Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae hwn yn ychwanegiad at yr asesiad effaith integredig strategol, a gyhoeddwyd yn wreiddiol fel rhan o Gyllideb ddrafft 2023-2024 ym mis Rhagfyr 2022. Mae'n nodi cyd-destun, dull ac effaith newidiadau yn ystod y flwyddyn i gynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar 17 Hydref 2023 i reoli pwysau ariannol eithafol a achoswyd gan chwyddiant parhaus uchel, effaith mwy na degawd o gyni ar wasanaethau cyhoeddus, a chanlyniadau parhaus Brexit.

Y cyd-destun strategol

Pan gyhoeddwyd ein Cyllideb ar gyfer 2023-2024, er ei bod yn un o'r rhai anoddaf ers datganoli, bu inni fanteisio ar yr holl adnoddau a oedd ar gael i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus a darparu cymorth wedi'i dargedu i bobl a busnesau a oedd â'r angen mwyaf yn wyneb yr argyfwng costau byw.

Ers pennu'r cynlluniau gwario hyn, rydym wedi gweld lefelau hir o chwyddiant uchel ynghyd â heriau parhaus yn y cyd-destun cyllidol, yn enwedig mewn meysydd megis tâl y sector cyhoeddus. Yn ogystal, mae'r argyfwng costau byw, sydd wedi effeithio'n anghymesur ar bobl ag incwm is, wedi cynyddu'r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus.

Bydd datblygiadau economaidd yn cael eu hadolygu'n llawnach yn Adroddiad y Prif Economegydd, a gyhoeddir ochr yn ochr â Chyllideb ddrafft 2024-2025 ar 19 Rhagfyr 2023.

O ganlyniad, yn gyffredinol, rydym yn gorfod gwario mwy na'r hyn yr oeddem yn bwriadu ei wario yn flaenorol yn 2023-24, gan roi pwysau digynsail ar Gyllideb ddatganoledig Cymru. Cyhoeddodd y Prif Weinidog ddatganiad ysgrifenedig ar 9 Awst 2023. Yn y datganiad hwnnw dywedodd y  byddai gwaith yn digwydd dros fisoedd yr haf i fynd i'r afael ag effaith y ffaith bod ein cyllideb yn werth rhyw £900 miliwn yn llai na phan gafodd ei phennu yn 2021.

Yn wahanol i Lywodraeth y DU, mae Llywodraeth Cymru wedi'i chyfyngu'n fawr gan y gofyniad i wario o fewn y terfynau a bennir gan Drysorlys EF a chyfyngiadau ar ein gallu i gronni a thynnu ar gronfeydd wrth gefn, benthyca neu gynyddu refeniw trethi. Er mwyn delio â'r pwysau sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru eleni, yn enwedig y GIG a'r rheilffyrdd, rydym yn gorfod ailddyrannu cyllid i'r meysydd gwario hyn. Mae hyn yn golygu gwario llai mewn rhai meysydd. Wrth wneud hynny, rydym wedi osgoi'r angen i godi trethi ychwanegol yn 2023-24. Rydym wedi cymryd camau darbodus drwy ailedrych ar gynlluniau gwario ar gyfer 2023-24, i'n galluogi i gydbwyso ein dyletswydd o reolaeth gyllidol gadarn ac ymrwymiad y llywodraeth hon i barhau i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus craidd a thargedu cymorth i'r rhai sydd â'r angen mwyaf.

Rydym wedi gwneud y dewisiadau hyn yn awr i atal penderfyniadau anoddach byth yng Nghyllideb 2024-25, pan fydd y pwysau ariannol yn debygol o fod yn waeth.

Amddiffyn y GIG

Mae'r her ariannol i'r GIG, sy'n gyffredin i holl ardaloedd y DU, yn ymwneud â nifer o ffactorau sylweddol:

  • yr her o ran rheoli costau uwch ar ôl y pandemig, lle mae gwasanaethau newydd bellach yn bodoli, a lle mae lefelau staffio a chapasiti gwelyau wedi cynyddu.
  • pwysau chwyddiant ar draws pob maes, sydd y tu allan i reolaeth y byrddau iechyd - er enghraifft, tâl; chwyddiant sy'n ymwneud â thâl a chwyddiant nad yw'n ymwneud â thâl, gan gynnwys costau meddyginiaethau a chostau cynyddol pecynnau gofal.
  • galw cynyddol.

O ganlyniad i'r newidiadau i gynlluniau gwario a gyhoeddwyd ar 17 Hydref 2023, rydym wedi llwyddo i ddyrannu £425m yn ychwanegol yn 2023-24 i'r GIG. Nid oes unrhyw doriadau i gyllidebau'r byrddau iechyd. Ond bydd hyn yn dal i olygu dewisiadau anodd yn ystod y flwyddyn a'r flwyddyn nesaf i'r MEG Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r GIG.

Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wddatganiad ysgrifenedig ar 8 Tachwedd 2023 yn nodi sut y byddai'r cyllid ychwanegol yn cael ei ddyrannu a'r cyfansymiau rheoli targed newydd sydd wedi'u pennu i'r byrddau iechyd. Cadarnhaodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y caiff y cyllid ei ddarparu i sefydliadau i gefnogi ymrwymiadau'r dyfarniad cyflog y cytunwyd arnynt a helpu i reoli'r heriau y mae'r GIG yn eu hwynebu.

Bydd hefyd yn ofynnol i bob bwrdd iechyd leihau 10% ar ei ddiffyg cynlluniedig. Er mwyn cyflawni'r gostyngiadau ychwanegol hyn mewn diffygion, mae sefydliadau'r GIG wedi ymgysylltu ag arweinwyr gwasanaethau, staff clinigol a'u byrddau i ystyried ystod o opsiynau posibl. Maent wedi nodi'r egwyddorion arweiniol canlynol i lywio'r gwaith hwn:

  • Sicrhau y caiff cyn lleied o niwed â phosibl ei achosi i gleifion – bydd triniaeth canser a gofal brys a gofal mewn sefyllfaoedd lle mae bywyd yn y fantol yn parhau.
  • Dylai unrhyw ymyrraeth fod yn gosteffeithiol yn glinigol, ac yn seiliedig ar dystiolaeth.
  • Ni fyddai cynigion yn cael eu cefnogi lle mae potensial am effaith ddifrifol i brofiad y claf.
  • Ceisio gwneud penderfyniadau cenedlaethol cyson ar feysydd polisi allweddol lle bo'n briodol, er enghraifft cyflwyno gwahanol fecanweithiau codi tâl, newidiadau i ddeddfwriaeth.
  • Ceisio cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar negeseuon cenedlaethol cyson gyda rhanddeiliaid a'r cyhoedd.
  • Cydnabod yr effaith y bydd lleihau gwariant yn y tymor byr yn ei chael ar flaenoriaethau, targedau ac ymrwymiadau'r Gweinidogion.

