Neidio i'r prif gynnwy

1. Cysoni Cyllid o fewn y Grant Plant a Chymunedau

1.1 Y weledigaeth ar gyfer y rhaglen Cysoni Cyllid yw rhoi hyblygrwydd ariannol sy'n helpu i sicrhau canlyniadau. Gall hyn rymuso Awdurdodau Lleol a Llywodraeth Cymru i gysoni a gwella gwasanaethau cymorth, atal ac ymyrraeth gynnar, gan sicrhau bod y cymorth cywir yn cyrraedd y bobl gywir cyn gynted â phosibl.

1.2 Mae pum amcan cyffredinol i Gysoni Cyllid, sef:

  • rhoi mwy o ymreolaeth ynghylch y ffordd y darperir gwasanaethau, yn enwedig mewn perthynas â chynllunio a chomisiynu ar y cyd
  • rhoi mwy o ryddid a hyblygrwydd ariannol er mwyn galluogi awdurdodau lleol i weithio'n wahanol
  • galluogi awdurdodau lleol i gynllunio'n strategol ac yn gyfannol
  • ei gwneud yn bosibl i wasanaethau gael eu hailgynllunio
  • lleihau biwrocratiaeth ddiangen

1.3 Noder – Mae eich llythyr cynnig grant yn cynnwys cyllid i gefnogi’r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i “fynd ati’n raddol i ehangu’r ddarpariaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar er mwyn cynnwys pob plentyn dwy flwydd oed, gan roi pwyslais penodol ar gryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg.” Mae’r dyraniad hwn yn cynnwys: 

  • cyllid at ddibenion gweinyddu wrth baratoi ar gyfer y broses ehangu (o Ebrill 2022);
  • dyraniad cam cyntaf y broses ehangu;
  • dyraniad Cam 2 (A a B) y broses ehangu. 

1.4 Mae'r canlyniadau rydym yn ceisio dylanwadu arnynt yn adlewyrchu nodau llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Dylid canolbwyntio ar helpu'r rhai y mae angen cymorth arnynt nawr yn ogystal â datblygu dulliau arloesol o ddarparu gwasanaethau, y bwriedir iddynt atal pobl rhag bod yn fwy agored i niwed yn y dyfodol. 

1.5 Un ffordd bwysig o gefnogi pobl drwy wasanaethau yw gweithio mewn ffyrdd sy’n ystyriol o drawma. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i’r gwasanaethau a ddarperir fel rhan o’r grant hwn weithredu mewn ffordd sy’n ystyriol o drawma. Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi’r gwaith o ddatblygu fframwaith sy’n ystyriol o drawma. Nod y fframwaith yw cefnogi dull cyson o ddatblygu a gweithredu arferion sy’n ystyriol o drawma yng Nghymru. Mae’r fframwaith yn diffinio beth a olygir wrth fod yn ystyriol o drawma, mae’n nodi pum egwyddor a ddylai fod yn sail i bob gweithredu sy’n ystyriol o drawma, ac mae’n sefydlu pedair lefel weithredu, o’r cyffredinol i’r arbenigol, sy’n disgrifio gwahanol rolau pobl a sefydliadau wrth gefnogi’r rhai a effeithiwyd gan drawma. 

1.6 Un o nodau allweddol Llywodraeth Cymru ar draws pob maes polisi yw annog cyfleoedd i weithio mewn partneriaeth a gwella profiadau plant a theuluoedd o lywio system gymhleth ar gyfer cymorth. Mae ein fframwaith NYTH yn amlinellu ein dull 'dim drws anghywir' ac yn darparu egwyddorion allweddol ar gyfer creu system sy'n cynnig y cymorth cywir, yn y ffyrdd cywir, ar yr adeg gywir. Er mwyn cefnogi sefydliadau i roi egwyddorion fframwaith NYTH ar waith, rydym wedi creu Offeryn Hunanasesu NYTH a Hyfforddiant NYTH. Credwn y byddai'n fuddiol i bob prosiect a ariennir drwy'r Grant Plant a Chymunedau ymgymryd â hyfforddiant NYTH a defnyddio'r offeryn hunanasesu. Mae'r templed adrodd yn cynnig cyfle i roi gwybod am astudiaethau achos ar sut mae NYTH yn cael ei weithredu drwy'r Grant Plant a Chymunedau.

2. Diben Craidd y Grant Plant a Chymunedau

2.1 Mae Ffyniant i Bawb: y Strategaeth Genedlaethol yn nodi bod angen darparu gwasanaethau cyhoeddus mewn ffordd fwy cydweithredol ac integredig. Diben y grant hwn yw diwallu anghenion cymorth y plant a'r oedolion sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau drwy nifer o ddulliau ymyrraeth gynnar, atal a chymorth. Bydd yn ceisio lliniaru neu ddileu anfantais i bobl sy'n agored i niwed i'w galluogi i gael yr un cyfleoedd mewn bywyd ag eraill, gan gyfrannu at Gymru sy'n fwy cyfartal.

2.2 Y rhaglenni/elfennau sy'n dod o dan y Grant Plant a Chymunedau yw:

  • Teuluoedd yn Gyntaf
  • Dechrau'n Deg (elfen Ariannu Hyblyg, gan gynnwys yr elfen ehangu 'Cam 1' sydd wedi'i ddad-glustnodi)
  • Ehangu Cam 2 Dechrau'n Deg (sydd wedi'i ddad-glustnodi)
  • Gofal Plant a Chwarae
  • Y Rhaglen Hyfforddiant a Chymorth
  • Hybu Ymgysylltiad Cadarnhaol Ymhlith Pobl Ifanc sydd mewn Perygl o Droseddu
  • Cronfa Dydd Gŵyl Dewi
  • Grant Cymorth Rhianta ar gyfer Datrysiadau y Tu allan i'r Llys
  • Prosiect Gwyliau Gwaith Chwarae
  • Cymorth Ymyrraeth Gynnar ar gyfer Rhianta 

2.3 Mae angen i awdurdodau lleol ystyried sut y gellir darparu eu gwasanaethau yn fwy strategol. Gall hyblygrwydd o fewn y grant hwn gefnogi a hyrwyddo gwaith cynllunio a chomisiynu ar y cyd er mwyn gwneud defnydd mwy effeithiol o'r cyllid i gyflawni nodau ac amcanion y rhaglenni cyfansoddol. Disgwylir i'r rhyddid ychwanegol hwn ddarparu ar gyfer mabwysiadu dull mwy strategol o gyflawni ar gyfer y bobl fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas.

2.4 Rhaid gwario'r arian a ddyrennir ar gyfer y Grant Plant a Chymunedau ar gyfer 2025-26 ar gyflawni amcanion y grant (a'r rhaglenni oddi fewn iddo).

