Neidio i'r prif gynnwy

Pwrpas, aelodaeth a rôl y grŵp.

Diben y Grŵp Cynghori

Rôl y grŵp fydd rhoi cyngor, adborth a thystiolaeth o safbwynt cydraddoldebau a chynhwysiant i Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod prosesau'r gyllideb a threth yn gwella yn y tymor hwy er mwyn alinio cyllid a chanlyniadau yn well, gan gynnwys y canlynol:

  • llywio diwygiadau i'r ffordd y caiff asesiadau effaith eu cynnal ar benderfyniadaugwario strategol er mwyn ystyried pob maes effaith yn well, gan gynnwyscydraddoldeb, anfantais economaidd-gymdeithasol a'r ffordd y caiff effeithiaunatur a charbon eu hystyried
  • sicrhau bod gwaith ymgysylltu mewn perthynas â'r gyllideb ac asesiadau effaithyn rhoi ystyriaeth lawn i brofiadau bywyd, yn sicrhau cymaint o gyfranogiaddinesig â phosibl ac yn ymgysylltu â phartneriaid perthnasol, er mwyn sicrhau ycaiff dyletswydd y bartneriaeth gymdeithasol ei chyflawni lle y bo'n rhesymolymarferol gwneud hynny
  • gweithredu mewn ffordd gynhwysfawr mewn perthynas â phrif-ffrydio amcanioncydraddoldebau a hawliau dynol i brosesau a phenderfyniadau sy'n ymwneud â'rgyllideb a threth, gan gynnwys sicrhau bod yr ymrwymiad yn y RhaglenLywodraethu i weithredu targedau Cyllidebu Rhywedd yn cael ei gyflawni, ermwyn deall natur groesdoriadol effeithiau cymdeithasol, diwylliannol, economaiddac amgylcheddol a rhoi ystyriaeth lawn i effeithiau bwriadol ac anfwriadol
  • rhoi'r pum ffordd o weithio fel y'u diffiniwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'rDyfodol, yn ogystal â'r egwyddor Datblygu Cynaliadwy, ar waith mewn unrhywbenderfyniadau gwario
  • sicrhau bod prosesau a dogfennaeth yn gwbl dryloyw a chyfleu effeithiaudisgwyliedig penderfyniadau gwario yn glir
  • cyfrannu at amcanion llesiant Llywodraeth Cymru i greu Cymru fwy cyfartal drwysicrhau bod cyfiawnder cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd wrth wraiddholl benderfyniadau gwario Llywodraeth Cymru er mwyn gwella llesiant pawb yngNghymru. Mae hyn yn ychwanegol at gefnogi ein hamgylchedd naturiol mewnffordd gynaliadwy a chreu economi sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldeb athlodi o bob math.

Bydd y gwaith hwn yn atgyfnerthu ac yn gwella'r cyngor a roddir i Weinidogion wrth wneud penderfyniadau ar wariant a threth, gan anelu at wella canlyniadau.

Prif nod y grŵp yw helpu i roi Cynllun Gwella'r Gyllideb Llywodraeth Cymru ar waith. Caiff y cynllun ei ddiweddaru bob blwyddyn a rhoddir cyfleoedd i'r grŵp gyfrannu at y broses a dylanwadu ar y gwaith a amlinellir yn y cynllun. Mae cynllun 2022-23 i'w weld yma.

Mae cynllun gwaith blynyddol y grŵp i'w weld yn Atodiad 2 (ar yr amod y cytunir arno yn ystod y cyfarfod cyntaf).

Ni fydd y grŵp yn gwneud y canlynol:

  • Darparu fforwm ar gyfer trafod penderfyniadau neu ddyraniadau cyllido penodol neu ddylanwadu arnynt oni fydd hynny mewn perthynas â gwaith Cynllun Gwella'r Gyllideb
  • Cynnig mecanwaith ar gyfer gwneud cais am gyllid, ac eithrio o ran ymgysylltu'n briodol â'r gyllideb
  • Cael ei gysylltu'n uniongyrchol â blynyddoedd/cylchoedd cyllidebol penodol

Aelodaeth

Bydd aelodaeth y grŵp yn sicrhau cyfranogiad a chydweithrediad gan randdeiliaid a fydd yn cynnig arbenigedd a phrofiad o amrywiaeth o feysydd er mwyn sicrhau dull gweithredu mwy integredig wrth adolygu'r prosesau hyn. Ochr yn ochr ag arbenigedd mewn technegau penodol, bwriedir i'r grŵp hwn hefyd gynnwys cynrychiolwyr o'r meysydd effaith allweddol a gaiff eu hystyried fel rhan o brosesau'r gyllideb, er mwyn sicrhau y caiff y rheini yr effeithir arnynt gan benderfyniadau cyllidebol eu cynnwys wrth wella'r prosesau hyn, gan osgoi effeithiau anfwriadol ar yr un pryd.

