Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Diben y Canllawiau yw cadarnhau’r blaenoriaethau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi drwy’r Grant Trafnidiaeth Leol a’r Gronfa Ffyrdd Cydnerth i awdurdodau lleol yn 2022-23. 

Maent hefyd yn nodi’r broses y dylai awdurdodau lleol ei dilyn er mwyn cyflwyno ceisiadau sy’n cyd-fynd â’r blaenoriaethau hynny a sut y bydd y ceisiadau hynny’n cael eu hasesu.

Yn eich ceisiadau mae'n rhaid ichi ddangos eich bod wedi dilyn Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG). Mae'r ffurflenni cais yn adlewyrchu dull WelTAG o weithio.   

Deilliannau

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus feddwl mwy am yr hirdymor, i weithio'n well gyda phobl, cymunedau a'i gilydd, ceisio rhwystro problemau a defnyddio dull mwy cydlynol o weithio.

Mae Deddf 2015 yn rhoi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i geisio cyflawni’r nodau ac amcanion llesiant ym mhob agwedd ar eu gwaith.

Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021 yw ein strategaeth ar gyfer dyfodol trafnidiaeth yng Nghymru.  Mae’n pennu ein huchelgeisiau ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf a’n blaenoriaethau ar gyfer y 5 mlynedd nesaf.  Mae hyn yn sail i’r amcanion grant.

Cyfarfod y Cabinet: 1 Mawrth 2021

Yn eich ceisiadau mae'n rhaid ichi ddangos eich bod wedi datblygu eich cynnig gan ddefnyddio'r pum ffordd o weithio a bod eich cynnig yn cyfrannu gymaint â phosibl at uchelgeisiau Strategaeth Drafnidiaeth Cymru sy’n cyd-fynd â’r nodau llesiant.

Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol: yr hanfodion

Yn eich ceisiadau mae'n rhaid ichi ddangos sut y bydd eich cynigion yn bodloni pwrpas/ amcanion hyn ar gyfer y grant.

Y Gronfa Trafnidiaeth Leol

  • cyflwyno gweledigaeth a blaenoriaethau Llwybr Newydd mewn ffordd sy’n dda i bobl a chymunedau, yn dda i’r amgylchedd, yn dda i’r economi a lleoedd, yn dda i’r diwylliant a’r iaith Gymraeg
  • cyflwyno system drafnidiaeth hygyrch, effeithlon, gynaliadwy sy’n ddiogel, sy’n cael ei rheoli’n dda ac sy’n addasu i newid hinsawdd a’i liniaru.
  • cyflawni’r blaenoriaethau yn Llwybr Newydd:
    • gwasanaethu pobl er mwyn lleihau’r angen i deithio;
    • galluogi pobl i symud yn hawdd o ddrws i ddrws gyda gwasanaethau trafnidiaeth hygyrch, cynaliadwy a seilwaith; ac
    • annog pobl i wneud y newid i drafnidiaeth fwy cynaliadwy.
  • cyfrannu at weithrediadau a nodwyd yn Llwybr Newydd, gan gynnwys y 9 cynllun bach.

Y Gronfa Ffyrdd Cydnerth

  • delio â’r problemau y mae tywydd difrifol wedi’i achosi i’r rhwydwaith trafnidiaeth, yn enwedig i’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus

Cymhwystra i gael Cyllid Cyfalaf

Y Gronfa Trafnidiaeth Leol a’r Gronfa Ffyrdd Cydnerth: gwahoddir awdurdodau lleol i gyflwyno ceisiadau ar gyfer cynlluniau sy’n bod eisoes yn unig.  Mae cynllun ‘yn bod eisoes’ os derbyniodd grant yn 2021-22 o’r Gronfa Trafnidiaeth Leol neu’r Gronfa Ffyrdd Cydnerth. Rhoddir blaenoriaeth i gynlluniau sydd wedi’u datblygu’n dda ac sydd naill ai’n cael eu hadeiladu neu ar fin dechrau’r gwaith adeiladu.

Cynlluniau ffyrdd: ym mis Mehefin, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd yr adolygiad ffyrdd a dywedodd y câi cynlluniau fynd yn eu blaenau i’r pwynt penderfynu naturiol nesaf.  Ar gyfer cynlluniau a ariennir gan Grantiau Trafnidiaeth Lleol, y pwynt penderfynu nesaf yw’r penderfyniadau dyfarnu grantiau blynyddol.  O gofio bod y panel ar fin cyhoeddi’i adroddiad ym Mehefin 2022, o ran ceisiadau ar gyfer y prosiectau hynny a nodwyd yn yr adroddiad interim eu bod o fewn cwmpas yr adolygiad, ni chaiff penderfyniad ariannu ei wneud arnynt tan yr haf.