3. Cynllunio Strategol

3.1 Mae gofyn i’r rhai sy’n elwa ar y grant nodi eu cynlluniau strategol ar gyfer darparu gwasanaethau a ddarperir drwy'r Grant Plant a Chymunedau yn y Cynlluniau Cyflawni ar gyfer 2025-26.

3.2 Mae trefniadau ar gyfer adrodd ar gynnydd yn bodoli o hyd drwy'r gweithdrefnau hawliadau a monitro presennol a nodir yn y llythyrau dyrannu grant ar gyfer 2025-26.

4. Y rhaglenni yn y Grant Plant a Chymunedau a'r cyd-destun ehangach

4.1 Diben yr adran hon yw amlinellu nodau lefel uchel pob un o'r rhaglenni a gyflwynir drwy'r Grant Plant a Chymunedau.

TEULUOEDD YN GYNTAF:

4.2 Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn hyrwyddo systemau a chymorth amlasiantaeth i deuluoedd, sy'n cynnwys pwyslais clir ar gymorth a dulliau ataliol cynnar. Mae'n gweithio gyda'r teulu cyfan i atal problemau rhag gwaethygu a throi'n argyfwng.

4.3 Dylai awdurdodau lleol barhau i ddefnyddio'r cyllid i ddarparu gwasanaethau amlasiantaethol sydd wedi'u nodi drwy asesiadau o anghenion lleol. Dylai'r elfennau allweddol canlynol o Teuluoedd yn Gyntaf barhau i gael eu blaenoriaethu gan Awdurdodau Lleol:

  • Fframwaith Asesu'r Teulu ar y Cyd, sy'n darparu 
    gwerthusiad cynhwysfawr seiliedig ar gryfderau o anghenion teuluoedd
  • Y Tîm o Amgylch y Teulu, sy'n dod ag ystod eang o weithwyr proffesiynol ynghyd i gydweithio â theulu er mwyn ei helpu i fynd i'r afael â'r holl heriau sy'n ei wynebu
  • Prosiectau a gomisiynwyd yn strategol sy'n cael eu datblygu mewn ymateb i anghenion lleol a nodwyd i gefnogi babanod, plant pobl ifanc a'u teuluoedd
  • Ffocws ar Anabledd, ffocws ar gymorth arloesol i deuluoedd y mae anabledd yn effeithio arnynt 

4.4 Datblygwyd canllawiau presennol rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid allweddol ac fe'u cyhoeddwyd ym mis Ebrill 2017. Mae'r canllawiau hyn yn nodi fframwaith cyflawni clir ar gyfer y rhaglen. O fewn y fframwaith hwn, mae gan awdurdodau lleol gryn dipyn o hyblygrwydd i benderfynu sut y dylid cyflwyno'r rhaglen yn lleol er mwyn diwallu anghenion y cymunedau a wasanaethir ganddynt. Er mwyn darllen y canllawiau llawn, dilynwch y ddolen isod. Mae’r canllawiau yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd, a byddwn yn trafod amserlenni cyhoeddi gyda chydgysylltwyr Teuluoedd yn Gyntaf pan fyddant wedi’u cwblhau’n derfynol.

Teuluoedd yn Gyntaf: canllawiau i awdurdodau lleol | LLYW. CYMRU

DECHRAU'N DEG:

Rhaglen graidd Dechrau'n Deg gan gynnwys Ehangu Cam 1 (Ariannu Hyblyg) 

4.5 Dechrau'n Deg yw prif raglen Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru ar gyfer teuluoedd dan anfantais sydd â phlant o dan 4 oed. Nod Dechrau'n Deg yw gwneud gwahaniaeth pendant i gyfleoedd bywyd plant yn yr ardaloedd lle mae ar waith. Yn y tymor hwy, dylai hyn olygu bod llai o bobl ifanc o dan anfantais o ganlyniad i dlodi. 

4.6 Darperir cyllid ychwanegol i gefnogi’r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu ynghylch "Mynd ati’n raddol i ehangu’r ddarpariaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar er mwyn cynnwys pob plentyn dwy flwydd oed, gan roi pwyslais penodol ar gryfhau'r ddarpariaeth Gymraeg".

4.7 Ym mis Medi 2022 ehangwyd y rhaglen Dechrau'n Deg i gyrraedd hyd at 2,500 yn fwy o blant 0 i 4 oed o dan Gam 1 yr ehangu. Cafodd ardaloedd targed Dechrau'n Deg eu cynyddu ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru. Mae cam cyntaf yr ehangu yn cynnwys pob un o'r pedair elfen o raglen graidd Dechrau'n Deg, gan gynnwys gofal plant ar gyfer plant 2 a 3 oed. Mae gan y rhaglen bedair elfen graidd y mae'n rhaid parhau i'w cynnig i bob teulu cymwys. Fodd bynnag, gall teuluoedd ddewis peidio â manteisio ar bob un o'r elfennau hyn – ond ni fyddant yn gallu dewis yr elfen gofal plant ar ei phen ei hun.

4.8 Byddwch yn ymwybodol bod cyllid i gefnogi Cam 1 a Cham 2 ehangu Dechrau'n Deg, a gafodd ei glustnodi yn flaenorol, bellach wedi'i ddad-glustnodi o dan y Grant Plant a Chymunedau. 

Dechrau'n Deg: canllawiau | LLYW.CYMRU

4.9 Y pedair elfen allweddol yw:

  1. Ymweliadau Iechyd 

    Gwasanaeth ymweliadau iechyd gwell Dechrau'n Deg, a gefnogir gan gymarebau ymwelwyr iechyd gwell o 1:110 er mwyn galluogi ymyriadau dwys gyda theuluoedd. 
     
  2. Gofal Plant 

Darparu hyd at 12.5 awr yr wythnos o ofal plant o ansawdd uchel ar gyfer plant 2 oed nes i'r hawl i gael darpariaeth feithrin y cyfnod sylfaen ddechrau. Os bydd rhieni yn dewis peidio â manteisio ar y 12.5 awr a gynigir, yna gellir cynnig sesiynau nas neilltuwyd i rieni eraill (hyd at yr uchafswm o 12.5 awr).

Mae'n rhaid i ddarpariaeth Gofal Plant Dechrau'n Deg:

  • Gael ei darparu gan weithlu â chymwysterau addas sydd wedi'i hyfforddi'n dda (yn unol â rhestr Gofal Cymdeithasol Cymru o'r Cymwysterau Gofynnol i weithio yn Sector y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yng Nghymru. Mae Adran 5 yn nodi'n benodol y cymwysterau sydd eu hangen i weithio gyda Dechrau'n Deg).
  • Cefnogi datblygiad plentyn
  • Galluogi plentyn i bontio'n ddidrafferth i addysg.
  1. Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu

Darparu cymorth Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu i bob plentyn sy'n gymwys i elwa ar y rhaglen Dechrau'n Deg. Darperir cymorth Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu ar lefel poblogaeth (h.y. ar gyfer pob teulu sy'n gymwys i elwa ar y rhaglen Dechrau'n Deg) neu ar lefel wedi'i thargedu (h.y. ar gyfer teuluoedd ag angen sydd wedi’i nodi), yn ôl yr angen. 

