Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd: “Mae’r ffigurau hyn heddiw yn dangos ein bod ni ar y llwybr cywir i leihau’r arosiadau hiraf a lleihau maint y rhestrau aros.
Fyddai hyn ddim wedi bod yn bosibl oni bai am ymroddiad ein staff gwych yn y Gwasanaeth Iechyd a’r cyllid ychwanegol sydd wedi’i roi gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod degau o filoedd yn rhagor o apwyntiadau yn cael eu darparu.
Roedd lleihad o 10,400 yn nifer y bobl sy’n aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol ym mis Hydref o’i gymharu â mis Medi, ac roedd lleihad o tua 9,200 yn y rhestr aros hefyd.
Mae’r data dros dro ar gyfer mis Tachwedd yn awgrymu bod gostyngiad sylweddol i ddod eto.
Cafodd y nifer uchaf erioed o lwybrau cleifion eu cau – bron i 139,000 ohonyn nhw – ym mis Hydref. Mae hyn yn dangos faint o weithgarwch gofal a gynlluniwyd sy’n mynd rhagddo dros Gymru.
Rwy’n falch o weld bod yr ymchwiliad i reoli data ar amseroedd aros ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr nawr wedi’i gwblhau.
Mae’r data sydd wedi’u diwygio yn dangos bod nifer bach o lwybrau cleifion wedi’i ychwanegu at y ffigurau rhwng mis Ebrill a mis Awst o ganlyniad i’r ymchwiliad.
Hoffwn i fod yn gwbl glir mai mater rheoli data, ac nid mater trin cleifion, oedd hwn. Mae’r gweithdrefnau a’r prosesau wedi’u cryfhau.
Mae rhagor i’w wneud eto i leihau amseroedd aros hir, ond hoffwn i ddiolch i staff y Gwasanaeth Iechyd am eu hymdrechion parhaus.
