Neidio i'r prif gynnwy

Gweler isod restr o’r sefydliadau a fu’n llwyddiannus yn eu ceisiadau am gyllid drwy’r Grant Ymgysylltu â Democratiaeth ar gyfer cynnal gweithgarwch rhwng mis Chwefror 2023 a mis Mawrth 2025. Mae’r ffigurau cyllido a ddangosir yn cynrychioli cyfanswm y cyllid a ddyfarnwyd iddynt, nid y gwariant gwirioneddol.

Nid oes unrhyw brosiect wedi mynd y tu hwnt i’w ddyraniad cyllideb.

Nodwch: Estynnwyd prosiectau y Prosiect Gwleidyddiaeth, MAD Abertawe, Clwb Bechgyn a Merched Cymru (prosiect aml-flwyddyn 2023 i 2024), Sgowtiaid Cymru, Elect Her, Eco Hwb Aber, Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, Shout Out UK, Cyngor Tref Dinbych-y-pysgod a Chyngor Dinas Caerdydd y tu hwnt i’w dyddiad gorffen gwreiddiol o 31 Mawrth 2025 i 30 Mehefin 2025.

Prosiectau 2022 to 2023

Bydd y Prosiect Gwleidyddiaeth (£208,125: prosiect 2 flynedd ac 1 mis, yn dod i ben ar 31 Mawrth 2025) yn parhau i gynnal eu Sesiynau Deialog Ddigidol llwyddiannus mewn ysgolion ledled Cymru. Mae’r sesiynau yn caniatáu i bobl ifanc ofyn cwestiynau i’w cynrychiolydd etholedig, a thrafod materion sy’n bwysig iddynt. Trwy gydol oes y prosiect, y nod yw cyflawni 160 o sesiynau ymgysylltu rhwng pobl ifanc a gwleidyddion, gan weithio gyda chyfanswm o 80 o ysgolion rhwng 2022 i 2023 a diwedd 2024 i 2025.

Prosiectau 2023 to 2024

Bydd Cyngor Sir Ceredigion (£10,000) yn creu cynnwys sydd wedi’i gynllunio’n benodol i ddod i gysylltiad ac ymgysylltu â gwladolion tramor cymwys yn eu cymunedau.

Mae Cyngor Dinas Caerdydd, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Chyngor Bro Morgannwg (£6922), yn creu cynnwys digidol (fideos) mewn sawl iaith gan ganolbwyntio ar yr hyn y gellir ei ddisgwyl mewn gorsaf bleidleisio.

Dyfarnwyd cyllid i Gyngor Dinas Caerdydd (£984) am ail brosiect, ar wahân, sy’n canolbwyntio ar ymgysylltu a gweithio gydag aelodau o’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr ar bwysigrwydd democratiaeth drwy weithdai.

Bydd y Clwb Democratiaeth (£35,000) yn ceisio ehangu galluoedd ei raglen canfod gorsafoedd pleidleisio i gynnwys mwy o wybodaeth am hygyrchedd yr adeiladau sy’n cynnal gorsafoedd pleidleisio.

Bydd Mae Gen i Lais (£11,763) yn hyfforddi ac yn helpu pobl ifanc sy’n astudio mewn colegau yn rhwydwaith Colegau Cymru i gyflwyno ymgyrchoedd cofrestru pleidleiswyr yn eu colegau.

Bydd Innovate Trust (£27,811.60) yn codi ymwybyddiaeth o ddemocratiaeth, yn cynyddu’r niferoedd sy’n cofrestru i bleidleisio ac yn gwella cyfranogiad ymhlith pobl ag anableddau dysgu yng Nghymru.

Bydd Cyngor Tref Llanelli (£1000) yn cynhyrchu deunyddiau ac yn cynnal sesiynau mewn ysgolion lleol sy’n canolbwyntio ar ddinasyddiaeth dda, rôl y Maer yn Llanelli, pam rydyn ni’n pleidleisio a hanes pleidleisio a democratiaeth.

Bydd Cyngor Cymuned Llansteffan a Llan-y-bri (£940) yn sefydlu Fforwm Ieuenctid, gan annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn materion lleol a meithrin cysylltiad cryf â’r Cyngor Cymuned (bydd cynrychiolwyr y Fforwm Ieuenctid yn bresennol mewn cyfarfodydd ac yn ymdrin â phynciau o ddiddordeb).

Bydd PLANED (£15,000) yn cynnal gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar gysylltu pobl ifanc â swyddogion etholedig o gynghorau tref a chymuned yng ngorllewin Cymru.

