Neidio i'r prif gynnwy

Golwg gyffredinol

Mae’r canllaw hwn wedi’i baratoi i helpu ymgeiswyr sy'n gwneud cais am gyllid y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio (ORP). Mae’n esbonio i ymgeiswyr pa fath o waith ôl-osod y bydd y rhaglen yn rhoi help ariannol ar ei gyfer, nawr ac yn y dyfodol.

Bydd ORP 3 yn ymdrin â’r cyfnod 2022-2025. Prif thema'r rhaglen yw gwres fforddiadwy a datgarboneiddio, gan wneud hynny yn y ffordd sydd orau ar gyfer pob cartref unigol. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu cyllid i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac awdurdodau lleol gynnal y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio yn 2022-2023 bob yn gam. Er mwyn gallu ystyried dyrannu cyllid fel rhan o rownd gyllido eleni, bydd angen cyflwyno cais i swyddogion y Rhaglen fydd yn amlinellu costau bwriedig y flwyddyn 2023-24 a chostau bras 2024-25. Cofiwch, bydd y dyraniad cyllid yn dal i gael ei bennu ar sail fformiwla o nifer y stoc yn seiliedig ar ddata cyfrifiad 2020.

Bydd gofyn i gyrff sy’n ymgeisio lenwi’r ffurflen gan gadw at y fformat y ffurflen. Bydd Llywodraeth Cymru’n ystyried y ffurflenni a fydd wedi dod i law a bydd yn trafod â’r corff sy’n ymgeisio unrhyw feysydd y bydd angen eu hegluro.  Pan fydd Llywodraeth Cymru yn fodlon bod y ffurflen wedi’i llenwi ac yn bodloni'r gofynion a nodir isod, caiff llythyr yn cynnig grant ac yn esbonio amodau a thelerau’r grant ei anfon at y corff sy’n ymgeisio.

Bydd prosiectau llwyddiannus yn cael eu monitro a'u gwerthuso, a bydd gofyn i’r sefydliadau sy'n derbyn cyllid, fel amod ar gyfer derbyn y cyllid, gadw llyfrau agored. Er enghraifft, gallai Llywodraeth Cymru ofyn am gael gweld tystiolaeth o daliadau, diweddariadau o wariant yn erbyn y rhagolygon, ac allbynnau’r prosiect drwy gydol y rhaglen.

Cyd-destun strategol

Yn 2019, comisiynodd Gweinidogion Cymru yr adroddiad Cartrefi Gwell, Cymru Well,  Byd Gwell i ystyried sut y gellid datgarboneiddio cartrefi yng Nghymru. Derbyniwyd yr argymhellion gan y Gweinidogion gan gynnwys ymrwymiad i ddilyn rhaglen ar gyfer datgarboneiddio cartrefi.

Mewn ymateb i'r argymhellion, cytunwyd y byddai rhaglen 'Ôl-osod er mwyn Optimeiddio' yn cael ei mabwysiadu yma yng Nghymru.

Yn unol â’r ymrwymiad a’r trywydd hwnnw, sefydlwyd y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio (ORP) yn 2020. Dros y tair blynedd diwethaf mae prosiectau ar draws y sector tai cymdeithasol wedi cael eu cefnogi a £120m o gyllid wedi'i fuddsoddi. Mae blwyddyn 2 ORP 3 am barhau i adeiladu ar y gwaith sydd wedi’i wneud a sicrhau bod pob landlord cymdeithasol yng Nghymru yn ymwneud â’r ORP dros y 2 flynedd nesaf.

Wrth fynd ati i ddatgarboneiddio cartrefi sy’n bod, rydym yn cydnabod bod eu hôl-osod yn broses gymhleth ac ailadroddus. Mae'n debygol y bydd angen i gartrefi fynd trwy sawl cam o waith ôl-osod gan leihau eu carbon fesul cam, gan arloesi ac arbrofi dros amser.

Ein bwriad erioed yw bod yr ORP yn cael ei chynnal fesul cam, gan ddechrau gyda’r sector tai cymdeithasol a defnyddio’r buddsoddiad ynddo i arwain a llywio gwaith ôl-osod ar fathau eraill o gartrefi. Bwriad yr ORP yw gweithredu fel prawf bod dulliau o ôl-osod adeiladwaith a thechnoleg yn gweithio gan greu sylfaen gadarn o dystiolaeth i ddatblygu ein strategaeth ôl-osod tymor hwy.

