Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw’r gronfa cymorth dewisol?

Mae’r Gronfa Cymorth Dewisol (DAF) yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n rhoi taliadau i bobl mewn argyfwng neu bobl sydd angen cymorth i fyw yn annibynnol. Mae’r taliadau yn cael eu rhannu’n ddau fath, yn dibynnu ar ba gategori y mae pobl yn perthyn iddo:

  • Mae Taliadau Cymorth mewn Argyfwng (EAP) yn helpu i dalu am gostau hanfodol, megis bwyd, nwy, trydan, dillad neu deithio mewn achos o argyfwng.
  • Mae Taliadau Cymorth i Unigolion (IAP) yn helpu pobl i fyw yn annibynnol yn eu cartref neu mewn eiddo y maen nhw’n symud i mewn iddo.

Er mwyn sicrhau adrodd amserol ar ffigurau DAF mae’r nifer a gwerth taliadau yn yr adroddiad yma yn cyfeirio at geisiadau wedi’u cymeradwyo, nid ceisiadau wedi’u talu. Mae hyn yn golygu efallai bod gwerth y taliadau yn yr adroddiad yma yn gwahaniaethu i’r symiau terfynol wedi’u talu i dderbynyddion. Mae'r data diweddaraf ar y DAF, yn ogystal â dadansoddiadau misol ychwanegol, i'w gweld ar StatsCymru. I helpu defnyddwyr i ddehongli’r data, gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ansawdd data yn adroddiad ansawdd DAF.

Prif ganfyddiadau

  • Ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024/25 rhoddwyd 188,600 o daliadau DAF, gyda gwerth cyfunol o £24,978,000
  • Rhwng mis Ionawr i Mawrth 2025, rhoddwyd 44,700 o daliadau, gwerth cyfanswm o £6,137,000
  • Roedd 42,500 o’r taliadau hyn yn daliadau EAP gwerth  £3,338,000
  • Roedd 2,300o’r taliadau hyn yn daliadau IAP gwerth £2,799,000
  • Gwerth cyfartalog (cymedr) taliad EAP oedd £79 a gwerth cyfartalog taliad IAP oedd £1,240.

Ffigur 1: Gwerth Mae Taliadau Cymorth mewn Argyfwng ac Mae Taliadau Cymorth i Unigolion ar gyfer Ionawr i Mawrth 2024 a 2025

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Mae'r siart bar hwn yn dangos gwerth EAP ac IAP rhwng mis Ionawr i Mawrth 2024 ac ar gyfer yr un cyfnod yn 2025. Roedd 3.3 miliwn o bunnoedd o EAP ym misoedd Ionawr i Mawrth 2025, gostyngiad o 2.2 miliwn o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2024 a 2.8 miliwn o bunnoedd mewn IAP, gostyngiad o 0.2 miliwn.

Ffynhonnell: Data a gasglwyd gan NEC Software Solutions UK ar ran Llywodraeth Cymru rhwng mis Ionawr i Mawrth 2025.

Mae'r Gronfa Cymorth Dewisol wedi mynd drwy gyfnod o newid pwyslais yn ôl at ei phwrpas craidd, fel cronfa frys i'r rhai mewn argyfwng ariannol heb unrhyw gefnogaeth arall. Mae amrywiadau yn y symiau a ddyfarnwyd o dan y DAF yn digwydd o flwyddyn i flwyddyn. Yn ystod y chwarter mis Ionawr i Mawrth 2025 roedd gostyngiad yn y nifer o cymeradwyaethau DAF.

Nifer a gwerth taliadau DAF, fesul mis a chwarter, ar StatsCymru.

Mae'r gwahaniaethau yng nghyfanswm gwerthoedd EAP ac IAP yn y chwarter diweddaraf yn cael eu gyrru gan newid yn nifer y taliadau. Ar gyfer EAP roedd gostyngiad o 39% yn nifer y taliadau ym misoedd Ionawr i Mawrth 2025 o'i gymharu â’r un cyfnod yn 2024. Roedd gostyngiad o 28% ar gyfer IAP. Mae'r ffigurau EAP yn tueddu i fod yn uwch yn y gaeaf ac yn is yn yr haf felly dylid trin cymariaethau rhwng y tymhorau yn ofalus. Nid oes darlun clir ar amrywiad tymhorol ar gyfer IAP. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion yn adroddiad ansawdd DAF.