Bydd yn gweithio i ddileu achosion o feddwl mewn seilo lle y bo'n bosibl ac yn galluogi trafodaeth fwy cyfannol i gael ei chynnal wrth ystyried sut y caiff effeithiau eu hasesu a'u cyfleu.

Byddwn yn ceisio sicrhau bod yr aelodaeth yn cynrychioli pob un o'r meysydd canlynol:

  • Plant a Phobl Ifanc
  • Iechyd
  • Pobl Hŷn
  • Cynrychiolydd Cenedlaethau'r Dyfodol
  • Anabledd
  • Undeb Llafur a Phartneriaeth Gymdeithasol
  • Rhywedd
  • Llywodraeth Leol
  • Hil
  • Cyfryngwyr Lleol a Rhanbarthol
  • Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid
  • Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector
  • Ffydd a Chred
  • Y Gymraeg
  • LHDTC+
  • Trysorlys Llywodraeth Cymru
  • Trawsrywedd
  • Tîm Cydraddoldebau Llywodraeth Cymru
  • Yr Amgylchedd
  • Tîm Cymunedau Llywodraeth Cymru
  • Tlodi
  • Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Yn ogystal â'r aelodaeth graidd, cynigir lle i gynrychiolydd o swyddfeydd y Comisiynwyr Statudol fynychu ar sail cylchdro, os bydd am wneud hynny.

Cynigir lle i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol fynychu fel arsylwr.

Gellir gwahodd arbenigwyr, academyddion a chynrychiolwyr eraill o Lywodraeth Cymru i fynychu cyfarfodydd lle bydd yr aelodaeth o farn bod hynny'n berthnasol.

Mae rhestr lawn o'r aelodau i'w gweld yn Atodiad 3.

Bydd y grŵp yn adolygu'r aelodaeth o bryd i'w gilydd er mwyn sicrhau ei bod yn ddigon cynrychioliadol i gyflawni ei nodau.

Gofynnir i'r aelodau gytuno ar restr o ddisgwyliadau mewn perthynas â'u cyfranogiad yn y grŵp (ceir manylion yn Atodiad 1) a hefyd i nodi manylion ffora eraill y byddant yn cysylltu â nhw i rannu gwybodaeth ac i gael adborth o safbwynt y maes penodol y maent yn ei gynrychioli.

Rolau a chyfrifoldebau

Caiff ysgrifenyddiaeth y grŵp ei darparu gan dîm Gwella'r Gyllideb Llywodraeth Cymru sy'n rhan o Drysorlys Cymru a chaiff ei chadeirio gan Bennaeth Polisi a Chyflawni'r Gyllideb.

Gall cynrychiolydd enwebedig o'r sector anstatudol roi cymorth a chyngor ychwanegol fel y bo angen neu godi unrhyw faterion gan y grŵp cyfan gyda'r cadeirydd y tu allan i amserlen graidd y cyfarfod. Gallai hyn gynnwys dirprwyo ar ran y cadeirydd os bydd yn absennol. Anogir pob aelod i ymgysylltu â Thîm Gwella'r Gyllideb Llywodraeth Cymru y tu allan i'r cyfarfodydd a drefnir er mwyn trafod unrhyw feysydd o ddiddordeb penodol.

Bydd y grŵp yn atebol i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol. Y bwriad yw y bydd sesiwn ymgysylltu uniongyrchol rhwng y Gweinidogion a'r grŵp unwaith y flwyddyn fel y bo'n briodol.

Cynlluniwyd y grŵp hwn yn benodol i fod yn rhan o dirlun o rwydweithiau a fforymau eraill ac i osgoi achosion o ddyblygu, ond gan ychwanegu gwerth ar yr un pryd. Lle y bo'n bosibl, caiff cysylltiadau perthnasol eu creu er mwyn hwyluso'r broses o rannu gwybodaeth rhwng grwpiau er mwyn osgoi achosion diangen o ddyblygu. Gellid gwneud hyn drwy gysylltiadau cyfathrebu mwy anffurfiol rhwng yr aelodau. Mae rhestr o'r grwpiau hyn i'w gweld yn Atodiad 4. Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr a chaiff ei diweddaru'n achlysurol fel y bo'n briodol.

