O 15 Mehefin, gall trefnwyr Balchder lleol ledled Cymru wneud cais am gyllid i dalu costau cynnal digwyddiadau. Mae'r gronfa yn cael ei darparu gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Pride Cymru.
O 15 Mehefin, gall trefnwyr digwyddiadau Balchder ledled Cymru wneud cais i'r Gronfa Balchder Llawr Gwlad i helpu i dalu costau digwyddiadau Balchder lleol ledled Cymru a gynhelir yn 2026 i 2027.
Mae digwyddiadau Balchder sy'n cael eu cefnogi gan y gronfa wedi tyfu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, o 6 digwyddiad yn 2022 i 2023 i 21 y llynedd. Mae £69,250 ar gael gan y gronfa eleni, sy'n uwch na'r £17,700 yn 2022 i 2023.
Mae nifer o ddigwyddiadau Balchder lleol yn cael eu cynnal ledled Cymru y mis hwn. Defnyddiodd Gyda'n Gilydd ar gyfer Bae Colwyn gyllid o'r Gronfa Balchder Llawr Gwlad i gyflwyno penwythnos llawn dathliadau, cerddoriaeth fyw, adloniant, gweithgareddau i deuluoedd, stondinau cymunedol a gwerthwyr bwyd, a hynny oll am ddim.
Dywedodd Kai Davies, Rheolwr Digwyddiadau a Chyfarwyddwr Gyda'n Gilydd ar gyfer Bae Colwyn:
Cafodd Cronfa Balchder Llawr Gwlad effaith sylweddol ar gyflawni digwyddiad Balchder Bae Colwyn yn 2025, fe helpodd ni i gyflwyno digwyddiad diogel, cynhwysol a chroesawgar a ddaeth â dros 8,000 o bobl at ei gilydd i ddathlu'r gymuned LHDTC+ ym Mae Colwyn a Gogledd Cymru. I lawer o bobl a ddaeth yno, yn enwedig pobl ifanc, gall gweld y dathliadau a'r gefnogaeth i'r gymuned LHDTC+ yn eu tref nhw gael effaith gadarnhaol barhaol.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Sioned Williams:
Wrth i hawliau LHDTC+ wynebu bygythiadau cynyddol, mae'r Llywodraeth newydd ym Mae Caerdydd yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn a chryfhau'r hawliau hynny yma yng Nghymru.
Mae Mis Balchder yn gyfle i ddathlu cynhwysoldeb a chryfder ein cymunedau, ac i roi cydnabyddiaeth i'r gwirfoddolwyr y mae eu hymroddiad nhw yn gwneud hyn yn bosibl. Mae gwirfoddolwyr yn dod â phobl at ei gilydd, yn creu mannau o groeso a pherthyn, ac yn sicrhau bod pobl LHDTC+ yn gallu dathlu'n ddiogel ac yn agored yn eu cymunedau eu hunain.
Rwyf eisoes wedi mynychu digwyddiadau Balchder yn Abertawe a Phontardawe y mis yma, ac rwy'n edrych ymlaen at gael mynd i ddigwyddiad Balchder Cymru yng Nghaerdydd y penwythnos hwn a chwrdd â rhai o'r sefydliadau anhygoel sy'n cefnogi ein cymunedau LHDTC+. Mae parch, undod a thegwch yn werthoedd sydd bob amser wedi bod yn bwysig i bobl yng Nghymru, ac mae'r Llywodraeth hon yn gadarn yn ein hymrwymiad i gynhwysiant. Rwy'n falch iawn ein bod wedi ymrwymo yn ein maniffesto i ddarparu cefnogaeth barhaus i sefydliadau Balchder.
Mae'r gronfa yn cael ei gweinyddu mewn partneriaeth â Balchder Cymru.
Dywedodd Dan Walsh, Cadeirydd Pride Cymru:
Mae Pride Cymru yn falch iawn o gefnogi'r gwaith o gyflawni'r Gronfa Balchder Llawr Gwlad. Mae digwyddiadau Balchder lleol yn rhan hanfodol o greu mannau diogel, gweladwy a chynhwysol i bobl LHDTC+ ledled Cymru. Mae'r gronfa hon yn cynrychioli buddsoddiad pwysig mewn mudiadau Balchder ar lawr gwlad, gan helpu sefydliadau a arweinir gan y gymuned i ddatblygu, tyfu a chyflwyno digwyddiadau a gweithgareddau ystyrlon sy'n adlewyrchu anghenion eu cymunedau LHDTC+ lleol.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 17 Awst.
Mae rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais ar gael yma.
