Neidio i'r prif gynnwy
Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS

Cyfrifoldebau'r Prif Weinidog Cymru

Bywgraffiad

Ganed a magwyd Mark yng ngorllewin Cymru cyn symud i Gaerdydd fwy na 30 mlynedd yn ôl. Ers hynny mae wedi byw yn ardal Pontcanna o Gaerdydd. Bu’n swyddog prawf, yn weithiwr cyfiawnder ieuenctid ac yn arweinydd prosiect Barnardos yn Nhrelái a Chaerau, ac mae wedi fod yn Athro mewn Polisi Cymdeithasol a Gwyddorau Cymdeithasol Cymhwysol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae Mark hefyd wedi dysgu ym Mhrifysgol Abertawe.

Yn yr 1980au a'r 1990au roedd Mark yn gynghorydd Llafur ar Gyngor Sir De Morgannwg, gan arbenigo mewn materion addysg, gan gynnwys addysg cyfrwng Cymraeg. Rhwng 2000 a 2010 bu'n gweithio fel cynghorydd polisi iechyd a chymdeithasol yn Llywodraeth Cymru cyn dod yn bennaeth swyddfa wleidyddol y Prif Weinidog. Mae ganddo werth 40 mlynedd o wybodaeth o etholaeth Gorllewin Caerdydd.

Daeth Mark yn Aelod Cynulliad dros Orllewin Caerdydd ym mis Mai 2011. Roedd yn Gadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad o fis Gorffennaf 2011 – Mawrth 2013 a’r Pwyllgor Monitro Rhaglenni Ewropeaidd Cymru Gyfan o fis Gorffennaf 2011 – Mawrth 2013. Penodwyd yn Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Mawrth 2013. Penodwyd yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ym mis Mai 2016. Penodwyd Mark yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar 3 Tachwedd 2017. Ar 12 Rhagfyr 2018 penodwyd Mark yn Prif Weinidog Cymru a daeth yn aelod o'r Cyfrin Gyngor ar 13 Chwefror 2019. Penodwyd Mark yn Brif Weinidog ar 13 Mai 2021.

Cyfrifoldebau

  • Y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn arfer ei swyddogaethau
  • Datblygu a chydgysylltu polisïau
  • Cyflawni'r Rhaglen Lywodraethu
  • Cysylltiadau rhynglywodraethol gan gynnwys y Cyd-bwyllgor Gweinidogion
  • Cysylltiadau Rhyngwladol
  • Y Rhaglen Ddeddfwriaethol 
  • Cod y Gweinidogion
  • Llywodraeth Agored a rheoli gwybodaeth, gan gynnwys diogelu data
  • Goruchwylio perthynas Llywodraeth Cymru gyda Swyddfa Archwilio Cymru
  • Argyfyngau Sifil 
  • Diogelwch gwladol gan gynnwys gwrthderfysgaeth a seiberddiogelwch
  • Cyrff Hyd Braich
  • Penodiadau Cyhoeddus
  • Cymru yn Ewrop
  • Swyddfeydd Rhyngwladol Llywodraeth Cymru
  • Datblygu cysylltiadau â'r Cymry ar Wasgar
  • Cyfathrebu Strategol
  • Hyrwyddo datblygu cynaliadwy (yn unol â’r diffiniad yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol) a’r Nodau Datblygu Cynaliadwy

Ysgrifennu at Mark Drakeford