Y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol Cymru: adroddiad blynyddol 2026
Crynodeb o waith y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol Cymru yn ystod 2026.
Ar y dudalen hon
Rhagair
Mae'n anrhydedd gennyf ymgymryd â swydd Cadeirydd Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol Cymru. Mae'r dasg sy'n wynebu Cymru i fynd i'r afael â'r risg gynyddol o lifogydd o afonydd, cyrsiau dŵr llai, y môr a dŵr ffo wyneb, yn enfawr ac yn gymhleth. Rwy'n gweld rôl hanfodol y Pwyllgor fel gweithio drwy'r cymhlethdod hwn a darparu cyngor i Weinidogion ac yn eu tro, i Awdurdodau Rheoli Risg, i fynd i'r afael â'r heriau.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf profodd Cymru nifer o lifogydd unwaith eto a effeithiodd ar eiddo, unigolion a bywoliaethau. Achosodd dwy storm a enwyd - Claudia a Bram - lifogydd sylweddol ond cafodd llifogydd eu achosi hefyd gan lefelau parhaus ac uchel o law.
Roedd yn gadarnhaol bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £85 miliwn, y swm uchaf erioed, i gefnogi gwaith gan Awdurdodau Rheoli Risg ledled Cymru i leihau a rheoli perygl llifogydd yn 2026/27, gan ddatblygu ar y £377 miliwn a ymrwymwyd dros dymor y Senedd ddiwethaf (y chweched Senedd). Mae'r Pwyllgor yn edrych ymlaen at weithio gyda'r Llywodraeth nesaf, yn dilyn etholiadau Senedd Cymru ym mis Mai, i gynnal y lefel hon o fuddsoddiad o leiaf.
Yn dilyn gwaith helaeth y Pwyllgor ar ganfod atebion i fynd i'r afael â materion sgiliau, gallu a gwydnwch y gweithlu yn y sector, croesawyd cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynghylch cefnogaeth aml-flwyddyn i ddatblygu'r gweithlu. Mae'r cymorth hwn yn hanfodol i ddarparu llwybr gwerthfawr i ymgeiswyr i'r gweithlu, gan ddarparu profiad gwaith iddynt sy'n anodd dod o hyd iddo, ac sy'n aml yn ofyniad cyn cael swyddi. Mae angen cydnabyddiaeth hefyd o'r ymdrech y mae Awdurdodau Rheoli Risg a CLlLC wedi'i roi i'r cynllun peilot ac i gefnogi'r lleoliadau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Dangosodd llifogydd Trefynwy ym mis Tachwedd 2025 nad yw'r ardaloedd hynny sydd ag amddiffynfeydd rhag llifogydd yn rhydd rhag perygl llifogydd. Mae angen buddsoddiad parhaus mewn rheoli perygl llifogydd, gan gynnwys atebion sy'n seiliedig ar natur, ond mae angen gweithio gyda chymunedau hefyd i'w cefnogi i ddatblygu eu gwydnwch eu hunain rhag y risg uwch o lifogydd. Mae angen i'r diwydiant yswiriant fod yn rhan o hyn, a byddwn yn defnyddio'r adroddiadau a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor i lywio'r ymdrech hon.
Rwy'n ddiolchgar i'm rhagflaenydd, Martin Buckle, a wnaeth lawer iawn o waith wrth sefydlu a thyfu'r Pwyllgor a'i sefydlu fel adnodd gwerthfawr ac ymroddedig ar gyfer y sector llifogydd ac erydu arfordirol.
Camodd nifer o aelodau'r Pwyllgor i lawr ym mis Mawrth a hoffwn ddiolch yn fawr iddynt am eu hymrwymiad, eu hamser ac am rannu eu harbenigedd. Bydd aelodaeth y Pwyllgor nawr yn cael ei adolygu, ac edrychaf ymlaen at groesawu aelodau newydd yn ddiweddarach eleni.
Dr Roisin Willmott OBE FRTPI
Cadeirydd Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol Cymru
Gorffennaf 2026
1. Sut yr ydym yn mynd ati
1.1 Mae aelodau'r Pwyllgor dros y flwyddyn 2025/26 wedi'u rhestru isod:
- Martin Buckle: Cadeirydd, Hyd at fis Rhagfyr 2025
- Roisin Willmott: Cadeirydd, O fis Chwefror 2026 ymlaen
- Paul Blackman: Wallingford Hydro Solutions, Hyd at fis Mawrth 2026
- Robin Campbell: Arup
- Jean-Francois Dulong: Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Hyd at fis Mawrth 2026
- Geraint Edwards: Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Hyd at fis Mawrth 2026
- Natalie Haines: Mott MacDonald, Hyd at fis Mawrth 2026
- Ben Kathrens: Cyngor Sir Caerfyrddin
- Anne-Marie Moon: JBA Consulting, Hyd at fis Mawrth 2026
- Jeremy Parr: Cyfoeth Naturiol Cymru
- Karen Potter: Y Brifysgol Agored, Hyd at fis Mawrth 2026
- Dominic Scott:Dŵr Cymru Welsh Water, Hyd at fis Mawrth 2026
- Andrew Stone: Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Hyd at fis Mawrth 2026
- Michael Wellington: Waterco, Hyd at fis Mawrth 2026
- Paul Williams: Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru, Hyd at fis Mawrth 2026
- Catherine Wilson: Prifysgol Caerdydd, Hyd at fis Mawrth 2026
1.2 Penodwyd aelodau i'r Pwyllgor am y tro cyntaf yn 2019. Ymunodd Dominic Scott yn 2022, ac yna Robin Campbell a Paul Williams yn 2023 a Ben Kathrens ym mis Gorffennaf 2025. Roedd llawer o aelodau wedi cwblhau'r uchafswm o ddau dymor o dair blynedd o wasanaeth yn 2026 ac felly yn camu i lawr o'r Pwyllgor ym mis Mawrth, ynghyd â Dominic Scott a Paul Williams a oedd ill dau wedi cwblhau un tymor.
1.3 Penodwyd Martin Buckle yn Gadeirydd cyntaf y Pwyllgor yn 2018, ac fe gamodd i lawr ym mis Rhagfyr 2025 ar ôl gwasanaethu am ddau dymor. Yn dilyn proses Penodiadau Cyhoeddus, penodwyd Roisin Willmott yn Gadeirydd o fis Chwefror 2026 ymlaen.
1.4 Penodwyd Owen Griffiths a Steffan Jones i'r Pwyllgor ym mis Mawrth 2026, ac maent ynghyd â Ben Kathrens, yn cynrychioli'r Grwpiau Llifogydd Rhanbarthol. Penodwyd David James hefyd ym mis Mawrth 2026 gan ddechrau cynrychiolaeth o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae aelodaeth y Pwyllgor yn cael ei adolygu yn 2026 gyda'r bwriad o sicrhau ei fod yn adlewyrchu cyfeiriad y Pwyllgor.
1.5 Mae aelodau'r Pwyllgor ar gyfer 2026/27 fel a ganlyn:
- Roisin Willmott: Cadeirydd
- Robin Campbell: Arup
- Owen Griffiths: Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
- David James: Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
- Steffan Jones: Cyngor Gwynedd
- Ben Kathrens: Cyngor Sir Caerfyrddin
- Jeremy Parr: Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyfarfodydd y Pwyllgor
1.6 Mae'r Pwyllgor llawn yn cyfarfod yn gyhoeddus bob chwarter. Mae'r holl agendâu a chofnodion wedi'u cyhoeddi ar wefan y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol. Mae pob papur, ar wahân i’r rheini sy’n cynnwys materion cyfrinachol, ar gael trwy Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor: RisgLlifogyddArfordirol@llyw.cymru
1.7 Dyma gyfarfodydd y Pwyllgor a gynhaliwyd yn 2025-26.
| Pwyllgor | Dyddiad | Lleoliad: |
|---|---|---|
| FCEC20 | 21 Mai 2025 | Abertawe |
| FCEC21 | 4 Medi 2025 | O bell |
| FCEC22 | 20 Tachwedd 2025 | Caerdydd |
| FCEC23 | 12 Mawrth 2026 | O bell |
1.8 Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf 2026/27 ar 28 Gorffennaf 2026 yng Nghaerdydd, gyda dyddiadau'r flwyddyn nesaf wedi'u cynllunio fel a ganlyn:
- 9 Medi 2026 (amodol)
- 5 Tachwedd 2026;
- 25 Chwefror 2027; ac
- 13 Mai 2027.
Cylch Gorchwyl
1.9 Ceir rhagor o wybodaeth am gylch gorchwyl y Pwyllgor yn Atodiad 1. Maent yn dod o Reoliadau Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol Cymru 2017 [GOV.UK]. Mae manylion taliadau a lwfansau i’w gweld yn Atodiad 2.
Y Rhaglen Waith
1.10 Yng nghyfarfod mis Medi 2025, ymgymerodd y Pwyllgor â'i ddiweddariad blynyddol a chyflwyno'r Rhaglen Waith tair blynedd. Mae'r Rhaglen Waith wedi'i threfnu o amgylch deuddeg thema waith, ac mae wedi'i hintegreiddio'n agos â'r Strategaeth Genedlaethol. Mae'r Rhaglen Waith hefyd yn cael ei hadolygu'n rheolaidd a'i diweddaru ym mhob un o gyfarfodydd y Pwyllgor. Mae’r gweithgareddau pob un o’r themâu dros y flwyddyn diwethaf yn cael eu crynhoi yn adrannau’r adroddiad hwn.
Is-bwyllgorau
1.11 Cafodd pedair o'r themâu yn y Rhaglen Waith eu symud ymlaen drwy Is-bwyllgorau, fel y manylir isod. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Partneriaeth Aber Afon Hafren, a gynhelir gan Brifysgol Caerdydd, ynghyd â Fforwm Arfordirol Sir Benfro, wedi darparu cefnogaeth ysgrifenyddiaeth i'r Is-Bwyllgorau. Ceir trosolwg o waith yr Is-bwyllgorau yn Adran 3 isod.
Yr Is-bwyllgor Adnoddau
1.12 Sefydlwyd yr Is-bwyllgor hwn yn 2020 i fwrw ymlaen â Thema 4 yn y Rhaglen Waith: "Ymchwilio i gyfleoedd i gynyddu’r adnoddau ar gyfer FCERM yng Nghymru, gan gynnwys cyfraniadau ariannu partneriaethau". Cyfarfu'r Is-bwyllgor dair gwaith yn 2025/26. Roedd ei aelodaeth fel a ganlyn:
- Martin Buckle (Cadeirydd)
- Dominic Scott
- Jeremy Parr
- Michael Wellington
- Karen Potter
- Paul Williams
1.13 Sefydlwyd yr Is-bwyllgor hwn hefyd yn 2020, yn yr achos hwn i symud ymlaen â Thema 5 yn y Rhaglen Waith: "Adolygu’r polisi a'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â FCERM yng Nghymru". Cyfarfu'r Is-bwyllgor dair gwaith yn 2025/26. Ei aelodaeth oedd:
- Geraint Edwards
- Andrew Stone (Cadeirydd)
- Natalie Haines
- Michael Wellington
- Yr Is-bwyllgor Ymchwil
1.14 Cyfarfu'r Is-bwyllgor hwn am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr 2023. Mae'n bwrw ymlaen â Thema 9 yn Rhaglen Waith y Pwyllgor: "Dylanwadu ar raglenni ymchwil a’r ymchwil sydd ei hangen, a lledaenu ffrwyth yr ymchwil honno." Cyfarfu'r Is-bwyllgor ar bedwar achlysur yn ystod 2025-26. Roedd ei aelodaeth fel a ganlyn:
- Robin Campbell
- Karen Potter
- Jeremy Parr (Cadeirydd)
- Catherine Wilson
- Is-bwyllgor Adran 19
1.15 Cyfarfu'r Is-bwyllgor hwn am y tro cyntaf ym mis Chwefror 2024. Mae'n bwrw ymlaen â Thema 12 yn Rhaglen Waith y Pwyllgor: “Pennu gofynion lefel uchel a chanllawiau ategol ar gyfer adroddiadau ymchwiliadau i lifogydd Adran 19 [GOV.UK] a fydd yn cael eu paratoi gan awdurdodau lleol". Cyfarfu'r Is-bwyllgor bedair gwaith yn 2025/26. Ei aelodaeth oedd:
- Paul Blackman (Cadeirydd)
- Natalie Haines
- Geraint Edwards
- Anne-Marie Moon
2. Rheoli Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru
Y Strategaeth Genedlaethol – Thema Waith 1 y Pwyllgor
2.1 Cyhoeddwyd y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (FCERM) yng Nghymru ym mis Hydref 2020. Fel strategaeth ddeng mlynedd, yn 2025 cyrhaeddodd y Strategaeth Genedlaethol ei chanolbwynt. Mae'r achos dros ei hadnewyddu, neu gael strategaeth newydd yn ei lle, fel y nododd y Pwyllgor yn 2025, bellach yn fwyfwy cymhellol (paragraff 2.11, t10).