  1. Rhianta

Darparu cymorth rhianta sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn ogystal ag ymyriadau mwy anffurfiol ar gyfer teuluoedd sy'n ymwneud ag anghenion.

4.10 Pennir nifer darged o blant ar gyfer Awdurdodau Lleol y disgwylir iddynt ei gyrraedd mewn blwyddyn, a dylid ystyried mai hwn yw'r lleiafswm y dylid ei gyrraedd. 

Cam 2 ehangu’r cyllid i gynnwys plant 2 oed drwy Ofal Plant Dechrau’n Deg (sydd wedi’i ddad-glustnodi bellach)

4.11 Rydych wedi derbyn cyllid ychwanegol i gefnogi’r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i “fynd ati’n raddol i ehangu’r ddarpariaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar er mwyn cynnwys pob plentyn dwy flwydd oed, gan roi pwyslais penodol ar gryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg.”

4.12 Cychwynnodd Cam 2 ym mis Ebrill 2023 a byddwn yn cynnig elfen gofal plant Dechrau’n Deg yn ystod y cam hwn. Bydd y buddsoddiad hwn yn ei gwneud yn bosibl ehangu’r nifer a gaiff ddarpariaeth gofal plant Dechrau’n Deg yn sylweddol, gan hyrwyddo effeithiau cadarnhaol hirdymor ymhlith y plant a’r teuluoedd mwyaf difreintiedig ledled Cymru.

  • Mae eich dyraniad yn cynnwys: dyraniad ar gyfer trydedd flwyddyn a fydd yn parhau i ariannu darpariaeth mewn perthynas â Cham 2 yr ehangu (o fis Ebrill 2024). 

GOFAL PLANT A CHWARAE

4.13 Mae darpariaeth gofal plant a chwarae sydd o ansawdd uchel ac sydd wedi’i staffio yn helpu i ddiwallu anghenion rhieni sydd am weithio neu hyfforddi, ac mae’n hyrwyddo datblygiad a chyrhaeddiad plant ac yn cefnogi llesiant plant.

4.14 Dylai awdurdodau lleol ddefnyddio'r grant i fynd i'r afael â bylchau a nodir yn eu Hasesiadau o Ddigonolrwydd Gofal Plant a’u Cynlluniau Gweithredu er mwyn darparu gofal plant digonol, cynaliadwy a hyblyg sy'n ymateb i anghenion rhieni. Rhoddir canllawiau ar ddiwallu'r anghenion hyn yng Nghanllawiau Statudol Gofal Plant.

4.15 Gall awdurdodau lleol hefyd ddefnyddio'r grant i fynd i'r afael â bylchau a nodir yn eu Hasesiadau o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae pan fo hyn yn ymwneud â darpariaeth chwarae wedi'i staffio sy'n galluogi rhieni i weithio neu hyfforddi e.e. clybiau y tu allan i'r ysgol, cynlluniau chwarae adeg gwyliau.

4.16 Ceir canllawiau ar sicrhau digon o gyfleoedd chwarae yn y canllawiau statudol: Cymru - gwlad lle mae cyfle i chwarae.

4.17 Wrth ystyried sut i ddefnyddio'r grant;

  • Dylai awdurdodau lleol roi ystyriaeth a chefnogaeth arbennig i anghenion gofal plant a chwarae:
     
    • teuluoedd incwm isel
    • teuluoedd â phlant ag anghenion ychwanegol
    • teuluoedd sydd am fanteisio ar ddarpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg
       
  • Gellir defnyddio’r grant i gefnogi cynaliadwyedd darpariaeth; er mwyn datblygu'r gweithlu a hyrwyddo dulliau hyblyg o ddiwallu anghenion rhieni sy'n gweithio oriau annodweddiadol.

Dylai awdurdodau lleol roi rhesymeg glir yn eu Cynllun Cyflawni dros y ffordd y maent wedi blaenoriaethu gofal plant a chwarae (gan gynnwys y Rhaglen Hyfforddiant a Chymorth).

RHAGLEN HYFFORDDI A CHYMORTH

4.18 Mae darpariaeth gofal plant a chwarae o ansawdd uchel yn dibynnu ar gael gweithlu sydd wedi'i hyfforddi'n dda ac sy'n cael ei gefnogi i fanteisio ar hyfforddiant sylfaenol ar arferion gorau. 

 4.19 Yn dilyn cyhoeddi'r Adolygiad Annibynnol o Warchod Plant, a amlygodd y lleihad sylweddol yn nifer y gwarchodwyr plant ledled Cymru, nodwyd sawl cam i Lywodraeth Cymru a'r awdurdodau lleol fwrw ymlaen â nhw. Nod y camau hyn yw annog gwarchodwyr plant newydd i'r sector. Mae darparu hyfforddiant a chymorth cychwyn busnes a ariennir yn llawn neu'n rhannol yn hanfodol i hyn.

4.20 Mae elfen Rhaglen Hyfforddi a Chymorth y Grant Plant a Chymunedau yn canolbwyntio ar ddarparu hyfforddiant a chymorth sy'n berthnasol i'r sector gofal plant a gwaith chwarae, yn benodol i gefnogi'r gweithlu i gael manteisio ar y canlynol: 

  • Yr hyfforddiant gorfodol ar gymorth cyntaf pediatrig a diogelu yn unol â'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol.
  • Hyfforddiant ar arferion gorau – dylai hyn gynnwys hyfforddiant i gefnogi Anghenion Dysgu Ychwanegol.
  • Cymwysterau cyn-gofrestru gwarchodwyr plant a chymhwyster gorfodol Uned 326 ar gyfer cynorthwywyr gwarchodwr plant.
  • Cymorth cychwyn cyffredinol i warchodwyr plant sy'n dod i mewn i'r sector, gall hyn gynnwys grantiau cychwyn, sy'n talu costau adnoddau, cymorth ac ati. 

4.21 Dylai ceisiadau a gwybodaeth fonitro awdurdodau lleol amlinellu'n glir nifer y sesiynau a ddarperir a phroffil y rhai sy'n bresennol ar gyfer pob un o'r categorïau uchod. 

4.22 Bydd yr wybodaeth a ddarperir ar gyfer cymorth cychwyn i warchodwyr plant, hyfforddiant cyn-gofrestru a chymorth hyfforddi arall yn cael ei defnyddio gan Lywodraeth Cymru i fonitro lefel y cymorth a ddarperir i warchodwyr plant fel rhan o'r gwaith sydd ar y gweill i wrthdroi'r lleihad yn nifer y gwarchodwyr plant yng Nghymru.

