Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Heddiw, mae Aelodau'r Senedd wedi cefnogi Bil hanesyddol, a fydd yn creu cenhedlaeth ddi-fwg gyntaf Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y Bil Tybaco a Fêps yn berthnasol i bob un o bedair gwlad y DU a bydd yn atal pob person ifanc a anwyd ar 1 Ionawr 2009 neu ar ôl hynny rhag prynu cynhyrchion tybaco.

Ar hyn o bryd, mae'r Bil yn cael ei ystyried gan Dŷ'r Arglwyddi ar ôl cael cefnogaeth Tŷ'r Cyffredin.

Croesawodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy, bleidlais y Senedd ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol, gan ddweud y bydd y Bil yn amddiffyn plant a phobl ifanc rhag oes o fod yn gaeth i nicotin.

Cyn y bleidlais, cafodd y cyfle i gyfarfod â phlant ysgol a chlywed cerdd roedden nhw wedi'i hysgrifennu am ddyfodol di-fwg. Roedden nhw hefyd wedi casglu addewidion o gefnogaeth i'w gweledigaeth o genhedlaeth ddi-fwg.

Mae Llywodraeth Cymru wedi arwain y ffordd yn y DU o ran cyflwyno mesurau di-fwg. Mae eisoes wedi pasio deddfau i gyfyngu ar smygu mewn mannau cyhoeddus awyr agored, gan gynnwys ar safleoedd ysbytai, ar safleoedd ysgolion ac mewn meysydd chwarae cyhoeddus. Diben hyn yw sicrhau nad yw pobl, yn enwedig plant, yn dod i gysylltiad â mwg ail-law niweidiol.

Dywedodd Sarah Murphy: 

"Mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol i iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Er gwaetha'r cynnydd gwirioneddol rydyn ni wedi'i wneud o ran gostwng lefelau smygu, mae tybaco yn parhau i fod yn un o brif achosion clefydau y gellir eu hatal a marwolaethau cynamserol yng Nghymru.

"Mae'r Bil Tybaco a Fêps yn rhoi cyfle unigryw inni fynd i'r afael â smygu a fepio ymhlith pobl ifanc, problem sy'n mynd yn fwyfwy difrifol.

"Mae'n gyfle i sicrhau gwelliant cynhwysfawr a sylweddol o ran iechyd y cyhoedd yng Nghymru a'r DU."

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, yr Athro Isabel Oliver: 

"Mae bod yn gaeth i dybaco yn lladd miloedd o bobl yng Nghymru bob blwyddyn ac mae'n parhau i atgyfnerthu anghydraddoldebau iechyd sy'n bodoli eisoes.

"Mae'r Bil hwn yn cynnig cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i dorri'r cylch hwnnw ac amddiffyn cenedlaethau'r dyfodol rhag cynnyrch sydd wedi achosi niwed enfawr."

Mae'r Bil Tybaco a Fêps yn ddarn hollbwysig o ddeddfwriaeth y DU a fydd yn cyflwyno cyfyngiadau newydd ar dybaco a fepio ar draws y pedair gwlad.

Bydd yn cryfhau amddiffyniadau i bobl ifanc drwy gyflwyno rheolau llymach mewn perthynas â fêps, gan gynnwys hysbysebu cynhyrchion nicotin a fepio, er mwyn eu hatal rhag cael eu targedu tuag at blant a phobl ifanc.

Bydd yn cryfhau'n sylweddol yr adnoddau sydd ar gael i swyddogion gorfodi, yn benodol drwy gynllun trwyddedu newydd ar gyfer unrhyw un sydd eisiau gwerthu cynhyrchion tybaco neu fepio yn y dyfodol. Bydd hyn yn helpu i orfodi'r rheolau newydd a chymryd camau yn erbyn gwerthu cynhyrchion yn anghyfreithlon.

Bydd Safonau Masnach Cymru yn cael mwy na £800,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru i weithredu'r mesurau i fynd i'r afael â thybaco a fêps anghyfreithlon yng Nghymru yn ystod y tair blynedd nesaf. Bydd hyn yn cynnwys recriwtio a hyfforddi pum prentis i gynorthwyo â gweithgarwch gorfodi.