Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar y gyfundrefn cymorthdaliadau newydd sydd ar waith o 4 Ionawr 2023 ymlaen.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Arweiniad cyffredinol yn unig yw'r wybodaeth hon ac nid cyngor. Darllenwch y canllawiau statudol ar reoli cymorthdaliadau’r DU yn GOV.UK i gael gwybodaeth fanylach neu cysylltwch ag Uned Rheoli Cymorthdaliadau Llywodraeth Cymru: YrUnedRheoliCymorthdaliadau@llyw.cymru.

Trosolwg

Dechreuodd cyfundrefn rheoli cymorthdaliadau newydd y DU ar 4 Ionawr 2023. Mae'r gyfundrefn newydd yn wahanol i reolau cymorth Gwladwriaethol blaenorol yr UE. Mae wedi’i seilio ar egwyddorion, mewn modd tebyg i’r dull gweithredu yng Nghytundeb Masnach a Chydweithredu'r DU a’r UE. Golyga hyn fod awdurdodau cyhoeddus yn hunanasesu eu cymorthdaliadau i sicrhau eu bod yn cydymffurfio. Mae hyn yn caniatáu mwy o hyblygrwydd wrth greu cynlluniau cymorthdaliadau a dyfarnu cymorthdaliadau. Mae'r gyfundrefn yn rhoi cyfrifoldebau sylweddol i awdurdodau cyhoeddus o ran rheoli cymorthdaliadau a thryloywder.

Rhaid i awdurdodau cyhoeddus gynnal adolygiadau manwl, dadansoddiadau o'r farchnad ac asesiadau egwyddorion. Rhaid gwneud hyn cyn dyfarnu cymhorthdal. Ni allant ddadlau’r achos ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud. Mae gan y gyfundrefn hefyd reolau llymach ynghylch pryd y mae rhaid cydymffurfio â gofynion tryloywder.

Beth yw cymhorthdal?

Mae'r gyfundrefn newydd yn defnyddio diffiniad newydd o gymhorthdal. Os ydych yn ateb yn gadarnhaol i bob un o'r 4 cwestiwn isod, cymhorthdal yw eich cymorth.

  1. A yw'r cymorth ariannol yn cael ei roi, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, o adnoddau cyhoeddus gan awdurdod cyhoeddus?
  2. A yw’r cymorth ariannol yn rhoi mantais economaidd i un neu ragor o fentrau?
  3. A yw’r cymorth ariannol yn benodol? Hynny yw, a yw'r fantais economaidd wedi'i darparu i un fenter (neu fwy nag un), ond nid i eraill?
  4. A fydd y cymorth ariannol yn cael, neu a fydd yn gallu cael, effaith ar gystadleuaeth neu fuddsoddiad o fewn y DU, neu ar fasnach neu fuddsoddiad rhwng y DU a gwlad neu diriogaeth arall?

Os ydych yn credu bod eich cymorth yn gymhorthdal, bydd angen ichi sicrhau ei fod yn cydymffurfio â chyfundrefn cymorthdaliadau newydd y DU. Bydd angen ichi hefyd sicrhau nad yw'n gymhorthdal gwaharddedig nac yn un ag amodau ychwanegol (gweler pennod 5 o’r canllawiau statudol ar reoli cymorthdaliadau’r DU). Pan fo’n berthnasol, bydd angen ichi sicrhau bod y cymorth yn cydymffurfio â'r 7 egwyddor rheoli cymorthdaliadau.

Y 7 egwyddor rheoli cymorthdaliadau

A: budd cyffredin

Dylai cymorthdaliadau hyrwyddo amcan polisi cyhoeddus penodol er mwyn unioni methiant a nodwyd yn y farchnad neu fynd i’r afael â rhesymeg tegwch (megis anawsterau cymdeithasol neu bryderon dosbarthiadol neu anfantais leol neu ranbarthol).

B: cymesuredd

Dylai cymorthdaliadau fod yn gymesur â'u hamcan polisi penodol ac wedi’u cyfyngu i'r hyn sy'n angenrheidiol i'w gyflawni.

C: wedi’u cynllunio i newid ymddygiad economaidd

Dylid cynllunio cymorthdaliadau i newid ymddygiad economaidd y buddiolwr. Dylai'r newid hwnnw, mewn perthynas â chymhorthdal, fod yn ffafriol i gyflawni'r amcan polisi penodol, ac yn rhywbeth na fyddai'n digwydd heb y cymhorthdal.

D: costau a fyddai'n cael eu hariannu beth bynnag

Ni ddylai cymorthdaliadau fel arfer ddigolledu’r costau y byddai'r buddiolwr wedi’u hariannu yn absenoldeb unrhyw gymhorthdal.

E: cyflawni’r amcan polisi yn y ffordd leiaf gwyrdroadol

Dylai cymorthdaliadau fod yn offeryn polisi priodol i gyflawni eu hamcan polisi penodol ac ni ddylai fod modd cyflawni'r amcan hwnnw drwy ddulliau eraill, llai gwyrdroadol.

F: cystadleuaeth a buddsoddiad yn y DU

Dylid cynllunio cymorthdaliadau i gyflawni eu hamcan polisi penodol a hefyd leihau unrhyw effeithiau negyddol ar gystadleuaeth a buddsoddiad yn y DU.