4.23 Disgwylir i awdurdodau lleol sicrhau bod cyllid ar gyfer sicrhau hyfforddiant fel y rhestrir uchod ar gael drwy gydol y flwyddyn ariannol. 

HYBU YMGYSYLLTIAD CADARNHAOL YMHLITH POBL IFANC SYDD MEWN PERYGL O DROSEDDU

Nodau/Amcanion/Canlyniadau Hybu Ymgysylltiad Cadarnhaol

4.24 Ym mis Mai 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid. Mae'r Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru yn amlinellu’r weledigaeth ar gyfer cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru, ac mae’n rhoi sylw amlwg i ymyrraeth gynnar ac atal problemau ymlaen llaw. Nodwch y cysylltiadau rhwng y Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid a’r gwaith a wneir gan y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid sy’n derbyn cyllid Hybu Ymgysylltiad Cadarnhaol.

Er mwyn helpu i roi'r Glasbrint ar waith, efallai y byddwn yn gofyn i awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth ychwanegol am y gronfa Hybu Ymgysylltiad Cadarnhaol ymhlith Pobl Ifanc sydd mewn Perygl o Droseddu. Gallwch weld y Glasbrint a'r cynllun gweithredu yma: https://www.llyw.cymru/cefnogi-pobl-ifanc-syn-troseddu. Os bydd angen gwybodaeth ychwanegol arnom, byddwn yn ysgrifennu atoch ar wahân gan nodi pa wybodaeth sydd ei hangen arnom ac at ba ddiben y caiff ei defnyddio.

4.25 Nod y cyllid ar gyfer Hybu Ymgysylltiad Cadarnhaol ymhlith Pobl Ifanc sydd mewn Perygl o Droseddu yw cefnogi prosiectau sydd â'r nod o leihau ac atal troseddau ac anhrefn ieuenctid ac sy'n cefnogi'r amcanion strategol canlynol:

  • Lleihau nifer y rhai sy'n dod yn rhan o'r system cyfiawnder ieuenctid am y tro cyntaf yng Nghymru
  • Lleihau'r gyfradd aildroseddu profedig gan bobl ifanc yng Nghymru
  • Lleihau cyfran y bobl ifanc sy'n cael eu collfarnu yn y llys ac yna'n cael dedfryd o dymor dan gadw
  • Cynyddu nifer yr oriau o addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth addas y mae plant a phobl ifanc yn eu cael tra byddant yn rhan o'r system cyfiawnder ieuenctid
  • Ei gwneud yn haws i bobl ifanc sy'n rhan o'r system cyfiawnder ieuenctid gael llety addas
  • Ei gwneud yn haws i unigolion gael asesiadau a thriniaeth camddefnyddio sylweddau
  • Ei gwneud yn haws i unigolion gael asesiadau a thriniaeth gan wasanaethau CAMHS.

4.26 Ym mis Mehefin 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol sy’n amlinellu sut bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu mewn ffordd wrth-hiliol yn ei holl waith, gan gymryd camau rhagweithiol i fynd i’r afael â gwahaniaethu ar draws meysydd polisi Llywodraeth Cymru. Mae diddymu hiliaeth a hyrwyddo cydraddoldeb hiliol wedi bod yn flaenoriaethau i Lywodraeth Cymru erioed, ac mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn seiliedig ar werthoedd gwrth-hiliaeth, ac yn galw am bolisi dim goddefgarwch mewn perthynas â hiliaeth o bob math. Rydym yn disgwyl i’r gwaith a ariennir drwy Hybu Ymgysylltiad Cadarnhaol gael ei gyflawni mewn ffordd wrth-hiliol, gan ystyried anghenion plant a phobl ifanc sydd â nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys plant a phobl ifanc o gefndiroedd cymdeithasol-economaidd is.

4.27 Nod Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma yw amlinellu Fframwaith ar gyfer pob rhan o gymdeithas i gefnogi dull cydlynol, cyson o ddatblygu a gweithredu arferion sy’n ystyriol o drawma ledled Cymru, gan ddarparu’r cymorth gorau posibl i’r rhai sydd ei angen fwyaf. Mae’r Fframwaith yn sefydlu sut dylai unigolion, teuluoedd/rhwydweithiau cymorth, cymunedau, sefydliadau a systemau eraill roi sylw i drafferthion a thrawma, gan gydnabod a meithrin cryfderau unigolyn i ddod dros y profiad. Mae hefyd yn amlinellu’r gefnogaeth y gall unigolyn ddisgwyl ei chael gan y sefydliadau, y sectorau a’r systemau y gallant droi atynt am gymorth. Rydym yn disgwyl i bob gwaith a gyflawnir drwy Hybu Ymgysylltiad Cadarnhaol adlewyrchu dull gweithredu sy’n ystyriol o drawma.

4.28 Ers sawl blwyddyn, mae'r grant Hybu Ymgysylltiad Cadarnhaol ymhlith Pobl Ifanc sydd mewn Perygl o Droseddu wedi'i ariannu drwy bartneriaethau patrwm rhanbarthol. Byddem yn annog pob awdurdod i barhau i gydweithio mewn perthynas â'r cyllid hwn hyd y gellir.

CRONFA DYDD GŴYL DEWI - Ar gyfer pobl ifanc sydd yn derbyn gofal neu sydd wedi derbyn gofal mewn lleoliad awdurdod lleol

4.29 Yr awdurdodau lleol yw rhieni corfforaethol plant a phobl ifanc o dan eu gofal. Mae pobl ifanc wedi dweud wrthym eu bod yn aml o dan anfantais am nad ydynt yn cael y cymorth sydd ar gael i'w cymheiriaid sy'n byw gyda rhieni biolegol. Mae’r cymorth hwnnw’n cynnwys canllawiau ynghylch dewisiadau addysg; arian i gynnal cysylltiad cymdeithasol â chymheiriaid a chyngor ar fyw'n annibynnol (sy'n ymdrin â materion sy'n cynnwys sut i gyllidebu, talu biliau a phrynu nwyddau i'r tŷ).

4.30 Diben y cyllid yw helpu pobl ifanc sydd yn neu sydd wedi derbyn gofal o dan awdurdod lleol, i fanteisio ar gyfleoedd a fydd yn eu harwain at fywydau annibynnol a llwyddiannus. Dylai awdurdodau lleol ei gweinyddu mewn modd hyblyg a chreadigol er mwyn diwallu anghenion eu pobl ifanc yn yr un ffordd ag y mae rhieni biolegol yn cefnogi eu plant, gan gynnwys rôl ‘banc mam a dad’.

