Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU ei bod am wahardd cŵn y brid American Bully XL erbyn diwedd y flwyddyn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dywedodd y Gweinidog:

Rwy’n croesawu newyddion heddiw bod camau’n cael eu cymryd o’r diwedd i ddelio â chŵn y brid American Bully XL yn dilyn nifer o ymosodiadau a marwolaethau. Rwyf wedi sgrifennu at Lywodraeth y DU dros nifer o flynyddoedd i ofyn am ymateb i’r achosion gyda chŵn y brid American Bully XL, ac i feddwl a oedd modd gwella Deddf Cŵn Peryglus 1991.  Dim ond yr wythnos yma mi godais y mater unwaith eto hefo Ysgrifennydd Gwladol Defra ac rwy’n edrych ymlaen at weld manylion y mesurau      

Bydd fy swyddogion yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod y gwaharddiad ddim yn cael effaith andwyol ar ddiogelwch y cyhoedd, lles cŵn a’r pwysau ar y sector lles anifeiliaid ehangach.

 Annog perchenogion cŵn i fod yn gyfrifol yw un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac mae ein Cod Ymarfer ar Les Cŵn yn esbonio ei bod yn ddyletswydd ar berchenogion cŵn i gadw eu cŵn o dan reolaeth. Mae ein Rhaglen Lywodraethu’n cynnwys nifer o fesurau fydd yn gwella safonau bridio a chadw cŵn yng Nghymru.         

Byddwn yn parhau i gadw golwg ar yr hyn y gallwn ei wneud yma yng Nghymru i leihau’r peryglon y mae perchenogion anghyfrifol yn eu hachosi ond gan hyrwyddo manteision cŵn i gymdeithas.