Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Cadeirydd: Lynn Sloman (LS)

Llywodraeth Cymru: Rob Kent-Smith (RKS), Matt Jones (MJ), 

Trafnidiaeth Cymru: Natasha McCarthy (NMC),

Cymorth Technegol (Arcadis): Janice Hughes (JHU), Matt Fry (MF).

Panelwyr:

  • Julie Hunt (JH)
  • Glenn Lyons (GL)
  • Geoff Ogden (GO)
  • John Parkin (JP)
  • Helen Pye (HP)
  • Andrew Potter (AP)
  • Eurgain Powell (EP)

Ymddiheuriadau:

Llywodraeth Cymru: Lea Beckerleg (LB), Scott Walters (SW)

Cyflwyniadau a’r diweddaraf gan yr Ysgrifenyddiaeth

Derbyniodd y Panel gofnodion y cyfarfod diwethaf a chafwyd adroddiad gan yr ysgrifenyddiaeth ar ei gweithgareddau diweddar.

Trafododd y Panel yr ohebiaeth sydd wedi dod i law ynghylch argymhellion yr adolygiad cyflym a phenderfyniad Llywodraeth Cymru wedi hynny ynghylch y Gwelliannau i’r Ffordd Fynediad i Lanbedr a’r Ffordd Osgoi.

Adolygu cynlluniau unigol

Cytunodd y Panel ar sut y dylid adolygu cynlluniau unigol, hynny yn sgil cyhoeddi’r Adroddiad Cychwynnol sy’n rhestru’r hol gynlluniau fydd yn cael eu hadolygu.

Rhannodd y panelwyr eu barn yn dilyn adolygu dogfennau cynlluniau a chymhwyso’r meini prawf.  Caiff y pwyntiau a drafodwyd yn y cyfarfod eu hystyried er mwyn penderfynu ar ffurf derfynol yr adolygiad.

Ai ffordd yw’r ateb priodol?

Trafodaeth gan y Panel o dan arweiniad y Cadeirydd i ateb y cwestiwn yn y Cylch Gorchwyl ar gyfer Adolygu Ffyrdd ynghylch o dan ba amgylchiadau y byddai’n briodol gwario arian Llywodraeth Cymru ar ffyrdd.

Y cyfarfod nesaf

Cynhelir y cyfarfod nesaf ddydd Mercher 12 Ionawr 2022.