Y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 3 (Blwyddyn 4): canllawiau 2025 i 2026
Mae'n esbonio'r math o waith ôl-osod y mae'r rhaglen yn bwriadu ei gefnogi a sut i gyflwyno cais am arian.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Golwg gyffredinol
Mae’r canllaw hwn wedi’i baratoi i helpu ymgeiswyr sy'n gwneud cais am gyllid y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio (ORP). Cafodd ei lunio i esbonio wrth yr ymgeisydd pa fath o waith ôl-osod y mae’r rhaglen yn rhoi cymorth ariannol ar ei gyfer.
Bydd ORP 3 yn ymdrin â’r cyfnod 2022-2027. Prif thema'r rhaglen yw gwres fforddiadwy a datgarboneiddio, gan wneud hynny yn y ffordd sydd orau ar gyfer pob cartref unigol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu cyllid i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac Awdurdodau Lleol gynnal y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio yn 2022-2023, 2023-2024 a 2024-2025 bob yn gam. Er mwyn gallu ystyried dyrannu cyllid fel rhan o rownd gyllido eleni, bydd angen cyflwyno cais i swyddogion y Rhaglen fydd yn amlinellu costau bwriedig y flwyddyn 2025-26, a elwir hefyd yn ORP3 Blwyddyn 4 (ORP3.4). Cofiwch, bydd y dyraniad cyllid yn dal i gael ei bennu ar sail fformiwla o nifer y stoc yn seiliedig ar ddata cyfrifiad 2020.
Bydd gofyn i gyrff sy’n ymgeisio lenwi’r ffurflen gan gadw at y fformat y ffurflen. Bydd Llywodraeth Cymru’n ystyried y ffurflenni a fydd wedi dod i law a bydd yn trafod â’r corff sy’n ymgeisio unrhyw feysydd y bydd angen eu hegluro. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn fodlon bod y ffurflen wedi’i llenwi ac yn bodloni'r gofynion a nodir isod, caiff llythyr yn cynnig grant ac yn esbonio amodau a thelerau’r grant ei anfon at y corff sy’n ymgeisio.
Bydd prosiectau llwyddiannus yn cael eu monitro a'u gwerthuso, a bydd gofyn i’r sefydliadau sy'n derbyn cyllid, fel amod ar gyfer derbyn y cyllid, gadw llyfrau agored. Er enghraifft, gallai Llywodraeth Cymru ofyn am gael gweld tystiolaeth o daliadau, diweddariadau o wariant yn erbyn y rhagolygon, ac allbynnau’r prosiect drwy gydol y rhaglen.
Cyd-destun strategol
Yn 2019, comisiynodd Gweinidogion Cymru yr adroddiad Cartrefi Gwell, Cymru Well, Byd Gwell i ystyried sut y gellid datgarboneiddio cartrefi yng Nghymru. Derbyniwyd yr argymhellion gan y Gweinidogion gan gynnwys ymrwymiad i ddilyn rhaglen ar gyfer datgarboneiddio cartrefi.
Mewn ymateb i'r argymhellion, cytunwyd y byddai rhaglen 'Ôl-osod er mwyn Optimeiddio' yn cael ei mabwysiadu yma yng Nghymru.
Yn unol â’r ymrwymiad a’r trywydd hwnnw, sefydlwyd y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio (ORP) yn 2020. Dros y pedair blynedd diwethaf mae prosiectau ar draws y sector tai cymdeithasol wedi cael eu cefnogi a thua £260 miliwn o gyllid wedi'i fuddsoddi. Mae blwyddyn 4 ORP 3 am barhau i adeiladu ar y gwaith sydd wedi’i wneud a sicrhau bod pob landlord cymdeithasol yng Nghymru yn ymwneud â’r ORP dros y 2 flynedd nesaf.
Wrth fynd ati i ddatgarboneiddio cartrefi sy’n bod, rydym yn cydnabod bod eu hôl-osod yn broses gymhleth ac ailadroddus. Mae'n debygol y bydd angen i gartrefi fynd trwy sawl cam o waith ôl-osod gan leihau eu carbon fesul cam, gan arloesi ac arbrofi dros amser.
Ein bwriad erioed yw bod yr ORP yn cael ei chynnal fesul cam, gan ddechrau gyda’r sector tai cymdeithasol a defnyddio’r buddsoddiad ynddo i arwain a llywio gwaith ôl-osod ar fathau eraill o gartrefi. Bwriad yr ORP yw gweithredu fel prawf bod dulliau o ôl-osod adeiladwaith a thechnoleg yn gweithio gan greu sylfaen gadarn o dystiolaeth i ddatblygu ein strategaeth ôl-osod tymor hwy.
