Grant i annog a chefnogi pobl i ymgysylltu â'r broses ddemocrataidd.
Cynnwys
Pa gyllid sydd ar gael?
Mae £400,000 ar gael y flwyddyn i wella ymgysylltiadau â democratiaeth.
Gwybodaeth am y grant
Mae ein Rhaglen lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i leihau'r diffyg democrataidd.
Mae'r grant hwn yn cefnogi ein nod o sicrhau bod pob dinesydd yn gallu ymgysylltu â democratiaeth.
Ein nod yw cyllido amrywiaeth o sefydliadau er mwyn sicrhau bod modd cyrraedd pob grŵp. Byddwn hefyd yn ceisio sicrhau lledaeniad daearyddol. Bydd y panel grantiau yn ystyried gwerth am arian wrth wneud penderfyniadau.
Pwy all ymgeisio am y grant?
- Sefydliadau o Gymru sydd wedi eu cofrestru gyda'r Comisiwn Elusennau.
- Sefydliadau 'dielw'.
- Awdurdodau lleol yng Nghymru.
Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynnig gweithio mewn partneriaeth a gweithio ar y cyd. Dylai fod un ymgeisydd arweiniol a fydd yn gweithredu fel deiliad y grant a'r rheolwr data.
Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau gan unrhyw sefydliad sydd â chysylltiadau gwleidyddol.
Meini prawf angenrheidiol
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn ymuno â Phartneriaeth Ymgysylltu Democrataidd Cymru. Mae'r Bartneriaeth yn cyfarfod yn rheolaidd.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cynnig gwerthusiad ar ddiwedd cyfnod y grant.