Bydd Canolfan Datblygu Cymunedol De Glan-yr-afon (£1000) yn helpu gwladolion tramor sy’n byw yng Nghaerdydd i ymgysylltu â democratiaeth - yn benodol ceiswyr lloches, ffoaduriaid ac ymfudwyr y mae Saesneg yn ail iaith iddynt.

Bydd Cyngor Tref Dinbych-y-pysgod (£1000) yn sefydlu fforwm cymunedol i gynyddu cyfranogiad yn eu cymuned ar faterion lleol.

Daeth y prosiect Vocal Eyes (£3625.20) i ben yn gynnar wedi i’r cwmni roi gwybod i swyddogion Llywodraeth Cymru am ei anallu i barhau i gyflawni’r gwaith yn unol â’r llythyr dyfarnu grant.

Bydd y Tŷ Gwyrdd (£1600) yn cynnal ‘Cynulliad y Bobl’ a fydd yn canolbwyntio ar sut i wneud cymuned yn fwy cynaliadwy, gan gynnwys pobl mewn democratiaeth gydgynghorol a cheisio helpu pobl nad ydynt fel arfer yn ymwneud â phrosesau democrataidd lleol i ddod o hyd i’w llais.

Bydd Clwb Bechgyn a Merched Cymru (£109,684.95: prosiect 2 flynedd, yn dod i ben ar 31 Mawrth 2025) yn parhau i gynnal eu gweithdai Pizza a Gwleidyddiaeth a’r Prosiectau Codi eich Llais, gan ganolbwyntio ar y rhai sydd ar ymylon cymdeithas. Mae’r rhain yn cynnwys pobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol, pobl ifanc LHDTC+ a phobl ifanc anabl a’r rhai sydd ag iechyd meddwl gwael.

Bydd Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain (£33,165.96: prosiect 2 flynedd, yn dod i ben ar 31 Mawrth 2025) yn cynnal gweithdai wyneb yn wyneb a gweithdai digidol ar gyfer eu rhanddeiliaid ar sut y mae democratiaeth yn gweithio i rymuso pobl fyddar.

Bydd MAD Abertawe (£44,886.90: prosiect 2 flynedd, yn dod i ben ar 31 Mawrth 2025) yn hwyluso gweithgareddau gyda phobl ifanc/oedolion yn Abertawe (sydd wedi’u tangynrychioli a/neu sydd newydd gael yr hawl i bleidleisio), gan eu helpu i ymgysylltu â’r broses ddemocrataidd; hyrwyddo/cynyddu llais/cyfranogiad ystyrlon/cynaliadwy a sicrhau bod pob dinesydd yn Abertawe yn gallu chwarae eu rhan lawn mewn democratiaeth.

Prosiectau 2024 to 2025

Bydd Sgowtiaid Cymru (£17,720) yn cryfhau eu Bathodyn Her Democratiaeth, gan greu rhaglen ddiddorol i gynnwys pobl ifanc ym mhroses ddemocrataidd Cymru. Bydd yn creu dull gweithredu cyfunol gan gyfuno gweithgareddau presennol ar gyfer y bathodyn her ag adnoddau digidol, gan weithio gyda’r Comisiwn Etholiadol a digwyddiadau cyfranogol gyda Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru.

Nod Elect Her (£53,534.88) yw helpu menywod i ymgysylltu â democratiaeth, gan ddylunio a datblygu cyfres o adnoddau digidol ar gyfer grwpiau cymunedol menywod ar lawr gwlad i gynnal cylchoedd democratiaeth, datgyfrinio democratiaeth a helpu menywod i ddatblygu cynlluniau gweithredu ar gyfer ymgysylltu. Ochr yn ochr â hyn, bydd adnoddau digidol yn cael eu creu, a bydd cyrsiau hyfforddi yn cael eu cyflwyno’n benodol ar gyfer menywod Cymru, gan gynnwys adnoddau hunanarweiniol y gellir eu lawrlwytho, recordiadau fideo, a chyrsiau dysgu cyfunol i’w harfogi i symud trwy’r daith tuag at swydd etholedig.

Bydd Eco Hwb Aber (£11,490) yn gwella Ap cymunedol poblogaidd sy’n bodoli eisoes i hyrwyddo gwell dealltwriaeth o ddemocratiaeth a llwybrau haws ar gyfer ymgysylltu. Bydd y grant yn ariannu adran ymgysylltu â democratiaeth ychwanegol ar yr ap i ganiatáu i ddefnyddwyr gael mynediad hawdd at wybodaeth am ddemocratiaeth a chael eu cyfeirio at wefannau perthnasol.