Ein ffocws o hyd ar gyfer ORP 3 yw gwneud y defnydd mwyaf effeithiol posibl o wres ac ynni yng nghartrefi cymdeithasol Cymru. Wrth roi’r rhaglen ar waith, byddwn yn gofyn i landlordiaid inswleiddio’u cartrefi cystal ag y gallant, eu gwneud mor aerdyn â phosibl ac ystyried awyru fel ffordd i gadw gwres a gwneud eu cartrefi yn “barod” o ran eu hadeiladwaith. Gofynnwn i landlordiaid ystyried y cydbwysedd rhwng y gost o wneud cartrefi’n ‘barod o ran eu hadeiladwaith’ ar y naill law a chost defnyddio technoleg i wneud cartrefi'n rhatach i'w rhedeg ac i leihau allyriadau carbon ar y llaw arall.
Amcanion allweddol y rhaglen yw:
- Cynnal y rhaglen fel bod tai fforddiadwy’n cael eu dylunio a’u darparu’n gyson â saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) - Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
- Annog landlordiaid i feddwl yn strategol ac yn gyson â’r targedau a’r canllawiau yn Rhan 3 o Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 wrth ystyried mesurau i wneud gwres yn fwy fforddiadwy a datgarboneiddio cartrefi. (Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 (t 21-24 a t 63-70))
- Dangos y manteision sy’n gysylltiedig â ffyrdd newydd o ôl-osod a’r gadwyn gyflenwi cysylltiedig o gynhyrchion a gwasanaethau. Mae hyn hefyd yn cynnwys ymgysylltu â’r sector gwasanaethau ariannol ac yswiriant, a’i archwilio er mwyn denu mwy i gymryd rhan.
- Manteisio ar gyfleoedd i ddatblygu swyddi, dysgu sgiliau a datblygu diwydiannau lleol, gan fabwysiadu egwyddorion yr economi sylfaen a chefnogi mwy o adfywio. Mae disgwyl i’r rhaglen fod yn ffynhonnell creu swyddi yn y gadwyn gyflenwi ar gyfer ôl-osod, drwy gyflogi busnesau crefft lleol a hybu’r galw am y sgiliau hyn yn lleol.
- Cyfrannu at bolisi Llywodraeth Cymru ynghylch lleihau gwastraff a’r economi gylchol.
- Cefnogi datblygiad dulliau gweithredu priodol i ddatgarboneiddio’r sectorau rhentu preifat a pherchen-feddianwyr a rhannu prif ganfyddiadau i wella dysgu.
Adnoddau ychwanegol
Cewch ragor o wybodaeth am yr ORP a gwybodaeth gyd-destunol am ddatblygiadau ehangach ar wefan Llywodraeth Cymru neu’r dolenni canlynol:
Y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio | LLYW.CYMRU
Safon ansawdd tai Cymru | LLYW.CYMRU
Rhaglen ôl-osod er mwyn Optimeiddio: hyfforddiant | LLYW.CYMRU
Cyfrifon dysgu personol gwyrdd: cyrsiau wedi’u cymeradwyo | LLYW.CYMRU
Ailgrewch eich gyrfa gyda Chyfrif Dysgu Personol | Cymru’n Gweithio
Rhaglen Sgiliau Hyblyg | Busnes Cymru
Chwilio am brentisiaeth | LLYW.CYMRU
Newid yn yr hinsawdd | Is-bwnc | LLYW.CYMRU
Yn cefnogi busnesau Cymru | Busnes Cymru (llyw.cymru)
Cymorth Caffael a Thendro – Busnes Cymru (llyw.cymru)
Gyrfa Cymru ac Ymgysylltu rhwng Busnesau ac Ysgolion “Cynllunio Olyniaeth”
TrustMark - yr unig Gynllun Ansawdd a gymeradwywyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer gwaith a wneir mewn cartrefi ac o’u hamgylch
Darparwyr Cynllun TrustMark - Mae TrustMark yn gweithio'n agos gyda'u Darparwyr Cynlluniau, a'u Busnesau Cofrestredig (mae hyn yn rhan o PAS a gosod y gwaith), i sicrhau bod y prosesau a'r gweithdrefnau cywir o fewn cynllun TrustMark wedi'u dilyn.
Dangosfwrdd Amgylchedd Adeiledig Cymru - Noder: Mae'r dangosfwrdd hwn yn rhestru contractwyr sy'n gweithio o dan wahanol fframweithiau caffael yng Nghymru. Sylwch nad yw'r rhestr hon yn argymhelliad gan Lywodraeth Cymru, a dylai defnyddwyr y dangosfwrdd hwn gynnal eu diwydrwydd dyladwy eu hunain ar y cwmnïau a restrwyd.
