Nod y gwerthusiad oedd adolygu cynllun a dull gweithredu'r Warant i Bobl Ifanc yng ngoleuni ei bwriad strategol a'r deilliannau arfaethedig. Dyma'r adroddiad terfynol ar y gwerthusiad.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Nod y Warant i Bobl Ifanc yw cynnig cymorth i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, dod o hyd i swydd neu fynd yn hunangyflogedig. Mae'r Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid yn ategu'r Warant. Ei nod yw helpu i ddod o hyd yn gynnar i'r bobl ifanc hynny rhwng 11 ac 18 oed sydd mewn perygl o'u cael eu hunain heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET), a chynnig mathau priodol o gymorth.
Roedd y gwerthusiad yn cynnwys adolygiadau o ffynonellau eilaidd, megis gwybodaeth reoli gwasanaethau a rhaglenni perthnasol ynghyd â gwerthusiadau ohonynt, ac ymchwil ansoddol ymhlith rhanddeiliaid a phobl ifanc yng Nghymru.
Cyflwynir canfyddiadau ynghylch:
- cynllun a dull gweithredu'r Warant i Bobl Ifanc
- profiadau pobl ifanc o gyfnodau pontio ym meysydd addysg, cyflogaeth a hyfforddiant
Trafodir goblygiadau polisi. Mae hyn yn cynnwys ystyried dulliau o ymgysylltu â phobl ifanc mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant a gwasanaethau cymorth cysylltiedig sy'n seiliedig ar dystiolaeth o'i gymharu â dulliau sy'n seiliedig ar arbrofi, a'r angen am ddull system gyfan a gweithio traws-adrannol a thraws-lywodraethol.
Adroddiadau
Y Warant i Bobl Ifanc: gwerthusiad proses , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 5 MB
Y Warant i Bobl Ifanc: gwerthusiad proses (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 668 KB
Y Warant i Bobl Ifanc: gwerthusiad proses (atodiadau) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Y Warant i Bobl Ifanc gwerthusiad proses: crynodeb i bobl ifanc , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MB
Cyswllt
Dr Lydia Lewis
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