2.2 Y thema gyntaf o fewn Rhaglen Waith y Pwyllgor yw helpu i weithredu'r Strategaeth Genedlaethol, ynghyd â chynorthwyo i'w monitro, ei diweddaru a'i hadolygu. Mae gweddill themâu gwaith y Pwyllgor (gweler adrannau 3 a 4) i gyd yn gysylltiedig â’r gwaith o gynnal y Strategaeth Genedlaethol. Mae'r Strategaeth yn nodi 24 o fesurau, gan gynnwys tri sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r Pwyllgor: yn gyntaf, ystyried yr angen am newidiadau i ddeddfwriaeth; yn ail, archwilio cyfleoedd i wneud y mwyaf o fuddsoddiad; ac yn drydydd i sefydlu canllawiau ar gyfer adroddiadau ymchwilio llifogydd awdurdodau lleol (a elwir yn Adroddiadau Adran 19).
Ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu
2.3 Cyhoeddwyd Rhaglen Lywodraethu Cymru ar gyfer chweched tymor y Senedd ym mis Mehefin 2021 a'i diweddaru ymhellach ym mis Rhagfyr 2021. O fewn cyfres o fesurau i fynd i'r afael â newid hinsawdd, roedd y Rhaglen yn cynnwys ymrwymiadau penodol i fynd i'r afael â risgiau llifogydd ac erydu:
- Ariannu mesurau ychwanegol i amddiffyn dros 45,000 o gartrefi rhag llifogydd;
- Rheoli llifogydd mewn modd sy’n seiliedig ar natur ym mhob dalgylch afon mawr i ehangu cynefinoedd gwlyptiroedd a choetiroedd;
- Comisiynu adolygiad annibynnol o adroddiadau adran 19 [GOV.UK] llywodraeth leol ac adroddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru am lifogydd eithafol yn ystod gaeaf 2020-21;
- Gofyn i Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru asesu sut y gellir lleihau’r tebygolrwydd o lifogydd mewn cartrefi, busnesau a seilwaith ledled y wlad erbyn 2050;
- Deddfu i gryfhau’r gofynion ar gyfer systemau draenio cynaliadwy sy’n darparu cynefin i fywyd gwyllt;
- Sefydlu cynllun adfer cynefinoedd morwellt a morfa heli ar hyd ein harfordir.
Llifogydd yn 2025/26
2.4 Er nad oedd o ganlyniad i storm a enwyd, cafwyd llifogydd sylweddol yn Sir Gaerfyrddin ar 4 a 5 Tachwedd 2025, gan effeithio ar oddeutu 189 eiddo.
2.5 Daeth Storm Claudia â llifogydd i sawl ardal ar 14 Tachwedd 2025, gyda llifogydd mewn tua 50 eiddo. Cyhoeddwyd digwyddiad mawr yn Nhrefynwy, oherwydd llifogydd o Afon Mynwy, a llifogydd yn fwy eang ar draws De-ddwyrain Cymru. Darparodd Llywodraeth Cymru £1.8 miliwn mewn cyllid brys i drwsio difrod seilwaith amddiffyn rhag llifogydd ar draws 11 awdurdod lleol, yn ogystal â grantiau aelwydydd o hyd at £1,000 i drigolion yr effeithiwyd arnynt.
2.6 Storm Bram oedd y bedwaredd storm a enwyd i effeithio ar y DU yn ystod tymor 2025/26, ar 9 a 10 Rhagfyr. Bu cyfnod hir o dywydd ansefydlog yn ystod mis Tachwedd a dechrau Rhagfyr, wnaeth arwain at dir dirlawn ac afonydd yn rhedeg yn uchel cyn y storm, a waethygodd y problemau. Caewyd nifer o ffyrdd ledled Cymru oherwydd llifogydd, gan gynnwys yr A470 ym Mhontnewydd-ar-Wy. Adroddwyd bod trên wedi taro coeden ar linell rhwng Blaenau Ffestiniog a Llandudno a tharfwyd ar wasanaethau rheilffordd rhwng Aberdâr ac Abercynon oherwydd llifogydd.
3. Cynnydd y Pwyllgor yn 2025/26
Thema Gwaith 2 – Adroddiadau Adran 18 Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
3.1 Mae'r Pwyllgor yn darparu adolygiad annibynnol o'r adroddiadau a baratowyd gan CNC o dan Adran 18 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 [GOV.UK]. Mae'r adroddiadau hyn yn amlinellu cynnydd o ran gweithredu'r Strategaeth Genedlaethol, ac yn cynnwys manylion am sut mae perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn cael eu rheoli bob dwy flynedd. Adolygwyd yr Adroddiad ar gyfer y cyfnod 2023-25 gan y Pwyllgor ym mis Medi 2025 cyn ei gyflwyno i'r Gweinidog.
3.2 Roedd yr adroddiad yn amlinellu rôl goruchwylio strategol CNC ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol, a'u pwerau i reoli llifogydd o brif afonydd, cronfeydd dŵr a'r môr. Yn yr adroddiad, mae'r amcangyfrifon diweddaraf o eiddo sydd mewn perygl o lifogydd dros 270,000. Mae hyn yn oddeutu 1 o bob 7 eiddo yng Nghymru.
