Mae sefydliadau'r GIG yn meithrin diwylliant sy'n blaenoriaethu llesiant staff, gan annog pobl i beidio â gweithio os ydynt yn sâl a chefnogi amgylcheddau gwaith diogel ac iach. Mae polisïau yn galluogi staff i gymryd gwyliau priodol a chael mynediad at gymorth, gan gydnabod bod iechyd staff yn hanfodol i IPC effeithiol.

Diwylliant

  1. Dangosir bod diwylliant sefydliadol cadarnhaol a chynhwysol yn hanfodol ar gyfer rhoi mesurau IPC ac AMS ar waith yn llwyddiannus. Mae diogelwch, atebolrwydd a dysgu parhaus yn rhan annatod o ymarfer bob dydd, wedi'u cefnogi gan ddealltwriaeth o ffactorau dynol sy'n dylanwadu ar ymddygiad a phenderfyniadau mewn amgylcheddau lle mae diogelwch yn hollbwysig. Mae hyn yn meithrin amgylchedd lle mae'r holl staff a defnyddwyr gwasanaethau, waeth beth fo'u rôl neu leoliad, na’r pwysau gweithredol arnynt, yn teimlo eu bod wedi'u grymuso a'u cefnogi i roi blaenoriaeth i IPC ac AMS, a herio arferion gwael heb unrhyw ofn. 
  2. Nid yw IPC yn cael ei ystyried yn swyddogaeth annibynnol - yn hytrach fe’i hystyrir yn elfen hanfodol o ofal o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Trwy feithrin arweinyddiaeth ar bob lefel, hyrwyddo prosesau cyfathrebu agored a gwerthfawrogi cyfraniad holl aelodau'r tîm, mae sefydliadau yn creu'r amodau ar gyfer gwelliant a gwydnwch parhaus yn wyneb bygythiadau gan heintiau sy'n dod i'r amlwg.
  3. Mae gwasanaethau ac arweinyddiaeth IPC yn hyrwyddo diwylliant sy'n ymgorffori tosturi, empathi, caredigrwydd a chynghreiriaeth, ac mae'r gwerthoedd a'r ymddygiadau hyn yn cael eu croesawu a'u rhoi ar waith gan bob aelod o'r gweithlu, a gan bobl, eu teuluoedd a gofalwyr.
  4. Mae systemau a phrosesau IPC cadarn yn blaenoriaethu iechyd, llesiant a diogelwch staff ar bob lefel o'r sefydliad. Mae diogelwch seicolegol wedi'i ymgorffori ac mae cymorth amserol ar gael i ddeall a diwallu anghenion y gweithlu, pobl, eu teuluoedd a gofalwyr.  
  5. Mae diwylliant cyfiawn sy’n annog dysgu a gwella mewn perthynas ag ymarfer IPC, ac uwchgyfeirio risgiau, wedi'i ymgorffori'n llawn yn seiliedig ar werthoedd ac ymddygiad y gwasanaeth a'r sefydliad, ac mae staff ar bob lefel, pobl, eu teuluoedd a gofalwyr yn cael eu cefnogi a'u hannog i godi unrhyw bryderon yn unol â'r fframwaith codi llais heb ofn.  

Gwybodaeth

  1. Mae cyfres ddeallus a phriodol o fesurau proses, profiad a chanlyniadau IPC y cytunwyd arnynt yn genedlaethol yn cael eu cofnodi a'u monitro yn systematig. Mae timau clinigol, rheoli a gweithredol yn craffu arnynt yn rheolaidd, ac mae camau uwchgyfeirio a chamau gweithredu priodol yn cael eu cymryd sy'n cyd-fynd â mecanweithiau sicrwydd a gwelliant lleol a chenedlaethol.
  2. Mae gan sefydliadau ddealltwriaeth glir o'r data IPC, HCAI ac AMS y mae angen iddynt ei goladu, ei adolygu'n rheolaidd a gweithredu arno.
  3. Mabwysiadir data integredig sy'n gysylltiedig â HCAI, cyffredinrwydd a thueddiadau trosglwyddo heintiau cymunedol, data AMR a systemau clinigol digidol er mwyn llywio un set ddata genedlaethol. Mae hyn yn sicrhau bod modd darparu gwasanaethau diogel a chyson o ansawdd uchel, gan gynnwys gwasanaethau a gomisiynir, lle mae data ar gael i helpu i wneud penderfyniadau ar y cyd, llywio'r broses o ddarparu gwasanaethau, sbarduno gwelliannau a chyfrannu at ofal diogel trwy leihau trosglwyddiad nosocomiaidd ac ymwrthedd gwrthficrobaidd.
  4. Lle bynnag y bo modd, gyda rhywfaint o graffu a llywodraethu priodol, mae data ar wyliadwriaeth ac adrodd yn cael ei ddarparu yn awtomatig, ac mae deallusrwydd artiffisial yn cynorthwyo i ddadansoddi cynnwys a themâu er mwyn galluogi ymateb amser real.
  5. Mae gan sefydliadau ddatganiad ar lefel y Bwrdd Gweithredol sy'n amlinellu'r cyfrifoldeb ar y cyd ar gyfer lleihau'r risgiau o heintiau ac ymwrthedd gwrthficrobaidd a'r rheolaethau sydd ar waith i atal y risgiau hyn. Hefyd, mae hyn yn cynnwys fframwaith llywodraethu ac atebolrwydd a phroses adrodd trwy Bwyllgor IPC y sefydliad, gan ddarparu sicrwydd am bob agwedd ar IPC mewn modd amserol.