Dyraniad craidd bysiau rhanbarthol: rydym am i awdurdodau lleol weithio'n rhanbarthol i nodi coridorau a mesurau bysiau â blaenoriaeth, a datblygu llif cynlluniau i wella seilwaith bysiau. Rydym yn bwriadu dyfarnu dyraniad craidd rhanbarthol i gefnogi'r gwaith hwn. Bydd hyn yn sicrhau bod gan bob rhanbarth yng Nghymru gyllid i gyflawni blaenoriaeth Strategaeth Drafnidiaeth Cymru o newid dulliau teithio i fysiau drwy wella hygyrchedd i drafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig i'r rhai sydd â nodweddion gwarchodedig. Mae hefyd yn cefnogi lansiad Bws Cymru sydd i ddod. Bydd rhagor o wybodaeth i ddilyn.

Dylai pob cais ar gyfer cynlluniau teithio gweithredol newydd a phresennol gael eu cyflwyno i’r Gronfa Trafnidiaeth Leol.

Rhaid i bob cynllun gydymffurfio â Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 a’i Chanllawiau ategol. Rhaid i gynlluniau sy’n cynnwys gwella priffyrdd, gwaith adeiladu, neu reoli traffig ddangos sut y maent yn cydymffurfio yn fwyaf arbennig ag Adran 9 o’r Ddeddf (Darparu ar gyfer cerddwyr a beicwyr wrth arfer swyddogaethau penodol).

Wrth greu cynlluniau, mae'n rhaid i awdurdodau lleol ystyried hefyd eu cyfrifoldebau o dan Adran 6 - Y Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae'r ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth i'r graddau sy'n gyson â chyflawni eu swyddogaethau mewn modd priodol, ac wrth wneud hynny, hyrwyddo cadernid ecosystemau. Mae hyn er enghraifft yn hynod berthnasol i gynlluniau trin ymylon ffyrdd a phlannu fel rhan o brosiectau trafnidiaeth. Gallwch ddod o hyd i’r Arweiniad ar y Ddyletswydd yma:

Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 Rhan 1 – Adran 6 - Y Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau: canllawiau adrodd ar gyfer awdurdodau lleol

Rydym yn annog awdurdodau lleol i gydweithio a chyflwyno ceisiadau rhanbarthol. Rhaid nodi’r awdurdod lleol sy’n arwain pob cynllun. Byddai’r cyllid yn cael ei ddyrannu i’r awdurdod lleol sy’n arwain. 

Dylai awdurdodau lleol ymgynghori â’r cymunedau a’r rhanddeiliaid y mae’r cynllun yn effeithio arnynt gan gynnwys ymgysylltu â gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus a gweithio gyda nhw lle y bo hynny'n berthnasol. Dylent adrodd ar y cynnydd yn dilyn yr adborth a gafwyd, neu, os mai newydd ddechrau mae'r cynllun, sut y byddant yn gwneud hynny, o fewn eu cais.

Bydd cyllid yn cael ei ddyrannu hyd at y swm a ddyfernir ar gyfer y gwariant cymwys gwirioneddol ar gynllun sy’n cael ei dderbyn. Ni roddir mwy o gyllid na’r swm a ddyfernir a bydd gofyn i’r awdurdod lleol ysgwyddo’r risg sy’n gysylltiedig ag unrhyw orwario posibl. Os bydd y costau’n uwch oherwydd amgylchiadau eithriadol a fydd y tu hwnt i reolaeth yr awdurdod lleol, mae’n bosibl y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried rhoi cyllid ychwanegol.

Bydd disgwyl i awdurdodau lleol gyflawni’r cynlluniau a gaiff eu derbyn yn unol â’r ceisiadau a gyflwynwyd ganddynt. Bydd yn ofynnol iddynt gyflwyno adroddiadau ar gynnydd o bryd i’w gilydd drwy gydol blwyddyn ariannol 2022-23 a bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei chynnwys yn y llythyr dyfarnu. 

Gall swyddogion perthnasol Llywodraeth Cymru, neu gynrychiolwyr a enwebir ganddynt, ofyn am gyfarfodydd neu am ymweliadau safle i drafod cynnydd cynllun, fel y bernir yn briodol. Gall methu â dangos cynnydd priodol arwain at dynnu cynigion cyllid yn ôl ac at adennill oddi wrth yr awdurdodau lleol y cyllid a fydd wedi’i hawlio hyd at yr adeg honno.

Bydd cynlluniau sy’n cynnwys arian cyfatebol yn denu sgorau ychwanegol yn y broses arfarnu, a bydd cynlluniau sy’n dangos lefelau uwch o arian cyfatebol yn sgorio’n uwch.  

Rhaid i geisiadau nodi’n glir lefelau a ffynonellau’r arian cyfatebol  a fydd ar gael a chadarnhau y bydd ar gael i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau ym mlwyddyn ariannol 2022-23. Caiff arian cyfatebol ddod o ffynonellau mewnol neu allanol a gall gynnwys amser swyddog.

Telerau ac amodau'r grant

Ar wahân i amgylchiadau eithriadol drwy gytundeb ymlaen llaw, dylai'r cynlluniau sy'n cael eu cyflwyno ar gyfer cyllid gwaith yn 2022-23 ddangos y bydd pob problem sy'n gysylltiedig â thir yn cael eu datrys a bod gorchmynion neu'r caniatâd gofynnol wedi'u trefnu fel y gall y gwaith fynd yn ei flaen.