Mae tua 75% o wariant y GIG yn wariant ar feddyginiaethau a rhagnodi a phecynnau gofal. Mae'r rhan fwyaf o weddill gwariant y GIG yn ymwneud â darparu gwasanaethau craidd a seilwaith, gan gynnwys costau ynni, bwyd a darpariaethau a gwasanaethau contractio gan ddarparwyr eraill. Mae'n anochel y bydd camau i leihau costau yn effeithio ar y meysydd hyn – po fwyaf yw'r toriadau y mae eu hangen, mwyaf yn y byd o effaith y bydd ei hangen yn y meysydd hyn. Heb y £425m yn ychwanegol i gefnogi gwasanaethau rheng flaen y GIG, byddai graddfa ac ehangder y toriadau yn llawer dyfnach.

Heb y cyllid ychwanegol hwn, byddai lefel y gostyngiad mewn costau y mae ei angen i fynd i'r afael â'r diffyg a ragwelir wedi bod yn sylweddol iawn, gydag effeithiau difrifol posibl ar wasanaethau rheng flaen, gofal cleifion, mynediad a thargedau perfformiad. Mae darparu cyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn ar gyfer y GIG yn ein galluogi i wrthbwyso'r effeithiau mwyaf difrifol ar draws pob rhan o Gymru a darparu amddiffyniad i bob claf, gan gynnwys plant a phobl anabl ac agored i niwed.

Wrth ystyried opsiynau i fynd i'r afael â'r diffyg a ragwelir, ystyriodd y GIG ystod o gamau gweithredu posibl. Nodwyd bod llawer ohonynt yn risg uchel, o gofio eu capasiti a'u heffaith weithredol; gan gynnwys yr effaith sylweddol debygol ar y gallu i gyflawni targedau rhestrau aros ac, er enghraifft, leihau amseroedd aros ar gyfer canser. Bydd angen i'r byrddau iechyd gymryd camau o hyd i leihau gwariant a rheoli'r diffygion targed yr ydym wedi'u nodi, ond rydym wedi cyhoeddi'r cyllid ychwanegol i liniaru a lleihau unrhyw effeithiau.

Bydd pob penderfyniad gan y byrddau iechyd yn destun asesiadau o'r effaith ar ansawdd, penderfyniadau ar gydbwysedd risg ac ymgynghoriadau posibl, os bydd penderfyniadau'n effeithio ar newid i wasanaethau. Mae pob bwrdd iechyd yn wynebu heriau gwahanol o safbwynt angen y boblogaeth a chyfluniad gwasanaethau. Bydd y camau a gymerir i reoli pwysau costau yn amrywio yn ôl sefydliad a byddant yn destun penderfyniad lleol.

Diogelu trafnidiaeth rheilffyrdd

O ganlyniad i'r newidiadau i'n cynlluniau gwario ar gyfer 2023-2024, a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar 17 Hydref, rydym wedi cynyddu £125m ar gyllid y MEG Newid Hinsawdd ar gyfer Trafnidiaeth Cymru (TrC). Bydd hyn yn ein galluogi i gynnal gweithrediadau rheilffyrdd ledled Cymru.

Nododd Trafnidiaeth Cymru yn ei chynllun busnes y byddai angen cyllid ychwanegol i barhau i weithredu gwasanaethau rheilffyrdd a chyflwyno trenau newydd. Heb y cyllid ychwanegol, ni fyddai Trafnidiaeth Cymru wedi gallu parhau i weithredu ei holl wasanaethau rheilffyrdd a byddai swyddi wedi bod mewn perygl. Rydym yn parhau i weithio gyda Thrafnidiaeth Cymru wneud arbedion a lleihau'r bwlch rhwng incwm a chostau. Rydym wedi herio Trafnidiaeth Cymru i gau'r bwlch cyn gynted â phosibl.

Mae'r bwlch yng nghyllideb refeniw Trafnidiaeth Cymru wedi'i achosi gan yr effaith barhaus y mae'r pandemig wedi'i chael ar yr amcanestyniadau refeniw uchelgeisiol o gais gwreiddiol KeolisAmey yn 2018. Mae rhai costau gweithredol wedi cynyddu o ganlyniad i  chwyddiant. Roedd llawer o'r costau hyn yn hysbys o'r cychwyn cyntaf, ond ni fu modd eu gwrthbwyso gan fod y pandemig wedi arwain at dair blynedd o ddiffyg twf mewn refeniw teithwyr. Mae incwm o refeniw teithwyr wedi'i adfer i'r lefel wreiddiol cyn y pandemig ac rydym yn gweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru i sicrhau'r twf y mae ei angen mewn teithwyr i leihau cymhorthdal yn y dyfodol.

Rydym wedi buddsoddi llawer mwy o gyllid yn y rheilffyrdd nag o dan y system fasnachfraint flaenorol. Gwelir manteision y dull hwn yn y trenau newydd ar draws ardal Cymru a'r Gororau, yn y trawsnewidiad gwerth £1bn i Linellau Craidd y Cymoedd ac mewn gwasanaethau ychwanegol ac amlach.

Byddai'r buddsoddiadau sylweddol sydd eisoes wedi'u gwneud yn y rheilffyrdd ledled Cymru wedi cael eu peryglu heb y cyllid ychwanegol a ddarparwyd yn y cynlluniau gwario diwygiedig. Bydd y pecyn buddsoddi ehangach hefyd yn helpu i gynyddu'r galw a chynyddu incwm refeniw yn sylweddol dros y blynyddoedd i ddod. 

Diogelu llywodraeth leol

Rydym wedi diogelu grant cynnal refeniw llywodraeth leol (RSG), sy'n darparu cyllid craidd ar gyfer yr awdurdodau lleol drwy setliad llywodraeth leol.

Mae'r awdurdodau lleol yn darparu ystod eang o wasanaethau cyhoeddus, yn aml i'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas neu'r rhai sydd o dan anfantais economaidd. Mae'r rhain yn cynnwys gwasanaethau sylweddol i blant, drwy addysg a gwasanaethau cymdeithasol ac ystod eang o wasanaethau i oedolion a allai fod yn wynebu heriau yn eu bywydau bob dydd, trwy wasanaethau cymdeithasol, cymorth tai a gwasanaethau cymunedol eraill. Mae 66% o adnoddau'r awdurdodau lleol yn cael eu neilltuo ar gyfer addysg a gwasanaethau cymdeithasol.

Gan gydnabod yr angen i wneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu'r gwasanaethau pwysig hyn a ddarperir gan yr awdurdodau lleol, rydym wedi cynnal y lefel bresennol o gyllid drwy'r RSG fel y nodir yn ein cynlluniau gwariant gwreiddiol yn 2023-2024.

Mae'r awdurdodau lleol yn wynebu pwysau ariannol digynsail tebyg i rai Llywodraeth Cymru – sef chwyddiant cyson uchel, pwysau cyflog, prisiau ynni uchel a galw cynyddol am wasanaethau. Mae cynnal y lefel gynlluniedig o gyllid craidd trwy'r RSG yn cefnogi'r awdurdodau lleol â'r hyblygrwydd angenrheidiol i flaenoriaethu anghenion lleol yn seiliedig ar wybodaeth leol. Wrth wneud penderfyniadau lleol i adlewyrchu anghenion lleol, bydd angen i'r awdurdodau ystyried effeithiau eu dewisiadau o dan y gofyniad statudol sy'n ymwneud â llywodraeth leol.

Dull o flaenoriaethu ar draws gwasanaethau cyhoeddus

Ein dull gweithredu wrth wneud newidiadau i gynlluniau gwario 2023-24 i asesu effeithiau strategol a chronnol dewisiadau a gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod y penderfyniadau a wnawn yn lleihau'r effaith anghymesur ar unrhyw un grŵp neu ardal benodol, helpu i nodi cyfleoedd i sicrhau'r effeithiau cadarnhaol mwyaf posibl; a lleihau anghydraddoldebau ar draws ein cymdeithas.

Mae ymgymryd â'r dull gweithredu integredig hwn o asesu effeithiau yn ein galluogi i ystyried ein gofynion statudol ac anstatudol yn well, yn benodol:

  • Deddf Cydraddoldeb 2010
  • Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
  • y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol
  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
  • iechyd, cyfiawnder
  • asesiad amgylcheddol
  • bioamrywiaeth
  • prawfesur polisïau o safbwynt anghenion cefn gwlad a'r Gymraeg.

Rydym yn gorfod ymateb i gyd-destun sy'n datblygu'n gyflym wrth i'r flwyddyn ariannol hon barhau, a bydd ein penderfyniadau yn y dyfodol yn adeiladu ar y darlun esblygol o effeithiau. Er hynny, rydym yn credu ei bod yn bwysig bod yn dryloyw ynghylch yr ystyriaethau sy'n gysylltiedig â'r penderfyniadau anodd y mae eu hangen drwy'r adolygiad hwn o'n cynlluniau gwario ar gyfer 2023-2024.
 
O gofio'r amgylchiadau eithriadol a fu'n sail i ymgymryd â'r gwaith hwn, cyflwynir y dystiolaeth a nodir yn y ddogfen hon ar lefel uchel, gan ganolbwyntio ar y newidiadau mwyaf sylweddol. Mae'r gwaith hwn yn ychwanegiad at yr Asesiad Effaith Integredig Strategol a wnaed ac a gyhoeddwyd yn Atodiad A o Gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-2024.

O'i gymharu â chyllideb flynyddol, cyfle cyfyngedig yn unig sydd ar gyfer newid, o gofio'r hyn y gellir ei gyflawni gydag addasiadau i gynlluniau gwario yn ystod y flwyddyn. Felly, mae'r adroddiad hwn yn gipolwg ar ddiwygiadau i wariant a gynlluniwyd yn achos cyllideb gyffredinol 2023-24, yn hytrach na rhagolwg ar draws cyllideb flynyddol gyfan.

Fel y nodwyd yng Nghyllideb ddrafft 2023-24, mae'r broses hon yn wahanol i Asesiad Effaith Integredig (IIA) Llywodraeth Cymru sy'n asesu'r effeithiau ar lefel prosiect neu bolisi unigol. Mae IIAs yn cael eu cynnal fel mater o drefn ar draws y llywodraeth ac fe'u hystyrir yn ofalus wrth lunio polisi, gan ddylanwadu ar benderfyniadau polisi. Wrth ddod i'r penderfyniadau a amlinellir yn yr adolygiad hwn, defnyddiodd y Gweinidogion dystiolaeth bresennol yr IIA ac ystyried yr effaith gronnol i hwyluso dadansoddiad lefel uchel o'r newidiadau.

Wrth i'r cyd-destun esblygu, byddwn yn parhau i ddatblygu ac ailadrodd ein hasesiad o effeithiau'r dewisiadau hyn, yn ogystal â lliniaru effeithiau negyddol lle bo modd. Byddwn yn cynhyrchu Asesiad Effaith Integredig Strategol o Gyllideb ddrafft 2024-2025 ochr yn ochr â'i chyhoeddi ym mis Rhagfyr 2023, gan ddangos esblygiad yr effeithiau wrth inni bennu ein cynlluniau ar gyfer 2024-2025. Bydd yr holl newidiadau i'n cynlluniau gwario ar gyfer 2023-24 yn cael eu rheoleiddio yn yr ail gyllideb atodol a gyhoeddir ym mis Chwefror 2024 gyda'r holl fanylion yn cael eu darparu yn y Nodyn Esboniadol cysylltiedig.

Asesiad cryno

Mae'r asesiad diwygiedig yr ydym wedi'i gynnal yn adlewyrchu'r ffaith bod buddion gwariant cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru yn canolbwyntio'n bennaf tuag at bobl ar incwm is, pobl hŷn, a phlant a'u teuluoedd - sef yr un grwpiau sydd eisoes wedi eu heffeithio'n andwyol gan y cyd-destun ariannol ehangach presennol. Rydym yn cydnabod bod risg y gallai'r angen i nodi camau i ailddyrannu gwariant effeithio'n anghymesur ar y grwpiau hyn. Cymerwyd camau, felly, i nodi opsiynau i leihau'r effaith ar y grwpiau hyn ac i ystyried mesurau lliniaru lle y nodwyd effeithiau.

Roedd set o egwyddorion clir yn sail i'r gwaith hwn er mwyn sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus craidd yn cael eu diogelu cyn belled â phosibl ac i sicrhau'r budd mwyaf i aelwydydd a gafodd eu bwrw galetaf gan yr argyfwng costau byw presennol. Rhoddwyd ystyriaeth hefyd i bwysigrwydd diogelu swyddi.

Drwy ddefnyddio'r dull gweithredu hwn:

  • Bydd y newidiadau y cytunwyd arnynt yn arwain at gynnydd sylweddol mewn cyllid ar gyfer gwasanaethau'r GIG a rheilffyrdd Cymru a ddarperir gan Drafnidiaeth Cymru.  Rydym hefyd wedi llwyddo i ddiogelu'r Grant Cynnal Refeniw presennol i'r awdurdodau lleol.
  • Mae meysydd gwario eraill wedi gorfod lleihau i gyfrannu at fodloni'r pwysau yr ydym yn eu hwynebu ar sail drawslywodraethol. I'r graddau posibl, mae cyllid wedi'i ryddhau drwy ailragamcanu (er enghraifft oherwydd newidiadau yn y nifer sy'n derbyn gwasanaethau, neu'r galw amdanynt); cynyddu incwm i'r eithaf; ac ailflaenoriaethu gweithgarwch yn hytrach na rhoi'r gorau i raglenni yn eu crynswth. Mae hyn yn lleihau'r effaith uniongyrchol ar grwpiau penodol, ond mewn rhai achosion mae'r dewisiadau hyn yn cynnig cost cyfle wrth ohirio gweithredu.
  • Mae'n anochel y bydd gan rywfaint o gyllid wedi'i ailflaenoriaethu effeithiau negyddol yn ôl pob tebyg. Ym mhob achos, rydym wedi gweithio'n galed i gynnal cyllid ac i gymryd camau lliniaru lle bo modd, a byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i leihau effeithiau.

Fel rhan o'r dull o liniaru effeithiau negyddol yn sgil y newidiadau i gynlluniau gwario  yr ydym yn eu gwneud, rydym wedi:

  • Manteisio i'r eithaf ar ein cronfeydd wrth gefn yn ystod y flwyddyn a chronfeydd wrth gefn Cymru tra'n cynnal lefel ddarbodus o gyllid wrth gefn.
  • Tybio lefel o gyllid canlyniadol ychwanegol eleni oddi wrth Lywodraeth y DU.
  • Cynllunio ar sail newid rhywfaint o gyfalaf i refeniw i liniaru gostyngiadau mewn gwariant refeniw.
  • Gwneud cyfuniad o ailflaenoriaethu refeniw a chyfalaf mewn cyllidebau adrannol (MEGs).

Mae rhai o'r effeithiau sy'n deillio o'r dull hwn yn rhai un tro yn unig, ond bydd gan rai oblygiadau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Byddwn yn gweithio ar y rhain wrth inni ddatblygu Cyllideb ddrafft 2024-2025.

Mae'r ychwanegiad hwn yn crynhoi'r newidiadau yr ydym yn eu gwneud i gynlluniau gwario – gan gwmpasu cyllid wedi'i ailflaenoriaethu, incwm ychwanegol a rhai meysydd gwariant newydd – ac mae'n darparu crynodeb lefel uchel o'r dystiolaeth bresennol mewn perthynas â'r effeithiau.

Ailflaenoriaethu cyllid o ganlyniad i ailragamcanu

Fel sy'n arfer safonol yn y llywodraeth, mae rhagolygon y gyllideb flynyddol ar draws y meysydd gweithgarwch niferus yn seiliedig ar ystod o ragdybiaethau, gan ddefnyddio'r dystiolaeth orau sydd ar gael. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys: 

  • Rhagolygon ar y galw am wasanaethau neu gymorth ariannol a'r defnydd ohonynt.
  • Rhagolygon o incwm disgwyliedig, gan gynnwys o daliadau neu ffrydiau refeniw eraill.

Mewn rhai achosion, efallai na fydd y galwadau am wasanaethau dros y flwyddyn mor fawr â'r hyn a ragwelir, neu gallai ffrydiau incwm fod yn uwch na'r disgwyl. Am y rhesymau hyn a rhesymau rheoli ariannol eraill, gallai llinellau'r gyllideb gael eu hailbroffilio/eu hailflaenoriaethu, ac ochr yn ochr ag incwm ychwanegol gallent fod ar gael ar gyfer cyllid mewn mannau eraill.

Mae gwaith wedi'i wneud ar draws Llywodraeth Cymru i gynhyrchu opsiynau i gefnogi cyflawni cyllideb gytbwys.

Cynnal ein buddsoddiadau presennol

Pan bennwyd ein Cyllideb ar gyfer 2023-2024, amlinellwyd cynlluniau sy'n ceisio sicrhau bod pob punt a fuddsoddir yn cael yr effaith gadarnhaol fwyaf. Er ein bod wedi gweithredu i gynnal ein dyletswydd o reoli cyllidol cadarn, rydym hefyd wedi gweithredu i gynnal y cynlluniau a bennwyd gennym a oedd yn anelu at gydbwyso'r anghenion tymor byr sy'n gysylltiedig â'r argyfwng costau byw parhaus tra'n ceisio parhau i fwrw ymlaen â newid tymor hwy a chyflawni ein huchelgeisiau yn y Rhaglen Lywodraethu.

Mae'r penderfyniadau a amlinellir yma yn cyfrif am lai na 3% o'n cyllideb flynyddol o £20bn. O ganlyniad i'r newidiadau a gyhoeddwyd ar 17 Hydref 2023, rydym wedi lleihau'r effaith ar gyflawni'r Rhaglen Lywodraethu a'n nod cyffredinol o fynd i'r afael â newid hinsawdd. Rydym yn cynnal buddsoddiadau sylweddol gan gynnwys talu cyflog byw cyflog byw gwirioneddol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol, cymorth costau byw i bobl agored i niwed, codi safonau addysg a rhyddhad ardrethi annomestig.

Blaenoriaethu Gwasanaethau Cyhoeddus

Iechyd

Mae pobl hŷn, y bydd nifer sylweddol ohonynt yn fregus ac yn byw â chyflyrau cronig lluosog, yn defnyddio'r GIG yn fwy nag unrhyw grŵp arall o'r boblogaeth. Mae statws economaidd-gymdeithasol yn parhau i ddylanwadu ar ganlyniadau allweddol yng Nghymru. Gall y rhai yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru ddisgwyl byw bywydau hirach ac iachach na'r rhai yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Gwyddys hefyd bod anghydraddoldebau iechyd yn bodoli ar draws nodweddion gwarchodedig gwahanol (fel y'u diffinnir gan y Ddeddf Cydraddoldeb) a grwpiau agored i niwed.

Wrth asesu'r camau y mae eu hangen i fynd i'r afael â'r diffyg a ragwelir yn y GIG, rydym wedi ailgyfeirio cyllid o bob rhan o Lywodraeth Cymru i'r MEG Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (HSS), ailflaenoriaethu cyllid o fewn y MEG HSS a gofyn i'r GIG weithredu i leihau eu diffyg a ragwelir yn gyffredinol. Mae hyn yn golygu y bydd byrddau iechyd yn wynebu rhai penderfyniadau heriol er mwyn lleihau gwariant a rheoli'r diffygion targed yr ydym wedi'u nodi.

Bydd y byrddau iechyd yn gwneud penderfyniadau yn lleol ynghylch arbedion ac asesu unrhyw effeithiau. Gallai'r rhain gynnwys effeithiau posibl ar weithgarwch gofal a gynlluniwyd gan arwain at effeithiau posibl ar amseroedd aros, a fydd yn effeithio ar grwpiau penodol ac a allai arwain hefyd at effeithiau daearyddol yn dibynnu ar sut mae byrddau iechyd unigol yn bwrw ymlaen â chynlluniau i leihau costau.

Er mwyn i gronfeydd gael eu hailflaenoriaethu o fewn MEG Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, rydym wedi cymryd camau i adolygu'r galw ac i ailasesu rhagolygon mewn  llawer o feysydd. Rydym wedi gwneud penderfyniadau i oedi yn achos datblygiadau newydd ac i gamu'n ôl oddi wrth gynlluniau sydd heb ddechrau eto. Bydd hyn yn golygu na fyddwn yn bodloni amcanion a gynlluniwyd mewn rhai meysydd, ond ein bod yn gallu ailgyfeirio cyllid i fodloni'r pwysau uniongyrchol ar y rheng flaen o fewn y GIG. Mae'r dull hwn yn caniatáu inni ryddhau cyllid sydd heb ei ymrwymo i gadw effeithiau uniongyrchol i'r lleiaf posibl.

Mesurau ataliol ym maes iechyd

Rydym wedi adolygu ein cynlluniau gwreiddiol i ddyrannu £30m y gaeaf hwn i wella canlyniadau a chymedroli ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol trwy gynyddu capasiti cymunedol. Bydd y gweithgarwch hwn yn dal i fynd rhagddo ond mae'r cyllid wedi'i leihau i £8.2m. Ni ddyrannwyd y cyllid hwn yn llawn felly mae'r effeithiau'n yn cael ei lleihau. Byddai'r cyllid ychwanegol wedi cynyddu buddion i grwpiau agored i niwed yn y gymuned a chaniatáu i ragor o fesurau atal gael eu cyflwyno a allai leddfu'r pwysau ar wasanaethau brys.