Dylid anfon Astudiaethau Achos a Chyhoeddiadau’r Cyfryngau i: OptimisedRetroFitProgramme@llyw.cymru ar ffurf PDF
Amserlenni
Dylid nodi’r dyddiadau canlynol ar gyfer ORP 3 Blwyddyn 4 2025 i 26:
Cam | Dyddiad |
---|---|
Cychwyn – Pecynnau Ymgeisio | Canllaw a Dogfennau ymgeisio– eu cyhoeddi 21 Ebrill 2025 |
Cyflwyno Ceisiadau | Dyddiad cau ar gyfer ymgeisio: 9 Mai 2025 |
Penderfynu ynghylch Grant ORP | Erbyn: 16 Mai 2025 |
Monitro Interim ar gyfer Gofyniad 4 (Rhan 3 WHQS) Cyfarfod Cynnydd Canol Tymor Gorfodol yr ORP |
|
Hawlio Cyllid | Cyfnod Hawlio 1: Hyd at ddiwedd Gorffennaf 2025 (gwahodd hawliadau ddechrau mis Awst) Cyfnod Hawlio 2: hyd at ddiwedd mis Hydref 2025 (gwahodd hawliadau ddechrau mis Tachwedd) Cyfnod Hawlio 3: Hyd at ddiwedd Ionawr 2026 (gwahodd hawliadau o ddechrau Chwefror 2026) Cyfnod cronni: o 1 Chwefror i 31 Mawrth 2026 (gwahodd croniadau dechrau Chwefror 2026) Cyfnod Hawlio Terfynol 4: (wedi'i adlewyrchu o'r croniad) gwahodd hawliadau Ebrill, i'w dychwelyd erbyn 15 Mai 2026 ar gyfer taliad grant ORP3.4 terfynol. |
Gofynion rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio 3 blwyddyn 4
Mae gofyn i landlordiaid cymdeithasol;
1. Adrodd i Lywodraeth Cymru
(i) Ar ddiwedd blwyddyn prosiect, adrodd ar nifer y safleoedd sy’n manteisio ar fesurau ôl-osod, math a manylion yr ymyriadau drwy ddiweddaru’r daflen Manylion y Cynllun a Manylion yr Eiddo
(ii) Ar ddiwedd blwyddyn prosiect, adrodd ar gynnydd drwy’r ffurflen Allbynnu Grant ‘ORP 3 Blwyddyn 4’
(iii) Ar ganol blwyddyn (diwedd Ch2 – Medi 2025) a diwedd blwyddyn (Ch4 – 6 Mawrth 2026), adrodd ar gynnydd tuag at cyflawni Gofyniad 4 (isod)
(iv) Wrth gwblhau’r prosiect, mae gofyn i landlordiaid gyflwyno astudiaeth achos ar gyfer pob prosiect.
2. Ymgymryd â mesurau ôl-osod mewn cartrefi gan ddefnyddio PAS 2035 (PAS 2035:2019 Manyleb ar gyfer ôl-osod ynni mewn adeiladau domestig). (1)
(i) Mae gofyn i landlordiaid osod gwaith ar TrustMark Data Warehouse. Sylwch fod cwymplen ar gyfer dewis gosod ORP a landlordiaid ar TrustMark Data Warehouse)
(ii) Mae gofyn i landlordiaid sicrhau bod gweithlu eu cadwyn gyflenwi wedi’i achredu hyd at PAS2030 neu ddefnyddio dull ymbarél ar gyfer is-gontractwyr llai. (2)
3. Mae gofyn i landlordiaid osod Synwyryddion Monitro’r Amgylchedd ac Ynni mewn cartrefi a fydd yn rhan o raglenni ôl-osod yn y dyfodol (megis ORP3 Blwyddyn 5) a llunio data cyn eu hôl-osod a fydd yn help wrth ddewis mesurau ar gyfer cartrefi.
(i) Mae gofyn i landlordiaid osod Synwyryddion Monitro’r Amgylchedd ac Ynni sy'n cydymffurfio â 'Y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio: Monitro ynni a’r amgylchedd’.
(ii) Mae gofyn i landlordiaid lunio contract gyda chyflenwr y synhwyrydd y maent wedi’i ddewis i rannu’r data a gasglwyd gyda Rheolwyr Setiau Data Llywodraeth Cymru, i’w cynnwys yn Set Data a Dangosfyrddau ORP.