Ein ffocws o hyd ar gyfer ORP 3 yw gwneud y defnydd mwyaf effeithiol posibl o wres ac ynni yng nghartrefi cymdeithasol Cymru. Wrth roi’r rhaglen ar waith, byddwn yn gofyn i landlordiaid wneud eu cartrefi mor aerdyn â phosibl, eu hinswleiddio cystal ag y gallant ac ystyried awyru fel ffordd i gadw gwres gan wneud eu cartrefi yn “barod” o ran eu hadeiladwaith. Bydd angen cadw’r ddysgl yn wastad rhwng defnyddio technoleg i wneud cartrefi'n rhatach i'w rhedeg ac i leihau allyriadau carbon ar y naill law a’r gost ar y  llaw arall o wneud cartrefi'n “barod” o ran eu hadeiladwaith a gosod technoleg.

Byddwn yn gofyn i landlordiaid asesu pob cartref a pharatoi cynlluniau unigol (Llwybrau Ynni Targed fel y’u gelwir) ar gyfer pob cartref ar ei daith i gwtogi costau ynni ac at fod yn ddi-garbon.

Mae Llywodraeth Cymru yn argymell yn gryf y dylid cyflwyno cais yda’r bwriad o fod yn ofyniad yn y dyfodol agos.

Byddwn yn ymestyn y gwaith ôl-osod er mwyn optimeiddio o gartrefi cymdeithasol i'r sector rhentu preifat fesul cam ac, yn y pen draw, i gartrefi preifat.

Allwedd y rhaglen yw:

  • Cynnal y rhaglen fel bod tai fforddiadwy’n cael eu dylunio a’u darparu’n gyson â saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) - Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
  • Annog landlordiaid i feddwl yn strategol wrth ystyried mesurau i wneud gwres yn fwy fforddiadwy a datgarboneiddio cartrefi.
  • Dangos y manteision sy’n gysylltiedig â ffyrdd newydd o ôl-osod, er mwyn denu mwy i gymryd rhan.
  • Manteisio ar gyfleoedd i greu swyddi, dysgu sgiliau a datblygu diwydiannau lleol, gan fabwysiadu egwyddorion yr economi sylfaen a chefnogi mwy o adfywio.
  • Cyfrannu at bolisi Llywodraeth Cymru ynghylch lleihau gwastraff a’r economi gylchol.
  • Cael pobl i gyfranogi, trwy rannu prif ganfyddiadau a’u dysgu.

Cewch ragor o wybodaeth am yr ORP a gwybodaeth gyd-destunol am ddatblygiadau ehangach ar wefan Llywodraeth Cymru neu’r dolenni canlynol:

Y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio

Safon Ansawdd Tai Cymru

Sgiliau Sero Net Nghymru

Newid yn yr Hinsawdd - Llywodraeth Cymru

Busnes Cymru

GwerthwchiGymru

TrustMark

Amserlenni

Dyddiadau ar gyfer ORP 3 Blwyddyn 2 2023–24

Cam

Dyddiad

Cychwyn

Gorffennaf 2023

Canllaw a Dogfennau ymgeisio– eu cyhoeddi Gorff 2023

Dogfennau ymgeisio

I’w dychwelyd 11 Medi 2023

Dyfarnu’r grant

Erbyn 9 Hydref 2023 (gan ddibynnu ar gais llwyddiannus)

Hawlio’r arian

Erbyn 31 Mawrth 2024 

Agor y rownd nesaf

Chwarter cyntaf blwyddyn ariannol 2024/25 

Amcanion y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio

Dyma amcanion y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio:

  1. Cefnogi landlordiaid cymdeithasol i ddatblygu strategaeth sy‘n gyson ag elfennau ‘Gwres Fforddiadwy a Datgarboneiddio’ Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 wrth i Lywodraeth Cymru a landlordiaid cymdeithasol weithio tuag at greu safon newydd.
     
  2. Cefnogi landlordiaid cymdeithasol i ddatgarboneiddio cartrefi gan ystyried ffactorau sy'n ofynnol ar gyfer cyflawni hynny megis sgiliau, caffael, modelau cyllid a dewis deunyddiau.
     
  3. Cefnogi landlordiaid cymdeithasol i fod yn arloesol wrth ddatgarboneiddio eu stoc dai ac i fagu parodrwydd i fentro sy’n cyfateb i lefel y gweithgarwch arloesol ac entrepreneuraidd sydd ei angen i ddatgarboneiddio'n effeithiol ac yn effeithlon.
     
  4. Helpu i ddatblygu ffyrdd priodol o ddatgarboneiddio'r sector rhent preifat a'r sector perchen-feddiannydd.

Gofynion Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 3 Blwyddyn 2

  1. Mae gofyn i landlordiaid cymdeithasol ymgymryd â mesurau ôl-osod cartrefi gan ddefnyddio PAS 2035 (PAS 2035:2019 Manyleb ar gyfer ôl-osod ynni mewn adeiladau domestig). Argymhellir defnyddio TrustMark, gan mai’r bwriad yw gwneud hyn yn ofynnol yn y dyfodol agos.
     