Rydym hefyd yn ailflaenoriaethu cyllid o £3m sydd heb ei ymrwymo o lwybrau atal gyda'r bwriad o gefnogi ehangu capasiti ar gyfer gwasanaethau cymorth atal (megis rheoli pwysau neu roi'r gorau i smygu) i gefnogi'r cynnydd yn y galw yn sgil cyfeirio pobl drwy'r cynnig digidol. Mae hyn ochr yn ochr â rhyddhau cyllid y bwriedir iddo  gefnogi gwaith rheoli rhestrau aros i alluogi unigolion ar restrau aros i gael eu hatgyfeirio at y cynnig digidol. Mae gohirio'r cyllid hwn yn golygu y bydd angen i'r gwaith hwn mynd rhagddo ond yn arafach yn ôl pob tebyg. Mae gan rai byrddau iechyd eu cynigion llesiant neu atal wedi'u targedu eu hunain sy'n gallu helpu i liniaru'r effeithiau.

Diogelu iechyd

Rydym yn rhyddhau £32m o gyllidebau diogelu iechyd. Mae hyn yn cynnwys ailragamcanu nifer o gyllidebau oherwydd achosion a brigiadau o COVID-19 yn ystod y rhan gyntaf o'r flwyddyn, gan arwain at lai o alw am PPE a phrofi, a swyddi gwag mewn timau diogelu iechyd rhanbarthol. Mae ailddyrannu arian hefyd yn adlewyrchu'r gostyngiad mewn gweithgarwch o dan raglen brofi'r DU. Byddwn yn monitro effaith y galw, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf.

Rydym yn cadw lefelau cyllido er mwyn ymateb fel y nodir yn y fframwaith cynllunio ar gyfer feirysau anadlol y Gaeaf, y fframwaith imiwneiddio cenedlaethol a'r cynllun rheoli brigiadau sy'n canolbwyntio ar ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed. Mae brechu wedi bod yn rhan hanfodol o ddarpariaeth GIG Cymru ers amser maith i ddiogelu ein dinasyddion a'n cymunedau ac mae'n chwarae rhan bwysig wrth atal ac ymateb i glefydau difrifol sy'n fwy tebygol o gael effaith andwyol ar y rhai mwyaf agored i niwed gan gynnwys plant, pobl hŷn ac mewn lleoliadau caeedig megis cartrefi gofal. Gan gydnabod risgiau gaeaf heriol byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r timau diogelu iechyd cenedlaethol a rhanbarthol ac yn cynllunio camau rhagofalus sy'n barod i gale eu defnyddio os bydd angen. Er hynny, os bydd angen y rhain, bydd angen inni ailflaenoriaethu unwaith eto.

Iechyd digidol

Rydym yn dileu £4.7m o'n Cronfa Buddsoddi mewn Blaenoriaethau Digidol (DPIF) sy'n anelu at gyflwyno a buddsoddi mewn technoleg newydd sy'n cefnogi cyngor a thriniaethau cyflym ac effeithiol; a chyflwyno e-ragnodi a chefnogi datblygiadau sy'n hwyluso canfod clefydau yn gywir drwy ddeallusrwydd artiffisial. Mae'r ailflaenoriaethu yn golygu bod gostyngiadau yn cael eu gwneud ar draws pob rhaglen a fydd yn effeithio ar holl wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rydym yn cadw'r effaith i'r lleiaf posibl yn hytrach na nodi nifer bach o raglenni er mwyn gwneud gostyngiadau mwy gydag effeithiau cysylltiedig mwy.

Iechyd Meddwl a phobl hŷn / dementia

Ar y cyfan, rydym yn ailgyfeirio tua £15m o gyllid iechyd meddwl, yn bennaf o gyllidebau lle'r ydym wedi cytuno ar gyfnodau arwain hirach. Mae hyn yn arbennig o berthnasol mewn meysydd cyllidebol newydd ar gyfer 2023-2024 lle nad oedd cyllid wedi'i ymrwymo'n llawn a chydnabyddir y bydd angen i'r recriwtio arfaethedig gael ei wneud yn raddol. Mae hyn wedi ein galluogi i leihau effeithiau uniongyrchol. Er hynny, bydd yn golygu y bydd gwaith i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl, gan gynnwys mynediad at wasanaethau i bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a'n cymunedau mwyaf difreintiedig yn cael ei gyflawni dros gyfnod hirach.

Mae dull tebyg wedi'i gymryd o ran cyllid dementia, lle mae cyllid ‘newydd’ i gyflwyno argymhellion yr adolygiad Gwasanaethau Asesu Cof (MAS) a gyflwynwyd yn ddiweddar a gynhaliwyd gan Weithrediaeth y GIG wedi cael ei arafu. Mae'n bosibl y bydd y lefel is o gyllid ‘newydd’ ar gyfer rhestrau aros ar gyfer MAS (diagnosis dementia), yn golygu bod y pwysau'n parhau i gynyddu tan 2024-2025. Gallai fod effaith ar fenywod, grwpiau ethnig lleiafrifol, a phobl mewn tlodi. Mae mwy o achosion o ddementia ymhlith menywod. Yn achos grwpiau ethnig lleiafrifol, adroddir bod pobl ddu â dementia yn llai tebygol o gael diagnosis amserol. Mae corff clir o ymchwil sy'n cysylltu statws economaidd-gymdeithasol is â risg uwch o ddementia.

Addysg

Mae'r effeithiau ar ysgolion, colegau a phrifysgolion wedi cael eu lleihau, gyda gostyngiadau refeniw wedi'u nodi drwy adolygiad o gyllidebau a arweinir gan y galw a chyllid heb ei ymrwymo ar draws yr MEG. Ochr yn ochr â diogelu RSG llywodraeth leol, rydym wedi ailflaenoriaethu cyllid drwy adolygu cyllidebau a arweinir gan y galw, megis Prydau Ysgol am Ddim i Bob Plentyn Ysgol Gynradd (UPFSM), Grantiau Cymorth i Fyfyrwyr Addysg Uwch a chymhellion Addysg Gychwynnol i Athrawon.

Rydym yn rhyddhau £11.5m o'r gyllideb Prydau Ysgol Am Ddim o £70m. Grant i'r awdurdodau lleol sy'n cael ei arwain gan y galw yw hwn ac er gwaethaf y gostyngiad mae cyllid digonol o hyd i gwmpasu'r cynlluniau cyflwyno presennol.

Nid oes unrhyw newidiadau i'r grant cynhaliaeth y bydd myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig o Gymru yn ei gael yn y flwyddyn academaidd 2023/24. Cyllideb sy'n cael ei harwain gan y galw yw hon ac mae £53.4m wedi'i nodi yn seiliedig ar ragolygon gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr.

Ni fu modd osgoi effeithiau ym mhob maes. Rydym hefyd yn gohirio gweithgarwch lle bo modd. Rydym wedi lleihau £1.3m o gyllideb y Dull Ysgol Gyfan o Ymdrin â Llesiant, sy'n ymwneud yn bennaf â meysydd cyllid heb ei ymrwymo gydag effeithiau bach iawn yn unig, gan gynnwys gwaith gyda'r trydydd sector, gweithgarwch ymchwil, a recriwtio i swyddi newydd.  Mae cymryd y camau hyn wedi diogelu cyllid ar gyfer cwnsela mewn ysgolion; ymyriadau ar gyfer plant a phobl ifanc; ac i sicrhau cyllid grant ar gyfer Cymorth Addysg i barhau ac ehangu ar yr ystod o wasanaethau iechyd meddwl a llesiant y maent yn eu darparu i'r gweithlu addysg ledled Cymru.