Nod Undeb Myfyrwyr Aberystwyth (£23,870) yw cynyddu cyfranogiad ac ymgysylltiad myfyrwyr â’r broses ddemocrataidd yng Nghymru, ynghyd â chreu cynnwys wedi’i deilwra at fuddiannau myfyrwyr, cynnal ymgyrchoedd cofrestru pleidleiswyr a helpu myfyrwyr i ymgysylltu â swyddogion etholedig.

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth (£7130). Mae’r prosiect ar wahân hwn yn defnyddio’r un gweithgarwch ond yn caniatáu ar gyfer cydlynydd sy’n canolbwyntio’n benodol ar ymgysylltu â myfyrwyr rhyngwladol a’u helpu â’u hawliau democrataidd yng Nghymru.

Bydd Shout Out UK (£15,583.86) yn darparu hyfforddiant llythrennedd cyfryngau yn uniongyrchol i bobl ifanc mewn ysgolion, gan ganolbwyntio’n benodol ar fyfyrwyr ym mlynyddoedd 11, 12 a 13, a cheisio cyrraedd cyfanswm o 330 o fyfyrwyr. Bydd yr hyfforddiant yn rhoi gwybodaeth a sgiliau i fyfyrwyr i adnabod gwahanol fathau o gamwybodaeth, twyllwybodaeth a chynnwys eithafol, deall y cymhellion ar gyfer lledaenu’r wybodaeth hon a gwerthuso ffynonellau gwybodaeth yn feirniadol yn unol â Fframwaith Cymhwysedd Digidol Cwricwlwm Cymru.

Bydd Cyngor Tref Dinbych-y-pysgod (£984) yn parhau i gynnal eu fforymau ieuenctid a chymunedol a grëwyd yn 2023 i 2024 gyda chymorth y grant hwn, gan geisio parhau i gynyddu cyfranogiad yn eu cymuned ar faterion lleol.

Mae Clwb Bechgyn a Merched Cymru (£9497) yn cynnull grŵp llywio amrywiol o’u partneriaethau a’u clybiau sy’n cynnwys pobl ifanc ar ymylon cymdeithas sydd â phrofiad o fod mewn gofal, yn LHDTC+, yn ddigartref, wedi’u mabwysiadu, yn deithwyr, o gefndir ethnig leiafrifol ac yn anabl. Bydd y grŵp llywio yn cydweithio i ddewis clipiau effeithiol, drafftio cynnwys addysgol, a darparu mewnwelediadau personol i sicrhau bod y pecyn cymorth yn adlewyrchu eu profiadau a’u hanghenion yn gywir. Bydd y pecyn cymorth hwn yn cynnwys canllawiau, awgrymiadau ac enghreifftiau go iawn i helpu gwleidyddion i ymgysylltu’n effeithiol â phobl ifanc sy’n wynebu trawma a heriau bywyd.

Bydd Cyngor Dinas Caerdydd (£3775.50) yn cynnal gweithdy ‘Democratiaeth ar Waith’. Bydd y gweithdy yn caniatáu i Lysgenhadon Democratiaeth o’r 7 ysgol bartner weld pa weithgareddau y gallent eu gwneud yn eu lleoliadau. Bydd y gweithdy yn cynnwys 4 gweithgaredd gwahanol: darlith gwahanol lywodraethau, ffug etholiad, gweithdy syniadau lleol gyda chynghorwyr a chyfarfod â’r arglwydd faer.

Bydd Llanelli Township (£1000: cynllun peilot 2 fis (wedi’i gwblhau)) yn cynnal cyfres o sesiynau ymgysylltu â’r cyhoedd ledled Llanelli, gan dargedu trawstoriad amrywiol o’r boblogaeth leol. Bydd gweithgareddau yn cynnwys arddangosfeydd rhyngweithiol, gweithdai, ac ymgyngoriadau agored anffurfiol a gynhelir mewn lleoliadau cymunedol hygyrch. Bydd sesiynau yn cael eu cynllunio i ddatgyfrinio strwythurau llywodraethiant, dangos sut y mae cymdeithasau budd cymunedol a chwmnïau buddiannau cymunedol yn rhyngwynebu ag awdurdodau cyhoeddus, a darparu ffyrdd ymarferol i alluogi pobl i gymryd rhan.