3.3 Wrth ystyried yr adroddiad, cododd aelodau'r Pwyllgor nifer o bwyntiau, a daeth i'r casgliadau canlynol:
- Mae'r adroddiad yn llwyddo i ddangos y gwaith trawiadol sy'n cael ei gyflawni ar draws y sector rheoli perygl llifogydd ledled Cymru. Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor o'r farn, o ystyried graddfa'r heriau sy'n wynebu'r sector, yn enwedig o ran capasiti, sgiliau, cyllid a deddfwriaeth sydd wedi dyddio, ei bod yn debyg bod y darlun a gyflwynwyd yn rhy gadarnhaol.
- Roedd y Pwyllgor yn cydnabod fod yr adroddiad yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar weithgarwch dros y ddwy flynedd. Er hynny mae'n anodd dirnad y mewnwelediad i sut mae hyn yn cysylltu â thueddiadau tymor hwy, a byddai'r adroddiad yn elwa o adran arall sy'n tynnu'r llinynnau hyn at ei gilydd. Byddai hyn yn ychwanegu'n sylweddol at werth yr Adroddiad yn gyffredinol.
- Gan ailadrodd pwynt a wnaed mewn adolygiad o adroddiad 2023, mae angen adolygu a diweddaru'r Strategaeth Genedlaethol.
Thema Gwaith 3 – Tynnu sylw at arferion da yn FCERM
3.4 Fel sy'n arferol i'r Pwyllgor, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gwelwyd cryn dipyn o rannu arferion da drwy ein rhaglen o gyfarfodydd. Cafwyd cyflwyniadau gan nifer o Awdurdodau Rheoli Risg. Bydd cyfleoedd pellach i dynnu sylw at arferion da yn cael eu darparu drwy gyfarfodydd y Pwyllgor yn y flwyddyn i ddod, gan lywio rhaglen waith y Pwyllgor. Mae'r rhai a gafodd sylw dros y flwyddyn ddiwethaf wedi cynnwys y canlynol:
- Cynllun Lliniaru Llifogydd Glyn-nedd – Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
- Cynllun Gwarchod Arfordir y Mwmbwls – Cyngor Abertawe
- Amddiffynfeydd Arfordirol Caerdydd – Cyngor Caerdydd
- Cenhadaeth Gymunedol 5 – Gwydnwch rhag Llifogydd – Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
3.5 Rydym hefyd wedi cymryd cyfleoedd, yn ystod y flwyddyn, i gael cyflwyniadau gan sawl sefydliad ehangach wrth gysylltu ag agweddau ehangach ar bolisi ac arferion da, gan gynnwys:
- Bod yn Barod am Lifogydd – Cymunedau difreintiedig – Y Groes Goch Brydeinig
- Diweddariad Fforwm Llifogydd Cenedlaethol Cymru – Fforwm Llifogydd Cenedlaethol
- Cynllun Rheoli Draenio a Dŵr Gwastraff – Cylch Dau – Dŵr Cymru Welsh Water
Thema Gwaith 4 - Ymchwilio i gyfleoedd i gynyddu’r adnoddau ar gyfer FCERM yng Nghymru, gan gynnwys cyfraniadau ariannu partneriaethau.
3.6 Mae'r Thema hon yn y Rhaglen Waith yn adlewyrchu'r ymrwymiad a osodir ar y Pwyllgor gan Fesur 24 o'r Strategaeth Genedlaethol. Mae wedi cael ei symud ymlaen gan ein Is-bwyllgor Adnoddau. Cyflwynwyd Adroddiad Adnoddau'r Pwyllgor i'r Gweinidog ym mis Mai 2022.
3.7 Wrth symud yr adolygiad hwn ymlaen, cynhaliwyd gweithdy ym mis Mawrth 2025 gyda'r Dirprwy Brif Weinidog, i ystyried ymhellach faterion y gweithlu sy'n wynebu'r sector FCERM ledled Cymru. Cynghorwyd y gweithdy bod y risg o ddiffyg sgiliau a gallu yn y sector FCERM wedi dod yn fater real, arwyddocaol a chyfredol iawn. Mae'n fygythiad i gynlluniau'r Llywodraeth i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a risgiau llifogydd. Arweiniodd hyn at gefnogaeth y Gweinidog i greu Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Gweithlu, gyda ffocws ar gynnydd cynnar yn ogystal â chynlluniau gweithredu tymor hwy mwy uchelgeisiol a datblygu cynnig i Lywodraeth Cymru ei ystyried. Cyfarfu'r Grŵp hwn, a oedd â statws Is-bwyllgor llawn, yn fisol rhwng Mai ac Awst 2025.
3.8 Aelodaeth y Grŵp oedd:
- Martin Buckle (Cadeirydd)
- Jeremy Parr
- Louise Duff, Prifysgol Wrecsam
- Andrew Stone
- Jean Francois Dulong
- Mike Wellington
3.9 Darparwyd cefnogaeth i'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen gan Gyngor Caerdydd, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, a darparwyd cymorth ysgrifenyddiaeth gan Fforwm Arfordirol Sir Benfro.
3.10 Cyflwynwyd y cynnig wedi'i gostio ym mis Awst 2025 ac roedd yn canolbwyntio ar bedair elfen:
- Creu fframwaith o'r dechrau i'r diwedd ar gyfer mynediad i'r gweithlu FCERM;
- Creu cronfa adnoddau sector cyhoeddus hyblyg o staff gweithredol FCERM ledled Cymru gyfan;
- Cyflwyno rhaglenni cyllido cyfalaf a refeniw treigl aml-flwyddyn; a
- Dod o hyd i gyllid ar gyfer datblygu'r gweithlu FCERM yng Nghymru.
3.11 Ym mis Mawrth 2026, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gymorth ariannol ar gyfer datblygu'r gweithlu. Mae'r elfennau eraill yn cael eu hystyried a byddant yn cael eu harchwilio gyda'r Llywodraeth nesaf, ar ôl etholiadau Senedd Cymru ym mis Mai 2026.
