O 1 Ionawr 2027, ni fydd modd gwerthu cynhyrchion tybaco i unrhyw un a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009. Dysgwch am y gyfraith newydd a'r newidiadau i reolau fepio.
Cynnwys
Cyflwyniad
Bydd Deddf Tybaco a Fêps 2026 yn creu cenhedlaeth ddi-fwg ac yn mynd i'r afael â fepio ymhlith pobl ifanc ar draws y DU.
1 Ionawr 2027. Dechrau'r diwedd ar dybaco.
Mae smygu yn achosi salwch a chlefydau fel canser ac yn byrhau bywyd. Mae mwy nag 1 o bob 10 o'r holl farwolaethau yng Nghymru mewn pobl 35 oed a throsodd yn gysylltiedig â smygu.
Mae hynny'n gyfartaledd o tua 3,845 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn.
Yn ogystal â'r gost bersonol, mae smygu yn cael effaith sylweddol ar gymdeithas, gan gostio £1.56 biliwn bob blwyddyn.
Mae hefyd yn cael effaith fawr ar y GIG, gyda mwy na 17,000 o dderbyniadau i'r ysbyty bob blwyddyn yng Nghymru.
Yng Nghymru, mae 10% o bobl 16 oed a hŷn yn smygu.
Mae gennym uchelgais i Gymru fod yn ddi-fwg erbyn 2030.
Er bod cyfraddau smygu wedi gostwng o 23% ers 2010, rydym am helpu mwy o ysmygwyr i roi'r gorau iddi ac atal pobl ifanc rhag dechrau smygu yn y lle cyntaf.
Er ei bod yn anghyfreithlon gwerthu fêps i bobl o dan 18 oed, mae plant a phobl ifanc, a phobl nad ydynt erioed wedi smygu, yn eu defnyddio.
Yng Nghymru, mae ein data ar smygu a fepio ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd yn dangos bod:
- 5.2% o ddisgyblion ym mlynyddoedd ysgol 7 i 11 (rhwng 11 ac 16 oed fel arfer) yn defnyddio fêps yn wythnosol
- 12.7% o ddisgyblion ym mlwyddyn ysgol 11 (rhwng 15 ac 16 oed fel arfer) yn defnyddio fêps yn wythnosol
Mae hyn yn peri pryder, gan fod llawer o fêps yn cynnwys nicotin, sy'n sylwedd caethiwus iawn.
Nid ydym ychwaith yn gwybod beth yw effeithiau hirdymor defnyddio fêps ar iechyd.
Beth mae'r Ddeddf yn ei wneud?
Mae tybaco yn niweidiol iawn. Nid oes unrhyw lefel smygu sy'n ddiogel, ac nid oes unrhyw gynnyrch arall ar werth sy'n lladd hyd at ddwy ran o dair o'i ddefnyddwyr. Rydym eisiau amddiffyn cenedlaethau'r dyfodol rhag niwed tybaco a chynhyrchion smygu eraill.
O ran fêps, mae'r cyngor iechyd yn glir:
- os nad ydych chi'n smygu, peidiwch â fepio
- ni ddylai plant a phobl ifanc fepio o gwbl
Mae nifer y plant a phobl ifanc sy'n defnyddio fêps yn destun pryder a gwyddom fod y cynhyrchion hyn yn cael eu targedu at blant drwy'r ystod helaeth o flasau a phecynnau lliwgar.
Gweithiodd pob un o'r 4 llywodraeth yn y DU ar y cyd ar Ddeddf Tybaco a Fêps 2026 i fynd i'r afael â'r cynhyrchion hyn.
Prif feysydd y Ddeddf yw:
- Creu cenhedlaeth ddi-fwg drwy newid yr oedran gwerthu ar gyfer cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol a phapurau sigaréts.
- Cyfyngu ar farchnata a hyrwyddo cynhyrchion fepio a nicotin i'w hatal rhag apelio'n fwriadol at blant. Yn ddiweddar, fe wnaethom ymgynghori ar gynigion ynghylch pecynnu, ymddangosiad dyfeisiau ac arddangosfeydd manwerthu, a bydd gwaharddiad ar hysbysebu a nawdd ar gyfer cynhyrchion fepio a nicotin yn dechrau ar 1 Mehefin 2027.
- Sicrhau oedran gwerthu o 18 oed ar gyfer yr holl gynhyrchion fepio a nicotin, gan gynnwys cynhyrchion fel codenni nicotin a fêps heb nicotin. Daeth y mesurau hyn i rym ar 29 Hydref 2026. Darllenwch y canllawiau ar werthu cynhyrchion fepio a nicotin.
- Gwahardd peiriannau gwerthu ar gyfer fêps, cynhyrchion nicotin, cynhyrchion smygu llysieuol a phapurau sigaréts. Daeth y mesurau hyn i rym ar 29 Hydref 2026. Darllenwch y canllawiau ar y gwaharddiad ar beiriannau gwerthu cynhyrchion tybaco a chynhyrchion fepio.