  2. Mae gofyn i landlordiaid cymdeithasol osod Synwyryddion Amgylcheddol sy'n cydymffurfio â 'Y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio: Monitro ynni a’r amgylchedd’.

    Anogir landlordiaid i gynnwys Synwyryddion Amgylcheddol yn eu ceisiadau ar gyfer y cartrefi hynny fydd yn rhan o raglenni ôl-osod yn y dyfodol (megis ORP 3 2024-25) er mwyn cynhyrchu data am gartrefi cyn eu hôl-osod fydd yn help wrth ddewis mesurau ar gyfer cartrefi.
     
  3. Mae angen i landlordiaid cymdeithasol ddefnyddio gwybodaeth gyfredol a data arolygon i ddatblygu Asesiad Stoc Cyfan o’u cartrefi.

    Dylai landlordiaid cymdeithasol baratoi Llwybr Ynni Targed ar gyfer pob cartref lle cynhelir mesurau ôl-osod ORP, gan nodi sut y bydd y cartref hwnnw yn y pen draw yn cyrraedd y targedau o ran gwres fforddiadwy a datgarboneiddio.

    Noder – anfonir canllawiau pellach ar yr hyn sydd ei angen ar gyfer yr Asesiad Stoc Cyfan a'r Llwybr Ynni Targed maes o law.
     
  4. Bydd angen i landlordiaid cymdeithasol nodi nifer y safleoedd lle cynhelir mesurau ôl-osod a'r math o ymyrraeth a ddefnyddir ac allbynnau allweddol eraill.
     
  5. Mae gofyn i landlordiaid cymdeithasol nodi manylion cyflenwyr eu cynnyrch a’u gwasanaethau (enw, gwefan, cyfeiriad busnes). Bydd gofyn iddynt hefyd nodi manylion yr hyfforddiant y mae eu staff a’u cyflenwyr yn ei dderbyn yng Nghymru fel rhan o Sgiliau sero net Cymru | LLYW.CYMRU a chynnig sylwadau ar hynny.
     
  6. Mae gofyn i landlordiaid cymdeithasol ddisgrifio ffrydiau ariannu ychwanegol yr ymgeisir amdanynt ar gyfer cynnal gweithgareddau ôl-osod, gan gynnwys eu cyfraniad eu hunain a ffrydiau ariannol eraill.

Pwy sy’n gymwys

  1. Dylai pob landlord tai cymdeithasol a phob Trosglwyddiad Gwirfoddol ar Raddfa Fawr (LSVT) allu darparu contract gwaith wedi'i lofnodi erbyn 31 Mawrth 2024 sy'n cynnwys dyddiad ar gyfer cychwyn gweithio ar y safle ar 30 Ebrill 2024 fan bellaf.
     
  2. Dylai’r awdurdod lleol allu dangos bod taliad wedi’i wneud a/neu weithgaredd wedi’i gynnal yn y flwyddyn ariannol y cafodd ei ysgwyddo er mwyn iddo allu hawlio’r arian yn y flwyddyn ariannol honno. Os nad yw’r awdurdod lleol yn gallu gwario gwariant 2023/24 yn llawn o fewn blwyddyn, rhaid ichi roi gwybod i ni faint o’r arian sydd ar gael ar gyfer ei ddefnyddio yn 2023/24.
     
  3. Mae Llywodraeth Cymru’n cadw’r hawl i newid dyddiadau a gofynion y cynllun. Trafodir hyn yn uniongyrchol ag ymgeiswyr llwyddiannus ar adeg briodol.
     
  4. Er mwyn helpu landlordiaid cymdeithasol i dalu am waith sy’n ychwanegol at eu rhaglenni ‘Trwsio, Cynnal a Gwella’ (RMI) ac yn cynnwys peidio â defnyddio arian RMI o’r dyfodol i’w ddefnyddio gyda’r grant ORP. Mae’r rhaglenni RMI hyn yn gyson gan fwyaf â Safon Ansawdd Tai Cymru (WHQS) 2008.
     
  5. Mae costau cyfalaf cymwys yn golygu costau y gellir eu cysylltu’n uniongyrchol â’r rhaglen fel inswleiddio, pympiau gwres ac ymyriadau eraill. Mae costau refeniw cymwys hefyd yn gostau y gellir eu cysylltu’n uniongyrchol â’r rhaglen, fel costau llafur.
     
