Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae'r Senedd wedi cymeradwyo deddfwriaeth i ostwng y terfyn cyflymder cenedlaethol diofyn ar ffyrdd preswyl a strydoedd prysur i gerddwyr o 30mya i 20mya.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i wneud hyn - gan helpu i achub bywydau, datblygu cymunedau mwy diogel, gwella ansawdd bywyd ac annog mwy o bobl i wneud dewisiadau teithio mwy cynaliadwy a llesol. 

Mae'r terfynau cyflymder arafach newydd yn cael eu treialu ar hyn o bryd mewn wyth cymuned ledled Cymru a chânt eu cyflwyno'n genedlaethol ym mis Medi 2023. 

Ni fydd y ddeddfwriaeth newydd yn gosod terfyn cyflymder cyffredinol ar bob ffordd, ond bydd yn gwneud terfyn diofyn o 20mya, gan adael i awdurdodau lleol, sy'n adnabod eu hardal orau, i gysylltu â'r gymuned leol i benderfynu pa ffyrdd ddylai aros ar 30mya. 

Ar hyn o bryd, dim ond 2.5% o ffyrdd Cymru sydd â therfyn cyflymder o 20mya, ond o'r flwyddyn nesaf disgwylir i hyn gynyddu i tua 35%, gan helpu i greu ffyrdd a chymunedau mwy diogel ledled Cymru. 

Wrth siarad ar ôl y bleidlais, dywedodd Julie James, y Gweinidog dros y Newid yn yr Hinsawdd: 

Rwy'n falch iawn bod y newid i 20mya wedi derbyn cefnogaeth trawsbleidiol ar draws Senedd Cymru heddiw. 

Mae'r dystiolaeth yn glir, mae lleihau cyflymder nid yn unig yn lleihau damweiniau ac yn achub bywydau, ond yn helpu i wella ansawdd bywyd pobl - gan wneud ein strydoedd a'n cymunedau yn lleoedd mwy diogel a chroesawgar i feicwyr a cherddwyr, tra'n helpu i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd. 

Rydym yn gwybod na fydd y newid hwn yn hawdd – mae'n ymwneud cymaint â newid calonnau a meddyliau ag y mae'n ymwneud â gorfodi – ond dros amser bydd 20mya yn dod yn norm, yn union fel y cyfyngiadau rydym wedi'u cyflwyno o'r blaen ar daliadau am fagiau siopa a rhoi organau. 

Unwaith eto, mae Cymru'n arwain y ffordd i wledydd eraill y DU.