Neidio i'r prif gynnwy

Cymhwystra ar gyfer y rhaglen brechu rhag COVID-19 a brechiadau atgyfnerthu'r gwanwyn 2023.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynnig y cwrs sylfaenol dau ddos o’r brechlyn COVID-19

Mae’r cwrs sylfaenol, cyffredinol, dau ddos o’r brechlyn, a gafodd ei gynnig o fis Rhagfyr 2020 i bawb dros 5 oed, wedi gorffen nawr (30 Mehefin).

Bydd pobl mewn grŵp risg clinigol neu bobl sydd wedi datblygu cyflwr iechyd newydd sy’n eu rhoi nhw mewn grŵp risg clinigol, ac sydd heb gael eu cwrs sylfaenol eto, yn gallu cael eu brechu yn ystod y rhaglen nesaf o frechiadau atgyfnerthu COVID-19 (neu’n gynt, yn ddibynnol ar gyngor clinigwr).

Ymgyrch pigiadau atgyfnerthu COVID-19 hydref 2023

Mae cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn argymell y bydd pigiad atgyfnerthu ychwanegol COVID-19 yn ystod yr hydref yn cael ei gynnig i’r canlynol:

  • preswylwyr cartrefi gofal i oedolion hŷn 
  • pob oedolyn 65 oed a hŷn 
  • unigolion rhwng 6 mis a 64 oed sydd mewn grŵp risg clinigol, fel y'i diffinnir yn nhabl 3 a 4 y bennod ar COVID-19 yn y Llyfr Gwyrdd 
  • gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen 
  • unigolion rhwng 12 a 64 oed sy'n gysylltiadau cartref, fel y'u diffinnir yn y Llyfr Gwyrdd, i bobl ag imiwnedd gwan 
  • pobl rhwng 16 a 64 oed sy'n ofalwyr, fel y'u diffinnir yn y Llyfr Gwyrdd, a staff sy'n gweithio mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn

Bydd pob unigolyn sy’n gymwys yn cael gwahoddiad i apwyntiad gan eu bwrdd iechyd lleol.

Brechiadau COVID-19 i blant 6 mis oed i 4 oed

Mae plant o 6 mis oed i 4 oed yn gymwys i gael cwrs sylfaenol dau-ddos o frechlyn  COVID-19 os ystyrir eu bod yn y categori risg (fel mae wedi’i ddiffinio yn y Llyfr Gwyrdd (gov.uk))

Bydd y plant cymwys yn cael dos is o'r brechlyn COVID-19, gyda bwlch o 8 wythnos o leiaf rhwng y dos cyntaf a'r ail. Dylai fod bwlch o bedair wythnos o leiaf rhwng unrhyw ddos o frechlyn a haint SARS-CoV-2 diweddar.

Bydd eu bwrdd iechyd yn cysylltu â rhieni neu warcheidwaid y plant sy'n gymwys i gael y cynnig hwn.

Manylion cyswllt y byrddau iechyd lleol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro 

E-bost: cvuhb.massimms@wales.nhs.uk 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

E-bost: CTM.VaccinationEnquiries@wales.nhs.uk

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

E-bost: COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

E-bost: Powys.covidvacc@wales.nhs.uk

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe