Partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a’r sector preifat ar gyfer gwireddu cynlluniau seilwaith yng Nghymru.
Yn y casgliad hwn
Trosolwg
Mae’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM) yn ddull gweithredu arloesol i fuddsoddi mewn seilwaith cyhoeddus a ddatblygwyd yng Nghymru. Mae MIM wedi'i ddylunio gan Lywodraeth Cymru i ariannu prosiectau cyfalaf mawr oherwydd prinder cyllid cyfalaf.
Bydd MIM yn cefnogi buddsoddiadau ychwanegol ym mhrosiectau seilwaith cymdeithasol ac economaidd ac yn helpu i wella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Bydd cynlluniau MIM yn golygu y gall partneriaid preifat adeiladu a chynnal a chadw asedau cyhoeddus. Yn gyfnewid am hyn, bydd Llywodraeth Cymru yn talu ffi i’r partner preifat i dalu’r costau sy’n codi o adeiladu, cynnal a chadw, ac ariannu’r prosiect.
Ar ddiwedd contract, bydd yr ased yn cael ei drosglwyddo i berchnogaeth gyhoeddus.
Yn ystod cyfnodau adeiladu'r prosiectau, bydd partneriaid preifat yn helpu Llywodraeth Cymru i greu prentisiaethau a hyfforddeiaethau er budd cymunedau lleol.
Cynlluniau Model Buddsoddi Cydfuddiannol cynnwys:
- ailddatblygu Canolfan Ganser Felindre, Caerdydd
- cwblhau’r gwaith o ddeuoli’r A465 o Ddowlais Top i Hirwaun
- buddsoddi ychwanegol ym Mand B Rhaglen Ysgolion yr 21ain ganrif
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost i MIMMailbox@llyw.cymru.
Dogfennau technegol
Bydd y dogfennau hyn yn cynorthwyo partïon sydd â diddordeb yng nghamau caffael y rhaglen MIM.
Bydd cynlluniau MIM yn cael eu gwerthuso yn unol â methodoleg Gwell Achosion Busnes, ac yn cael sicrwydd drwy broses Gateway a system pwyntiau cymeradwyo masnachol MIM.
Mae MIM yn cydymffurfio â’r canllawiau Eurostat sy’n pennu sut y mae partneriaethau cyhoeddus-preifat yn cael eu trin at ddibenion cyllidebol.
Mae’r Ganolfan Ewropeaidd ar gyfer Arbenigedd ar Bartneriaethau Cyhoeddus-Preifat (EPEC) wedi cynhyrchu canllaw ar ddefnyddio’r Manual of Government Deficit and Debt (2016) (dolen allanol).
Adroddiad blynyddol a dogfennau cyhoeddedig
Pan lansiwyd y MIM yn 2017, gwnaethom ymrwymiad i fod mor dryloyw â phosibl ynghylch ein gweithredoedd.
Mae’r adroddiad blynyddol cyntaf yn disgrifio ein gweithgareddau dros y cyfnod rhwng Mehefin 2021 a Mehefin 2022.
Mae'r cytundeb partneriaeth strategol yn sail i fuddsoddiad MIM yn y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.
Mae'r cytundeb prosiect ar gyfer deuoli adrannau 5 a 6 o gynllun MIM yr A465 yn llywodraethu'r gwaith o sicrhau bod rhannau olaf o Ffordd Blaenau'r Cymoedd yn cael eu deuoli.
Mae gwybodaeth fasnachol sensitif wedi'i olygu o'r cytundebau cyhoeddedig.