Dysgu, gwella a gwaith ymchwil

  1. Mae pobl, eu teuluoedd, gofalwyr a staff yn cael eu hannog a'u cefnogi i gymryd rhan mewn mentrau lleol, cenedlaethol a phartneriaeth sy'n gysylltiedig â gwyliadwriaeth a gwaith ymchwil IPC, AMS, HCAI, er mwyn datblygu gwybodaeth a gwella gofal, profiadau a chanlyniadau ar gyfer ymarfer IPC a gofal cleifion yn y dyfodol.  
  2. Mae'r gweithlu yn cymryd rhan weithredol mewn darparu mentrau gwella ansawdd rheoli heintiau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar lefel leol a chenedlaethol. Mae'r mentrau hyn yn cael eu llywio gan adborth gan bobl, eu teuluoedd a gofalwyr yn ogystal â gwybodaeth gan gyrff, data a rhaglenni archwilio cenedlaethol. Mae dull cyson o werthuso a rhannu dysgu yn sicrhau bod gwelliannau yn ystyrlon, yn fesuradwy ac yn gynaliadwy. 

Dull systemau cyfan

  1. Mae cydweithio wedi'i ymgorffori ar draws proffesiynau, gwasanaethau, byrddau iechyd, ymddiriedolaethau, addysgwyr ac asiantaethau ehangach sy'n ymwneud â'r broses o ddarparu cyngor, gofal a chymorth ledled y system.   
  2. Wrth weithio tuag at ddarparu gwasanaeth iechyd sero net, mae'r ddwy agenda IPC a chynaliadwyedd yn gweithio ar y cyd. Er mwyn sicrhau cydweithrediad a chysondeb, mae rheoli ac atal heintiau wedi'u cynnwys yng ngwaith cynllunio cynaliadwyedd i sicrhau nad yw cynlluniau i ailddefnyddio, ailbrosesu ac ailgylchu yn peryglu diogelwch staff a chleifion.

Y camau nesaf

Disgwylir i fyrddau iechyd, ymddiriedolaethau a phartneriaid ym meysydd gofal sylfaenol a gofal cymdeithasol fabwysiadu'r datganiad ansawdd hwn fel fframwaith lleol ar gyfer darparu IPC o ansawdd uchel sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Dylid ei ddefnyddio i lywio ymarfer, cefnogi sicrwydd a sbarduno gwelliant parhaus wrth atal HCAI.

Dylai pob sefydliad nodi Noddwr Gweithredol ac Aelod Annibynnol sydd ag atebolrwydd clir am weithredu a goruchwylio'r agenda hon.

Dylai'r camau canlynol ddechrau yn ystod 2026:

  • Mabwysiadu'r datganiad ansawdd ar lefel leol gan sicrhau cysondeb â strwythurau llywodraethu, sicrwydd a gwella presennol.
  • Dadansoddiad bwlch yn erbyn y datganiad ansawdd er mwyn llywio blaenoriaethau a chynlluniau gwella lleol.
  • Cryfhau arweinyddiaeth ac atebolrwydd trwy ymgorffori cyfrifoldebau IPC ar bob lefel, o dimau gweithredol i lywodraethiant y Bwrdd.
  • Ymgorffori dulliau cydweithredu a dysgu amlbroffesiynol er mwyn cefnogi gwelliant yn y system gyfan.
  • Sicrhau mynediad teg at addysg, hyfforddiant, adnoddau, a chyngor arbenigol mewn perthynas ag IPC ym mhob lleoliad gofal.
  • Sicrhau gwasanaethau IPC ac AMS arbenigol cadarn a chymwys i gefnogi a sicrhau tegwch ym mhob lleoliad gofal (yn unol â Fframwaith Addysg, Dysgu a Datblygu Cymru Gyfan ar gyfer y Gweithlu Atal a Rheoli Haint Arbenigol)  
  • Monitro cynnydd trwy fetrigau y cytunwyd arnynt a defnyddio gwybodaeth o ddata, archwiliadau, adborth gan ddefnyddwyr gwasanaethau, a rhaglenni cenedlaethol er mwyn llunio datblygiad parhaus gan ddefnyddio dulliau presennol a newydd o gael adborth, dysgu a gwella. Bydd y gwaith hwn yn cyd-fynd â metrigau y cytunwyd arnynt yn genedlaethol a ddatblygwyd trwy'r Gweithgor Metrigau a Gwyliadwriaeth, sy'n rhan o'r Grŵp Cyflawni HCAI. 

Geirfa

AMS – Stiwardiaeth Gwrthficrobaidd
ANTT - Techneg Aseptig Di-Gyffwrdd
CDI –  Haint Clostridioides difficile
CNO – Prif Swyddog Nyrsio
DIPC - Cyfarwyddwr Atal a Rheoli Heintiau
ePMA - Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaeth yn electronig
HARP - Pennaeth y Rhaglen Heintiau sy'n Gysylltiedig â Gofal Iechyd, Ymwrthedd Gwrthficrobaidd a Rhagnodi 
HCAI – Heintiau sy'n gysylltiedig â Gofal Iechyd
IPC – Atal a Rheoli Heintiau
NIPCM - Llawlyfr Atal a Rheoli Heintiau Cenedlaethol
SRO - Uwch Swyddog Adrodd