Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r diffiniad a'r nodiadau a ganlyn, a ddatblygwyd gan Weithgor Llywodraeth Cymru ar Wahardd Arferion Trosi, at ddibenion polisi ac ymgyrchu yn unig. Ni fwriedir i hwn fod yn ddiffiniad cyfreithiol.

Diffiniad drafft

Defnyddir 'arferion trosi', a elwir weithiau yn 'therapi trosi', fel term ambarél i ddisgrifio ymyriadau niweidiol o natur amrywiol, a’r ymyriadau hynny i gyd yn seiliedig ar y camsyniad, neu ar y diben sydd wedi’i ragbennu, y gellir newid, “gwella” neu lethu cyfeiriadedd rhywiol a/neu rywedd unigolyn, gan gynnwys ei hunaniaeth rhywedd. Er enghraifft, amcan yr arferion hynny yn aml yw ceisio newid person o fod yn berson hoyw, lesbiaidd neu ddeurywiol i fod yn berson heterorywiol, a/neu o fod yn berson traws, anneuaidd neu rywedd-amrywiol i fod yn berson cisryweddol. Yn dibynnu ar y cyd-destun, defnyddir y term ar gyfer nifer o arferion a dulliau; mae rhai ohonynt yn ddirgel ac felly heb eu cofnodi’n dda.

Nodyn 1: gofal cadarnhaol

Ystyr gofal cadarnhaol yw dulliau o ddarparu gofal iechyd lle mae'r darparwyr yn cydnabod, yn dilysu a/neu yn cefnogi hunaniaeth rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol unigolyn. Ni fyddai'r dulliau hyn yn dod o fewn y diffiniad o arferion trosi oherwydd nad ydynt yn ceisio newid, llethu na "gwella" cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth rhywedd unigolyn.

Ni ddylai'r rhyddid i archwilio hunaniaeth rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol gael ei rwystro gan waharddiad ar arferion trosi. Yn benodol, ni ddylai unrhyw waharddiad effeithio'n negyddol ar fynediad unigolion trawsryweddol, anneuaidd neu ryngryw at ddarpariaethau gofal iechyd a gofal cadarnhaol.

Nodyn 2: lleoliadau arferion trosi

Adroddwyd am arferion trosi mewn lleoliadau crefyddol ac mewn lleoliadau teuluol neu ddomestig; ac maent wedi cael eu labelu ar gam fel "therapi" mewn lleoliadau iechyd meddwl, lleoliadau seiciatrig a lleoliadau gofal iechyd eraill.

Lleoliadau crefyddol, lleoliadau ffydd, neu leoliadau ysbrydol yn aml yw'r amgylcheddau y nodir fwyaf eu bod yn gysylltiedig ag arferion trosi. Byddai’r arferion hyn yn cynnwys gweddi lafar sy'n ceisio newid, llethu a/neu "wella" cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth rhywedd unigolyn, wedi'i chyfeirio at un unigolyn neu at grŵp o unigolion.