4.31 Byddem yn disgwyl i awdurdodau lleol wneud popeth y gallant ei wneud i'r rhai â phrofiad o fod mewn gofal y mae’r pandemig neu’r cynnydd diweddar yng nghostau byw wedi cael effaith andwyol ar eu bywydau. Mae’n bwysig bod pobl ifanc yn cael y gefnogaeth briodol i barhau i symud ymlaen i fyw’n annibynnol neu i gynnal yr annibyniaeth y maent wedi’i sefydlu. Er enghraifft, helpu o ran colli incwm, cyflenwadau bwyd, biliau'r cartref a chostau byw hanfodol eraill, gan gynnwys sicrhau bod trefniadau tenantiaeth yn cael eu hamddiffyn ac ati. Mae cadw mewn cysylltiad â ffrindiau, teuluoedd a gwasanaethau wedi bod yn bwysig i bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal, ac mae'n parhau i fod yn bwysig. Felly, bydd awdurdodau lleol hefyd am sicrhau y caiff anghenion digidol ac anghenion data y rhai sy'n gadael gofal eu nodi a'u diwallu. Mae hyn yn cynnwys mynediad at ddyfeisiau megis gliniaduron, llechi a ffonau, cysylltedd band eang a chredyd data a ffôn.

4.32 Ni fwriedir i'r gronfa ariannu'r gwaith o roi strategaethau cenedlaethol ar waith ond bwriedir i'r cyllid fynd yn uniongyrchol i bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal mewn symiau o arian y gellir eu defnyddio fel catalydd i hyrwyddo annibyniaeth, datblygiad a chynnydd.

4.33 Anogir awdurdodau lleol i hysbysu'r rhai sy'n gadael gofal a'r rhai y disgwylir iddynt adael gofal am y gronfa drwy drafodaethau a chyfarfodydd adolygu Cynlluniau Llwybr. Drwy eu byrddau rhianta corfforaethol (neu gyrff sy'n cyfateb iddynt) neu eu timau gadael gofal, dylai awdurdodau lleol hyrwyddo'r gronfa i'w poblogaeth 16-25 oed, gan annog unigolion i wneud cais am arian a gweithio o fewn y gyfres ganlynol o egwyddorion arweiniol:

  • Cydnabod a chroesawu'r gydberthynas unigryw rhwng y plentyn/person ifanc a'r awdurdod lleol fel ei riant corfforaethol. Nid yw'r gydberthynas hon yn cael ei hatgynhyrchu yn unman arall yn y nifer mawr o gydberthnasau sy'n bodoli rhwng dinasyddion a'u hawdurdod lleol.
  • Bod yn rhieni corfforaethol cyfrifol drwy hyrwyddo eu sefydliad fel busnes teuluol, gan gynnig cyfleoedd i bob unigolyn â phrofiad o fod mewn gofal gael profiad gwaith a phrentisiaethau.
  • Cefnogi a meithrin dyheadau pobl ifanc a'u helpu i weithio tuag at gyflawni eu nodau er mwyn iddynt allu ffynnu a chyflawni.

CYMORTH RHIANTA AR GYFER DATRYSIADAU Y TU ALLAN I'R LLYS

4.34 Mae'r Grant Cymorth Rhianta ar gyfer Datrysiadau y Tu Allan i'r Llys yn cefnogi gweithredu Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020. O dan y Ddeddf, ers 21 Mawrth 2022, mae pob cosb gorfforol yn erbyn plant yn anghyfreithlon, gan gynnwys gan rieni ac unrhyw un sy'n gweithredu in loco parentis mewn unrhyw leoliad yng Nghymru.

4.35 Os yw'r heddlu (ar ôl ystyried y dystiolaeth a’r budd cyhoeddus) yn penderfynu cymryd camau pellach yn erbyn rhiant sydd wedi cosbi eu plentyn yn gorfforol, gallent gynnig datrysiad y tu allan i'r llys, megis datrysiad cymunedol neu rybudd amodol, er mwyn osgoi erlyn troseddau lefel isel drwy'r llysoedd. Un o amodau datrysiad y tu allan i’r llys fyddai trefniant cymorth rhianta gyda'r bwriad o ddatblygu arferion rhianta cadarnhaol di-drais.

4.36 Mae’r Grant Cymorth Rhianta ar gyfer Datrysiadau y Tu Allan i’r Llys yn darparu cyllid er mwyn galluogi awdurdodau lleol i gynnig y cymorth rhianta hwn mewn ffordd sydd wedi’i theilwra. 

4.37 Yn y lle cyntaf, dylai awdurdodau lleol droi at ganllawiau Cymorth Rhianta ar gyfer Datrysiadau y tu allan i'r Llys – Canllawiau , a gyd-gynhyrchwyd gydag awdurdodau lleol, yr heddlu a Thimau Troseddwyr Ifanc, am arweiniad ar fodloni gofynion y Grant, gan gynnwys yr wybodaeth a’r data sy’n ofynnol er mwyn monitro yn effeithiol a deall effaith y cymorth.

Mae adran 2 o'r canllawiau yn nodi pwrpas a chostau cymwys y grant. Dyma grynodeb ohonynt:

i. Cyflogi gweithiwr rhianta 

ii. Hyfforddi a goruchwylio

iii. Rhannu’r hyn a ddysgwyd ac arferion da

iv. Cefnogi ymgysylltu â rhieni

4.38 Gellir bod yn hyblyg o ran rôl y gweithiwr rhianta a pha ran o’r gwasanaethau ymyrraeth gynnar fyddai’n elwa fwyaf o gymorth wedi’i deilwra. Gellir cyflogi unigolyn penodol, neu gellir ychwanegu manylion y rôl at swydd-ddisgrifiadau unigolion sydd eisoes yn cael eu cyflogi yn yr awdurdod lleol. 

4.39 Disgwylir i'r gweithiwr rhianta roi blaenoriaeth i atgyfeiriadau gan yr heddlu mewn perthynas â datrysiadau y tu allan i’r llys, ac un o brif ofynion y grant yw gweithredu ar bob atgyfeiriad gan yr heddlu, a darparu cymorth rhianta o fewn tri mis i’w dderbyn, neu gellir dilyn amserlen hirach yn amodol ar drafodaeth gyda'r heddlu. Fodd bynnag, os oes gan y gweithiwr rhianta y capasiti, gall gefnogi'r gwaith o ddarparu'r cynnig rhianta cyffredinol o fewn yr ardal.

4.40 Disgwylir i'r cymorth rhianta a ddarperir o dan y Grant Cymorth Rhianta ar gyfer Datrysiadau y Tu Allan i'r Llys, ochr yn ochr â datrysiadau y tu allan i'r llys a gynigir gan yr heddlu, gael ei ddarparu ar sail un-i-un gan weithiwr rhianta hyfedr sy'n gallu darparu cymorth rhianta ar draws y continwwm o angen ac sydd wedi'i deilwra i gyd-destun teuluol penodol pob unigolyn.