Amlder cyfarfodydd

Bydd y grŵp yn cyfarfod yn ffurfiol o leiaf bedair gwaith bob blwyddyn. Rhagwelir na fydd y cyfarfodydd yn para mwy na dwy awr.

Lle y bo angen, caiff cyfarfodydd ffurfiol eu hategu â gweithdai â phwyslais penodol ar bynciau penodol, fel y nodir mewn rhaglen waith y cytunir arni. Bydd dewis gan yr aelodau i fynychu'r cyfarfodydd hyn ai peidio gan ddibynnu ar eu diddordebau a'u harbenigedd. Rhagwelir na fydd y cyfarfodydd yn para mwy na dwy awr.

Caiff y cyfarfodydd (a fydd yn dechrau yn 2022) eu cynnal ar ffurf rithwir i ddechrau; rhagwelir y gellid mabwysiadu dull 'cyfunol' (cyfarfodydd rhithwir a chyfarfodydd wyneb-yn-wyneb) pan fydd y cyfyngiadau cymdeithasol yn llacio yn y dyfodol ac yn amodol ar gytundeb y grŵp, gan gydnabod manteision ac anfanteision y gwahanol ddulliau cyfathrebu o ran sicrhau amgylchedd cynhwysol.

Atodiad 1: Disgwyliadau

Yr hyn a ddisgwylir gan yr aelodau

  • Yn ogystal â chynrychioli maes diddordeb/sefydliad/fforwm/rhwydwaith penodol, bydd yr aelodau hefyd yn darparu eu harbenigedd personol.
  • Ceisio mynychu pob cyfarfod ac anfon ymddiheuriadau cyn unrhyw gyfarfodydd nad ydynt yn gallu eu mynychu a lle y bo'n bosibl, darparu dirprwy priodol
  • Bod yn gyfarwydd â'r agenda ac yn barod i gyfrannu at eitemau ar yr agenda yn ystod pob cyfarfod
  • Bod yn barod i gwblhau tasgau rhwng cyfarfodydd yn unol â'r camau gweithredu y cytunwyd arnynt
  • Cymryd rhan mewn gwaith ymgynghori a chyfathrebu rhwng cyfarfodydd drwy e-bost
  • Bod yn barod i arwain trafodaethau ar eitemau ar yr agenda mewn meysydd o arbenigedd penodol neu i gymryd rhan mewn ffrydiau gwaith unigol fel y bo angen er mwyn datblygu camau gweithredu penodol
  • Sicrhau y caiff adborth perthnasol ei roi ac y caiff cysylltiadau perthnasol eu creu rhwng y grwpiau a'r fforymau ehangach a gaiff eu cynrychioli (yn fewnol ac yn allanol)
  • Cydymffurfio â gofynion cyfrinachedd fel y bo angen
  • Parchu egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a'r cod ymddygiad moesegol

Yr hyn a ddisgwylir gan yr ysgrifenyddiaeth

  • Darparu papurau ac agendâu o leiaf 5 diwrnod gwaith cyn unrhyw gyfarfod.
  • Lle nad yw'n bosibl darparu papurau llawn cyn cyfarfod, rhoddir esboniad ac amser i'r aelodau edrych ar y papurau a rhoi adborth priodol ar ôl y cyfarfod.
  • Caiff cofnodion cryno â phwyntiau gweithredu allweddol eu dosbarthu o fewn 3 wythnos ar ôl pob cyfarfod.
  • Sicrhau y caiff pob pwynt gweithredu ei roi ar waith.
  • Trefnu arbenigwyr, academyddion a chynrychiolwyr eraill o Lywodraeth Cymru fel sy'n ofynnol ar gyfer cyfarfodydd.
  • Sicrhau bod pob cyfarfod (rhithwir a wyneb-yn-wyneb) yn annog pob aelod i gymryd rhan lawn ac ymdrin ag unrhyw ofynion hygyrchedd penodol.

Hysbysiad preifatrwydd

Cefndir

Mae tîm y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth Llywodraeth Cymru wedi creu Grŵp Cynghori ar Wella ac Asesu Effaith y Gyllideb (y Grŵp Cynghori). Cedwir manylion cyswllt personol ar gyfer cynrychiolwyr sefydliadau ac unigolion er mwyn i ni allu cadw mewn cysylltiad â rhanddeiliaid allanol am drefniadau cyfarfodydd y Grŵp Cynghori.

Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer gwybodaeth a gaiff ei chasglu gan dîm y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth.

Y sail gyfreithlon dros gasglu'r wybodaeth hon o dan Erthygl 6(1) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yw erthygl 6(1)(a) bod yr unigolyn wedi rhoi caniatâd clir i'w ddata personol gael eu prosesu at ddiben penodol.

Beth rydym yn ei wneud â'ch gwybodaeth?

Yn ein cylch gwaith fel y rheolydd data, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r wybodaeth a ddaw i law at y dibenion isod:

  • Cysylltu ag aelodau'r grŵp i'w hysbysu am gyfarfodydd a/neu ddigwyddiadau mewn perthynas â'r Grŵp Cynghori ar Wella ac Asesu Effaith y Gyllideb.
  • Rhannu gwybodaeth mewn perthynas â chyfarfodydd y Grŵp Cynghori a ffrydiau gwaith cysylltiedig penodol e.e. cofnodion, agendâu, cynlluniau gwaith.

Gyda phwy rydym yn rhannu eich gwybodaeth?

Caiff gwybodaeth ei rhannu ag aelodaeth y Grŵp Cynghori, gan gynnwys swyddogion perthnasol o fewn Llywodraeth Cymru.

Dim ond aelodau o staff is-adran y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth a all gael gafael ar wybodaeth a ddelir gan Dîm Gwella'r Gyllideb is-adran y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth.

Caiff unrhyw wybodaeth a ddarperir ei storio ar ardal warchodedig ar iShare (system rheoli dogfennau mewnol).

Pa mor hir y byddwn yn cadw eich gwybodaeth?

Bydd is-adran y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth yn cadw'r wybodaeth hon ar ein cronfa ddata am hyd at 120 mis.

Eich hawliau mewn perthynas â'ch gwybodaeth

Mae gennych yr hawl i'r canlynol:

  • Cael gweld y data personol rydym yn eu prosesu amdanoch chi
  • Ei gwneud yn ofynnol i ni gywiro gwallau yn y data hynny
  • Yr hawl (o dan rai amgylchiadau penodol) i wrthwynebu i'r prosesu
  • Yr hawl i gael eich data wedi'u 'dileu' (lle mae caniatâd yw'r sail gyfreithlon)
  • Gwneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod: BGB.PolisiAChyflenwi@llyw.cymru

Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Atodiad 2: Cynllun gwaith blynyddol - Ionawr 2022 i Rhagfyr 2022

1. Chwefror 2022

Ffocws

Diben a ffocws y grŵp

Canlyniad

Cytuno ar y canlynol:

  1. Cylch gorchwyl ac aelodaeth
  2. Cynllun gwaith
  3. Y broses ar gyfer ethol cynrychiolydd anstatudol

2. Mawrth 2022

Cadarnhau y bydd y Gweinidogion yn bresennol – (Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol)

Ffocws

Deall proses y gyllideb fel y mae'n bodoli ar hyn o bryd, gan gynnwys y canlynol:

  • rôl tystiolaeth, data ac asesiadau effaith ym mhroses y gyllideb
  • dogfennaeth y gyllideb gan gynnwys Cynllun Gwella'r Gyllideb, y model effaith dosbarthiadol a'r Asesiad Effaith Integredig Strategol
  • y trefniadau cyfredol ar gyfer ymgysylltu â llythrennedd cyllidebol
  • Darlun allanol

Ymgysylltu â'r gyllideb – pwy, pryd, pam?

  • Cyfranogiad Dinesig a phrofiad bywyd

Canlyniad

  • Gwell dealltwriaeth ymhlith yr aelodaeth o brosesau a dogfennaeth bresennol y gyllideb a threth
  • Cyfle i holi cwestiynau
  • Gwell dealltwriaeth ymhlith swyddogion Llywodraeth Cymru o'r canfyddiadau a'r heriau allanol presennol wrth ymgysylltu â phroses y gyllideb.
  • Cynllun ar gyfer cyfathrebu'n ehangach a chynyddu llythrennedd cyllidebol – Pwy, pryd, pam?
  • Dealltwriaeth o anghenion rhanddeiliaid a swyddogion wrth ymgysylltu â'r gyllideb ac ar ba sianelau y gall hyn ddigwydd ac y dylai fod yn digwydd – datblygu cynllun

