Ymchwil yn edrych ar ffyrdd o wella’r Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yng Nghymru - Cydnabyddiaeth
Bu cydweithio rhyngom â’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl i gynnal ymchwil i’r Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Roeddem am brofi sut oeddem yn cydgreu yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Roedd hwn yn brosiect ymchwil gymdeithasol cydweithredol. Cyflwynodd tîm o gydgynhyrchwyr yr ymchwil gan gynnwys Cadeiryddion gweithgorau’r Tasglu Hawliau Anabledd, ymchwilwyr cymdeithasol Llywodraeth Cymru, swyddogion polisi Llywodraeth Cymru a myfyriwr PhD. Cyfunai’r tîm cydgynhyrchu brofiad bywyd o wynebu anabledd oherwydd rhwystrau gydag arbenigedd mewn hawliau anabledd ac ymchwil gymdeithasol (academaidd a gan y Llywodraeth).
Ni fuasai'r prosiect ymchwil gymdeithasol hwn yn bosibl heb yr amser a neilltuwyd a'r cyfraniadau helaeth a chraff a wnaed gan y cydgynhyrchwyr yn ystod pob cam o'r ymchwil, o bennu cwmpas y prosiect i gyhoeddi'r adroddiad hwn.
Hoffai Llywodraeth Cymru ddiolch yn arbennig i aelodau tîm cydgynhyrchu’r Tasglu Hawliau Anabledd am rannu eu hasedau personol a sefydliadol, gan gynnwys profiad bywyd o fod yn anabl oherwydd rhwystrau, eu brwdfrydedd a'u huchelgais i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, eu sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol, ac am ddefnyddio’u harbenigedd a'u dealltwriaeth o'r sefyllfa bresennol a hanesyddol ar gyfer pobl anabl a gallu defnyddio eu rhwydweithiau eu hunain.
Roedd aelodau’r Tasglu Hawliau Anabledd yn cynnwys:
- Yr Athro Debbie Foster, Ysgol Fusnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd. Cadeirydd y Gweithgor Cyflogaeth ac Incwm a chyd-Gadeirydd Tasglu Hawliau Anabledd Llywodraeth Cymru
- Damian Joseph Bridgeman – ymgyrchydd anabledd, entrepreneur cymdeithasol, Cynghorydd dros Gymuned Sain Tathan, a Chadeirydd Gweithgor Tai Tasglu Hawliau Anabledd Llywodraeth Cymru
- Dr Natasha Hirst, Cadeirydd Gweithgor Mynediad at Wasanaethau Tasglu Hawliau Anabledd Llywodraeth Cymru
- Willow C Holloway, Cadeirydd Gweithgor Byw’n Annibynnol: Iechyd Tasglu Hawliau Anabledd Llywodraeth Cymru
- Joe Powell, Prif Weithredwr, Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan a Chadeirydd Gweithgor Mynediad at Gyfiawnder Tasglu Hawliau Anabledd Llywodraeth Cymru
- Ruth Nortey, myfyriwr PhD, Prifysgol Caerdydd