4.41 Bydd y cymorth rhianta sydd wedi'i deilwra yn gweithredu ar sail Cymru gyfan. Ni waeth ym mha ardal heddlu y cyflawnwyd y drosedd, byddai'r unigolyn yn gymwys i gael cymorth rhianta wedi'i deilwra yn yr awdurdod lleol lle mae’n byw.

PROSIECT GWYLIAU GWAITH CHWARAE

4.42 Nod y Prosiect Gwyliau Gwaith Chwarae (menter i atal llwgu yn ystod y gwyliau) yw helpu plant a phobl ifanc fanteisio ar fwy o gyfleoedd chwarae cyfoethog yn ystod gwyliau'r ysgol a darparu bwyd / byrbrydau iach.

4.43 Gall bwydo plant dros wyliau'r ysgol, pan nad oes clybiau brecwast a phrydau ysgol am ddim ar gael, fod yn heriol i rai teuluoedd. Ni ddylai unrhyw blentyn orfod teimlo'n llwglyd, ac er mwyn helpu i gefnogi'r teuluoedd hynny, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael â’r mater trwy leoliadau gwaith chwarae.

4.44 Mae chwarae yn elfen hanfodol yn natblygiad plant ac yn rhywbeth a all ddarparu ffactor amddiffynnol cryf ym mywydau plant. Mae chwarae a darpariaeth chwarae wedi'i staffio yn effeithio'n gadarnhaol ar blant a theuluoedd sy'n profi tlodi. Gall chwarae amddiffyn plant rhag agweddau negyddol tlodi, gan eu helpu i ddatblygu eu hadnoddau mewnol a meithrin gwydnwch.

4.45 Dylai awdurdodau lleol gyfeirio at y canllawiau manwl ar yr hyn y gellir ei gyflawni, a'r meysydd blaenoriaeth ar gyfer y Prosiect Gwyliau Gwaith Chwarae, sy'n pennu nodau'r grant a'r meini prawf cyllido.

4.46 https://www.llyw.cymru/prosiect-gwyliau-gwaith-chwarae-2025-i-2026-canllawiau-i-awdurdodau-lleol Rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod unrhyw fentrau a ariennir yn cyd-fynd â'u cynllun Gweithredu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae 2025-26. Rhaid iddynt ymgynghori â chydweithwyr yn eu hawdurdod lleol fel rhan o'u gwaith cynllunio, er mwyn sicrhau bod y cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd ategol ac nad yw'n cael effaith negyddol anfwriadol ar feysydd gwaith cysylltiedig eraill, yn arbennig:

  • gofal plant
  • addysg ynghylch Rhaglen Gwella Gwyliau'r Haf (SHEP)
  • y rhai sy'n ymwneud â mentrau tlodi plant

4.47 Dylai awdurdodau lleol roi rhesymeg glir yn eu Cynllun Cyflawni ar sut maent wedi blaenoriaethu chwarae plant trwy waith chwarae â staff yn ystod gwyliau'r ysgol, a mynd i’r afael â llwgu yn ystod y gwyliau trwy ddarparu bwyd / byrbrydau. 

4.48 Bydd data a gesglir drwy'r ffurflenni monitro gorfodol yn cael eu defnyddio i asesu a yw’r cyllid wedi cyflawni nodau'r Prosiect Gwyliau Gwaith Chwarae ai peidio. 

GRANT CYMORTH YMYRRAETH GYNNAR AR GYFER RHIANTA

4.49 Mae rhieni'n chwarae rhan ganolog mewn perthynas â chanlyniadau i blant ac mae canlyniadau cadarnhaol yn fwy tebygol pan fydd rhieni'n darparu arweiniad a gofal cadarnhaol i'w plant yn seiliedig ar yr egwyddorion a nodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. 

4.50 Mae profiadau plentyndod, rhai cadarnhaol a negyddol, yn cael effaith ar iechyd a lles plant. Gall profiadau dirdynnol neu drawmatig sy'n digwydd yn ystod plentyndod (profiadau niweidiol yn ystod plentyndod – ACEs) achosi problemau yn gynnar a thrwy gydol bywyd. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd darparu cymorth rhianta o ansawdd da oherwydd bod digon o dystiolaeth bod magu plant yn dda yn allweddol ar gyfer canlyniadau llwyddiannus i blant.

4.51 Bydd yr argyfwng costau byw hefyd yn rhoi pwysau ar rieni a allai arwain at angen cymorth ychwanegol, a mwy o bwysau ar awdurdodau lleol i ddod o hyd i adnoddau i ddarparu cymorth cynhwysfawr mewn modd amserol.

4.52 Pwrpas craidd cymorth rhianta yw gweithio gyda rhieni i godi eu hyder yn eu sgiliau rhianta, gwella'r berthynas rhwng rhieni a phlant; gwella canlyniadau i'r plentyn a hyrwyddo perthynas iach naill ai yn y cartref neu ymhlith rhieni sydd wedi neu sydd ar fin gwahanu.

4.53 Dylai cymorth rhianta ymateb i anghenion rhieni a dylai gynnwys gwasanaethau mynediad agored sydd ar gael yn gyffredinol, ynghyd â chymorth mwy strwythuredig, wedi’i dargedu. Er bod cymorth rhianta yn cael ei ddarparu drwy ein rhaglenni Dechrau'n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf, mae angen rhaglen ehangach o gefnogaeth magu plant i gyrraedd at deuluoedd na allant gael gafael ar gymorth yn hawdd trwy'r rhaglenni hynny; ac i ddarparu cymorth arbenigol gyda'r berthynas rhwng rhieni, gan gynnwys ar gyfer rhieni sydd wedi neu ar fin gwahanu. Mae ein gwasanaeth Rhianta yng Nghymru: Canllawiau ar ymgysylltiad a chymorth yn nodi ein disgwyliadau o ran sut y dylid darparu cymorth.

4.54 Gellir defnyddio'r Grant Cymorth Ymyrraeth Gynnar ar gyfer Rhianta at y dibenion canlynol (ac ni ddylai ddyblygu unrhyw ffrydiau cyllido eraill ar gyfer rhianta a theuluoedd, gan gynnwys Dechrau'n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf):

  • cynyddu capasiti'r gweithlu cymorth rhianta;
  • cefnogi datblygiad sgiliau, gwybodaeth ac adnoddau'r gweithlu rhianta a'r gweithlu ehangach (sy'n darparu cymorth rhianta);
  • cefnogi gwasanaethau arloesol yn y gymuned, fel grwpiau rhianta neu grwpiau o gymheiriaid cefnogol.
  • datblygu offer hyfforddi arloesol ar gyfer ymarferwyr rhianta a phecynnau cymorth rhianta i'w darparu i deuluoedd yn rhithiol;
  • cefnogi dulliau creadigol o gefnogi perthynas iach ymhlith rhieni sydd wedi neu sydd ar fin gwahanu, gyda'r nod o osgoi neu liniaru profiadau a chanlyniadau niweidiol ysgaru a gwahanu ar blant a rhieni.