- Ehangu cyfyngiadau di-fwg, gyda phwerau i ehangu'r ardaloedd di-fwg presennol a chreu mannau di-fêps a di-dybaco a gynhesir.
- Cyflwyno pwerau trwyddedu manwerthwyr, gan alluogi cynllun sy'n ei gwneud yn ofynnol i fanwerthwyr gael trwydded cyn gwerthu cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol, papurau sigaréts, cynhyrchion fepio neu gynhyrchion nicotin.
- Cryfhau gorfodaeth, gan gynnwys codi lefel y dirwyon a galluogi rhoi dirwyon yn y fan a'r lle. Daeth y mesurau hyn i rym ar 29 Hydref 2026. Darllenwch y canllawiau ar hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer cynhyrchion tybaco, fepio a nicotin.
Y Genhedlaeth Ddi-fwg: Beth yw'r gyfraith newydd ar dybaco?
O 1 Ionawr 2027 ymlaen, bydd deddf newydd yn ei gwneud yn anghyfreithlon i siopau a manwerthwyr eraill yn y DU werthu cynhyrchion tybaco i unrhyw un a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009.
Mae'r gyfraith hon yn rhan o Ddeddf Tybaco a Fêps 2026 a bydd yn helpu i greu cenhedlaeth ddi-fwg gyntaf y DU.
Beth sy'n newid o dan y ddeddf newydd?
Ar hyn o bryd, gall manwerthwyr ledled y DU werthu sigaréts a chynhyrchion tybaco eraill yn gyfreithlon i unrhyw un sy'n 18 oed neu'n hŷn.
O 1 Ionawr 2027, bydd hyn yn newid. Bydd y gyfraith oedran gwerthu newydd yn ei gwneud hi'n anghyfreithlon gwerthu cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol neu bapurau sigaréts i unrhyw un a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009, hyd yn oed ar ôl iddynt gael eu pen-blwydd yn 18 oed.
Bydd hefyd yn drosedd i unrhyw un 18 oed neu hŷn brynu'r cynhyrchion hyn ar ran rhywun a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009.
Mae hyn yn golygu, yn y DU, na fydd byth yn gyfreithlon gwerthu tybaco i unrhyw un a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009, nawr nac ar unrhyw adeg yn y dyfodol, gan greu cenhedlaeth ddi-fwg gyntaf y DU.
Bydd y gyfraith hon yn berthnasol i’r canlynol:
- pob cynnyrch tybaco, gan gynnwys:
- sigaréts
- tybaco rholio â llaw
- sigârs
- sigarilos
- tybaco pib
- tybaco pib ddŵr, fel shisha
- tybaco trwyn, a elwir yn gyffredin yn snisin “snuff”
- tybaco cnoi
- tybaco wedi'i gynhesu
- blyntiau tybaco
- cynhyrchion smygu llysieuol, gan gynnwys:
- blyntiau llysieuol
- sigaréts llysieuol
- shisha llysieuol
- papurau sigaréts
Pam mae'r Llywodraeth yn gwneud y newid hwn?
Y nod yw amddiffyn cenedlaethau'r dyfodol rhag niwed smygu.
Mae tua 83% o smygwyr yn dechrau smygu yn eu harddegau. Mae dechrau'n ifanc yn ei gwneud hi'n haws dod yn gaeth i nicotin ac yn llawer anoddach rhoi'r gorau iddi yn nes ymlaen mewn bywyd.
Drwy atal pobl ifanc rhag dechrau smygu, nod y gyfraith newydd yw creu'r genhedlaeth gyntaf ddi-fwg a lleihau nifer y canserau a marwolaethau sy'n gysylltiedig â smygu yn y dyfodol.
Mae dibyniaeth ar smygu yn arwain at ganlyniadau dinistriol. Yng Nghymru, mae dros 3,800 o bobl yn marw o salwch sy'n gysylltiedig â smygu bob blwyddyn.
Sut y bydd y gyfraith yn cael ei gorfodi?
Bydd swyddogion safonau masnach lleol yn eich awdurdod lleol yn gallu rhoi dirwyon yn y fan a'r lle neu erlyn manwerthwyr sy'n gwerthu:
- tybaco i unrhyw un a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009
- fêps neu gynhyrchion nicotin i unrhyw un o dan 18 oed
Os byddwch yn amau bod rhywun yn gwerthu cynhyrchion tybaco neu gynhyrchion fepio i bobl dan oed, gallwch roi gwybod am hyn drwy:
A yw'r gyfraith oedran gwerthu newydd yn effeithio ar fepio?
