Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Adolygiad Cyflym o Dystiolaeth hwn yn edrych ar ffordd o feddwl ac ymddygiad pobl ifanc a'r 'hyn sy'n gweithio' o ran cefnogi pobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant.

Mae'r Adolygiad Cyflym o'r Dystiolaeth yn cyfrannu at y sylfaen dystiolaeth sy'n sail i'r Warant i Bobl Ifanc, sef ymrwymiad allweddol Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth i bawb rhwng 16 a 24 oed sy'n byw yng Nghymru i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, cael gwaith neu fynd yn hunangyflogedig. Mae'r adolygiad hefyd yn ategu'r gwaith parhaus i Asesu Gwerthusadwyedd a Gwerthuso Prosesau'r Warant.

Mae'r Adolygiad Cyflym o'r Dystiolaeth yn cynnwys dau adroddiad.

Cynorthwyo pobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant i gyflawni eu nodau: syniadau ac ymddygiad pobl ifanc

Mae Adroddiad Un yn canolbwyntio ar y nodweddion sy'n gysylltiedig â risg uwch o ymddieithrio o gyflogaeth, addysg a hyfforddiant, ac mae'n ystyried sut y gall y nodweddion hyn greu rhwystrau yn y tri maes.

Adolygiad Cyflym o'r Dystiolaeth: cynorthwyo pobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant i gyflawni eu nodau: beth sy'n gweithio

Nod Adroddiad Dau yw sicrhau bod y Warant i Bobl Ifanc yn cael ei llywio gan y dystiolaeth orau sydd ar gael o'r hyn sy'n gweithio wrth gefnogi pobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant.

Adroddiadau

Cynorthwyo pobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant i gyflawni eu nodau: syniadau ac ymddygiad pobl ifanc , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Adolygiad Cyflym o'r Dystiolaeth: cynorthwyo pobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant i gyflawni eu nodau: beth sy'n gweithio , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Adolygiad Cyflym o'r Dystiolaeth: cynorthwyo pobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 791 KB

PDF
791 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Dr Jacqueline Aneen Campbell

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.