Llywodraethu a Chydweithredu – Adolygiad o Grwpiau Rhanbarthol
3.12 Mae'r elfen hon o'r Adroddiad Adnoddau yn cynnwys cynigion i godi proffil FCERM o fewn awdurdodau lleol, ac i adolygu effeithiolrwydd y tri gweithgor rhanbarthol. Mae'r gwaith hwn yn cael ei arwain gan CLlLC a bydd yn parhau yn 2026.
Ymgysylltu â'r Gymuned – Gwydnwch Eiddo rhag Llifogydd a Rôl y Sector Yswiriant
3.13 Mae ein Hadroddiad Adnoddau yn cynnwys ffocws penodol ar wydnwch eiddo rhag llifogydd, a rôl y sector yswiriant. Arweiniodd hyn at drafodaeth lawnach ar y mater drwy'r Pwyllgor, a chyhoeddwyd adroddiad "Yswiriant a Flood Re: safbwynt Cymru" ym mis Tachwedd 2024. Mae'r adroddiad yn adlewyrchu'n feirniadol ar statws yswiriant perygl llifogydd a Flood Re o safbwynt Cymru. Mae'n tynnu sylw at gyfyngiadau'r trefniadau presennol, ac yn codi nifer o gwestiynau sylfaenol am y ffordd ymlaen. Fe'i cyflwynwyd i gychwyn deialog, gyda Flood Re a'r diwydiant yswiriant, a hefyd gyda rhanddeiliaid ehangach.
3.14 Ystyriodd y pwyllgor adroddiad pellach yn manylu ar ymatebion i ymgynghoriad ar adroddiad Tachwedd 2024 ac yn amlinellu'r ffordd ymlaen yn ei gyfarfod ym mis Mai 2025. Anfonwyd yr adroddiad at Emma Hardy AS, Gweinidog Dŵr a Llifogydd y DU, o ystyried nad yw yswiriant wedi'i ddatganoli. Mae'r adroddiad wedi darparu tystiolaeth i gefnogi trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a swyddogion y DU (Defra).
Thema Gwaith 5 – Adolygu’r polisi a’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â FCERM yng Nghymru
3.15 Mae'r thema hon yn y Rhaglen Waith, a ddatblygwyd gan ein Is-bwyllgor Polisi a Deddfwriaeth, yn adlewyrchu Mesur 1 y Strategaeth Genedlaethol. Cytunodd y Pwyllgor ar yr Adroddiad Terfynol ym mis Medi 2022, i'w ystyried gan y Gweinidog. Derbyniwyd ymateb y Gweinidog ym mis Tachwedd 2023. O ganlyniad i'r ymateb hwnnw, o'r deg cynnig gwreiddiol, cytunwyd i ganolbwyntio gwaith pellach ar saith ohonynt, o amgylch y tair thema ganlynol:
- Rheoli asedau FCERM, gan gynnwys dynodi nodweddion o dan Atodlen 1 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010;
- Rolau a chyfrifoldebau;
- Addasu i berygl llifogydd, ar yr arfordir ac ar y tir, a gwydnwch rhag llifogydd.
3.16 Roedd y Pwyllgor yn falch fod y TAN 15 diwygiedig wedi ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2025. Cyflwynodd y Pwyllgor adolygiad o'r TAN diwygiedig i Lywodraeth Cymru ym mis Medi 2025, a oedd yn cynnwys nifer o faterion yn ymwneud â geiriad y TAN a arweiniodd at amwysedd a risg o wahanol ddehongliadau, gan wneud awgrymiadau lle gellid cryfhau neu egluro'r geiriad. Argymhellodd y Pwyllgor hefyd fod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyfres o Gwestiynau Cyffredin, er mwyn darparu eglurder a chysondeb dehongli. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyfres o Gwestiynau Cyffredin ym mis Mawrth 2026 wedi'u llywio gan gyngor y Pwyllgor.
Thema Gwaith 6 – Creu Cysylltiadau â rhanddeiliaid eraill
3.17 Mae cysylltiadau â rhanddeiliaid eraill yn hollol hanfodol i waith y Pwyllgor. Yn gynnar, nodwyd bod Fforwm Grwpiau Arfordirol Cymru (WCGF) a’r grwpiau rheoli perygl llifogydd rhanbarthol yn gysylltiadau arbennig o bwysig.
Fforwm Grwpiau Arfordirol Cymru
3.18 Mae'r Fforwm yn dwyn ynghyd Gadeiryddion y pedwar Grŵp Arfordirol ynghyd â rhanddeiliaid ehangach. Mae hefyd yn gweithredu fel panel cynghori i Ganolfan Monitro Arfordirol Cymru (WCMC). Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Anne-Marie Moon wedi cynrychioli'r Pwyllgor ar WCGF. Derbynnir adroddiad yn ôl ar gynnydd gan y Pwyllgor bob blwyddyn, a chafodd y diweddaraf ei ystyried ym mis Tachwedd 2025.
3.19 Wrth i'r SMP2s symud i gyfnod 2, mae'r Fforwm wedi symud Mesur 11 y Strategaeth Genedlaethol ymlaen yn sylweddol eleni ac roedd disgwyl iddo adrodd i Lywodraeth Cymru yng Ngwanwyn 2026. Mae'r adroddiad drafft wedi nodi, ar draws 473 o Unedau Polisi yng Nghymru, bod 90.1% yn cydymffurfio â pholisi cyfnod 1. Y rhwystrau mwyaf cyffredin a nodwyd ar gyfer y 47 uned nad ydynt yn cydymffurfio, yw cyllid, cymhlethdodau perchnogaeth tir, cyfyngiadau adnoddau a chapasiti technegol (yn enwedig staffio) a phresenoldeb asedau / perchnogion anhysbys. Mae gwrthwynebiad cymunedol hefyd yn cael ei nodi, lle cynigir polisïau fel Adlinio a Reolir (MR).
3.20 Adlinio a Reolir sydd â'r gyfradd cydymffurfio isaf, ar ddim ond 44%. Dyma'r polisi SMP mwyaf heriol i'w weithredu. Mae'r rhwystrau a nodwyd yn arbennig o berthnasol i weithredu'r polisi hwn, a chyn hir Adlinio a Reolir fydd y polisi sy'n tyfu gyflymaf yn cyfnod 2. Os yw'r materion hyn yn parhau, gallai cydymffurfiaeth genedlaethol â pholisi ar gyfer cyfnod 2 fod yn llawer is na'r hyn a gyflawnwyd ar gyfer cyfnod 1.