G: effeithiau buddiol yn drech nag effeithiau negyddol

Dylai effeithiau buddiol cymorthdaliadau (o ran cyflawni eu hamcan polisi penodol) fod yn drech nag unrhyw effeithiau negyddol, gan gynnwys yn enwedig effeithiau negyddol ar gystadleuaeth neu fuddsoddiad yn y DU a masnach a buddsoddiad rhyngwladol.

Cymorthdaliadau a chynlluniau ynni a'r amgylchedd

Yn ogystal â'r 7 egwyddor, rhaid asesu cymorthdaliadau a chynlluniau sy'n ymwneud ag ynni a/neu'r amgylchedd yn erbyn egwyddorion ynni a’r amgylchedd.

I gael rhagor o wybodaeth gweler y canllawiau statudol.

Cymorthdaliadau a Chynlluniau o Ddiddordeb a Diddordeb Penodol (SSoI/SSoPI)

Rhaid i gymorthdaliadau sy’n fwy na throthwy penodol neu sydd mewn sectorau arbennig o sensitif o'r economi fynd drwy broses adolygu ychwanegol.

Rhagor o wybodaeth am SSoI a SSoPI.

Gofynion tryloywder

Rhaid i awdurdodau cyhoeddus gyhoeddi gwybodaeth am gymorthdaliadau perthnasol y maent wedi’u dyfarnu, neu gynlluniau maent wedi’u creu. Mae'r rhwymedigaethau tryloywder newydd yn llymach na'r rhwymedigaethau o dan gyfundrefnau rheoli cymorthdaliadau blaenorol neu reoliadau cymorth Gwladwriaethol yr UE.

Rhagor o wybodaeth am adrodd am dryloywder.

Gwasanaethau o Fudd Economaidd Cyhoeddus (SPEI)Gwasanaethau o Fudd Economaidd Cyhoeddus (SPEI)

Gwasanaethau hanfodol a ddarperir i'r cyhoedd yw Gwasanaethau o Fudd Economaidd Cyhoeddus (SPEI). Maent yn wasanaethau na fyddent, heb gymorth cymhorthdal, yn cael eu cyflenwi mewn ffordd briodol neu na fyddent efallai’n cael eu cyflenwi o gwbl gan y farchnad.

Rhagor o wybodaeth am ddyfarnu SPEIs.

Cynlluniau cymorthdaliadau

Yn ogystal â dyfarnu cymorthdaliadau annibynnol, mae awdurdodau cyhoeddus hefyd yn gallu creu cynlluniau cymorthdaliadau. Mae'r cynlluniau hyn yn cynnig set o reolau sy'n disgrifio’r cymhwysedd a’r amodau ar gyfer cymorthdaliadau sy'n cael eu rhoi o dan y cynllun. Rhaid i awdurdodau cyhoeddus asesu'r cynlluniau hyn yn erbyn y gofynion rheoli cymorthdaliadau (gan gynnwys yr egwyddorion rheoli cymorthdaliadau). Diben hyn yw sicrhau bod pob dyfarniad a wneir o dan y cynllun yn cydymffurfio â chyfundrefn rheoli cymorthdaliadau’r DU.

Rhagor o wybodaeth am gynlluniau cymorthdaliadau Llywodraeth Cymru.

Opsiynau eraill ar gyfer sicrwydd rheoli cymorthdaliadau

Cymorth Ariannol Lleiaf (MFA)

Mae MFA yn caniatáu i awdurdodau cyhoeddus roi cymorthdaliadau gwerth hyd at £315,000 heb angen cydymffurfio â llawer o'r gofynion rheoli cymorthdaliadau.

Rhagor o wybodaeth am gymorthdaliadau MFA.

Cymorth Gwasanaethau o Fudd Economaidd Cyhoeddus (SPEIA)

Mae SPEIA yn caniatáu i awdurdodau cyhoeddus ddyfarnu cymorthdaliadau SPEI â gwerth isel heb gydymffurfio â'r mwyafrif o'r gofynion rheoli cymorthdaliadau.

Mae rhagor o wybodaeth am SPEIA ar gael ym mhennod 7 o’r canllawiau statudol ar reoli cymorthdaliadau’r DU.

Cynlluniau gwaddol

Cynlluniau cymorthdaliadau a oedd yn bodoli cyn 4 Ionawr 2023 yw cynlluniau gwaddol. Nid oes angen i'r cynlluniau hyn gydymffurfio â'r gofynion a nodir yn Neddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022. Fodd bynnag, bydd y gofynion tryloywder newydd yn dal i fod yn berthnasol yn y mwyafrif o achosion.

Rhagor o wybodaeth am gynlluniau gwaddol Llywodraeth Cymru.

Llwybrau symlach

Cynlluniau cymorthdaliadau sydd wedi’u dylunio gan Lywodraeth y DU yw llwybrau symlach. Bydd y rhain yn caniatáu i awdurdodau cyhoeddus ledled y DU roi mathau penodol o gymhorthdal heb orfod gwneud eu hasesiadau eu hunain yn erbyn yr egwyddorion.

Mae rhagor o wybodaeth am lwybrau Symlach yn GOV.UK.

Eithriadau eraill

Mae cymorthdaliadau a roddir mewn rhai sefyllfaoedd brys hefyd wedi'u heithrio o rai o’r gofynion rheoli cymorthdaliadau.

Mae rhagor o wybodaeth am yr amgylchiadau hyn ac eithriadau eraill o'r rheolau rheoli cymorthdaliadau ar gael ym mhennod 8 o’r canllawiau statudol ar reoli cymorthdaliadau’r DU.