Er bod Llywodraeth Cymru yn barod i ariannu costau prynu tir, ni chaiff y cyllid ei ddarparu ar gyfer hawliadau iawndal sy'n codi o brynu'r tir neu o'r prosiect ei hun.

Mae darparu cymorth cyfalaf i gynlluniau yn amodol ar ymrwymiad awdurdodau lleol i dalu costau refeniw a chynnal a chadw yn y dyfodol.

Monitro a gwerthuso

Rhaid i’r holl gynlluniau gael eu monitro a’u gwerthuso. Gall awdurdodau lleol gynnwys costau monitro am hyd at dair blynedd yn eu ceisiadau am gyllid, ond rhaid nodi’r rhain yn glir. 

Rhaid monitro cynlluniau am dair blynedd ar ôl iddynt gael eu cwblhau a rhaid cyflwyno adroddiad i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn. Bydd rhagor o ganllawiau’n cael eu darparu ar brosesau adrodd.

Hyrwyddo

Dylai ceisiadau gynnwys costau sy'n gysylltiedig â hyrwyddo cynlluniau, gan gynnwys arwyddion, deunyddiau a digwyddiadau, am hyd at dair blynedd wedi i'r cynllun ddod i ben. Mae'n rhaid nodi'r rhain yn glir.

Dogfennau’r broses ymgeisio

Dylai awdurdodau lleol gyflwyno’u ceisiadau gan ddefnyddio’r ffurflenni cais perthnasol. Bydd pob cynllun yn cael ei asesu drwy broses arfarnu.

Awdurdodau lleol fydd yn gyfrifol am sicrhau bod y gwaith cyflawni’n cadw at yr amserlen ac am roi gwybod am unrhyw newid i’r rhaglen waith a/neu’r proffil gwariant. 

Wrth gyflwyno ceisiadau ar gyfer cynlluniau cyfalaf, rhaid cynnwys cynllun sy’n dangos cynifer o fanylion ag y bo modd am y cynllun hwnnw a hefyd fap sy’n dangos cynnwys y cynllun. Rhaid hefyd gynnwys cyfeirnod grid AO Prydain.

Bydd y dogfennau ategol a ganlyn yn cael eu hystyried:

  • mapiau a chynlluniau yng nghyswllt ceisiadau cyfalaf (rhaid i’r mapiau a’r cynlluniau hyn ddangos y camau arfaethedig yn glir)
  • o ran gwybodaeth ategol arall y teimlwch ei bod yn hanfodol i’r cais, rhaid cyflwyno cyn lleied ohoni ag y bo modd a dylai fod yn ddienw, lle y bo hynny’n berthnasol.

Y broses arfarnu

Bydd ceisiadau’n cael eu hystyried gan banel o swyddogion Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allanol perthnasol fel y bo’n briodol.

Bydd y penderfyniadau terfynol ynglŷn â chyllid yn cael eu gwneud gan y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.

Mae’r meini prawf asesu ar gyfer y grantiau i’w gweld mewn dogfen wahanol, gweler y Meini Prawf Asesu ar gyfer y Grant 2022-23.

Cyflwyniadau

Mae'n rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 7 Chwefror 2022.

Mae'n rhaid cyflwyno copi electronig o bob cais i'r cyswllt perthnasol o fewn Llywodraeth Cymru sydd wedi'u rhestru isod drwy transportplanning@llyw.cymru

Ni dderbynnir gwybodaeth ychwanegol neu ddiwygiedig ar ôl y dyddiad hwnnw oni bai ei bod yn wybodaeth y bydd Llywodraeth Cymru wedi gofyn amdani.

Enwau cyswllt Llywodraeth Cymru:

Awdurdod lleol

Manylion cyswllt Llywodraeth Cymru

Gogledd Cymru

  • Conwy
  • Sir Ddinbych
  • Sir y Fflint
  • Gwynedd
  • Ynys Môn, Wrecsam

Y canolbarth

  • Ceredigion
  • Powys

Carol Willgoose

Pennaeth Cynllunio a Gwerthuso Trafnidiaeth

transportplanning@llyw.cymru

03000 625168

De-orllewin Cymru

  • Sir Gaerfyrddin
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Sir Benfro
  • Abertawe.

Cymoedd y de-ddwyrain

  • Blaenau Gwent
  • Caerffili
  • Merthyr Tudful
  • Rhondda Cynon Taf
  • Torfaen

Corinna James

Pennaeth Cynllunio ac Arfarnu Trafnidiaeth

transportplanning@llyw.cymru

03000 625278

De-ddwyrain Cymru

  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Caerdydd, Mynwy
  • Casnewydd
  • Bro Morgannwg

Alison Thomas

Pennaeth Strategaeth a Chynllunio Trafnidiaeth

transportplanning@llyw.cymru

03000 25676