GWEITHGAREDDAU ERAILL SY'N ATEGU RHAGLENNI'R GRANT PLANT A CHYMUNEDAU (cyllid hanesyddol heb ei ddyrannu ac nad yw'n ymwneud â chyflogaeth)

4.55 Mae’r cyllid ar gyfer yr elfen o’r hen gronfa hanesyddol, nad yw’n ymwneud â chyflogaeth, yn parhau i fod yn rhan o’r Grant Plant a Chymunedau, er nad yw bellach yn rhaglen ar wahân. Mae hwn wedi’i ddosbarthu i awdurdodau lleol ar sail gwariant hanesyddol. O ganlyniad, ni ddyrannwyd rhai symiau bach o danwariant. Mae’r rhain wedi’u dosbarthu ar draws pob awdurdod lleol i’w hintegreiddio ar draws rhaglenni’r Grant. 

4.56 Mae’r cyllid hwn yn galluogi awdurdodau lleol i barhau i ddarparu’r gwasanaethau nad ydynt yn ymwneud â chyflogaeth, a gyllidid yn flaenorol o dan yr hen raglen, ac i barhau i fod yn hyblyg i fuddsoddi adnoddau sy’n sail i weddill rhaglenni’r Grant Plant a Chymunedau.

4.57 Dylai’r gweithgareddau hyn ategu rhaglenni’r Grant Plant a Chymunedau, a dylid rhoi adroddiad arnynt yn erbyn y rhaglenni yn unol â hynny. Fodd bynnag, os nad yw’r gweithgarwch yn cyd-fynd yn dwt â rhaglen, dylai fod yn gydnaws, serch hynny, ag egwyddorion ymyrraeth gynnar/atal problemau y Grant, ac ni ddylai ymwneud â chyflogadwyedd. Yn yr achos hwn, dylid rhoi adroddiad ar wahân yn ei gylch yn y ffurflen fonitro.

5. Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015

5.1 Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (“y Ddeddf”) yn darparu'r sail i ysgogi math gwahanol o wasanaeth cyhoeddus yng Nghymru, gyda phum ffordd o weithio (hirdymor, atal, integreiddio, cydweithio, a chynnwys) i lywio'r ffordd y dylai gwasanaethau cyhoeddus weithio er budd pobl.

5.2 Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol yn ôl y gyfraith i gyrff cyhoeddus wneud yr hyn y maent yn ei wneud mewn ffordd fwy cynaliadwy. Mae'n ei gwneud yn ofynnol iddynt feddwl mwy am yr hirdymor, gweithio'n well gyda phobl a chymunedau a gyda'i gilydd, ceisio atal problemau a mabwysiadu dull gweithredu mwy cydgysylltiedig. Mae angen i gyrff cyhoeddus sicrhau, wrth wneud penderfyniadau, eu bod yn ystyried yr effaith y gallent ei chael ar bobl sy'n byw eu bywydau yng Nghymru yn y dyfodol. Mae'n disgwyl iddynt:

  • gydweithio'n well
  • cynnwys pobl sy'n adlewyrchu amrywiaeth ein cymunedau
  • edrych i'r dyfodol yn ogystal â chanolbwyntio ar y presennol
  • cymryd camau i geisio atal problemau rhag gwaethygu – neu hyd yn oed eu hatal rhag digwydd yn y lle cyntaf.

5.3 Dylai awdurdodau lleol ystyried sut y gellir cynllunio a chomisiynu gwasanaethau a ariennir drwy'r Grant Plant a Chymunedau er mwyn gwella llesiant pobl. Mae Fframwaith Cenedlaethau’r Dyfodol ar gyfer dylunio gwasanaethau yn disgrifio'r hyn y mae'r pum ffordd o weithio yn ei olygu yn ymarferol o ran dylunio gwasanaethau, a gellir ei ddefnyddio wrth ddylunio a goruchwylio’r gwaith o ddarparu gwasanaethau er mwyn annog pobl i feddwl, cynnal trafodaethau strwythuredig a gwneud penderfyniadau am ffyrdd newydd o weithio, er mwyn sicrhau y darperir gwasanaethau gwydn sy'n ceisio gwella llesiant pobl, nawr ac yn y dyfodol.

6. Y Gymraeg

6.1 Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i weithredu nodau strategaeth Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr. Disgwylir i dderbynwyr grant fynd ati yn rhagweithiol i hyrwyddo cyfleoedd i gynyddu defnydd y Gymraeg o fewn gweithgareddau a ariennir.

7. Cyllid (Dyrannu cyllidebau, prosesu hawliadau/taliadau a monitro'r Grant Plant a Chymunedau/adrodd arno)

7.1 Nodir dyraniadau cyllidebol y Grant Plant a Chymunedau ynghyd â thelerau ac amodau'r grant yn y llythyr Dyfarnu Grant a anfonwyd i Awdurdodau Lleol ym mis Mawrth 2025.

7.2 Prosesau Hawliadau/Taliadau

Caiff ffurflen dempled ar gyfer hawlio arian ei dosbarthu i awdurdodau lleol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Bydd hyn yn cynnwys canllawiau ar sut i gwblhau'r ffurflen hawlio, yr amserlen ar gyfer dychwelyd yr hawliad a'r llinellau priodol yn y gyllideb (mathau o wariant) sy'n ofynnol (ynghyd â diffiniadau – gweler y tabl isod).

7.3 Telir hawliadau mewn ôl-daliadau i Awdurdodau Lleol. Nodir y proffil talu yn Atodiad A ac mae hefyd wedi'i gynnwys yn eich llythyr dyfarnu grant.

