Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Cadeirydd: Lynn Sloman (LS)

Llywodraeth Cymru: Rob Kent-Smith (RKS), Matt Jones (MJ)

Trafnidiaeth Cymru: Natasha McCarthy (NMC)

Cymorth Technegol (Arcadis): Janice Hughes (JHU), Matt Fry (MF).

Aelodau’r Panel:

  • Julie Hunt (JH)
  • Glenn Lyons (GL)
  • Geoff Ogden (GO)
  • John Parkin (JP)
  • Andrew Potter (AP)
  • Helen Pye (HP)
  • Eurgain Powell (EP).

Ymddiheuriadau:

  • Llywodraeth Cymru: Scott Walters (SW)

Cyflwyniad

Agorodd y Cadeirydd y cyfarfod. Cynhaliwyd trafodaeth â’r Panel Adolygu Ffyrdd i gytuno ar gofnodion Cyfarfod cyntaf y Panel Adolygu Ffyrdd.

Polisïau a phrosesu gwerthuso gresennol ac arfaethedig Llywodraeth Cymru

Bu trafodaeth o dan arweiniad yr Ysgrifenyddiaeth ynghylch polisïau a phrosesau gwerthuso presennol ac arfaethedig Llywodraeth Cymru a oedd yn cynnwys:

  • Arolygiad WelTAG sy’n cael ei arwain gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd.
  • Amcanion a meini prawf newydd arfaethedig ar gyfer buddsoddi gan Lywodraeth Cymru yn y ‘Metros’ (h.y. buddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth rhanbarthol yn y De-ddwyrain, y Gorllewin a’r Gogledd.
  • Sefyllfa Cymru o ran Sero-net, gan gynnwys y blaenoriaethau disgwyliedig.
  • Llwybr Newydd, Strategaeth Drafnidiaeth Cymru. 
  • Gweithredu terfyn cyflymder diofyn o 20mya

Data ar gynlluniau unigol

Rhoddodd yr Ysgrifenyddiaeth ddiweddariad ar y gwaith o goladu a dosbarthu gwybodaeth mewn perthynas â chynlluniau sydd o fewn y cwmpas y cytunwyd arno ar gyfer yr Adolygiad o Ffyrdd.

Trafododd y Panel y gofynion data llinell sylfaen ar gyfer cynlluniau sydd o fewn cwmpas yr adolygiad. Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn parhau i arwain y gwaith o gasglu’r data.

Trafodaeth ynghylch y cynlluniau sydd o fewn y cwmpas

Rhoddodd yr Ysgrifenyddiaeth ddiweddariad llafar ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i gais y Panel i ehangu cwmpas yr adolygiad mewn rhai ardaloedd.

Rhoddodd yr Ysgrifenyddiaeth eglurhad ynghylch statws presennol yr A40 rhwng Llanddewi Felffre a Redstone Cross a’i haddasrwydd i gael ei hystyried o fewn cwmpas yr Adolygiad o Ffyrdd, yn dilyn cysylltiadau a wnaed gyda’r Panel a’r Cadeirydd.

Trafodaethau â rhanddeiliad

Rhoddodd yr Ysgrifenyddiaeth ddiweddariad ar y gwaith o fapio rhanddeiliad a gynhaliwyd hyd yn hyn, a gwnaethant drafod cynlluniau cychwynnol ar gyfer trafod â rhanddeiliaid.

Mae cynlluniau ar gyfer trafod â rhanddeiliaid yn ystod y misoedd nesaf yn cynnwys mapio sefydliadau allweddol, trafod â hyrwyddwyr cynlluniau ac ymweld â safleoedd lle mae hynny’n ymarferol. Nododd y Cadeirydd y byddai ymweld â’r safle yn Llanbedr o werth penodol wrth ystyried a ddylid cymeradwyo’r cynllun.

Datblygu’r meini prawf ar gyfer asesiad adolygu ffyrdd

Bu trafodaeth am y drafft cyntaf o’r meini prawf ar gyfer yr asesiad adolygu ffyrdd. Roedd y dull wedi cael ei strwythuro i ddod â blaenoriaethau Strategaeth Trafnidiaeth Cymru a phroses WelTAG at ei gilydd.  

Adolygiad cyflym o gynllun Llanbedr

Rhoddodd y Gadeirydd ddiweddariad ar gynnydd yr adolygiad cyflym o Gynllun Mynediad yr  A496.

Ni chymerodd Helen Pye ran yn y drafodaeth ynghylch Llanbedr oherwydd gwrthdaro rhwng y mater hwn a’i rôl gyda Pharc Cenedlaethol Eryri.

Y cyfarfod nesaf

Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 20 Hydref.