Rydym yn rhyddhau cyfalaf o £40m o'r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (SCfL). Bydd rhyddhau'r cyllid hwn hyn yn lleihau'r gallu i gefnogi prosiectau cyfredol a lleihau'r cwmpas i gynnig cyllid cynnal a chadw cyfalaf. Er y rhagwelir y caiff yr effaith ar addysg plant ei leihau cyn belled â phosibl mae hyn yn peri risg anuniongyrchol wrth ohirio gweithgarwch posibl i wella'r amgylchedd dysgu a mynd i'r afael ag effeithiau carbon.

Rydym yn lleihau £8.5m ar y gyllideb ar gyfer darpariaeth ôl-16. Mae'r gostyngiadau hyn wedi'u cyflawni drwy gyfuniad o adhawlio grant gwerth cyfanswm o £7.1m (gan gynnwys y grant Cynnal ac Offer Dysgu i Oedolion) a rhyddhau cyllid heb ei ymrwymo a glustnodwyd ar gyfer Adolygiad o Gymwysterau Galwedigaethol a Dysgu Oedolion, ymgyrch farchnata ar gyfer Cyfrifon Dysgu Personol a Buddsoddi mewn Ansawdd. Drwy'r gostyngiadau hyn rydym wedi cyfyngu'r effeithiau ar blant a phobl ifanc drwy ddiogelu darpariaeth graidd fel nad effeithir ar gwantwm cyffredinol dysgwyr. Byddwn yn cydweithio'n agos gyda'r sector i rannu arferion gorau wrth reoli'r heriau a monitro'r effeithiau.

Rhaglen Wcráin

Rydym wedi nodi cyllid o £4.3m i'w ailddyrannu a ddyrannwyd yn flaenorol i gefnogi ein rhaglen ar gyfer Wcráin. Nid yw'r gostyngiad yn effeithio ar ein gallu i ddarparu'r lefelau angenrheidiol o lety cychwynnol nac yn effeithio ar allu'r awdurdodau lleol i integreiddio gwesteion i'r gymuned. Mae'r cyllid hwn wedi'i sicrhau oherwydd ein llwyddiant wrth weithio gyda'n partneriaid i symud gwesteion i lety tymor hwy, llai costus ynghyd â'r gostyngiad yn y nifer sy'n cyrraedd o dan y cynllun uwch-noddwyr. Byddwn yn parhau i fonitro'r niferoedd sy'n cyrraedd a'r cyfraddau symud ymlaen i sicrhau y gallwn ddarparu'r un croeso a rhoi i bobl yr annibyniaeth y maent yn chwilio amdani.

Y blynyddoedd cynnar

Rydym yn rhyddhau £16.1m o'r cyllidebau sy'n cefnogi gweithgareddau'r Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Chwarae. Mae'r rhan fwyaf o'r cyllid hwn wedi'i ryddhau o ganlyniad i ragolygon wedi'u diweddaru ar y nifer sy'n manteisio ar y Cynnig Gofal Plant i Gymru. Mae'r Cynnig, sy'n darparu gofal plant wedi'i ariannu i blant tair a phedair oed, yn cael ei arwain gan y galw, gydag amrywiadau blynyddol yn nifer y teuluoedd cymwys, nifer y teuluoedd sy'n manteisio ar eu hawl a nifer yr oriau o ofal plant a ddefnyddir gan aelwydydd. Rydym yn monitro'r galw yn rheolaidd i sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o gyllid, a'r tro hwn, rydym mewn sefyllfa i ryddhau gwariant is a ragwelir sy'n dod i'r amlwg heb effeithio ar gyflawni na mynediad.

Rydym hefyd wedi gweld amcanestyniadau gwariant is ar Raglen Drawsnewid Integreiddio'r Blynyddoedd Cynnar ac rydym yn lleihau rhywfaint o'r cymorth a gynlluniwyd ar gyfer gweithgareddau hyfforddi ar draws y gweithlu gofal plant a gwaith chwarae yn ystod y flwyddyn, fel rhan o'n rhaglen hyfforddiant a chymorth ehangach. Rydym wedi dal i gefnogi gweithgareddau a hyfforddiant statudol sy'n ofynnol ar gyfer Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer gofal plant rheoleiddiedig gan flaenoriaethu ansawdd a diogelwch y ddarpariaeth.

Rydym yn rhyddhau £5.8m o'r Rhaglen Bwndel Babi sy'n anelu at gefnogi pob rhiant newydd a darpar rieni gyda bwndel o eitemau hanfodol yn amrywio o ddillad, blancedi, thermomedrau ac eitemau hylendid personol i gefnogi pob babi i gael y dechrau gorau mewn bywyd. Gan y bydd hyn yn gohirio gweithredu'r rhaglen bydd hyn yn effeithio'n anuniongyrchol ar y rhai sydd eisoes yn wynebu tlodi neu y mae'r argyfwng costau byw'n effeithio arnynt. Mae tystiolaeth bod pobl anabl, teuluoedd ag unig riant a phobl o rai cefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi incwm cymharol. Er mwyn lliniaru'r effaith, mae gwaith modelu o wahanol opsiynau ar y gweill ar hyn o bryd.

Cyfiawnder Cymdeithasol

Rydym yn gwneud gostyngiadau o £4.2m mewn cyllid ar gyfer ein Cyllidebau Cydraddoldeb, Cynhwysiant a Hawliau Dynol, gyda £2.7m yn cael ei ddychwelyd i gronfeydd wrth gefn i gyfrannu tuag at bwysau ar draws Llywodraeth Cymru a £1.5m i fodloni pwysau o fewn y MEG sy'n gysylltiedig â'r Peilot Incwm Sylfaenol a'r Sefydliad Banc Tanwydd. Mae'r rhan fwyaf o'r meysydd hyn o gyllid wedi'i ailflaenoriaethu wedi codi drwy ohirio graddfa a chyflymder gweithredu arfaethedig lle nad oes cyllid wedi'i ymrwymo eto. Mae'r gostyngiadau hyn hefyd wedi'u targedu at feysydd lle nad oes effaith uniongyrchol ar bobl megis drwy ohirio cyfathrebu, gwerthuso a buddsoddi mewn tystiolaeth. Er bod yr effeithiau hyn wedi'u cadw i'r lleiaf, bydd rhywfaint o effaith ar weithredu sy'n canolbwyntio ar hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol.

Rydym wedi rhyddhau cyllid o hyd at £1.5m o'n cyllidebau ar gyfer Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO) drwy ofyn i heddluoedd rewi recriwtio. Gallai hyn effeithio ar y gefnogaeth i ddiogelwch cymunedol. Mae trosedd yn fwy cyffredin mewn ardaloedd tlotach, ac rydych yn fwy tebygol o ddioddef trosedd os oes gennych brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, felly rydym yn cydnabod y gallai hyn gael mwy o effaith ar bobl a chymunedau sydd o dan anfantais. Byddwn yn gweithio gyda heddluoedd i nodi lefel y "corddi" ac effaith debygol rhewi recriwtio, gan gynnwys monitro'r effeithiau daearyddol gan fod rhai heddluoedd eisoes wedi mynd ati i recriwtio cyn i recriwtio gael ei rewi; bydd hyn yn effeithio'n bennaf ar ardaloedd plismona Gogledd Cymru a Gwent.