3.21 Mae adroddiad drafft Mesur 11 yn tynnu sylw at y ffaith bod rhwystrau a nodwyd i weithredu polisi yn peri risg fawr i ddefnyddio a gweithredu dulliau rheoli cynaliadwy yn llwyddiannus, ac mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw ar frys. Os na eir i'r afael â nhw, mae risg y bydd polisïau SMP yn cael eu herio gan fesurau diogelu arfordirol tymor byr, adweithiol. Nodwyd bod bodolaeth asedau amddiffyn rhag llifogydd heb berchnogion hysbys yn risg allweddol.
3.22 Mae Canolfan Monitro Arfordirol Cymru (WCMC) yn parhau i wneud cynnydd da o ran cyflawni ei rhaglen waith. Cafodd cyfanswm o 223 o unedau arolygu eu monitro, gyda 2,197 o broffiliau arfordirol wedi'u harolygu ledled Cymru. Fodd bynnag, mae heriau wrth fonitro ardaloedd arfordirol isel a gorlifdiroedd aberol oherwydd cyfyngiadau mynediad, ac mae'r Ganolfan yn gweithio ar brosiect i fynd i'r afael â hyn.
Grwpiau Rheoli Perygl Llifogydd Rhanbarthol
3.23 Mae cyfarfodydd y pwyllgor yn rhoi cyfleoedd i'r grwpiau llifogydd rhanbarthol ddarparu mewnbwn a chael adborth, tra bod y grwpiau rhanbarthol hefyd yn gweithredu fel adnodd gwerthfawr ar gyfer casglu a lledaenu gwybodaeth. Mae mecanweithiau ar gyfer cryfhau eu rolau yn cael eu hystyried (paragraff 3.12), ac mae'n amlwg y byddai rhyngwyneb cryfach â'r Pwyllgor yn fuddiol. Mae'r grwpiau rhanbarthol wedi parhau i roi cyflwyniadau ar faterion o arwyddocâd rhanbarthol neu enghreifftiau o arferion da i'r Pwyllgor (paragraff 3.4).
Rhanddeiliaid Eraill
3.24 Mae'r Pwyllgor hefyd yn cydnabod pwysigrwydd cysylltiadau ehangach, ac mae'r ddau Gadeirydd wedi parhau i gwrdd ag ystod o randdeiliaid eraill.
3.25 Gan gydnabod, er bod Dŵr Cymru yn cwmpasu'r rhan fwyaf o Gymru, mae Hafren Dyfrdwy hefyd yn weithgar yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ac mae cysylltiadau wedi'u gwneud gyda'r cwmni i sicrhau sylw llawn.
3.26 Gyda phroblemau cyffredin ynghylch rheoli rhaglenni a newid deddfwriaethol, mae cyswllt rheolaidd hefyd yn parhau i gael ei gynnal â'r Pwyllgorau Llifogydd ac Arfordirol Rhanbarthol yn Lloegr.
Thema Gwaith 7 – Cynghori ar integreiddio polisïau a blaenoriaethau FCERM mewn polisïau a deddfwriaeth eraill
3.27 Parhaodd y Pwyllgor â'i waith ymgysylltu ag Is-adran Gynllunio Llywodraeth Cymru ar ôl cyhoeddi TAN 15 ym mis Mawrth 2025, gan roi mewnwelediadau i gymhwyso'r canllawiau cynllunio o safbwynt llifogydd ac erydu arfordirol. Bydd y Pwyllgor yn monitro gwaith cymhwyso'r canllawiau TAN 15.
3.28 Cyflwynwyd ymateb cynhwysfawr i'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyrdd ar Lywodraethiant Dŵr yng Nghymru, gan godi'r angen i'r cynigion integreiddio'n well â gweithgarwch rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol. Gweler Thema Gwaith 10 am ragor o fanylion.
Thema Gwaith 9 – Dylanwadu ar raglenni ymchwil a’r ymchwil sydd ei hangen, a lledaenu ffrwyth yr ymchwil honno
3.29 Mae'r Is-bwyllgor Ymchwil yn canolbwyntio ar ddau gwestiwn allweddol: sut mae Cymru'n nodi ei hanghenion ymchwil; a sut mae'r anghenion hynny'n cael eu cyflawni. Tasg allweddol i'r Is-bwyllgor yw sicrhau bod Cymru'n ymgysylltu'n effeithiol â’r Rhaglen Ymchwil a Datblygu FCERM ar y cyd rhwng Cymru a Lloegr [GOV.UK].
Thema Gwaith 10 – Ymateb i ymgyngoriadau sy’n ymwneud â FCERM yng Nghymru 2025/26
3.30 Fel yn y blynyddoedd blaenorol, ystyrir ymgynghoriadau allweddol fel thema i'r Pwyllgor ganolbwyntio arni. Yn 2025/26 dim ond un ymgynghoriad a oedd yn berthnasol i FCERM.
3.31 Ymatebodd y Pwyllgor i'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyrdd ar Lywodraethiant Dŵr, yn dilyn Adolygiad Cunliffe ym mis Ebrill 2026. Croesawodd y Pwyllgor gydnabyddiaeth y Papur Gwyrdd bod Cymru'n wynebu heriau mewn meysydd sy'n gysylltiedig â'r diwydiant dŵr, gan gynnwys gwydnwch rhag llifogydd a sychder, colli bioamrywiaeth a datgarboneiddio. Roedd y Pwyllgor o'r farn bod datganoli llywodraethiant dŵr i Gymru yn cynnig cyfle sylweddol i'r rhai sydd â chyfrifoldebau perygl dŵr a llifogydd gydweithio'n fwy effeithiol. Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor o'r farn bod y Papur Gwyrdd yn canolbwyntio’n bennaf ar gyflenwi dŵr a rheoli maethynnau, gan grybwyll gwydnwch llifogydd yn unig, a heb sôn o gwbl am erydu arfordirol a lefelau'r môr yn codi. Heb driniaeth benodol, mae perygl y bydd problemau llifogydd ac erydu arfordirol yn cael eu neilltuo o fewn gwaith rheoleiddio economaidd a diwygio'r sector dŵr, gan golli'r cyfle i wireddu manteision o reoli dŵr yn integredig.