Nac ydy, nid yw'r gyfraith newydd ar gyfer pobl a anwyd yn 2009 neu wedi hynny yn berthnasol i fêps neu gynhyrchion nicotin eraill.
Mae'r gyfraith yn berthnasol i gynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol a phapurau sigaréts yn unig.
Felly, bydd siopau yn dal i gael gwerthu fêps y gellir eu hailddefnyddio ac ail-lenwadau hylif i unrhyw un sy'n 18 oed neu'n hŷn.
Rheolau newydd ar gyfer fêps a chynhyrchion nicotin heb eu trwyddedu'n feddygol
Bydd y Ddeddf Tybaco a Fêps ehangach yn cyflwyno rheolau newydd ar gyfer fêps a chynhyrchion nicotin eraill fel codenni nicotin.
Nid yw'r rheolau newydd yn berthnasol i gynhyrchion sydd wedi'u trwyddedu fel meddyginiaethau, fel therapïau disodli nicotin sydd ar gael drwy ein gwasanaeth rhoi'r gorau i smygu Helpa Fi i Stopio.
O 29 Hydref 2026, mae'r Ddeddf Tybaco a Fêps:
- yn ei gwneud hi'n anghyfreithlon gwerthu unrhyw gynhyrchion fêps neu nicotin i unrhyw un o dan 18 oed. Mae hefyd yn anghyfreithlon i unrhyw un 18 oed neu hŷn brynu'r cynhyrchion hyn ar ran rhywun o dan 18 oed
- yn gwahardd busnesau rhag rhoi cynhyrchion fêps neu nicotin am ddim
- yn gwahardd peiriannau gwerthu cynhyrchion fêps a nicotin (ac eithrio mewn ysbytai iechyd meddwl oedolion yng Nghymru a Lloegr)
Mae canllawiau ar gynhyrchion tybaco, fepio a nicotin ar gael ar LLYW.CYMRU.
Bydd gwaharddiad cynhwysfawr ar hysbysebu a nawdd ar gyfer cynhyrchion fepio a nicotin yn dechrau o 1 Mehefin 2027.
Sut bydd Deddf Tybaco a Fêps 2026 yn effeithio arnaf i?
Dw i’n smygu a chefais fy ngeni cyn 1 Ionawr 2009. Beth mae hyn yn ei olygu i mi?
Bydd siopau yn gallu parhau i werthu sigaréts a chynhyrchion tybaco i chi. Fodd bynnag, efallai y bydd manwerthwyr yn dal i ofyn i chi ddangos prawf o'ch oedran cyn eu gwerthu i chi.
Cefais fy ngeni ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009. Beth fydd yn digwydd os byddaf yn ceisio prynu tybaco?
Ni fydd siopau yn y DU byth yn gallu gwerthu sigaréts neu gynhyrchion tybaco eraill i chi.
Bydd hefyd yn anghyfreithlon i rywun dros 18 oed brynu tybaco i chi.
Dw i’n fepio. Beth mae hyn yn ei olygu i mi?
Bydd siopau yn dal i allu gwerthu fêps y gellir eu hailddefnyddio a hylifau ail-lenwi i bobl 18 oed neu hŷn.
Mae fepio yn llai niweidiol na smygu a gall helpu oedolion i roi'r gorau i smygu. Os ydych chi'n defnyddio fêps i roi'r gorau i smygu, ceisiwch roi'r gorau i fepio dim ond pan fyddwch chi'n teimlo'n barod ac yn hyderus na fyddwch chi'n dechrau smygu eto.
Fodd bynnag, nid yw fêps yn ddi-niwed, mae nicotin yn gaethiwus iawn ac nid ydym eto yn gwybod effeithiau iechyd hirdymor fepio.
Os nad ydych chi'n smygu, peidiwch â fepio.
Dydw i ddim yn smygu nac yn fepio. Beth mae hyn yn ei olygu i mi?
Os nad ydych chi'n smygu ac nad ydych chi'n defnyddio fêps, ni fydd y ddeddfwriaeth newydd yn cael effaith uniongyrchol arnoch chi, ond gall effeithio ar eich plant neu aelodau eraill o'r teulu.
Cael cymorth i roi'r gorau i smygu neu fepio
Mae cymorth am ddim ar gael gan y GIG yn Helpa Fi i Stopio i helpu unigolion (gan gynnwys pobl ifanc) i roi'r gorau i smygu neu fepio am byth.
Er mwyn cefnogi ysgolion i fynd i'r afael â'r defnydd o fêps, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi gwybodaeth a chanllawiau ar gyfer dysgwyr oedran ysgol uwchradd, sy'n darparu gwybodaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth am sut y gall ysgolion ymateb a helpu i fynd i'r afael â fepio.
Mae pecyn cymorth o adnoddau hefyd wedi'i ddatblygu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi athrawon.
Mae canllaw i rieni a gofalwyr gan Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd ar gael.