Yr Economi

Canfuwyd y rhan fwyaf o'r cyllid wedi'i ailflaenoriaethu o bortffolio'r Economi o ganlyniad i ragolygon diwygiedig neu o dderbyniadau incwm ychwanegol, naill ai trwy incwm yr UE neu werthiannau eiddo. Mae hyn yn cynnwys £17.5m sy'n gysylltiedig â chyllid prentisiaethau a arweinir gan y galw lle'r oedd y cyllid a oedd ar gael yn uwch na'r galw.

Rydym hefyd yn lleihau £5.3m ar gyllid o'r rhaglen ReAct+ a arweinir gan y galw. Nod ReAct+ yw atal diweithdra hirdymor, gan gynnwys cefnogi'r rhai a ddiswyddwyd ac mae'r ymyrraeth wedi cynorthwyo'r rhai sydd agosaf at y farchnad lafur i ddod o hyd i gyflogaeth newydd mewn cyfnod mor fyr â phosibl. Er bod y gostyngiad hwn yn seiliedig ar y rhagolygon diweddaraf rydym yn cydnabod pwysigrwydd y rhaglen hon i bobl ifanc, menywod, pobl anabl a chymunedau ethnig lleiafrifol sy'n wynebu anawsterau penodol wrth fynd i mewn i'r farchnad lafur ac ailymuno â hi. Byddwn yn parhau i fonitro'r cyllid hwn yn agos yng ngoleuni'r cyd-destun sy'n newid o safbwynt yr economi a'r farchnad lafur.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Rydym yn rhyddhau cyfalaf o £3.5m o amrywiaeth o gynlluniau trafnidiaeth heb eu hymrwymo. Bydd targedu'r ardaloedd hyn, gan gynnwys gohirio gweithgarwch tan 2024-25, yn cyfyngu ar yr effaith ar bobl a lleoedd; yn benodol, ni chaiff  unrhyw ddarpariaeth rheng flaen ei lleihau yn 2023-2024. Er hynny, mae oedi neu ganslo cynigion yn golygu risg sy'n gysylltiedig ag effaith negyddol ar gyflawni nodau tymor hwy sy'n gysylltiedig â newid dulliau teithio a datgarboneiddio. Byddwn yn adolygu'r cynlluniau hyn fel rhan o broses cyllideb 2024-2025.

Tai

Rydym yn cydnabod y gall gostyngiadau mewn cyllidebau tai cymdeithasol effeithio ar y rhai ar incwm is ac sydd â mwy o risg o ddigartrefedd. Er bod cyllid cyfalaf o 
£19m yn cael ei ryddhau o gyllidebau tai, mae hyn yn ymwneud â rhagolygon wedi'u diweddaru a gohirio gweithgarwch a chyllid. Mae'r dull hwn yn anelu at gadw effeithiau i'r lleiaf posibl, gan gydnabod ei bod yn cymryd amser i ddylunio, caffael, gweithredu a dechrau gwario ar y rhaglenni cyfalaf cymhleth hyn.

Adfywio

Rydym yn rhyddhau £14.5m o gyllidebau adfywio sy'n cynnwys incwm o £13m. Er na chafodd y cyllid hwn ei ymrwymo'n ffurfiol, bydd hyn yn lleihau'r cynlluniau a gefnogir yn y flwyddyn ariannol hon. Trwy reoli'r gyllideb yn ofalus a llithriad naturiol ar rai prosiectau cyfalaf canol trefi, gellir rheoli'r sefyllfa gyffredinol yn ddigonol eleni. Felly, disgwylir y bydd modd cyflawni'r holl brosiectau sydd wedi'u hymrwymo o hyd, ond rhai dros gyfnod hwy o amser.

Yr amgylchedd

Er mwyn sicrhau ein bod yn lleihau'r effeithiau ar weithredu i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur, rydym wedi rhyddhau cyllid o gyllidebau gyda rhagolygon is diwygiedig neu drwy ohirio gweithgarwch. Er enghraifft, rydym yn lleihau cyfalaf gwerth £1m ar y rhaglenni Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a'r Rhwydweithiau Natur eleni.

Gwledig

Rydym yn ailflaenoriaethu £10m o'r Cynlluniau Buddsoddi Gwledig. Mae llawer o'r cyllid hwn yn ymwneud â rhagolygon wedi'u diweddaru gan arwain at oblygiadau bach iawn i ddarparu cynlluniau sefydledig presennol gydag effeithiau bach ar lefel busnes fferm unigol

Tystiolaeth strategol wedi'i diweddaru

Mae dadansoddiad o'r dystiolaeth ehangach ddiweddaraf yn nodi bod effeithiau cronnol ac anghymesur eisoes ar grwpiau penodol o bobl, lleoedd ac mewn meysydd atal oherwydd ffactorau fel cyfradd barhaus chwyddiant.

Diweddariad Economaidd a Chyllidol

Cododd chwyddiant CPI yn uwch na tharged Banc Lloegr o 2% yng nghanol 2021. Yna cododd yn sydyn i gyrraedd uchafbwynt o 11.2% ym mis Hydref 2022. Yn dilyn yr uchafbwynt hwn, mae chwyddiant wedi tueddu tuag i lawr, er bod y ffigur diweddaraf (mis Hydref) o 4.7% yn dal tipyn yn uwch na'r targed. Mae'r gostyngiad mewn chwyddiant i'w briodoli i raddau helaeth i ostyngiad yn y cyfraniad o brisiau tanwydd, sydd wedi gostwng, a biliau trydan a nwy sydd, yn dilyn rhai gostyngiadau, wedi'u sefydlogi er eu bod ar lefel hanesyddol uchel. Mae'n ymddangos bod chwyddiant prisiau bwyd bellach ar eu hanterth.

Mae chwyddiant wedi bod yn uwch, ac yn fwy cyson, yn y DU nag yn y rhan fwyaf o economïau mawr eraill.

Yn ei adroddiad ym mis Tachwedd, roedd Banc Lloegr yn disgwyl i chwyddiant CPI ostwng yn sylweddol ymhellach yn y tymor byr, gan adlewyrchu chwyddiant ynni blynyddol is a gostyngiadau pellach mewn chwyddiant yn achos prisiau bwyd a nwyddau craidd. Er hynny, rhagwelir y bydd chwyddiant prisiau gwasanaethau yn dal yn uchel yn y tymor byr, gyda rhywfaint o anwadalrwydd misol posibl.

Mae Banc Lloegr yn disgwyl i chwyddiant CPI ostwng yn is na 5% yn chwarter olaf 2023 ond ni ddisgwylir iddo ddychwelyd i'w darged tan ail hanner 2025.

Mae enillion wedi cynyddu mewn termau enwol yn fwy na'r disgwyl yn wreiddiol gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) a Banc Lloegr ac mae codiadau cyflog y sector cyhoeddus wedi rhoi pwysau ychwanegol ar gyllid cyhoeddus.