3.32 Tynnodd y Pwyllgor sylw hefyd at y ffaith nad oes sôn yn y Papur Gwyrdd am rôl awdurdodau lleol, naill ai fel Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol, Cyrff Cymeradwyo SuDS (SABs) neu Awdurdodau Cynllunio Lleol, sy'n wendid o ran cydnabod eu rôl yn y gwaith o reoli perygl llifogydd a rheoli datblygiadau newydd.
3.33 Croesawodd y Pwyllgor y cynnig i ymgorffori canlyniadau iechyd cyhoeddus ac atebion sy'n seiliedig ar natur i ddeddfwriaeth ddŵr yn y dyfodol, gan dynnu sylw at y budd y gall hyn ei gael o ran mynd ati i reoli perygl llifogydd.
Thema Gwaith 12 – Canllawiau ar gyfer Adroddiadau Ymchwilio i Lifogydd Adran 19
3.34 Mae ymchwiliadau llifogydd Adran 19 yn helpu awdurdodau lleol i ddeall effeithiau llawn llifogydd, a gallant lywio gwelliannau i reoli risgiau mewn cymunedau, gan gynnwys mesurau newydd i leihau'r tebygolrwydd o lifogydd pellach.
3.35 Mae'r gwaith hwn wedi'i arwain gan Is-bwyllgor Adran 19 y Pwyllgor, a ddarparodd ei Adroddiad Cam Un ym mis Mawrth 2026. Mae'r Adroddiad hwn yn nodi'r llwybr ar gyfer mynd i'r afael â'r dull sydd i'w gymryd ar Adroddiadau Adran 19.
3.36 Bydd y Pwyllgor yn bwrw ymlaen â'r argymhellion o adroddiad yr Is-bwyllgor, ar y cyd â CLlLC a'r Grwpiau Llifogydd Rhanbarthol.
Adborth gan Aelodau’r Pwyllgor
3.37 Cynhelir arfarniadau blynyddol o Aelodau'r Pwyllgor bob blwyddyn. Yn 2026, o ystyried bod Cadeirydd newydd a nifer o'r Aelodau yn sefyll i lawr o'r Pwyllgor, manteisiwyd ar y cyfle i ddefnyddio'r cyfarfodydd i gael adborth gan Aelodau ar eu profiad o'r Pwyllgor ac adborth ar flaenoriaethau'r Pwyllgor ar gyfer y dyfodol.
3.38 Parhaodd presenoldeb yn y prif Bwyllgor a'r pedwar Is-bwyllgor i fod yn uchel trwy gydol y flwyddyn, sef 86% a 78% yn y drefn honno. Yn ogystal â hynny, roedd presenoldeb yn uchel hefyd yng nghyfarfodydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Gweithlu, a gyfarfu yn fisol rhwng Mai ac Awst.
3.39 Mynegwyd barn gref fod gwasanaethu ar y Pwyllgor yn brofiad cadarnhaol a mynegodd y rhai a oedd yn sefyll i lawr y byddent yn gweld eisiau eu hymwneud â'r Pwyllgor. Mae diwylliant cynhwysol i'r Pwyllgor, ac aelodaeth amrywiol a roddodd gryfder iddo yn ei allu i gyflawni a pherfformio.
3.40 Myfyriodd yr holl aelodau ar y lefel uchel o waith sy'n gysylltiedig â'r Pwyllgor, yn enwedig trwy'r Is-bwyllgorau, a'r amser sydd ei angen ar gyfer hyn. Ystyriwyd yr Is-bwyllgorau yn ffordd gadarnhaol ac effeithiol o gyflawni allbynnau penodol ac adeiladu ethos tîm ymhlith aelodau trwy weithio mewn grwpiau llai. Roedd nifer o'r farn mai'r Is-bwyllgorau gyda chamau gweithredu penodol oedd yn gweithio orau, ac roedd risg bod rhai Is-bwyllgorau yn dod yn fforymau tymor hir mwy agored. Roedd pawb o'r farn y byddai dulliau gweithredu tasg a gorffen o ran yr Is-bwyllgorau yn gweithio'n well.
3.41 Mynegwyd barn y dylai'r Pwyllgor ganolbwyntio ar ei gylch gwaith craidd o ddarparu cyngor. Er mwyn cynorthwyo hyn, awgrymwyd y dylid darparu mwy o amser ar gyfer trafodaeth strwythuredig, yn dilyn cyflwyniadau, yn ystod cyfarfodydd.
4. Edrych tua’r Dyfodol
4.1 Mae 2026 yn amser ar gyfer adolygu'r Pwyllgor, gyda Chadeirydd newydd, dechrau tymor Senedd newydd yn dilyn etholiadau ym mis Mai a nifer o aelodau'r Pwyllgor yn cyrraedd uchafswm eu telerau gwasanaeth ym mis Mawrth 2026.
4.2 Yn ystod 2026 bydd adolygiad o gyfansoddiad yr aelodaeth i sicrhau bod gan y Pwyllgor y sgiliau a'r diddordebau cywir i fodloni ei agenda yn y dyfodol. Hyd nes y bydd hyn wedi'i gwblhau, bydd y Pwyllgor yn gweithredu ar raddfa lai, gyda chwe aelod ynghyd â'r Cadeirydd.
4.3 Bydd adolygiad interim o Raglen Waith y Pwyllgor i adlewyrchu'r nifer llai o aelodau ym mis Gorffennaf 2026, a bydd hyn yn cael ei ailystyried unwaith y bydd cyfeiriad Llywodraeth Cymru ar ôl yr etholiadau yn hysbys a bod adolygiad o aelodaeth y Pwyllgor wedi'i gwblhau.
