Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau ymchwil a gynhaliwyd gyda 550 o athrawon mewn ysgolion ar draws Cymru i archwilio eu barn ynghylch cyflwyno’r  Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol.

Ymddengys bod y canlyniadau yn gyffredinol gadarnhaol o ran sut y cafodd y broses o weinyddu’r profion ei chyfathrebu i ysgolion ac mewn perthynas â’r wybodaeth a ddarparwyd i ysgolion i gefnogi hyn.

  • Roedd bron pob ysgol (97%) wedi defnyddio’r llawlyfr gweinyddu’r profion.
  • Roedd 50% yr ymatebwyr yn ystyried bod y negeseuon a’r canllaw roeddynt wedi eu derbyn wedi bod yn berthnasol iawn i’r hyn roeddynt angen ei wybod, ac yn hawdd iawn i’w dilyn (49%). Roedd mwyafrif yr ymatebwyr (95%) yn teimlo bod eu hysgol wedi gallu cydymffurfio’n llawn gyda’r canllaw a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn y llawlyfr gweinyddu’r profion, ond cafwyd cwymp sylweddol i 39% mewn ysgolion arbennig.

O ran gweinyddu’r profion:

  • Gweinyddodd 81% o ysgolion y profion i ddosbarthiadau cyfan a gweinyddwyd 59% o’r profion yn yr ystafell ddosbarth.
  • Gweinyddodd 83% o ysgolion cynradd y profion i Flynyddoedd 2 a 3 mewn tameidiau byrrach, a chafwyd bod hyn yn ddefnyddiol.

Cododd marcio’r profion fater ynghylch yr amser a gymerwyd i farcio’r profion o’i gymharu â’r amcangyfrifon a roddwyd gan LlC yn y llawlyfr:

  • Defnyddiodd 88% o ysgolion athrawon cymwysedig wedi eu cyflogi gan yr ysgol i farcio’r profion, ond roedd hyn yn sylweddol uwch ar gyfer ymatebwyr mewn ysgolion cynradd (93%) o’i gymharu ag ysgolion uwchradd (55%).
  • Yr amser cyfartalog a gymerwyd i farcio 30 prawf darllen cenedlaethol oedd ychydig o dan dair awr, o’i gymharu ag amcangyfrif Llywodraeth Cymru o 90-120 munud.
  • Roedd yr amser cyfartalog a gymerwyd i farcio 30 prawf rhifedd cenedlaethol yn fyrrach, dwy awr 29 munud, o’i gymharu ag amcangyfrif Llywodraeth Cymru o 30-45 munud.

O ran sut roedd ysgolion yn bwriadu defnyddio canlyniadau’r profion:

  • Roedd 93% o ysgolion wedi eu hanfon i rieni.
  • Roedd 86% wedi eu defnyddio wrth baratoi cynlluniau dysgu.
  • Roedd 85% wedi eu defnyddio wrth bennu targedau disgyblion drwy adnabod gwendidau a thargedu ymyraethau.
  • Roedd 82% wedi eu defnyddio i ddarparu cefnogaeth wedi ei dargedu’n well ar gyfer dysgwyr.
  • Mae’r adroddiad yn gwneud wyth argymhelliad a fydd yn cael eu hystyried gan swyddogion Llywodraeth Cymru er mwyn iddynt gyfrannu at y canllawiau a’r wybodaeth a ddarperir i ysgolion yn y dyfodol.

Adroddiadau

Ymchwil i weithredu’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 907 KB

PDF
907 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

David Roberts

Rhif ffôn: 0300 062 5485

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.