Gan adlewyrchu'r cynnydd uwch na'r disgwyl mewn enillion enwol, mae data diweddar yn dangos bod enillion economi gyfan wedi cynyddu'n gymedrol mewn termau real, ond mae hyn yn dilyn cyfnod o ddirywiad. Mae twf mewn cyflogau gwirioneddol wedi bod yn eithriadol o wan am gyfnod hir. Dywedodd Paul Johnson o'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn ddiweddar:

“Mae enillion wythnosol cyfartalog gwirioneddol [y DU] [yn debyg] heddiw [i] fis Tachwedd 2005. Cyfnod gyfan gwbl ddigynsail heb unrhyw dwf mewn enillion ...... [mae'n] debygol nad yw hyn wedi digwydd dros unrhyw gyfnod cymharol ers rhyfeloedd Napoleon.”

Yn ôl amcanestyniadau'r Resolution Foundation, yn dilyn gostyngiad mewn incymau gwirioneddol yn 2022-23, disgwylir i incymau gwirioneddol aros yn eu hunfan yn 2023/2024. Byddai hyn yn golygu y bydd incwm gwirioneddol wedi gostwng tua 4% dros y cyfnod o ddwy flynedd.

Cartrefi incwm isel sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf gan brisiau cynyddol. Mae data ONS yn dangos bod aelwydydd incwm isaf yn destun cyfradd chwyddiant uwch na'r cyfartaledd, tra bo'r aelwydydd incwm uchaf wedi bod yn destun chwyddiant is na'r cyfartaledd. Mae'r gwahaniaeth hwn i'w briodoli i'r ffaith mai aelwydydd incwm isel sy'n cael eu heffeithio waethaf gan brisiau bwyd ac ynni uchel. Effeithir yn benodol ar bobl ifanc a phobl sy'n rhentu cartrefi (grwpiau sy'n gorgyffwrdd), grwpiau ethnig lleiafrifol a phobl anabl hefyd.

Mae tystiolaeth bod lefelau o ddyled yn cynyddu ymhlith deiliaid tai incwm isel, ac mae elusennau banciau bwyd yn adrodd cynnydd yn y galw.

Pobl

  • Mae anghydraddoldebau cyflogaeth yn effeithio'n anghymesur ar aelwydydd â phlant, menywod a phobl anabl, yr argyfwng costau byw, ac effeithiau tlodi, gan gynnwys trais domestig uwch a llesiant meddyliol gwael. Y plant hynny sy'n dibynnu ar incwm menywod neu incwm pobl anabl sydd â'r risg fwyaf o ddod yn blant sy'n derbyn gofal a chael cyfleoedd bywyd gwael.
  • Pobl sydd â nodweddion croestoriadol o fod yn anabl o gefndir Du, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol, neu sy'n nodi eu bod yn LHDT+ sydd fwyaf tebybol o fod yn unig a dioddef troseddau casineb. Ochr yn ochr â menywod beichiog, plant a phobl ifanc, mae'r grwpiau hyn yn defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl yn fwy.
  • Mae prisiau bwyd bellach yn effeithio'n arbennig ar bobl ar incwm isel, yn dilyn cyfnod o bwysau oherwydd prisiau ynni uwch. Hyd yn oed wrth i gyfradd y cynnydd mewn prisiau ostwng, mae grwpiau incwm is yn debygol o barhau i'w chael yn anodd ymdopi ag effaith lefelau prisiau uwch ar eu safonau byw. Nid yn unig y mae chwyddiant diweddar wedi effeithio'n anghymesur ar incwm is a tharfu ar addysg sy'n ymddangos fel pe bai wedi effeithio'n anghymesur ar y rhai o gefndiroedd difreintiedig , ond fel arfer mae ganddynt lefelau is o gynilo i ddarparu clustogi yn erbyn costau uwch.
  • Mae plant a phobl ifanc hefyd yn wynebu effeithiau dwysach yn sgil Covid-19 a tharfu ar eu haddysg ac mae'n ymddangos bod hyn wedi effeithio'n anghymesur ar y rhai o gefndiroedd difreintiedig.
  • Bydd cyfuniad o ffactorau y tu ôl i'r effeithiau hyn, gan gynnwys chwyddiant a chamau gweithredu a gymerwyd gan Lywodraeth y DU.

Lle

  • Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd wedi tynnu sylw at feysydd lle y mae angen gwneud mwy o gynnydd i gyflawni ymrwymiadau Sero Net yng Nghymru, gan gydnabod y gwahaniaeth rhwng ac effaith gymharol ysgogiadau datganoledig a heb eu datganoli. Mae gan gyllid, rheoleiddio ac ailflaenoriaethu o fewn cyllidebau presennol oll rôl i'w chwarae.
  • Mae angen camau gweithredu ychwanegol i gyflawni ein huchelgeisiau Sero Net ac i addasu i effeithiau newid hinsawdd. Mae angen inni hefyd fod yn fwy cadarn er mwyn ymateb i ystod o fygythiadau posibl eraill.
  • Mae buddsoddiadau presennol yn cael eu herydu fwyfwy ganeffeithiau chwyddiant; er enghraifft, mae costau cynyddol deunyddiau adeiladu cynyddol yn ychwanegu at gostau buddsoddi yn y sector cyhoeddus.
  • Dangosodd yr adroddiad diweddaraf o Sefyllfa Byd Natur, a gyhoeddwyd ym mis Medi, ostyngiad parhaus mewn bioamrywiaeth; mae angen camau gweithredu parhaus a chynyddol i wrthdroi'r dirywiad hwn a chyflawni ein hymrwymiadau rhyngwladol.
  • Mae rhai o'n hardaloedd trefol yn wynebu her gynyddol o ganlyniad i dwf gweithgarwch economaidd o bell, gyda safleoedd manwerthu a swyddfeydd gwag yn tanseilio bywiogrwydd canol rhai o'n dinasoedd a threfi.

Atal

  • Mae newid demograffig yn dal yn ystyriaeth allweddol. Tra bo pobl yn gweithio'n hirach mae poblogaeth sy'n heneiddio yn cynyddu'r galw am wariant ar iechyd, yn enwedig ar ofal cymdeithasol. Wrth i'r boblogaeth o oedran gweithio ostwng fel cyfran o gyfanswm y boblogaeth, mae risg i'r sylfaen drethi y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu hariannu ohoni.
  • Yn dilyn y pandemig mae angen gwella cydnerthedd gwasanaethau cyhoeddus a'r gymdeithas ehangach i siociau na ellir eu rhag-weld.
  • Mae cyfyngiadau cyllidol yn ystod y 13 mlynedd diwethaf wedi erydu cyllid cyhoeddus, gan effeithio ar gydnerthedd gwasanaethau cyhoeddus tra'n cyfyngu ar yr un pryd hefyd ar y gallu i fuddsoddi cyllid ychwanegol mewn camau ataliol.
  • Er mwyn manteisio i'r eithaf ar y cyllid sydd ar gael, mae angen asesu'r ystod eang ac amrywiol o risgiau mewn ffordd gytbwys, gan gysoni adnoddau i sicrhau'r budd mwyaf posibl a gwneud y defnydd gorau o'r ystod lawn o ysgogiadau polisi.