3. Ebrill i Mehefin 2022

Ffocws

Asesiad Effaith Integredig Strategol

  • Safbwyntiau rhanddeiliaid ar ddiben (cynhelir y gwaith ymlaen llaw er mwyn cael adborth – pleidleisio ac ati)
  • Stori hanesyddol yr Asesiad Effaith Integredig Safonol
  • Chwalu'r mythau – beth yw'r asesiad a beth nad yw
  • Sut rydym yn defnyddio'r Asesiad Effaith Integredig Strategol yn effeithiol i ddangos sut y caiff penderfyniadau cyllidebol eu gwneud
  • Y gydberthynas rhwng yr Asesiad Effaith Integredig a'r Asesiad Effaith Integredig Strategol

Canlyniad

  • Gwell dealltwriaeth o ddull presennol yr Asesiad Effaith Integredig Strategol a sut mae hyn yn ddull gwahanol i'r Asesiad Effaith Integredig
  • Argymhellion ar gyfer gwella
  • Nodi meysydd pellach i'w hystyried
    • Heriau allweddol i'r llywodraeth wrth lunio Asesiad Effaith Integredig Strategol
    • Heriau allweddol i randdeiliaid wrth ystyried effeithiolrwydd yr Asesiad Effaith Integredig Strategol
  • Nodi sesiynau unigol posibl i ystyried cynllun gwaith penodol os ystyrir bod hynny'n briodol

4. Gorffennaf i Medi 2022

Ffocws

Ffyrdd gwahanol o asesu effaith:

  • Sut i ddangos mai Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yw'r fframwaith sylfaenol ar gyfer yr holl ddyletswyddau eraill mewn ffordd fwy effeithiol a mwy amlwg
  • Sut y gallem ei wella:
    • Cyllidebu Rhywedd/Cydraddoldeb
    • Asesiadau effaith dosbarthiadol
    • Asesiadau effaith Carbon
    • Asesiadau effaith natur
  • Ffyrdd o gydbwyso nodau ac effeithiau hirdymor a byrdymor penderfyniadau gwario.
  •  Y darlun rhyngwladol

Canlyniad

  • Gwell dealltwriaeth o wahanol ffyrdd o asesu effaith a sut y gellid eu defnyddio mewn perthynas â'r Asesiad Effaith Integredig Strategol
  • Nodi meysydd pellach i'w hystyried

5. Hydref i Rhagfyr

Ffocws

Cyfarfod adolygu (Gweinidogion i fynychu o bosibl)

  • Adborth ar y gwaith a'r cyflawniadau hyd yn hyn (gan gynnwys unrhyw is-grwpiau)
  • Adolygu aelodaeth a'r cylch gorchwyl
  • Cynllunio gwaith 2023

Canlyniad

  • Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidogion
  • Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar Gynllun Gwella'r Gyllideb
  • Cytuno ar newidiadau i'r cylch gorchwyl/aelodaeth
  • Cytuno ar y cynllun gwaith ar gyfer 2023

Atodiad 3: Aelodaeth

  1. Plant a Phobl Ifanc
    • Plant yng Nghymru
  2. Pobl Hŷn
    • Age Cymru
  3. Anabledd
    • Anabledd Cymru
  4. Rhywedd
    • Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru
    • Grŵp Cyllideb Menywod Cymru
  5. Hil
    • Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth
  6. Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid
    • I'w gadarnhau
  7. Ffydd a Chred
    • I'w gadarnhau
  8. LHDTC+
    • Stonewall Cymru
  9. Trawsrywedd
    • Cynrychiolydd annibynnol
  10. Yr Amgylchedd
    • Cyswllt Amgylchedd Cymru
  11. Tlodi
    • Sefydliad Bevan
    • Y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant
  12. Iechyd
    • Grŵp Arwain Cydraddoldeb y GIG
  13. Cynrychiolydd Cenedlaethau'r Dyfodol
    • I'w gadarnhau
  14. Undeb Llafur a Phartneriaeth Gymdeithasol
    • Cyngres yr Undebau Llafur
  15. Llywodraeth Leol
    • CLlLC
  16. Cyfryngwyr Lleol a Rhanbarthol
    • Cyngor Partneriaeth Trydydd Sector Caerdydd
  17. Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector
    • CGGC
  18. Y Gymraeg
    • Prosiect 2050
  19. Llywodraeth Cymru
    • Trysorlys Cymru
    • Yr Is-adran Cymunedau
    • Yr Is-adran Cydraddoldeb
  20. Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
    • Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Atodiad 4: Rhwydweithiau a fforymau eraill perthnasol

Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr ond mae'n cynnig trosolwg o'r amrywiaeth o fforymau/rhanddeiliaid y gallai fod ganddynt ddiddordeb cyffredin yng ngwaith y grŵp hwn.