4. Mae gofyn i landlordiaid weithredu’n gyson ag elfennau 3(a), (b), (c) a (d) yn Rhan 3 Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 a’r canllawiau a nodir yn Atodiad 3.
(i) Mae gofyn i landlordiaid cymdeithasol ddefnyddio gwybodaeth gyfredol am asedau a data arolygon i ddatblygu Asesiad Stoc Cyfan o’u cartrefi
(ii) Mae gofyn i landlordiaid cymdeithasol ddangos cynnydd sylweddol tuag at datblygu TEPs llawn ar gyfer y cartrefi yn eu stoc erbyn 2027
(iii) Mae gofyn i landlordiaid cymdeithasol adrodd yn flynyddol fel rhan o’r Polisi Cydymffurfio (yn unol â’r dyfyniad yn Atodiad B) YM Mhennod 5 o WHQS 2023
5. Adrodd gwybodaeth i Lywodraeth Cymru ar eu sgiliau a’u cadwyni cyflenwi
(i) Mae gofyn i landlordiaid cymdeithasol ddarparu manylion cyflenwyr eu cynnyrch a’u gwasanaethau
(ii) Mae gofyn i landlordiaid Cymdeithasol ddarparu manylion hyfforddiant a chymwysterau eu staff a’u cyflenwyr o ran cynllunio a chyflawni gwaith
6. Adrodd i Lywodraeth Cymru ar ffrydiau ariannu ychwanegol yr ymgeisir amdanynt ar gyfer cynnal gweithgareddau ôl-osod
(i) Mae gofyn i landlordiaid ddarparu manylion am ddefnyddio ffynonellau Llywodraeth y DU o gyllid megis ECO, Great British Insulation Scheme
(ii) Mae gofyn i landlordiaid cymdeithasol ddarparu manylion am ddefnyddio gwasanaethau ariannol eraill, megis defnyddio asedau
(1) PAS 2035:2019 / PAS 2035/2030:2023 • TrustMark (Rydym bellach mewn cyfnod pontio lle bydd safonau 2019 yn cael eu dileu ar 30 Mawrth 2025 a'u disodli gan safonau newydd 2023.
(2) Dull ymbarél yw pan fo cwmni achrededig A yn cymeradwyo gwaith cwmni llai B
Pwy sy’n gymwys
- Caiff taliadau eu rhyddhau fel ôl-daliadau yn unol â’r gwaith fydd wedi’i wneud fel rhan o’ch rhaglen. Defnyddir cylch talu gydol blwyddyn ariannol 2025/26, gyda gofyn bod yr holl waith yn cael ei orffen erbyn 31/03/2026 fan hwyraf. Bydd hyn yn cynnwys unrhyw waith oedd heb ei orffen o fersiynau blaenorol o’r rhaglen. Ni fydd grant ar gael ar gyfer unrhyw waith fydd heb ei orffen ar ôl y pwynt hwn.
- Mae Llywodraeth Cymru’n cadw’r hawl i newid dyddiadau a gofynion y cynllun. Trafodir hyn yn uniongyrchol ag ymgeiswyr llwyddiannus ar adeg briodol.
- Er mwyn helpu landlordiaid cymdeithasol i dalu am waith sy’n ychwanegol at eu rhaglenni ‘Trwsio, Cynnal a Gwella’ (RMI) ac yn cynnwys peidio â defnyddio arian RMI o’r dyfodol i’w ddefnyddio gyda’r grant ORP. Mae’r rhaglenni RMI hyn yn gyson gan fwyaf â Safon Ansawdd Tai Cymru (WHQS) 2023.
- Mae costau cyfalaf cymwys yn golygu costau y gellir eu cysylltu’n uniongyrchol â’r rhaglen fel inswleiddio, pympiau gwres ac ymyriadau eraill. Mae costau refeniw cymwys hefyd yn gostau y gellir eu cysylltu’n uniongyrchol â’r rhaglen, fel costau llafur.
- Gellir defnyddio hyd at 10% o drothwy ariannu’r dyraniad grant i gynnal y gweithgareddau anuniongyrchol canlynol:
• Gwaith arloesi ac ymchwil ar gyfer datgarboneiddio’ch stoc dai.
• Ffioedd rheoli rhaglenni mewnol.
• Ffioedd rheoli trydydd parti (ystyrir pob achos yn ôl ei rinweddau)
• Caffael meddalwedd fewnol ar gyfer rheoli asedau a modelu stoc
- Sylwch fod gofyniad i rannu eich cyfraniad yn ôl categori ar y ddalen costau cymwys.
- Mae ffioedd arolygon a systemau monitro amgylcheddol ac ynni yn gostau cymwys.