  6. Gellir defnyddio hyd at 10% o drothwy ariannu’r dyraniad grant at ddiben arloesi ac ymchwil sy’n gysylltiedig â datgarboneiddio’ch stoc dai.  Hefyd, gellir defnyddio hyd at 10% arall o drothwy’r grant i dalu ffioedd rheoli’r rhaglen. Gellir ei ddefnyddio naill ai ‘yn fewnol’ neu i dalu am gymorth trydydd parti.  Ystyrir y ddwy gost fesul achos fel rhan o’r broses werthuso a sicrhau.
     
  7. Mae ffioedd arolygon a systemau monitro amgylcheddol yn gostau cymwys.
     
  8. Bydd TAW (Treth ar Werth) ar wariant a ysgwyddir ond yn cael ei ystyried yn wariant cymwys os na allwch adennill y TAW o fewn eich rheolau trethu eich hun.

Gwerthuso

Bwriad Llywodraeth Cymru yw casglu tystiolaeth am yr hyn sy'n gweithio a'r hyn sydd ddim, er mwyn llywio penderfyniadau buddsoddi a pholisi yn y dyfodol.

Bydd y Llythyr Cynnig Grant a roddir i’r prosiectau llwyddiannus yn cadarnhau beth fydd y gofynion gwerthuso.

Bydd gofyn i bob prosiect llwyddiannus gynnal ymarferion gwerthuso fel amod o’r grant. Gellir comisiynu gwerthusiad ychwanegol penodol er mwyn asesu ffocws cynllun unigol ar arloesedd. Trafodir hyn fesul cynllun cyn cytuno arno. Mae darparu data amserol hefyd yn amod o’r cyllid.

Ar ôl dadansoddiad cychwynnol bydd y data a gesglir ar gael i'r cyhoedd. Noder y cyhoeddir y data ar wefan yr ORP a bydd y cyfan yn ddienw. Efallai y bydd hefyd angen datblygu astudiaethau achos ac efallai y bydd cymorth ar gael ar gyfer hynny.

Y broses ymgeisio

Cyflwyno ceisiadau

Dylech e-bostio pob gohebiaeth a phob cais at: OptimisedRetroFitProgramme@gov.wales. Dylech anfon copi hefyd at arweinydd perthnasol yr ORP yn Llywodraeth Cymru:

Asesu cydymffurfiaeth

Dylai ymgeiswyr nodi’r canlynol:

  • Rhaid cyflwyno ffurflen gais wedi’i llenwi, y costau cymwys a manylion y cynllun ac unrhyw atodiadau sydd eu hangen. 
  • Bydd ymgeiswyr wedi ymrwymo i fodloni’r holl feini prawf a ddisgrifir yn y ffurflen gais.
  • Bydd ymgeiswyr wedi ymrwymo i fonitro a gwerthuso’r prosiectau a gyllidir.
  • Rhaid i ymgeiswyr ystyried y Canllaw Rheoli Cymorthdaliadau. Bydd Llywodraeth Cymru’n cadarnhau hyn.
  • Bydd Llywodraeth Cymru’n gofyn am ragor o fanylion neu wybodaeth a/neu am esboniadau yn ôl y gofyn i fedru asesu a chymeradwyo cais yr ORP a disgwylir i ymgeiswyr ymateb ar fyrder i’r ceisiadau hyn.

Y broses asesu

Caiff y cynigion eu hasesu yn ôl y graddau y maent yn cyd-fynd ag amcanion a nodau’r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio ac â’r gofynion a ddisgrifir uchod.

Gallem ofyn i ymgeiswyr am ragor o wybodaeth a/neu esboniadau fel a ddisgrifir uchod. Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn hysbysu ymgeiswyr sydd wedi cyflwyno cynigion llwyddiannus a/neu gynigion gydag amodau cyn cynnig a dyfarnu’r grant.

Cynnig grant yr orp

Caiff llythyr cynnig grant ei anfon ar ôl cwblhau’r holl archwiliadau a phrosesau a ddisgrifir uchod. Rhaid cyflwyno proffil talu gyda’r cais.

Cyfathrebu a brandio

Dylid cydnabod cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar bob cyhoeddusrwydd, datganiad i'r wasg a deunydd marchnata sy’n ymwneud â'r prosiect, yn ogystal ag ar y safle wrth ei ddatblygu. Mae hyn yn cynnwys hysbysfyrddau ar y safle.

Mae'n rhaid i’r gydnabyddiaeth honno fod ar ffurf a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru a rhaid iddi gydymffurfio â chanllawiau brandio Llywodraeth Cymru.

Rhagor o wybodaeth

Os hoffech ragor o gyngor neu wybodaeth am yr ORP, e-bostiwch OptimisedRetroFitProgramme@gov.wales