Awdurdodau lleol

Ffigur 2: Gwerth taliadau Mae Taliadau Cymorth mewn Argyfwng a thaliadau Mae Taliadau Cymorth i Unigolion ym mhob awdurdod lleol rhwng mis Ionawr i Mawrth 2025

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Mae’r siart far hon yn dangos cyfanswm gwerth taliadau EAP ac IAP a dalwyd ym mhob awdurdod lleol rhwng mis Ionawr i Mawrth 2025. Amrywiodd gyfanswm gwerth taliadau EAP rhwng £399,000 yng Caerdydd a £33,000 yng Ceredigion. O ran taliadau IAP, amrywiodd gyfanswm gwerth y taliadau rhwng £494,000 yng Caerdydd i £44,000 yng Ceredigion. Sylwch nad yw’r canlyniadau hyn wedi’u haddasu ar gyfer y gwahaniaeth yn y boblogaeth rhwng awdurdodau lleol.

Ffynhonnell: ‌‌Data a gasglwyd gan NEC Software Solutions UK ar ran Llywodraeth Cymru rhwng mis Ionawr i Mawrth 2025.

Gellir dod o hyd i nifer a gwerth y taliadau, fesul mis, ar gyfer pob awdurdod lleol ar StatsCymru.

Roedd gwerth cyfartalog taliad yn amrywio rhwng £93 a £74 (Ar gyfer pob awdurdod lleol,) i EAPs ac o £1,433 ym Pen-y-bont ar Ogwr i £979 yng Ceredigion ar gyfer taliadau IAP.

Oedran y derbynnydd

Ffigur 3: Gwerth taliadau EAP a thaliadau IAP yn ôl grŵp oedran rhwng mis Ionawr i Mawrth 2025

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Mae’r siart far hon yn dangos gwerth taliadau EAP ac IAP a ddyrannwyd yn ôl grŵp oedran rhwng mis Ionawr i Mawrth 2025. Y grŵp oedran 30 i 39 oed a gafodd y gwerth uchaf o daliadau EAP a thaliadau IAP, a’r grŵp oedran 16 i 29 oed a gafodd y gwerth ail uchaf. Ar gyfer grwpiau oedran hŷn, gostyngodd yr arian a gafwyd o daliadau EAP ac IAP gydag oedran. Sylwch nad yw'r canlyniadau hyn wedi'u haddasu ar gyfer y gwahaniaeth yn y boblogaeth rhwng grwpiau oedran.

Ffynhonnell: ‌‌Data a gasglwyd gan NEC Software Solutions UK ar ran Llywodraeth Cymru rhwng mis Ionawr i Mawrth 2025.

Gellir dod o hyd i nifer a gwerth y taliadau, fesul cwarter a mis, ar gyfer pob grŵp oedran ar StatsCymru.

Cafodd y rhai 30 i 39 oed daliadau EAP gwerth £1,337,000 (gyfanswm) a thaliadau IAP gwerth £877,000. Cafodd y rhai yn y grŵp oedran 16 i 29 oed daliadau EAP a thaliadau IAP gwerth £831,000 a £794,000 yn y drefn honno a chafodd y rhai 70 oed a hŷn daliadau EAP gwerth £21,000 a thaliadau IAP gwerth £36,000. ‌Sylwch nad yw’r canlyniadau hyn wedi’u haddasu ar gyfer y gwahaniaeth yn y boblogaeth rhwng grwpiau oedran.

O ran taliadau EAP, amrywiodd werth cyfartalog taliad rhwng £84 i’r rhai 30 i 39 oed a £70 i’r rhai 60 i 69. O ran taliadau IAP, amrywiodd werth cyfartalog taliad rhwng £1,348 i’r rhai 30 i 39 oed a £871 i’r rhai 60 i 69.

Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Mae'r gwerthoedd EAP cyfartalog wedi'u talgrynnu i'r bunt agosaf, mae’r IAP cyfartalog wedi'u talgrynnu i'r 10 bunt agosaf ac mae'r holl werthoedd ariannol eraill wedi'u talgrynnu i'r 1,000 bunt agosaf. Mae nifer y taliadau wedi'u talgrynnu i'r 100 agosaf. Nid yw’r data a gyflwynir yn yr adroddiad hwn wedi bod yn destun yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol, ac mae’n bosibl y caiff y data ei ddiwygio yn y dyfodol. Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn y dylid ei gofio wrth ddehongli’r ystadegau hyn ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Richard Murphy
E-bost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 43/2025