- Bydd TAW (Treth ar Werth) ar wariant a ysgwyddir ond yn cael ei ystyried yn wariant cymwys os na allwch adennill y TAW o fewn eich rheolau trethu eich hun.
Gwerthuso
Bwriad Llywodraeth Cymru yw casglu tystiolaeth am yr hyn sy'n gweithio a'r hyn sydd ddim, er mwyn llywio penderfyniadau buddsoddi a pholisi yn y dyfodol.
Bydd y Llythyr Cynnig Grant a roddir i’r prosiectau llwyddiannus yn cadarnhau beth fydd y gofynion gwerthuso.
Bydd gofyn i bob prosiect llwyddiannus gynnal ymarferion gwerthuso fel amod o’r grant. Gellir comisiynu gwerthusiad ychwanegol penodol er mwyn asesu ffocws cynllun unigol ar arloesedd. Trafodir hyn fesul cynllun cyn cytuno arno. Mae darparu data amserol hefyd yn amod o’r cyllid.
Ar ôl dadansoddiad cychwynnol bydd y data yn cael eu casglu a’u cyhoeddi.
Y broses ymgeisio
7.1 Cyflwyno ceisiadau
Dylech e-bostio pob gohebiaeth a phob cais at: OptimisedRetroFitProgramme@llyw.cymru. Dylech anfon copi hefyd at arweinydd perthnasol yr ORP yn Llywodraeth Cymru:
- Daniel Dunning (daniel.dunning@llyw.cymru) – Arweinydd cyffredinol ac ar faterion ariannol
- Bethan King (bethan.king@llyw.cymru) – ar faterion monitro, Dangosyddion Perfformiad ac adroddiadau cynnydd
- Malcolm Davies (malcom.davies2@llyw.cymru) – ar Gadwyni Cyflenwi a Sgiliau a Sefydliadau Cyfleustodau ac Achredu
- Patrick Myall (patrick.myall001@gov.wales) – ar faterion monitro a manylebau technegol
7.2 Asesu cydymffurfiaeth
Dylai ymgeiswyr nodi’r canlynol:
- Rhaid cyflwyno ffurflen gais wedi’i llenwi, y costau cymwys a manylion y cynllun ac unrhyw atodiadau sydd eu hangen.
- Bydd ymgeiswyr wedi ymrwymo i fodloni’r holl feini prawf a ddisgrifir yn y ffurflen gais.
- Bydd ymgeiswyr wedi ymrwymo i fonitro a gwerthuso’r prosiectau a gyllidir.
- Rhaid i ymgeiswyr ystyried y Canllaw Rheoli Cymorthdaliadau. Bydd Llywodraeth Cymru’n cadarnhau hyn.
- Bydd Llywodraeth Cymru’n gofyn am ragor o fanylion neu wybodaeth a/neu am esboniadau yn ôl y gofyn i fedru asesu a chymeradwyo cais yr ORP a disgwylir i ymgeiswyr ymateb ar fyrder i’r ceisiadau hyn.
Y broses asesu
Caiff y cynigion eu hasesu yn ôl y graddau y maent yn cyd-fynd ag amcanion a nodau’r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio ac â’r gofynion a ddisgrifir uchod.
Gallem ofyn i ymgeiswyr am ragor o wybodaeth a/neu esboniadau fel a ddisgrifir uchod. Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn hysbysu ymgeiswyr sydd wedi cyflwyno cynigion llwyddiannus a/neu gynigion gydag amodau cyn cynnig a dyfarnu’r grant.
8.1 cynnig grant yr orp
Caiff llythyr cynnig grant ei anfon ar ôl cwblhau’r holl archwiliadau a phrosesau a ddisgrifir uchod. Rhaid cyflwyno proffil talu gyda’r cais.
Cyfathrebu a brandio
Dylid cydnabod cefnogaeth llywodraeth cymru ar bob cyhoeddusrwydd, datganiad i'r wasg a deunydd marchnata sy’n ymwneud â'r prosiect, yn ogystal ag ar y safle wrth ei ddatblygu.
Mae'n rhaid i’r gydnabyddiaeth honno fod ar ffurf a gymeradwywyd gan lywodraeth cymru a rhaid iddi gydymffurfio â chanllawiau brandio llywodraeth cymru.
Dylid anfon astudiaethau achos a chyhoeddiadau’r cyfryngau i: optimisedretrofitprogramme@llyw.cymru ar ffurf pdf
Rhagor o wybodaeth
Os hoffech ragor o gyngor neu wybodaeth am yr ORP, e-bostiwch OptimisedRetroFitProgramme@llyw.cymru