4.4 Bydd y Pwyllgor yn parhau â gwaith yr Is-bwyllgor Adran 19 a'r gwaith dilynol o'r Adroddiad Cam 1 y cytunwyd arno ym mis Mawrth 2026, gyda'r bwriad o gyhoeddi templedi a chyngor ar gyfer adrodd Adran 19 erbyn haf 2027.
4.5 Mae Comisiwn y Gyfraith wedi penodi swydd newydd sef Cwnsler Arbennig Cymru ac wedi mynegi eu bod yn awyddus i'r swydd honno ymgysylltu â'r Pwyllgor. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf rhwng y Cwnsler Arbennig a Chadeirydd FCEC, a chytunwyd ar gyfarfodydd ar gyfer y dyfodol.
Annex 1: Committee Terms of Reference
Atodiad 1: Cylch Gorchwyl y Pwyllgor
(Mae cyfeiriadau at “Rheoliadau” yn cyfeirio at Reoliadau Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol Cymru 2017 [GOV.UK]).
Diben
1. Sefydlwyd y Pwyllgor gan Adran 81 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Ei ddiben yw cynghori Gweinidogion Cymru ar faterion sy’n ymwneud â rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.
Cwmpas (rheoliad 8)
2. Cwmpas gwaith y Pwyllgor yw cynghori ar unrhyw faterion sy’n ymwneud â rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.
Aelodau’r Pwyllgor (rheoliadau 3-5)
3. Bydd y Pwyllgor yn cynnwys Cadeirydd a hyd at 14 o aelodau eraill sydd naill ai’n arbenigo ar faterion y mae Gweinidogion Cymru yn barnu eu bod yn berthnasol, neu’n gynrychiolydd enwebedig sefydliad rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.
Dyletswyddau (rheoliad 9)
4. Rhaid i’r Pwyllgor gynghori Gweinidogion Cymru ynghylch:
i. Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol o bob ffynhonnell;
ii. Materion ehangach o ran gwydnwch ac argyfyngau o safbwynt rheoli perygl llifogydd;
iii. Y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol; a
iv. Gwaith a gyflawnir gan sefydliadau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.
Pwerau
5. Caiff y Pwyllgor:
i. Sefydlu rhaglen ei hun o waith cynghori ar reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru (rheoliad 10);
ii. Cynghori awdurdodau rheoli risg Cymru ynghylch rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol o bob ffynhonnell;
iii. Cynghori awdurdodau rheoli risg Cymru ynghylch materion ehangach o ran cydnerthedd ac argyfyngau o safbwynt rheoli perygl llifogydd (rheoliad 10);
iv. Cynghori awdurdodau rheoli risg Cymru ar y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (rheoliad 10);
v. Ymrwymo i gytundebau gyda chyrff eraill, yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth gan Weinidogion Cymru (rheoliad 10);
vi. Penodi aelodau eraill o’r Pwyllgor fel ei gynrychiolwyr ar fforymau neu bwyllgorau eraill.
Cyfarfodydd (rheoliad 11)
6. Rhaid i’r Pwyllgor gynnal ei gyfarfodydd fesul ysbaid o ddim mwy na 6 mis.
7. Mae’r Pwyllgor yn gorff cyhoeddus o fewn ystyr Deddf Cyrff Cyhoeddus (Mynediad i Gyfarfodydd) 1960. Yn unol â hynny, bydd cyfarfodydd y Cyngor yn agored i’r cyhoedd [Adran 81(3) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Rhan 4 o Atodlen 2].
Adroddiadau (rheoliad 12)
8. Rhaid i’r Pwyllgor gyflwyno adroddiadau i Weinidogion Cymru ar y modd y bu iddo arfer a chyflawni ei swyddogaethau yn ystod pob cyfnod o 12 mis, yn dilyn penodi aelodau i’r Pwyllgor.
Gweithdrefn (rheoliad 13)
9. Caiff y Pwyllgor reoleiddio ei weithdrefn ei hun, gan gynnwys gwneud darpariaeth mewn perthynas â’r cworwm ar gyfer ei gyfarfodydd (yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth gan Weinidogion Cymru), a’i weithdrefn bleidleisio.
Is-bwyllgorau (rheoliad 14)
10. Caiff y Pwyllgor sefydlu is-bwyllgorau drwy bleidlais fwyafrifol, i gyfarfod yn unol â chyfarwyddyd y Pwyllgor. Caiff y Pwyllgor reoleiddio gweithdrefn unrhyw is-bwyllgor, gan gynnwys ei gworwm a’i weithdrefn bleidleisio. Mae cylch gorchwyl is-bwyllgor yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth gan Weinidogion Cymru.
Cyfathrebu a Gweithio gydag eraill
11. Dylid anfon ceisiadau am gyfweliadau at Weinidog yr Amgylchedd yn y lle cyntaf drwy’r Ysgrifenyddiaeth. Os nad yw’r Gweinidog ar gael, gellir gofyn i’r Cadeirydd siarad ar ran y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol.
Rhaglen waith
12. Cytunir ar y rhaglen waith flynyddol gyda Gweinidogion Cymru i sicrhau ei bod yn cynnwys y blaenoriaethau presennol.
Atodiad 2: Taliadau Cydnabyddiaeth a Lwfansau
Mae hawl gan y Cadeirydd i dâl cydnabyddiaeth fesul diwrnod. Nid oes hawl gan Aelodau eraill o’r Pwyllgor i dâl cydnabyddiaeth, ond, fel yn achos y Cadeirydd, gallant hawlio costau teithio a chynhaliaeth. Mae'r gwariant o dan y penawdau hyn wedi'i nodi isod ar brisiau cyfredol.
| Tâl (£) | Treuliau (£) | Cyfanswm (£) | |
|---|---|---|---|
| 2019/20 | 14,295 | 2,279 | 16,574 |
| 2020/21 | 14,520 | 80 | 14,600 |
| 2021/22 | 16,020 | 175 | 16,195 |
| 2022/23 | 17,203 | 129 | 17,332 |
| 2023/24 | 20,966 | 674 | 21,640 |
| 2024/25 | 23,759 | 643 | 24,402 |
| 2025/26 | 30,751 | 690 | 31,441 |