7.4 Gwariant Cymwys y Grant Plant a Chymunedau

Gwariant Cymwys y Grant Plant a Chymunedau
Llinell gyllidebolRhagor o wybodaeth
Costau Staff - Staff y prosiect / Staff cyflwyno'r prosiectCostau uniongyrchol. Ar gyfer staff y prosiect / staff cyflawni yn unig. Mae hyn yn cynnwys cyflogau misol ac wythnosol gros gan gynnwys pob bonws a lwfans (a theithio a chynhaliaeth), cyfraniadau cyflogwyr at Yswiriant Gwladol a phensiynau.
Costau'r Prosiect / Costau CyflawniCostau Uniongyrchol. Mae'r rhain yn cynnwys yr holl gostau sy'n deillio'n uniongyrchol o gyflawni'r prosiect (ar wahân i gostau staff y prosiect / staff cyflawni a gesglir ar wahân). Er enghraifft, mae hyn yn cynnwys gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac unrhyw beth i'w cefnogi (e.e. llogi coetsys, llogi lleoliadau, deunyddiau ac ati).
Costau Trydydd PartiCostau Uniongyrchol. Mae'r rhain yn cynnwys holl wariant/taliadau cytundebol trydydd parti. 
Costau AnuniongyrcholCostau anuniongyrchol. (Noder y bydd gan rai o'r rhaglenni sy'n ffurfio'r Grant Plant a Chymunedau uchafswm y gellir ei hawlio ar gyfer taliadau rheoli. Dylech ddarllen y canllawiau perthnasol am ragor o wybodaeth.) Weithiau, mae'n bosibl y cyfeirir at gostau anuniongyrchol fel taliadau rheoli hefyd. Mae hyn yn cynnwys y costau hynny sy'n ymwneud â'r prosiect ond nad ydynt yn deillio'n uniongyrchol o'r prosiect. Felly, mae'n cynnwys costau staff canolog – cyflogau misol ac wythnosol gros gan gynnwys pob bonws a lwfans (a theithio a chynhaliaeth), cyfraniadau cyflogwyr at Yswiriant Gwladol a phensiynau. Hefyd yn cynnwys hyfforddiant staff, costau gweinyddol, costau cyffredinol, costau safle / swyddfa ac unrhyw gostau anuniongyrchol eraill. 

7.5 Cyllid Cyfalaf

Refeniw yn unig yw’r Grant Plant a Chymunedau. Fodd bynnag, gellir ei ddefnyddio i brynu eitemau cyfalaf a gofnodir o dan refeniw. Os bydd angen addasiadau ffisegol sy'n debygol o fod yn eitemau cyfalaf/neu'n eitemau cyfalaf a brynir, yna gellir hawlio hyn drwy'r Grant Plant a Chymunedau os bydd y cyfarpar yn hanfodol i ddarparu'r gwasanaeth. Gallwch hawlio hyd at drothwy “cyfalafu” yr awdurdodau ar gyfer eitemau cyfalaf a fydd yn dibynnu ar bolisïau ariannol yr awdurdodau eu hunain (ni allwn ariannu eitemau sydd wedi'u cyfalafu). 

7.6 Cofnodi a Monitro 

Bydd y gofynion o ran monitro a chofnodi data ar gyfer rhaglenni ar gyfer y Grant Plant a Chymunedau yn cael eu rhoi i Awdurdodau Lleol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon (drwy ffurflen fonitro 2025/26, y mae angen ei hanfon at Lywodraeth Cymru gyda phob hawliad).

7.7 Archwilio

Mae angen cwblhau Datganiad o Wariant Grant fel y nodir yn nhelerau ac amodau/atodlenni'r llythyr dyfarnu grant. Bydd hyn yn ceisio sicrwydd ynglŷn â gwariant ar gyfer Grant Plant a Chymunedau 2025-26 ac yn mynnu ei fod yn cael ei ardystio gan Brif Swyddog Cyllid yr ALl.

Ceidw Llywodraeth Cymru yr hawl i benodi archwiliwr allanol os bydd angen.

7.8 Cysylltwch â ni

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am y canllawiau hyn, e-bostiwch Blwch Negeseuon Ariannu Hyblyg (AriannuHyblyg@llyw.cymru) neu, os oes unrhyw beth brys, siaradwch ag aelod o'n tîm a nodir isod:

Cysylltiadau Tîm y Grant Plant a Chymunedau
EnwRôlRhif ffôn gwaithE-bost
Emma GammonPennaeth Cangen y Blynyddoedd Cynnar03000 251058

Emma.Gammon@llyw.cymru

 

Alison HopeUwch Reolwr Ariannol03000 628492

Alison.hope@llyw.cymru

 

Michelle HernemanRheolwr Cyllid03000 628685

Michelle.Herneman@llyw.cymru

 

Atodiad A: Amserlen y Grant Plant a Chymunedau

Proffil Taliadau y Grant Plant a Chymunedau

Dyddiadau cyflwyno Hawliadau Awdurdodau Lleol
HawliadCyfnod yr HawliadDyddiad diwethaf y gellir ei hawlioDogfennau y mae’n rhaid eu cynnwys gyda’r ffurflen gais
1

Ebrill - Medi

 

24 Hydref 2025
  • Ffurflen Hawlio Arian y Grant Plant a Chymunedau
     
  • Ffurflen fonitro'r Grant Plant a Chymunedau - gan gynnwys dogfennau ymgorfforedig y gofynnir amdanynt yn y ffurflen, ar gyfer y rhaglenni canlynol:
    • Teuluoedd yn Gyntaf
    • Dechrau'n Deg (gan gynnwys Cam 1)
    • Ehangu Dechrau'n Deg (Cam 2)
    • Gofal Plant a Chwarae (gan gynnwys Rhaglen Hyfforddi a Chymorth)
    • Hybu Ymgysylltiad Cadarnhaol Ymhlith Pobl Ifanc sydd mewn Perygl o Droseddu
    • Grant Cymorth Rhianta ar gyfer Datrysiadau y Tu allan i'r Llys
    • Prosiect Gwyliau Gwaith Chwarae
    • Cymorth Ymyrraeth Gynnar ar gyfer Rhianta 

      a/neu unrhyw beth arall yr ydym yn ei ystyried yn angenrheidiol.
       
  • Gweler canllawiau diweddaraf y Grant Plant a Chymunedau 
2Hydref - Mawrth8 Mai 2026
  • Ffurflen Hawlio Arian y Grant Plant a Chymunedau
     
  • Ffurflen fonitro'r Grant Plant a Chymunedau - gan gynnwys dogfennau ymgorfforedig y gofynnir amdanynt yn y ffurflen, ar gyfer y rhaglenni canlynol:
    • Teuluoedd yn Gyntaf
    • Dechrau'n Deg (gan gynnwys Cam 1)
    • Ehangu Dechrau'n Deg (Cam 2)
    • Gofal Plant a Chwarae (gan gynnwys Rhaglen Hyfforddi a Chymorth)
    • Hybu Ymgysylltiad Cadarnhaol Ymhlith Pobl Ifanc sydd mewn Perygl o Droseddu
    • Cronfa Dydd Gŵyl Dewi
    • Grant Cymorth Rhianta ar gyfer Datrysiadau y Tu allan i'r Llys
    • Prosiect Gwyliau Gwaith Chwarae
    • Cymorth Ymyrraeth Gynnar ar gyfer Rhianta 

      a/neu unrhyw beth arall yr ydym yn ei ystyried yn angenrheidiol.
       
  • Gweler canllawiau diweddaraf y Grant Plant a Chymunedau 

Yn gynnar yn 2026 gofynnwn ichi ddarparu rhagolwg ar gyfer hawliad terfynol 2025/26. Ni fyddwch yn gallu hawlio unrhyw wariant yn Hawliad 2 sydd uwchlaw yr amcangyfrif a ddarparwyd, neu os yw'n mynd â chi uwchben eich dyraniad cyllideb blynyddol cyffredinol.