Neidio i'r prif gynnwy

Esboniad o’r Broses Adolygu Achosion

Gellir cynnal adolygiadau mewnol o achosion mewn dwy sefyllfa:

  1. Achosion Parhaus: Lle rydym yn ymwneud ag achos ac y bu marwolaeth neu ddigwyddiad o bwys o ganlyniad i drais, camdriniaeth, esgeulustod, neu hunanladdiad, neu ei bod hi'n ymddangos felly. Mae hyn yn berthnasol i blant sy'n destun cais neu oedolion sy'n bartïon yn yr achos.
  2. Achosion sydd Wedi’i Cau: Lle rydym yn cael gwybod am farwolaeth neu ddigwyddiad o bwys sy'n gysylltiedig ag achos blaenorol mewn llys teulu.

Os byddwn yn gwybod o'r dechrau y bydd Adolygiad Diogelu Unedig Sengl yn cael ei gynnal, byddwn yn dilyn y broses honno. Fodd bynnag, byddwn hefyd yn cynnal adolygiad cyflym ac yn creu llinell amser i benderfynu a oes angen cynnal adolygiad achos mewnol llawn.

Mae'n bosibl y bydd yr adroddiad terfynol ar yr ymchwiliad yn cael ei rannu â phrosesau adolygu allanol ffurfiol, fel:

  • Adolygiadau Diogelu Unedig Sengl (Cymru)
  • Adolygiadau Achos Difrifol (Lloegr)

Y Diben a’r Broses

Diben yr adolygiad yw:

  • Meithrin dealltwriaeth well o’r hyn a ddigwyddodd
  • Asesu effaith ein cyfranogiad
  • Nodi cyfleoedd dysgu
  • Datblygu cynllun gweithredu er mwyn gwella

Y Prif Swyddog Gweithredol neu’r Dirprwy Brif Weithredwr fydd yn gwneud y penderfyniad i ddechrau adolygiad, naill ai:

  • Yn dilyn hysbysiad o farwolaeth, ar ôl i'r achos ddod i ben, neu
  • Drwy ymgynghori â Phennaeth Gweithrediadau'r Ardal lle digwyddodd y farwolaeth yn ystod yr achos.

Bydd Pennaeth Gweithrediadau'r Ardal yn rhoi gwybod i'r ymarferydd a'r Rheolwr Ymarfer perthnasol, a fydd yn sicrhau bod cymorth priodol yn cael ei gynnig. Gall hyn gynnwys:

  • Atgyfeiriadau at y Rhaglen Cymorth i Gyflogeion (EAP) Cafcass Cymru Tudalen 2 o 3 Y Weithdrefn Adolygu Achosion (F1 Awst 2025)
  • Cyfarfodydd cymorth rheolaidd 

Caiff yr anghenion cymorth eu trafod a chytunir arnynt ar y cyd â'r ymarferydd / ymarferwyr dan sylw.

Y Broses Adolygu

Dylai'r adolygiad gael ei arwain gan Bennaeth Gweithrediadau nad yw'n rhan o'r ardal weithredol sy'n rheoli'r achos. Dylai'r adolygydd gasglu gwybodaeth drwy wneud y canlynol:

  • Adolygu’r ffeil achos electronig
  • Siarad â'r ymarferydd, ei Reolwr Ymarfer, a'r Pennaeth Gweithrediadau
  • Ystyried unrhyw ddogfennaeth weithdrefnol a dogfennaeth ymarfer fewnol ac allanol berthnasol
  • Ystyried canllawiau statudol LlC

Dylai’r adroddiad adolygu gynnwys y canlynol:

  • Hanes cefndirol, gan gynnwys y canlynol:
    • Manylion y plentyn / plant dan sylw
    • Ceisiadau gerbron y llys
  • Crynodeb o’r digwyddiad a arweiniodd at yr adolygiad.
  • Yr ymchwiliadau a gynhaliwyd.
  • Cronoleg o wybodaeth allweddol a chyfranogiad Cafcass Cymru, gan gynnwys y canlynol:
    • Risgiau a nodwyd
    • Ffactorau sy’n golygu bod y teulu ac unigolion yn agored i niwed
    • Cyswllt ag asiantaethau / gweithwyr proffesiynol eraill
  • Prosesau ar gyfer gwneud penderfyniadau a chymorth gan reolwyr llinell.
  • Casgliadau. Dylai'r rhain ganolbwyntio ar nodi unrhyw faterion gweithdrefnol a materion ymarfer er mwyn llywio ein proses ddysgu a datblygu barhaus.

Tryloywder ac Anghydfodau

Dylid rhannu'r adroddiad adolygu â'r ymarferydd, y Rheolwr Ymarfer, a'r Pennaeth Gweithrediadau er mwyn iddynt ei adolygu a chytuno ei fod yn gywir a chytuno ar y pwyntiau dysgu. Os bydd unrhyw anghytuno, dylid gwneud y canlynol:

  1. Codi'r pryderon ag awdur yr adroddiad er mwyn eu datrys.
  2. Os na chânt eu datrys, dylid eu huwchgyfeirio at y Dirprwy Brif Weithredwr i'w hadolygu ac i wneud penderfyniad yn eu cylch.
  3. Os na chaiff yr anghydfod ei ddatrys o hyd, gellir dilyn gweithdrefnau cwynion Llywodraeth Cymru.

Canlyniadau

Lle nodir gwersi i'w dysgu, caiff themâu'r adolygiad eu trafod yn un o gyfarfodydd yr Uwch Dîm Arwain. Bydd y Tîm Datblygu Ymarfer yn cytuno ar gynllun gweithredu ac yn ei oruchwylio, a bydd yn monitro ac yn adolygu'r cynnydd a wneir.