Llywodraeth Cymru

  • Fforwm Anabledd
  • Y tasgu anabledd ar yr adroddiad 'Drws ar Glo'
  • Yr Is-grŵp Cydraddoldeb Rhywiol
  • Grŵp atebolrwydd y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol
  • Fforwm Hil
  • Y Tasglu Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches
  • Fforwm Ffydd
  • Y panel arbenigol ar LHDTC+
  • Cryfhau a Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
  • Fforwm Cynghori'r Gweinidog ar Heneiddio
  • Y Panel Arbenigol ar Sero Net

Grŵp Cynghori Llywodraeth Cymru ar Hawliau Plant

Wedi'i oruchwylio gan gangen Hawliau Plant Llywodraeth Cymru sy'n rhoi cyngor allanol i swyddogion ar bob mater sy'n ymwneud â hawliau plant.

Yr Is-bwyllgor Cyllid a Chydymffurfiaeth

O dan arweiniad un o swyddogion Llywodraeth Cymru (Uned y Trydydd Sector) â Chadeirydd Allanol. Yn atebol i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol. Er mwyn helpu Llywodraeth Cymru i sicrhau cydymffurfiaeth â chynllun y trydydd sector.

Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector (TSPC)

Caiff y cyfarfod hwn a gynhelir ddwywaith y flwyddyn ei gadeirio gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ac mae'n cynnig mecanwaith allweddol i sefydliadau gwirfoddol sgwrsio a chlywed gan Lywodraeth Cymru. Mae'r grŵp hwn yn sicrhau y caiff yr egwyddorion a nodir yng Nghynllun y Trydydd Sector eu rhoi ar waith. Mae hefyd yn cynnig cyfle i'r sector godi materion o ddiddordeb neu bryder. Mae'r aelodaeth yn cynnwys 27 o gynrychiolwyr etholedig o holl feysydd diddordeb y sector.

Y Gynghrair Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Un o is-grwpiau strwythur Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector. Mae gan y grŵp hwn gadeirydd etholedig ac mae CGGC yn darparu'r ysgrifenyddiaeth. Mae'n rhwydwaith sy'n cynnwys dros 60 o aelodau unigol o amrywiaeth o sefydliadau'r trydydd sector sy'n gweithio ym meysydd cydraddoldeb a hawliau dynol. Mae'r rhwydwaith yn cyfarfod bob chwarter ac mae fel arfer yn cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Cyfarfodydd Gweinidogol y Trydydd Sector

Wedi'u cadeirio gan bob Gweinidog unigol o fewn Llywodraeth Cymru. Mae'r cyfarfodydd hyn a gynhelir ddwywaith y flwyddyn yn rhan o'r ddeddfwriaeth statudol sy'n sicrhau bod llwybr ffurfiol ar gael i'r sector sgwrsio a chodi materion â phob un o Weinidogion Llywodraeth Cymru.

Grŵp Cyllideb Menywod Cymru

Sefydliad annibynnol di-elw sy'n anelu at weithio gyda'r llywodraeth a chymdeithas ddinesig er mwyn creu Cymru fwy llewyrchus a chyfartal drwy sicrhau bod effaith trethiant a gwariant yng Nghymru yn deg ac yn sicrhau cydraddoldeb rhywiol.

Grŵp Rhanddeiliaid Hawliau Dynol Cymdeithas Sifil Cymru

Wedi'i arwain gan Simon Hoffman (Prifysgol Abertawe)

Cynghrair Ffoaduriaid Cymru

Cyngor Ffoaduriaid Cymru

Y Gynghrair Gwrthdlodi

Sefydliad Bevan

Grŵp Monitro CCUHP Cymru

Mae Grŵp Monitro CCUHP Cymru (a sefydlwyd yn 2002) yn gynghrair genedlaethol o asiantaethau anllywodraethol ac academaidd sy'n gyfrifol am fonitro a hyrwyddo Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yng Nghymru a chaiff ei hwyluso gan Plant yng Nghymru. Mae rhagor o wybodaeth am waith Grŵp Monitro CCUHP Cymru i'w gweld yma.